xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3TREFNIADAU LLYWODRAETHU SYDD AR GAEL

Trefniadau amgen

36Darpariaeth ganlyniadol etc

(1)Yn Neddf Llywodraeth Leol 2000—

(a)yn adran 29 (gweithredu trefniadau gweithrediaeth a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt), hepgorer is-adran (3);

(b)yn adran 31 (trefniadau amgen yn achos awdurdodau lleol penodol), o flaen is-adran (1) mewnosoder—

(A1)In this section references to a local authority are references to a local authority in England.;

(c)yn adran 32 (trefniadau amgen), o flaen is-adran (1) mewnosoder—

(A1)In this section references to a local authority are references to a local authority in England.;

(d)hepgorer adran 33 (gweithredu trefniadau amgen);

(e)yn adran 34 (refferendwm yn dilyn deiseb), yn is-adran (3), yn lle “29 or 33” rhodder “or 29”;

(f)yn adran 35 (refferendwm yn dilyn cyfarwyddyd), yn is-adran (3), yn lle “29 or 33” rhodder “or 29”;

(g)yn adran 36 (refferendwm yn dilyn gorchymyn), yn is-adran (3), yn lle “29 or 33” rhodder “or 29”.

(2)Yn y Mesur hwn, hepgorer adran 87(3).

(3)Yn Neddf Llywodraeth Leol 1972—

(a)yn adran 70 (cyfyngu ar hybu Mesurau seneddol i newid ardaloedd llywodraeth leol, etc), yn is-adran (3), hepgorer “or alternative arrangements”;

(b)yn adran 270 (darpariaethau cyffredinol ynglŷn â dehongli), yn is-adran (1) hepgorer y diffiniad o “alternative arrangements”.

(4)Dirymir y rheoliadau a ganlyn—

(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynigion ar gyfer Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 (O.S 2001/2293);

(b)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Trefniadau Gweithrediaeth a Threfniadau Amgen) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/3158);

(c)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/397).

(5)Nid yw is-adrannau (1) i (4) yn atal awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen ar y dyddiad cychwyn rhag parhau i weithredu'r trefniadau hynny ar y diwrnod hwnnw ac wedi hynny.

(6)Nid yw is-adrannau (1) i (4) yn cael effaith mewn perthynas ag awdurdod lleol os yw'r awdurdod lleol yn parhau i weithredu trefniadau amgen ar y dyddiad cychwyn ac wedi hynny, ac am gyhyd ag y pery i wneud hynny.

(7)Nid yw is-adrannau (5) ac (6) yn effeithio ar ddyletswydd awdurdod lleol o dan adran 35.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “dyddiad cychwyn” mewn perthynas â diwygiad a wneir gan yr adran hon, yw'r dyddiad y daw'r diwygiad hwnnw i rym.