xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1NEWID TREFNIADAU AMGEN YN DREFNIADAU GWEITHREDIAETH

RHAN 1DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

Rhagymadrodd

1Mae'r Atodlen hon yn gymwys i awdurdod lleol os yw adran 35 yn ei gwneud yn ofynnol iddo newid trefniadau amgen yn drefniadau gweithrediaeth.

Cynigion ar gyfer symud at weithredu trefniadau gweithrediaeth

2(1)Rhaid i'r awdurdod lunio cynigion i newid trefniadau amgen yn drefniadau gweithrediaeth, a rhaid iddo eu cymeradwyo drwy benderfyniad.

(2)Wrth lunio'r cynigion, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried i ba raddau y bydd y cynigion yn debygol, os rhoddir hwy ar waith, o gynorthwyo i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd y mae swyddogaethau'r awdurdod yn cael eu harfer, gan roi sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

(3)Rhaid i'r awdurdod lleol anfon at Weinidogion Cymru—

(a)copi o'r cynigion a gymeradwywyd ganddo, a

(b)(gyda'r copi o'r cynigion) datganiad sy'n disgrifio'r rhesymau pam bod yr awdurdod o'r farn y byddai ei gynigion yn debygol, pe bydden yn cael eu rhoi ar waith, o sicrhau bod penderfyniadau'r awdurdod yn cael eu gwneud mewn ffordd effeithlon, dryloyw ac atebol.

(4)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraffau (1) a (3) o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y daw adran 35 i rym.

Cynnwys cynigion

3Rhaid i gynigion awdurdod lleol gynnwys pob un o'r canlynol—

(a)datganiad ynghylch i ba raddau y mae'r weithrediaeth i fod yn gyfrifol am swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 13(3)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 o dan y trefniadau gweithrediaeth arfaethedig,

(b)amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith, ac

(c)manylion unrhyw drefniadau trosiannol sy'n angenrheidiol ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith.

Refferenda

4(1)Os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, rhaid i'r cynigion ddarparu bod y newid i drefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.

(2)Os gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru) yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, ni chaiff y cynigion ddarparu bod y newid i drefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.

(3)Mae adran 45 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (darpariaethau mewn cysylltiad â refferenda) yn cael effaith fel pe bai is-adran (9) yn cynnwys cyfeiriad at refferendwm ar newid trefniadau amgen yn drefniadau gweithrediaeth yn unol ag adran 35.

Yr amserlen ar gyfer rhoi ar waith newid i weithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru)

5(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gynigion awdurdod lleol os gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru) yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth.

(2)Rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith fod yn un sy'n sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gwneud y newid i drefniadau gweithrediaeth cyn pen y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r awdurdod lleol yn anfon copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru, ac heb fod yn hwyrach na hynny.

Yr amserlen ar gyfer rhoi ar waith newid i weithrediaeth maer a chabinet

6(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gynigion awdurdod lleol os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth (a'i bod yn unol â hynny'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth mewn refferendwm).

(2)Rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith gydymffurfio ag is-baragraffau (3) a (4).

(3)Rhaid i'r amserlen fod yn un sy'n sicrhau y bydd yr awdurdod lleol yn cynnal y refferendwm o fewn y cyfnod—

(a)sy'n dechrau ddeufis, ac

(b)sy'n dod i ben chwe mis,

ar ôl y diwrnod y mae'r awdurdod lleol yn anfon y copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru.

(4)Os canlyniad y refferendwm yw cymeradwyo'r newid i drefniadau gweithrediaeth, rhaid i'r amserlen fod yn un sy'n sicrhau y bydd yr awdurdod lleol yn gwneud y newid hwnnw o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y cynhelir y refferendwm.

Cyhoeddusrwydd i gynigion

7(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys i awdurdod lleol sydd wedi cymeradwyo cynigion drwy benderfyniad.

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau gweithrediaeth arfaethedig ar gael yn ei brif swyddfa i'w harchwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol.

(3)Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad—

(a)sy'n datgan bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu gweithredu'r trefniadau gweithrediaeth arfaethedig,

(b)os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, sy'n datgan—

(i)ei bod yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth mewn refferendwm, a

(ii)dyddiad y refferendwm

(c)sy'n datgan y dyddiad y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau gweithredu'r trefniadau hynny,

(d)sy'n disgrifio prif nodweddion y trefniadau hynny,

(e)sy'n datgan bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau hynny ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod lleol i'w harchwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar yr adegau a bennir yn yr hysbysiad, ac

(f)sy'n rhoi cyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod lleol.

(4)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adrannau (2) a (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo basio'r penderfyniad yn cymeradwyo'r cynigion.

Rhoi cynigion ar waith

8(1)Rhaid i awdurdod lleol roi ei gynigion ar waith yn unol â'r amserlen sydd wedi ei chynnwys yn y cynigion.

(2)Ond o ran y ffurf arfaethedig ar weithrediaeth—

(a)os gweithrediaeth maer a chabinet yw, a

(b)os nad yw'n cael ei chymeradwyo n y refferendwm ar y newid i'r ffurf honno ar weithrediaeth,

ni chaniateir i'r awdurdod lleol roi'r newid ar waith.