xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2YMHOLIADAU GAN Y COMISIYNYDD

Adroddiadau ar ymholiadau

8(1)Rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad o'i ganfyddiadau ar unrhyw ymholiad.

(2)Ni chaniateir i'r adroddiad—

(a)ei gwneud yn hysbys beth yw'r methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol (o fewn ystyr Rhan 5) gan berson y mae'n hysbys pwy ydyw, neu y gall fod yn hysbys pwy ydyw, yn rhinwedd yr adroddiad, neu

(b)cyfeirio fel arall at weithgareddau person y mae'n hysbys pwy ydyw, neu y gall fod yn hysbys pwy ydyw, yn rhinwedd yr adroddiad, oni bai bod y Comisiynydd o'r farn—

(i)na fyddai'r cyfeiriad yn niweidio'r person, neu

(ii)bod y cyfeiriad yn angenrheidiol er mwyn i'r adroddiad adlewyrchu canlyniadau'r ymholiad yn ddigonol (gan ystyried cylch gorchwyl yr ymholiad).

(3)Rhaid i'r Comisiynydd anfon drafft o'r adroddiad at Weinidogion Cymru.

(4)Os yw'r cylch gorchwyl yn pennu person penodol neu gategori o berson, rhaid i'r Comisiynydd hefyd anfon drafft o'r adroddiad at bob person perthnasol.

(5)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)rhoi cyfle i Weinidogion Cymru, ac i unrhyw berson arall yr anfonir drafft o adroddiad ato, i wneud sylwadau am yr adroddiad drafft, a

(b)ystyried unrhyw sylwadau a wneir.

(6)Ar ôl setlo'r adroddiad (ac yntau wedi cydymffurfio ag is-baragraff (5)), rhaid i'r Comisiynydd ei gyhoeddi.

(7)Nid yw'r paragraff hwn yn effeithio ar gymhwyso Deddf Diogelu Data 1998 i'r Comisiynydd.

(8)Yn y paragraff hwn mae i “person perthnasol” yr un ystyr ag a roddir ym mharagraff 3.