xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 4LL+CAELODAU'R PANEL CYNGHORI

RHAN 2LL+CTERFYNU PENODIAD

YmddiswyddoLL+C

6Caiff aelod o'r Panel Cynghori ymddiswyddo os yw'n rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny i Weinidogion Cymru heb fod yn llai na 2 fis cyn ymddiswyddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 6 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Anghymhwyso rhag bod yn aelodLL+C

7Mae person yn peidio â bod yn aelod o'r Panel Cynghori os yw'r person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Panel Cynghori ar sail cyflogaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 4 para. 7 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

DiswyddoLL+C

8(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo aelod o'r Panel Cynghori os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)nad yw'r person yn ffit i barhau yn aelod o'r Panel Cynghori, neu

(b)nad yw'r person yn gallu neu'n fodlon gweithredu fel aelod o'r Panel Cynghori.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd cyn diswyddo aelod o'r Panel Cynghori.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 4 para. 8 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I6Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Taliadau pan fo rhywun yn peidio â dal swyddLL+C

9Caiff Gweinidogion Cymru dalu person sy'n peidio â bod yn aelod o'r Panel Cynghori os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod amgylchiadau arbennig yn ei gwneud hi'n iawn i'r person gael taliad yn iawndal.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 4 para. 9 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I8Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)