Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

PENNOD 9CYNLLUNIAU AR GYFER ACHREDU ANSAWDD MEWN LLYWODRAETH GYMUNEDOL

134Cynlluniau ar gyfer achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ar gyfer cynllun y caiff Gweinidogion Cymru roi achrediad i gyngor cymuned oddi tano neu, os yw'r rheoliadau'n gwneud hynny'n ofynnol, y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi achrediad i gyngor cymuned oddi tano—

(a)os bydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y meini prawf a osodwyd yn y rheoliadau wedi eu bodloni mewn perthynas â chyngor (gweler adran 135),

(b)os bydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod cyngor wedi gwneud cais dilys am achrediad (gweler adran 136), ac

(c)os talwyd y ffi (os oes ffi) sy'n ofynnol i Weinidogion Cymru (gweler adran 137).

(2)Cyfeirir at achrediad o dan is-adran (1) yn y Bennod hon fel achrediad ansawdd mewn llywodraeth gymunedol.

135Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: meini prawf

(1)Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud rheoliadau o dan adran 134(1), rhaid i'r rheoliadau osod meini prawf sydd i'w bodloni pan wneir cais am achrediad ansawdd mewn llywodraeth gymunedol.

(2)Mae'r meini prawf y caniateir eu gosod yn cynnwys meini prawf ynghylch y materion a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—

(a)canran aelodau'r cyngor sy'n ddeiliaid swydd yn rhinwedd cael eu hethol fel a nodir yn adran 35(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (ethol cynghorwyr cymunedol);

(b)cymwysterau swyddogion y cyngor a hyfforddiant ar eu cyfer;

(c)hyfforddiant i aelodau'r cyngor a chynrychiolwyr ieuenctid cymunedol;

(d)pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd y cyngor a'r cyhoeddusrwydd a roddir i gyfarfodydd (cyn ac ar ôl iddynt gael eu cynnal);

(e)rhoi rhan i bersonau yng ngwaith y cyngor cymuned;

(f)annog personau i wella llesiant y gymuned neu'r cymunedau y sefydlwyd y cyngor ar ei chyfer neu ar eu cyfer;

(g)adroddiadau blynyddol;

(h)cyfrifon.

136Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: ceisiadau

Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud rheoliadau o dan adran 134(1), rhaid i'r rheoliadau osod gofynion sydd i'w bodloni er mwyn gwneud cais dilys ar gyfer achrediad ansawdd mewn llywodraeth gymunedol.

137Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: ffioedd

Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud rheoliadau o dan adran 134(1), caiff y rheoliadau ragnodi ffi y mae ceisydd am achrediad ansawdd mewn llywodraeth gymunedol i'w thalu.

138Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: tynnu achrediad yn ôl

Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud rheoliadau o dan adran 134(1), rhaid i'r rheoliadau ddarparu ar gyfer—

(a)adolygu achrediadau ansawdd mewn llywodraeth gymunedol, a

(b)y sail dros dynnu achrediad ansawdd mewn llywodraeth gymunedol yn ôl a'r broses o dynnu achrediad yn ôl.

139Ceisiadau am achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: dirprwyo swyddogaethau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud trefniadau gydag unrhyw berson y mae'r person hwnnw, yn unol â thelerau'r trefniadau, i arfer oddi tanynt swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan reoliadau a wneir o dan adran 134(1).

(2)Os gwneir trefniadau o'r fath, mae adran 134(1)(c) i gael effaith fel y bo unrhyw ffi sy'n ofynnol, i'w thalu i'r person y gwneir y trefniadau gydag ef.

140Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: canlyniadau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sy'n gosod unrhyw rwymedigaeth ar gyngor cymuned neu mewn cysylltiad ag ef fel y bo'r rhwymedigaeth, yn achos cyngor y mae achrediad ansawdd mewn llywodraeth gymunedol mewn grym mewn cysylltiad ag ef—

(a)yn cael ei datgymhwyso, neu

(b)yn cael ei haddasu fel ei bod yn haws cydymffurfio â hi .

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sy'n rhoi pŵer i gyngor cymuned neu mewn cysylltiad ag ef fel, yn achos cyngor nad oes achrediad ansawdd mewn llywodraeth gymunedol mewn grym mewn cysylltiad ag ef—

(a)na chaniateir i'r pŵer gael ei arfer, neu

(b)mai dim ond os bodlonir amodau rhagnodedig y caniateir arfer y pŵer.