xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CCYDGYSYLLTU A CHYNLLUNIO GOFAL AR GYFER DEFNYDDWYR GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD

Penodi cydgysylltwyr gofalLL+C

16Darpariaeth bellach ynghylch penodi cydgysylltwyr gofalLL+C

(1)Rhaid i ddarparydd beidio â phenodi unigolyn yn gydgysylltydd gofal o dan adran 14(1) onid yw'r unigolyn yn gymwys i'w benodi'n gydgysylltydd gofal o dan reoliadau a wneir o dan adran 47.

(2)Rhaid i ddarparydd beidio â phenodi unigolyn yn gydgysylltydd gofal o dan adran 14(1) o blith staff person arall heb gydsyniad y person hwnnw.

(3)Onid yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru'n darparu fel arall, nid yw penodiad unigolyn yn gydgysylltydd gofal yn dod i ben o ganlyniad i newid darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol claf perthnasol fel y'i dynodir o dan adran 15.

(4)Caiff darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol derfynu penodiad unigolyn a benodwyd yn gydgysylltydd gofal o dan adran 14(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 16 mewn grym ar 15.2.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 55(1)(2)(b)

I2A. 16 mewn grym ar 6.6.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(e)