xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae person (P) yn agored i orfod cydymffurfio â safonau os yw P—
(a)yn dod o fewn Atodlen 5 a hefyd o fewn Atodlen 6, neu
(b)yn dod o fewn Atodlen 7 a hefyd o fewn Atodlen 8.
(2)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.
(1)Mae person yn dod o fewn Atodlen 5 os yw'r person yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 5.
(2)Mae person yn dod o fewn Atodlen 6 os yw'r person—
(a)yn cael ei bennu yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 6, neu
(b)yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yn y golofn honno.
(3)Mae person yn dod o fewn Atodlen 7 os yw'r person yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 7.
(4)Mae person yn dod o fewn Atodlen 8 os yw'r person—
(a)yn cael ei bennu yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 8, neu
(b)yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yn y golofn honno.
(5)Nid yw newid enw person a bennir yn Atodlen 6 neu yn Atodlen 8 yn effeithio ar weithredu'r Mesur hwn mewn perthynas â'r person.
(6)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at gofnod person yn y tabl yn Atodlen 6 neu yn y tabl yn Atodlen 8 yn gyfeiriadau at y cofnod yn y tabl hwnnw (yng ngholofn (1)) sy'n pennu—
(a)P, neu
(b)categori o bersonau y mae P yn dod oddi mewn iddo.
(7)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 a'r tabl yn Atodlen 8 yn unol â'r adran hon.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn (1) yn cynnwys cyfeiriad—
(a)at berson sy'n dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 5, neu
(b)at gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 5.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 6 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (1).
(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 fel bod colofn (1) yn cynnwys cyfeiriad—
(a)at berson sy'n dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 7, neu
(b)at gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 7.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (1).
(6)Caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau eraill i'r tabl yn Atodlen 6 neu i'r tabl yn Atodlen 8, neu i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Mesur hwn, sy'n briodol yn eu tyb hwy mewn cysylltiad â phwerau yn unrhyw un neu ragor o is-adrannau (2) i (5), at ddibenion y pwerau hynny, neu o ganlyniad i'r pwerau hynny.
(7)Yn yr adran hon—
ystyr “categori yn Atodlen 5” (“Schedule 5 category”) yw categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 5;
ystyr “categori yn Atodlen 7” (“Schedule 7 category”) yw categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 7.