xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9CYDLAFURIO A CHYFUNO

PENNOD 2CYFUNO

166Darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol a darpariaeth arbed

(1)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn cyfuno yn cynnwys darpariaeth atodol, cysylltiedig, trosiannol a darpariaeth arbed (ond nid yw wedi ei chyfyngu i'r cyfryw ddarpariaeth).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau sy'n gymwys yn gyffredinol wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol a darpariaeth arbed—

(a)at ddibenion gorchmynion cyfuno neu o ganlyniad iddynt; neu

(b)i roi effaith lawn i orchmynion cyfuno.

(3)Mae rheoliadau o dan is-adran (2) yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn gorchymyn cyfuno.

(4)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarpariaeth arbed yn cynnwys darpariaeth (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i ddarpariaeth)—

(a)ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau neu rwymedigaethau o awdurdod lleol presennol i awdurdod lleol newydd;

(b)i achos cyfreithiol a gychwynnir gan neu yn erbyn awdurdod lleol presennol gael ei barhau gan neu yn erbyn awdurdod lleol newydd;

(c)ar gyfer trosglwyddo staff, iawndal am golli swydd, neu mewn perthynas â phensiynau a materion staffio eraill;

(d)ar gyfer trin awdurdod lleol newydd at rai dibenion neu at bob diben fel yr un person mewn cyfraith ag awdurdod lleol presennol;

(e)mewn perthynas â rheolaeth neu gadwraeth ar eiddo (tirol neu bersonol) a drosglwyddir;

(f)sy'n cyfateb i unrhyw ddarpariaeth y gellid ei chynnwys mewn cytundeb o dan adran 68 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cytundebau trosiannol o ran eiddo a chyllid)

(5)Mae'r hawliau a'r rhwymedigaethau y caniateir eu trosglwyddo'n unol â gorchymyn o dan yr adran hon yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau mewn perthynas â chontract cyflogi.

(6)Mae Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (OS 2006/246) yn gymwys i drosglwyddiad a wneir yn unol â gorchymyn o dan yr adran hon (p'un a yw'r trosglwyddiad yn drosglwyddiad perthnasol at ddibenion y rheoliadau hynny ai peidio).

(7)Yn is-adran (1), mae'r cyfeiriad at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarpariaeth arbed hefyd yn cynnwys darpariaeth (ond nid yw wedi ei chyfyngu i ddarpariaeth) mewn cysylltiad â'r canlynol—

(a)sefydlu cyrff cyhoeddus neu aelodaeth o'r cyfryw gyrff mewn unrhyw ardal yr effeithir arni gan y gorchymyn cyfuno ac ethol neu benodi aelodau'r cyfryw gyrff;

(b)diddymu neu sefydlu, neu gyfyngu neu estyn, awdurdodaeth unrhyw gorff cyhoeddus mewn neu dros unrhyw ran o unrhyw ardal yr effeithir arni gan y gorchymyn cyfuno.

(8)Caiff darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn gorchymyn cyfuno neu mewn rheoliadau o dan yr adran hon fod ar ffurf darpariaeth—

(a)sy'n addasu, sy'n eithrio neu sy'n cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad; neu

(b)sy'n diddymu neu'n dirymu unrhyw ddeddfiad (gydag arbedion neu hebddynt).