Chwilio Deddfwriaeth

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 4NEWIDIADAU MEWN TREFNIADAU GWEITHREDIAETH

PENNOD 1MABWYSIADU FFURF WAHANOL AR WEITHREDIAETH

Darpariaethau cyffredinol

37Y pŵer i fabwysiadu ffurf wahanol ar weithrediaeth

(1)Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth—

(a)amrywio trefniadau neu osod trefniadau yn lle'r rhai presennol fel bod ei drefniadau gweithrediaeth yn darparu ar gyfer ffurf wahanol ar weithrediaeth, a

(b)os yw'n gwneud amrywiad o'r fath i'r trefniadau, caiff amrywio'r trefniadau mewn ffyrdd eraill (os bydd rhai) sy'n briodol yn ei dyb ef.

(2)Mae'r pwerau a roddir gan is-adran (1) yn arferadwy'n unol â darpariaethau canlynol y Bennod hon.

(3)Ni chaiff awdurdod lleol ddefnyddio'r pŵer a roddir gan is-adran (1)(a) i amrywio ei drefniadau gweithrediaeth neu i roi trefniadau yn eu lle fwy nag unwaith mewn unrhyw gylch etholiadol.

(4)At y diben hwnnw, bernir bod awdurdod lleol yn defnyddio'r pŵer a roddir gan is-adran (1)(a) ar yr adeg pan fo'r awdurdod yn pasio penderfyniad o dan adran 38.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “cylch etholiadol”, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yw pob cyfnod—

(a)sy'n dechrau gydag etholiadau cyffredin i'r awdurdod, a

(b)sy'n dod i ben gyda'r etholiadau cyffredin nesaf i'r awdurdod.

(6)I gael y diffiniad o “ffurf ar weithrediaeth”, gweler adran 53.

38Y cynigion ar gyfer mabwysiadu ffurf wahanol ar weithrediaeth

(1)Rhaid i'r awdurdod lleol lunio cynigion i amrywio ei drefniadau gweithrediaeth neu i roi trefniadau yn eu lle, a'u cymeradwyo drwy benderfyniad (os bwriedir defnyddio'r pwerau a roddir gan adran 37).

(2)Wrth lunio'r cynigion, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried i ba raddau y bydd y cynigion yn debygol, os rhoddir hwy ar waith, o gynorthwyo i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd y mae swyddogaethau'r awdurdod yn cael eu harfer, gan roi sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

(3)Rhaid i'r awdurdod lleol anfon at Weinidogion Cymru—

(a)copi o'r cynigion a gymeradwywyd ganddo, a

(b)(gyda'r copi o'r cynigion) ddatganiad sy'n disgrifio'r rhesymau pam bod yr awdurdod o'r farn y byddai ei gynigion yn debygol, pe byddent yn cael eu rhoi ar waith, o sicrhau bod penderfyniadau'r awdurdod yn cael eu gwneud mewn ffordd effeithlon, dryloyw ac atebol.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ai i gymeradwyo'r cynigion ai peidio.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r awdurdod lleol yn ysgrifenedig am eu penderfyniad.

(6)Os yw Gweinidogion Cymru'n rhoi hysbysiad am benderfyniad i beidio â chymeradwyo'r cynigion, rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau pellach i roi'r cynigion ar waith ar ôl i'r hysbysiad gael ei roi.

39Cynnwys y cynigion

Rhaid i gynigion awdurdod lleol gynnwys pob un o'r canlynol—

(a)datganiad ynghylch i ba raddau y mae'r weithrediaeth i fod yn gyfrifol am swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 13(3)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 o dan y trefniadau gweithrediaeth arfaethedig,

(b)amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith, ac

(c)manylion am unrhyw drefniadau trosiannol sy'n angenrheidiol ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith.

40Refferenda

(1)Rhaid i'r cynigion ddarparu bod newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm os yw'r newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn un y mae'n ofynnol ei gymeradwyo mewn refferendwm.

(2)Ond, mewn unrhyw achos arall, ni chaiff y cynigion ddarparu bod newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.

(3)Am ddarpariaeth ynghylch refferenda o dan yr adran hon, gweler adran 45 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

41Yr amserlen ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith: dim refferendwm

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gynigion awdurdod lleol os nad yw newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.

(2)Rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith fod yn un sy'n sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gwneud y newid mewn trefniadau gweithrediaeth heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y bydd yr awdurdod lleol yn anfon y copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru.

42Yr amserlen ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith: refferendwm

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gynigion awdurdod lleol os yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth yn ddarostyngedig i'w chymeradwyo mewn refferendwm.

(2)Rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith gydymffurfio ag is-adrannau (3) a (4).

(3)Rhaid i'r amserlen fod yn un sy'n sicrhau y bydd yr awdurdod lleol yn cynnal y refferendwm o fewn y cyfnod—

(a)sy'n dechrau ddeufis, a

(b)sy'n dod i ben chwe mis

ar ôl y diwrnod y bydd yr awdurdod lleol yn anfon y copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i'r amserlen fod yn un sy'n sicrhau y bydd yr awdurdod lleol, os canlyniad y refferendwm yw cymeradwyo newid mewn trefniadau gweithrediaeth, yn gwneud y newid hwnnw cyn pen cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y cynhelir y refferendwm.

43Cyhoeddusrwydd i'r cynigion

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i awdurdod lleol sydd wedi cymeradwyo cynigion drwy benderfyniad.

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau gweithrediaeth arfaethedig ar gael yn ei brif swyddfa i'w harchwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol.

(3)Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad—

(a)sy'n datgan bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu gweithredu'r trefniadau gweithrediaeth arfaethedig,

(b)os yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth yn ddarostyngedig i'w chymeradwyo mewn refferendwm, sy'n datgan—

(i)ei bod yn ddarostyngedig i'r gymeradwyaeth honno, a

(ii)dyddiad y refferendwm,

(c)sy'n datgan y dyddiad y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau gweithredu'r trefniadau hynny,

(d)sy'n disgrifio prif nodweddion y trefniadau hynny,

(e)sy'n datgan bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau hynny ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod lleol i'w harchwilio gan y cyhoedd ar yr adegau a bennir yn yr hysbysiad, ac

(f)sy'n rhoi cyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod lleol.

(4)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adrannau (2) a (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo basio'r penderfyniad yn cymeradwyo'r cynigion.

44Rhoi'r cynigion ar waith

(1)Rhaid i awdurdod lleol roi ei gynigion ar waith yn unol â'r amserlen sydd wedi ei chynnwys yn y cynigion.

(2)Ond o ran newid mewn trefniadau gweithrediaeth—

(a)os yw'n ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm, a

(b)os nad yw'n cael ei gymeradwyo yn y refferendwm,

ni chaniateir i'r awdurdod lleol roi'r newid ar waith.

45Camau gweithredu os yw'r newid yn cael ei wrthod mewn refferendwm

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i awdurdod lleol—

(a)os yw'r newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm, a

(b)os nad yw'r newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn cael ei gymeradwyo yn y refferendwm.

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad—

(a)sy'n crynhoi cynigion yr awdurdod lleol a oedd yn destun y refferendwm,

(b)sy'n datgan bod refferendwm ar gynigion yr awdurdod lleol wedi gwrthod y cynigion hynny, ac

(c)sy'n datgan y bydd yr awdurdod lleol yn parhau i weithredu'r ffurf ar weithrediaeth y darperir ar ei chyfer gan ei drefniadau gweithrediaeth presennol.

(3)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adran (2) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y refferendwm.

Dehongli

46Newid mewn trefniadau gweithrediaeth y mae'n ofynnol ei gymeradwyo mewn refferendwm.

At ddibenion y Bennod hon, bydd yn ofynnol cymeradwyo newid mewn trefniadau gweithrediaeth mewn refferendwm os gweithrediaeth maer a chabinet yw—

(a)ffurf bresennol y weithrediaeth, neu

(b)ffurf arfaethedig y weithrediaeth.

47Dehongli

Yn y Bennod hon—

  • ystyr “cynigion” (“proposals”) yw cynigion o dan adran 38;

  • ystyr “ffurf arfaethedig ar weithrediaeth” (“proposed form of executive”) yw'r ffurf ar weithrediaeth y mae awdurdod lleol, yn ei gynigion, yn arfaethu dechrau ei gweithredu;

  • ystyr “ffurf bresennol ar weithrediaeth” (“existing form of executive”) yw'r ffurf ar weithrediaeth sy'n cael ei gweithredu gan awdurdod lleol sy'n gwneud cynigion;

  • ystyr “newid mewn trefniadau gweithrediaeth” (“change of executive arrangements”) yw'r newid mewn trefniadau gweithrediaeth a gynigir yn y cynigion.

PENNOD 2AMRYWIADAU ERAILL AR DREFNIADAU GWEITHREDIAETH PRESENNOL

48Y pŵer i amrywio'r ffurf bresennol ar weithrediaeth

(1)Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth amrywio'r trefniadau fel eu bod—

(a)yn wahanol i'r trefniadau presennol ar unrhyw agwedd, ond

(b)yn dal i ddarparu ar gyfer yr un ffurf ar weithrediaeth.

(2)Mae'r pŵer a roddir gan is-adran (1) yn arferadwy yn unol â'r darpariaethau a ganlyn yn y Bennod hon.

(3)Am y diffiniad o “ffurf ar weithrediaeth”, gweler adran 53.

49Y cynigion ar gyfer amrywio'r ffurf ar weithrediaeth

(1)Rhaid i'r awdurdod lleol lunio cynigion i amrywio ei drefniadau gweithrediaeth, a'u cymeradwyo drwy benderfyniad (os bwriedir defnyddio'r pwerau a roddir gan adran 48).

(2)Ond, os yw'r awdurdod lleol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, ni chaiff yr awdurdod lleol gymeradwyo cynigion i amrywio ei drefniadau gweithrediaeth onid yw'r maer etholedig wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i'r newid arfaethedig.

50Cynnwys y cynigion

Rhaid i gynigion awdurdod lleol gynnwys pob un o'r canlynol—

(a)amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith, a

(b)manylion unrhyw drefniadau trosiannol sy'n angenrheidiol er mwyn rhoi'r cynigion ar waith.

51Rhoi'r cynigion ar waith

Rhaid i awdurdod lleol roi ei gynigion ar waith yn unol â'r amserlen sydd wedi ei chynnwys yn y cynigion.

PENNOD 3ATODOL

52Y pwerau sy'n caniatáu amrywio pwerau gweithrediaeth

Ni chaniateir i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth amrywio'r trefniadau hynny neu roi trefniadau yn lle'r trefniadau hynny ac eithrio fel a ddarperir yn—

(a)Pennod 1 neu 2 o'r Rhan hon, neu

(b)rheoliadau o dan adran 34, 35 neu 36 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

53Ffurfiau ar weithrediaeth

At ddibenion y Rhan hon, mae pob un o'r canlynol yn ffurf ar weithrediaeth—

(a)gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru);

(b)gweithrediaeth maer a chabinet.

54Darpariaeth ganlyniadol etc

(1)Diwygir Deddf Llywodraeth Leol 2000 fel a ganlyn.

(2)Hepgorer adran 30 (gweithredu gwahanol drefniadau gweithrediaeth).

(3)O flaen adran 33A mewnosoder—

33ZAWales: changing governance arrangements

For provision about changing the governance arrangements of local authorities in Wales, see Part 4 of the Local Government (Wales) Measure 2011..

(4)Yn adran 45 (darpariaethau mewn cysylltiad â refferenda), yn is-adran (9), ar ôl “this Part” mewnosoder “or under section 40 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure as a PDF

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure without Schedules

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure without Schedules as a PDF

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Mesur Cyfan

Y Mesur Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Mesur Cyfan heb Atodlenni

Y Mesur Cyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill