Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Yn ddilys o 07/07/2015

89Methiant i gydymffurfio â chynllun gweithreduLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw D wedi llunio cynllun gweithredu yn unol ag adran 80.

(2)Caiff y Comisiynydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, wneud cais i lys sirol am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â'r cynllun gweithredu.

(3)Yn yr adran hon ystyr “cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y daw'r cynllun gweithredu i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 89 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)