xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CSAFONAU

PENNOD 2LL+CSAFONAU A PHENNU SAFONAU

Safonau gweithreduLL+C

30Safonau gweithreduLL+C

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “safon gweithredu” yw safon—

(a)sy'n ymwneud â gweithgareddau perthnasol person (A), a

(b)y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg—

(i)gan A wrth i A wneud ei weithgareddau perthnasol,

(ii)gan A a pherson arall wrth iddynt ddelio â'i gilydd mewn cysylltiad â gweithgareddau perthnasol A, neu

(iii)gan berson heblaw A wrth iddo wneud gweithgareddau at ddibenion gweithgareddau perthnasol A, neu mewn cysylltiad â hwy.

(2)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “gweithgareddau perthnasol” yw—

(i)swyddogaethau, neu

(ii)busnes neu ymgymeriad arall;

(b)mae cyfeiriad at gyflawni gweithgareddau perthnasol yn gyfeiriad at—

(i)arfer swyddogaethau, neu

(ii)cynnal busnes neu ymgymeriad arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 30 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 30 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)