Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

173Y weithdrefn sy'n gymwys i orchmynion penodol o dan adran 127

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â'r adran hon cyn gwneud gorchymyn o dan adran 127 i roi effaith i gynigion i addasu deddfiad y maent o'r farn ei fod yn atal neu'n rhwystro cynghorau cymuned rhag arfer eu pŵer o dan adran 2(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y cynigion”).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol—

(a)unrhyw gynghorau cymuned,

(b)unrhyw gynrychiolwyr cynghorau cymuned, ac

(c)unrhyw bersonau eraill (os oes rhai),

y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru y byddai'r cynigion yn debyg o effeithio arnynt.

(3)Os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl yr ymgynghori hwnnw, yn dymuno bwrw ymlaen â'r cynigion, rhaid iddynt osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddogfen—

(a)sy'n esbonio'r cynigion,

(b)sy'n eu gosod ar ffurf gorchymyn drafft, a

(c)sy'n rhoi manylion yr ymgynghori o dan is-adran (2).

(4)Ni chaiff drafft o orchymyn o dan adran 127 i roi effaith i'r cynigion (“y gorchymyn drafft terfynol”) gael ei osod gerbron y Cynulliad yn unol ag adran 172(2)(b) tan ar ôl i'r cyfnod o 60 niwrnod, sy'n dechrau ar y diwrnod y cafodd y ddogfen ynglŷn â'r cynigion ei gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (3), ddirwyn i ben.

(5)Wrth gyfrifo'r cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (4), rhaid peidio ag ystyried unrhyw amser pryd y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.

(6)Wrth baratoi'r gorchymyn drafft terfynol rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (4).

(7)Os caiff y gorchymyn drafft terfynol ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 172(2)(b), rhaid bod gyda'r gorchymyn ddatganiad gan Weinidogion Cymru sy'n rhoi manylion—

(a)unrhyw sylwadau a ystyriwyd yn unol ag is-adran (6), a

(b)unrhyw newidiadau a wnaed i'r cynigion a oedd wedi eu cynnwys yn y ddogfen a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (3) ac y mae effaith wedi ei rhoi iddynt yn y gorchymyn drafft terfynol.

(8)Nid oes dim yn yr adran hon sy'n gymwys i orchymyn o dan adran 127 sydd wedi'i wneud yn unswydd at y diben o ddiwygio gorchymyn cynharach o dan yr adran honno—

(a)fel ei fod yn ymestyn y gorchymyn cynharach, neu unrhyw ddarpariaeth yn y gorchymyn cynharach, i gyngor cymuned penodol neu i gynghorau cymuned o ddisgrifiad penodol, neu

(b)fel bod y gorchymyn cynharach, neu unrhyw ddarpariaeth yn y gorchymyn cynharach, yn peidio â bod yn gymwys i gyngor cymuned penodol neu i gynghorau cymuned o ddisgrifiad penodol.