xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Tirlenwi

9Rheoliadau sy'n gwahardd gollwng gwastraff ar safle tirlenwi

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o ollwng mathau penodedig o wastraff ar safle tirlenwi yng Nghymru, ac mewn cysylltiad â'i wahardd neu ei reoleiddio.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol (ymhlith pethau eraill)–

(a)diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 ac sy'n ymwneud â dull gweithredu safle tirlenwi;

(b)darparu ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â darpariaeth a wnaed o dan y rheoliadau;

(c)darparu ar gyfer cosbau mewn perthynas â'r tramgwyddau hynny;

(d)darparu ar gyfer awdurdodau gorfodi a swyddogaethau'r awdurdodau hynny.

(3)Yn is-adran (1), mae i “safle tirlenwi” yr ystyr a roddir i “landfill” yn Erthygl 2(g) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC dyddiedig 26 Ebrill 1999 am dirlenwi gwastraff.

10Sancsiynau sifil mewn cysylltiad â gollwng gwastraff ar safle tirlenwi

(1)Mae'r adran hon yn gymwys pan fo'r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 9(1) wedi ei arfer neu'n cael ei arfer yn y fath fodd ag i greu tramgwydd.

(2)Caiff rheoliadau o dan adran 9(1) wneud, mewn perthynas ag awdurdod gorfodi, ddarpariaeth y gellid ei gwneud drwy orchymyn o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (“RESA 2008”) fel pe byddai, at ddibenion Rhan 3 o'r Ddeddf honno–

(a)yr awdurdod gorfodi yn rheoleiddiwr, a

(b)y tramgwydd yn dramgwydd perthnasol mewn perthynas â'r rheoleiddiwr hwnnw.

(3)Ond wrth eu cymhwyso i dramgwyddau a grëwyd gan reoliadau o dan adran 9(1)–

(a)nid yw adrannau 39(4) a 42(6) o RESA 2008 yn gymwys, a

(b)mae adran 49(1) wedi ei haddasu fel bod y cyfeiriad at “£20,000” i'w ddarllen fel cyfeiriad at “level 5 on the standard scale”.

(4)Mae adrannau 63 i 69 o RESA 2008 yn gymwys i ddarpariaeth a wneir o dan reoliadau o dan is-adran (2), neu yn rhinwedd y rheoliadau hynny, fel y maent yn gymwys i ddarpariaeth a wneir o dan Ran 3 o RESA 2008 neu yn rhinwedd y Rhan honno.

(5)At ddibenion is-adran (4), mae'r cyfeiriadau at “regulator” yn adrannau 63 i 69 o RESA 2008 i'w darllen fel cyfeiriadau at awdurdod gorfodi.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod gorfodi” yw person sydd â swyddogaeth orfodi mewn perthynas â thramgwydd a grëwyd drwy reoliadau o dan adran 9(1).

11Ymgynghori

(1)Cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adran 9, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol–

(a)Asiantaeth yr Amgylchedd;

(b)pob awdurdod lleol;

(c)unrhyw bersonau y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy'n agored i fod yn ddarostyngedig i ddyletswyddau o dan y rheoliadau ac y mae Gweinidogion Cymru'n barnu eu bod yn briodol;

(d)unrhyw bersonau eraill y maent yn barnu eu bod yn briodol.

(2)At ddibenion is-adran (1), mae ymgynghoriad sydd wedi ei wneud cyn pasio'r Mesur hwn yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud ar ôl ei basio.