xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5GORFODI SAFONAU

PENNOD 3DIFFYG CYDYMFFURFIO Å SAFONAU: CWYNION GAN BERSONAU YR EFFEITHIR ARNYNT

93Ystyried ai i ymchwilio ai peidio os gwneir cwyn ynghylch ymddygiad

(1)Rhaid i'r Comisiynydd ystyried ai i gynnal ymchwiliad o dan adran 71 ai peidio i'r cwestiwn a yw ymddygiad person (D) (“yr ymddygiad honedig”) yn gyfystyr â methiant i gydymffurfio â safon—

(a)os yw person (P) yn gwneud cwyn i'r Comisiynydd ynglŷn â'r ymddygiad, a

(b)os yw'r gŵyn yn un ddilys.

(2)Mae cwyn gan P i'r Comisiynydd yn gŵyn ddilys os bodlonir yr amodau yn is-adrannau (3) i (6).

(3)Rhaid i P fod—

(a)yn berson y mae'n ymddangos i'r Comisiynydd fod yr ymddygiad honedig wedi effeithio arno'n uniongyrchol, neu

(b)yn berson sy'n gweithredu ar ran y person hwnnw.

(4)Rhaid gwneud y gŵyn yn ysgrifenedig, oni bai bod amgylchiadau personol P yn golygu na fyddai'n rhesymol i P wneud y gŵyn yn ysgrifenedig.

(5)Rhaid i'r gŵyn roi cyfeiriad lle y caiff y Comisiynydd gysylltu â P (boed y cyfeiriad yn gyfeiriad post, electronig neu'n gyfeiriad o ddisgrifiad arall).

(6)Rhaid i'r gŵyn—

(a)ei gwneud yn hysbys pwy yw D, a

(b)ei gwneud yn hysbys beth yw'r ymddygiad honedig.

(7)Ond, os bodlonir yr amodau hynny, nid oes angen i'r Comisiynydd ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio—

(a)os gwneir y gŵyn fwy na blwyddyn ar ôl i'r person yr effeithiwyd arno ddod yn ymwybodol o'r ymddygiad honedig,

(b)os yw'r Comisiynydd o'r farn bod y gŵyn yn wacsaw neu'n flinderus, neu'n un sydd eisoes wedi ei gwneud sawl gwaith, neu

(c)os tynnir y gŵyn yn ôl.

(8)Nid yw'r adran hon yn atal y Comisiynydd rhag ystyried ai i gynnal yr ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio—

(a)os na fodlonir unrhyw un neu ragor o'r amodau yn is-adrannau (3) i (6), neu

(b)os yw is-adran (7) yn gymwys.

(9)Os gwneir cwyn o dan yr adran hon gan berson sy'n gweithredu ar ran person arall, yn narpariaethau'r Mesur hwn sy'n ymwneud ag apelau neu apelau pellach sy'n gysylltiedig â'r gŵyn, mae cyfeiriad at y person a wnaeth y gŵyn (gan gynnwys achos pan gyfeirir at y person hwnnw fel “P”) i'w ddarllen fel cyfeiriad at y person arall (ac nid fel cyfeiriad at y person a wnaeth y gŵyn).

(10)Yn yr adran hon ystyr “person yr effeithiwyd arno” yw person y mae'n ymddangos i'r Comisiynydd fod yr ymddygiad honedig wedi effeithio arno'n uniongyrchol.

94Hysbysiad os nad oes ymchwiliad etc

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn unrhyw un neu ragor o'r achosion a ganlyn.

(2)Yr achos cyntaf yw—

(a)pan fo'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys, a

(b)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad.

(3)Yr ail achos yw—

(a)pan fo adran 93(7) yn gymwys o ran cwyn, a

(b)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio.

(4)Y trydydd achos yw pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu nad yw'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys.

(5)Y pedwerydd achos yw—

(a)pan nad yw'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys, a

(b)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio o dan adran 93(8) neu, ar ôl ystyried ai i gynnal ymchwiliad o dan yr adran honno, yn penderfynu peidio â chynnal yr ymchwiliad.

(6)Y pumed achos yw—

(a)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu cynnal ymchwiliad, ac

(b)pan fo'r Comisiynydd wedyn yn penderfynu terfynu'r ymchwiliad.

(7)Rhaid i'r Comisiynydd hysbysu P—

(a)o'r penderfyniad a nodir yn is-adrannau (2)(b), (3)(b), (4), (5)(b) neu (6)(b), a

(b)o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw, ac

(c)o'r hawl i gael adolygiad o dan adran 103.