Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

34Personau sy'n dod o fewn Atodlenni 5, 6, 7 ac 8LL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae person yn dod o fewn Atodlen 5 os yw'r person yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 5.

(2)Mae person yn dod o fewn Atodlen 6 os yw'r person—

(a)yn cael ei bennu yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 6, neu

(b)yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yn y golofn honno.

(3)Mae person yn dod o fewn Atodlen 7 os yw'r person yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 7.

(4)Mae person yn dod o fewn Atodlen 8 os yw'r person—

(a)yn cael ei bennu yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 8, neu

(b)yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yn y golofn honno.

(5)Nid yw newid enw person a bennir yn Atodlen 6 neu yn Atodlen 8 yn effeithio ar weithredu'r Mesur hwn mewn perthynas â'r person.

(6)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at gofnod person yn y tabl yn Atodlen 6 neu yn y tabl yn Atodlen 8 yn gyfeiriadau at y cofnod yn y tabl hwnnw (yng ngholofn (1)) sy'n pennu—

(a)P, neu

(b)categori o bersonau y mae P yn dod oddi mewn iddo.

(7)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 34 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 34 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)