xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynwyd gan adran 23)

ATODLEN 4AELODAU'R PANEL CYNGHORI

RHAN 1PENODI

Penodi

1(1)Pan fydd Gweinidogion Cymru'n penodi aelod o'r Panel Cynghori rhaid iddynt gydymffurfio â rheoliadau penodi (gweler paragraff 5).

(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod o'r Panel Cynghori os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Panel Cynghori ar sail cyflogaeth.

Tâl cydnabyddiaeth, lwfansau a phensiynau

2(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau'r Panel Cynghori.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i aelodau'r Panel Cynghori.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

(a)pensiynau i bersonau a fu'n aelodau o'r Panel Cynghori, neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n aelodau o'r Panel Cynghori, neu mewn cysylltiad â hwy.

Telerau penodi

3(1)Mae aelod o'r Panel Cynghori yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr Atodlen hon.

Cyfnod y penodiad

4(1)Mae person a benodir yn aelod o'r Panel Cynghori yn dal ei swydd (yn rhinwedd y penodiad hwnnw) am 3 blynedd.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i Ran 2 o'r Atodlen hon.

Rheoliadau Penodi

5(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi aelodau o'r Panel Cynghori (“rheoliadau penodi”).

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau penodi yn cynnwys darpariaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraffau (3) i (6), ond nid yw'n gyfyngedig iddi.

(3)Caiff rheoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch yr egwyddorion sydd i'w dilyn wrth benodi aelod o'r Panel Cynghori.

(4)Caiff rheoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch—

(a)gwybodaeth o'r Gymraeg, a hyfedredd ynddi, a

(b)gwybodaeth a phrofiad—

(i)o'r materion y mae gan y Comisiynydd swyddogaethau yn eu cylch, a

(ii)o unrhyw fater arall sy'n berthnasol i unrhyw beth sy'n dod i ran y Comisiynydd i'w wneud,

sef gwybodaeth, hyfedredd a phrofiad o'r math y mae'n rhaid i aelod o'r Panel Cynghori feddu arno.

(5)Caiff rheoliadau penodi—

(a)cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy'n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

(b)gwneud darpariaeth arall sy'n ymwneud ag unrhyw god o'r fath.

(6)Caiff rheoliadau penodi roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.

RHAN 2TERFYNU PENODIAD

Ymddiswyddo

6Caiff aelod o'r Panel Cynghori ymddiswyddo os yw'n rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny i Weinidogion Cymru heb fod yn llai na 2 fis cyn ymddiswyddo.

Anghymhwyso rhag bod yn aelod

7Mae person yn peidio â bod yn aelod o'r Panel Cynghori os yw'r person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Panel Cynghori ar sail cyflogaeth.

Diswyddo

8(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo aelod o'r Panel Cynghori os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)nad yw'r person yn ffit i barhau yn aelod o'r Panel Cynghori, neu

(b)nad yw'r person yn gallu neu'n fodlon gweithredu fel aelod o'r Panel Cynghori.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd cyn diswyddo aelod o'r Panel Cynghori.

Taliadau pan fo rhywun yn peidio â dal swydd

9Caiff Gweinidogion Cymru dalu person sy'n peidio â bod yn aelod o'r Panel Cynghori os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod amgylchiadau arbennig yn ei gwneud hi'n iawn i'r person gael taliad yn iawndal.

RHAN 3ANGHYMHWYSO

Anghymhwyso ar sail cyflogaeth

10Mae person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Panel Cynghori ar sail cyflogaeth os yw'r person—

(a)yn Aelod Seneddol;

(b)yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)yn aelod o Dribiwnlys y Gymraeg;

(d)yn aelod o staff y Comisiynydd.

RHAN 4CYFFREDINOL

Dehongli

11Yn yr Atodlen hon ystyr “rheoliadau penodi” yw rheoliadau a wneir o dan baragraff 5.