xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CSAFONAU

PENNOD 6LL+CHYSBYSIADAU CYDYMFFURFIO

Hysbysiadau cydymffurfioLL+C

44Hysbysiadau cydymffurfioLL+C

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “hysbysiad cydymffurfio” yw hysbysiad a roddir i berson (P) gan y Comisiynydd—

(a)sy'n nodi, neu'n cyfeirio at, un neu ragor o safonau a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1), a

(b)sy'n ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â'r safon neu â'r safonau a nodir neu y cyfeirir ati neu atynt.

(2)Caiff hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio â safon benodol—

(a)mewn rhai amgylchiadau, ond nid mewn amgylchiadau eraill;

(b)mewn rhyw ardal neu rai ardaloedd, ond nid mewn ardaloedd eraill.

(3)Os yw rheoliadau o dan adran 39 yn darparu bod dwy neu ragor o safonau a bennir mewn perthynas ag ymddygiad penodol yn benodol gymwys i berson penodol, caiff hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio—

(a)ag un o'r safonau'n unig, neu

(b)â gwahanol safonau—

(i)ar adegau gwahanol;

(ii)mewn amgylchiadau gwahanol (boed ar yr un adeg neu ar adegau gwahanol);

(iii)mewn ardaloedd gwahanol (boed ar yr un adeg neu ar adegau gwahanol).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 44 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 44 mewn grym ar 17.4.2012 gan O.S. 2012/1096, ergl. 2(c)

Rhoi hysbysiadau cydymffurfioLL+C

45Rhoi hysbysiadau cydymffurfio i unrhyw bersonLL+C

(1)Dim ond os yw person (P) yn agored i orfod cydymffurfio â safonau (gweler Pennod 3) y caiff y Comisiynydd roi hysbysiad cydymffurfio i P.

(2)Dim ond os yw safon benodol a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1)—

(a)yn gymwysadwy i P (gweler Pennod 4), a

(b)yn benodol gymwys i P (gweler Pennod 5),

y caiff hysbysiad cydymffurfio a roddir i P nodi, neu gyfeirio at, safon benodol.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad cydymffurfio i P, rhaid i'r Comisiynydd hefyd—

(a)rhoi copi o unrhyw god ymarfer perthnasol a ddyroddir o dan adran 68 i P, a

(b)rhoi gwybod i P am yr hawl i herio o dan Bennod 7.

(4)Am ddarpariaeth ynglŷn â rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr, gweler adran 48.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 45 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4A. 45 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)

46Diwrnodau gosodLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys o ran pob safon a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio a roddir i berson.

(2)Rhaid i'r hysbysiad ddatgan y diwrnod gosod neu'r diwrnodau gosod.

(3)Rhaid i'r diwrnod gosod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau gosod, ddod ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(4)Yn yr adran hon ystyr “diwrnod gosod” o ran safon yw—

(a)y diwrnod oddi ar bryd y mae'n ofynnol i berson gydymffurfio â'r safon, neu,

(b)y diwrnod oddi ar bryd y mae'n ofynnol i berson gydymffurfio â'r safon mewn modd penodol.

(5)Am ddarpariaeth ynglŷn â rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr, gweler adran 48.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 46 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I6A. 46 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)

47YmgynghoriLL+C

(1)Cyn rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r person.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ymgynghori â pherson ar unrhyw fater os yw'r Comisiynydd wedi ei fodloni bod y person hwnnw eisoes wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y mater hwnnw, neu wedi cael cyfle i wneud hynny, mewn cysylltiad ag ymchwiliad safonau (gweler Pennod 8).

(3)Nid yw methiant y person i gymryd rhan mewn ymgynghoriad yn atal y Comisiynydd rhag rhoi hysbysiad cydymffurfio i'r person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 47 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I8A. 47 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)

48Rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyrLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys (ynghyd ag adrannau 45 a 46) mewn perthynas â pherson neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd (y “gwasanaethau perthnasol”) o dan gytundeb, neu'n unol â threfniadau, a wneir gydag awdurdod cyhoeddus (y “contract perthnasol”).

(2)Dim ond—

(a)os yw'n ofynnol i'r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon berthnasol wrth ddarparu'r gwasanaethau perthnasol i'r cyhoedd (neu y byddai wedi bod yn ofynnol i'r awdurdod cyhoeddus wneud hynny pe bai'n darparu'r gwasanaethau hynny i'r cyhoedd),

(b)os gwnaed y contract perthnasol ar neu ar ôl diwrnod gosod yr awdurdod cyhoeddus, ac

(c)os yw diwrnod gosod y person neilltuedig yn dod ar neu ar ôl diwrnod gosod yr awdurdod cyhoeddus,

y caiff hysbysiad cydymffurfio a roddir i'r person neilltuedig nodi, neu gyfeirio at, safon benodol (y “safon berthnasol”) mewn perthynas â darparu'r gwasanaethau perthnasol o dan y contract perthnasol.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y gofyniad am i'r person neilltuedig gydymffurfio â'r safon berthnasol (sy'n codi yn rhinwedd bod hysbysiad cydymffurfio yn cael ei roi yn unol ag is-adran (2)) yr un fath â'r gofyniad, neu heb fod yn fwy na'r gofyniad, am i'r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon.

(4)Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn yr adran hon ac yn Atodlen 8 yr un ystyr yn yr adran hon ag yn Atodlen 8.

(5)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 48 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I10A. 48 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)

Amrywio hysbysiadau cydymffurfioLL+C

49Amrywio hysbysiadau cydymffurfioLL+C

(1)Caiff y Comisiynydd amrywio unrhyw hysbysiad cydymffurfio.

(2)Mae adrannau 45 i 47 yn gymwys o ran amrywio hysbysiad cydymffurfio yn yr un modd ag y maent yn gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio, ond dim ond i'r graddau y mae'r hysbysiad wedi ei amrywio.

(3)Mae adran 48 yn gymwys o ran amrywio hysbysiad cydymffurfio yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 49 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I12A. 49 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)

Dirymu hysbysiadau cydymffurfioLL+C

50Dirymu hysbysiadau cydymffurfioLL+C

(1)Caiff y Comisiynydd ddirymu unrhyw hysbysiad cydymffurfio.

(2)Mae is-adrannau (3) a (4) yn gymwys mewn achos pan fo'r Comisiynydd—

(a)yn dirymu hysbysiad cydymffurfio a roddwyd i berson (yr “hen hysbysiad”), a

(b)ar yr un pryd yn rhoi i'r person hwnnw hysbysiad cydymffurfio (yr “hysbysiad newydd”).

(3)Dim ond i'r graddau y mae'r hysbysiad newydd yn wahanol i'r hen hysbysiad y mae adrannau 45 i 47 yn gymwys o ran rhoi'r hysbysiad newydd.

(4)Mae adran 48 yn gymwys o ran rhoi hysbysiad newydd yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 50 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I14A. 50 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)

Pan fydd hysbysiad cydymffurfio mewn grymLL+C

51Pan fydd hysbysiad cydymffurfio mewn grymLL+C

(1)Mae hysbysiad cydymffurfio a roddir i berson (P) mewn grym o'r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i P gan y Comisiynydd.

(2)Mae hysbysiad cydymffurfio yn aros mewn grym oni chaiff — a hyd oni chaiff — ei ddirymu.

(3)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 51 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I16A. 51 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)

Cyhoeddi hysbysiadau cydymffurfioLL+C

52Cyhoeddi hysbysiadau cydymffurfioLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phob hysbysiad cydymffurfio sydd mewn grym.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau, o'r diwrnod gosod perthnasol ymlaen—

(a)bod copi o'r hysbysiad cydymffurfio ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a

(b)y perir bod copïau o'r hysbysiad cydymffurfio ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.

(3)Os bydd person yn gwneud cais i'r Comisiynydd o dan Bennod 7 mewn cysylltiad â safon rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y copïau o'r hysbysiad cydymffurfio y parwyd iddynt fod ar gael yn unol ag is-adran (2) yn nodi, hyd nes bod y cais wedi ei ddyfarnu'n derfynol—

(a)bod y cais wedi ei wneud, a

(b)nad yw'r gofyniad i gydymffurfio â'r safon yn gymwys, yn rhinwedd adran 60 (os dyna'r sefyllfa).

(4)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at hysbysiadau cydymffurfio yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant mewn archwilio a chael at hysbysiadau cydymffurfio.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “diwrnod gosod perthnasol” yw—

(a)os dim ond un diwrnod gosod sydd wedi ei nodi mewn hysbysiad cydymffurfio, y diwrnod gosod hwnnw;

(b)os oes dau neu ragor o ddiwrnodau gosod wedi eu nodi yn yr hysbysiad cydymffurfio, y cynharaf o'r diwrnodau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 52 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I18A. 52 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)

Gofyniad i gydymffurfio â safon yn dod i benLL+C

53Gofyniad i gydymffurfio â safon yn dod i benLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn unrhyw achos pan fydd person (P) yn peidio â bod o dan y ddyletswydd yn adran 25(1) i gydymffurfio â safon oherwydd—

(a)bod un neu ragor o amodau 1 i 3 yn adran 25 yn peidio â chael ei fodloni neu eu bodloni, neu

(b)bod y safon yn peidio â chael ei phennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1).

(2)Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r adran hon fod yn gymwys, rhaid i'r Comisiynydd, drwy arfer y pwerau a roddir gan y Bennod hon, sicrhau bod y newid a ddisgrifir yn is-adran (1) yn cael ei adlewyrchu yn yr hysbysiadau cydymffurfio (os bydd rhai) sy'n parhau mewn grym mewn perthynas â P.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 53 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I20A. 53 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)