Chwilio Deddfwriaeth

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 3ASESIADAU AR DDEFNYDDWYR BLAENOROL O WASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD

Trefniadau asesiad

19Trefniadau ar gyfer asesu defnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd

(1)Rhaid i bartneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i gytuno ar drefniadau ar gyfer–

(a)cynnal asesiadau yn unol ag adrannau 25 a 26 ar gyfer oedolion sydd fel arfer yn preswylio yn yr ardal honno a chanddynt hawl i asesiadau o'r fath o dan adran 22; a

(b)gwneud atgyfeiriadau a ddisgrifir yn adran 28(1) yn dilyn asesiadau o'r fath.

(2)Os cytunwyd ar drefniadau, rhaid i'r partneriaid sicrhau bod y trefniadau'n cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.

(3)Rhaid i'r trefniadau ddynodi i ba raddau y mae pob partner i gynnal yr asesiadau hynny a gwneud yr atgyfeiriadau hynny.

(4)Caiff y trefniadau ddarparu–

(a)bod un o'r partneriaid i ddarparu pob asesiad a gwneud pob atgyfeiriad;

(b)bod partneriaid gwahanol yn ymgymryd â gwahanol agweddau ar asesiad, a gwahanol atgyfeiriadau yn dilyn asesiad.

(5)Caiff y partneriaid newid eu trefniadau (gan gynnwys trefniadau a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 21 a threfniadau sydd eisoes wedi eu newid) os ydynt yn cytuno ar y newidiadau.

(6)Os newidir trefniadau o dan is-adran (5), rhaid i'r partneriaid sicrhau bod y newidiadau'n cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.

20Dyletswydd i gynnal asesiadau

(1)Oni fydd adran 21(1)(a) yn gymwys, rhaid i'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol gynnal asesiadau a gwneud atgyfeiriadau yn unol â'r trefniadau a–

(a)gytunwyd ar gyfer eu hardal o dan adran 19; neu

(b)benderfynwyd ar gyfer eu hardal gan Weinidogion Cymru o dan adran 21.

(2)Os yw'r trefniadau wedi eu newid o dan adran 19(5) neu 21(2), rhaid cynnal asesiadau a gwneud atgyfeiriadau yn unol â'r trefniadau fel y'u newidiwyd.

21Methiant i gytuno ar drefniadau

(1)Os na fydd y partneriaid yn gallu cytuno ar drefniadau o dan adran 19–

(a)tra na bo cytundeb, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol gynnal yr asesiadau y cyfeirir atynt yn adran 19(1)(a) a gwneud yr atgyfeiriadau y cyfeirir atynt yn adran 19(1)(b);

(b)rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu Gweinidogion Cymru na ellir dod i gytundeb;

(c)caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar y trefniadau ac, os byddant yn gwneud hynny, rhaid iddynt eu cofnodi'n ysgrifenedig.

(2)Os bydd un partner yn dymuno newid y trefniadau, ond nad yw'r llall yn dymuno gwneud, caiff Gweinidogion Cymru, os gwneir cais i Weinidogion Cymru gan y naill bartner neu'r llall, newid y trefniadau i'r graddau y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

(3)Os bydd Gweinidogion Cymru'n newid trefniadau o dan is-adran (2), rhaid iddynt gofnodi'r newidiadau'n ysgrifenedig.

Hawliau asesu

22Hawl i asesiad

(1)Mae gan oedolyn hawl i asesiad fel a ddisgrifir yn adran 25–

(a)os yw'r oedolyn yn gwneud cais i'r naill neu'r llall o'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol y mae'r oedolyn fel arfer yn preswylio ynddi i gynnal asesiad o'r fath;

(b)os yw'r oedolyn wedi'i ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd (p'un a oedd y gwasanaethau yn gyfrifoldeb partner iechyd meddwl lleol y gwnaed y cais am asesiad iddo ai peidio);

(c)os gwneir y cais o fewn y cyfnod rhyddhau perthnasol (gweler adran 23); a

(d)os nad yw'r partner iechyd meddwl lleol y gwneir y cais iddo yn ystyried y cais yn flinderus neu'n wacsaw.

(2)At ddibenion is-adran (1)(b), mae oedolyn wedi'i ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd os darparwyd gwasanaeth neu wasanaethau iechyd meddwl eilaidd i'r oedolyn ond na ddarperir iddo bellach, am ba reswm bynnag, unrhyw wasanaeth iechyd meddwl eilaidd.

(3)Mae'r cyfeiriad at ryddhau oedolyn o wasanaeth iechyd meddwl eilaidd yn cynnwys rhyddhau a ddigwyddodd pan oedd yr oedolyn yn blentyn.

23Asesiadau: y cyfnod rhyddhau perthnasol

(1)Mae'r cyfnod rhyddhau perthnasol mewn perthynas ag oedolyn–

(a)yn dechrau ar y dyddiad pan gafodd yr oedolyn ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd (o fewn ystyr adran 22(2)); a

(b)yn gorffen pan fo'r cyfnod o amser a bennir mewn rheoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon gan Weinidogion Cymru wedi dod i ben.

(2)Mae'r cyfnod rhyddhau perthnasol hefyd yn dod i ben, cyn i'r cyfnod o amser y cyfeirir ati yn is-adran (1)(b) ddod i ben, os bydd achlysur a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn digwydd.

24Darparu gwybodaeth am asesiadau

(1)Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn rhyddhau oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i'r Bwrdd roi gwybodaeth ysgrifenedig i'r oedolyn ynghylch hawl i asesiad o dan y Rhan hon os nad yw unrhyw awdurdod lleol, ar ddyddiad rhyddhau'r oedolyn, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd iddo.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn rhyddhau oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i'r awdurdod roi gwybodaeth ysgrifenedig i'r oedolyn ynghylch hawl i asesiad o dan y Rhan hon os nad oes unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol, ar ddyddiad yr asesiad, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd ar gyfer yr oedolyn.

(3)Pan fo'r cyfnod rhyddhau perthnasol yn cychwyn pan fo unigolyn yn blentyn ac yn dod i ben pan fo'r unigolyn hwnnw'n dod yn oedolyn, mae'r Bwrdd neu'r awdurdod o dan yr un ddyletswydd i roi gwybodaeth i'r unigolyn hwnnw ynghylch ei hawl i asesiad ag y mae i roi'r cyfryw wybodaeth i oedolyn o dan is-adrannau (1) a (2).

(4)At ddibenion yr adran hon, mae Bwrdd neu awdurdod yn rhyddhau unigolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd pan fydd yn gweithredu penderfyniad nad oes angen i'r Bwrdd neu'r awdurdod ddarparu mwyach unrhyw wasanaeth o'r fath ar gyfer yr unigolyn.

Y broses asesu

25Diben asesu

Mae asesiad o dan y Rhan hon yn ddadansoddiad o iechyd meddwl oedolyn sy'n dynodi–

(a)y gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl y person sy'n cael ei asesu neu atal dirywiad ynddo;

(b)y gwasanaethau gofal cymunedol, nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl y person sy'n cael ei asesu neu atal dirywiad ynddo; ac

(c)y gwasanaethau tai neu'r gwasanaethau llesiant (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl y person sy'n cael ei asesu neu atal dirywiad ynddo.

26Asesiadau: darpariaeth bellach

(1)Rhaid cynnal asesiad o dan y Rhan hon cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cais y cyfeirir ato yn adran 22(1) gael ei wneud.

(2)Rhaid i bartneriaid iechyd meddwl lleol sicrhau–

(a)bod asesiad yn arwain at un adroddiad ysgrifenedig sy'n cofnodi a yw'r asesiad wedi dynodi unrhyw wasanaethau'n unol ag adran 25; a

(b)bod copi o'r adroddiad hwnnw yn cael ei roi i'r oedolyn a gafodd ei asesu o fewn y cyfryw gyfnod yn dilyn cwblhau'r asesiad ag a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Os un partner iechyd meddwl lleol sydd wedi cynnal asesiad o dan y Rhan hon, rhaid i'r partner, os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny, roi copi o'r adroddiad i'r partner arall cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol iddo wneud hynny.

27Camau yn dilyn asesiad

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw asesiad o dan adran 25(a) neu (b) wedi dynodi gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd neu wasanaethau gofal cymunedol (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) a allai helpu i wella iechyd meddwl oedolyn neu atal dirywiad ynddo.

(2)Os un o'r partneriaid iechyd meddwl lleol fyddai'r awdurdod cyfrifol mewn perthynas ag unrhyw wasanaeth o'r fath, rhaid i'r partner hwnnw benderfynu p'un a oes galw am ddarparu'r gwasanaeth hwnnw ai peidio.

(3)Yn yr adran hon ystyr “awdurdod cyfrifol” yw'r awdurdod a fyddai'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i'w darparu.

28Atgyfeiriadau sy'n ymwneud â gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant

(1)Onid yw is-adran (2) yn gymwys, pan fo asesiad iechyd meddwl eilaidd o dan adran 25(c) wedi dynodi gwasanaeth tai neu wasanaeth llesiant a allai helpu i wella iechyd meddwl oedolyn neu atal dirywiad ynddo, rhaid i'r partner ofyn i'r darparydd gwasanaeth cyfrifol ystyried a fydd yn darparu'r gwasanaeth i'r oedolyn neu, os nad yw hynny'n briodol, a fydd yn gwahodd yr oedolyn i wneud cais am y gwasanaeth.

(2)Os y partner iechyd meddwl awdurdod lleol fyddai'r darparydd gwasanaeth cyfrifol mewn perthynas â'r gwasanaeth tai hwnnw neu'r gwasanaeth llesiant hwnnw, rhaid i'r awdurdod benderfynu a oes galw am ddarparu'r gwasanaeth neu, os nad yw hynny'n briodol, benderfynu a fydd yn gwahodd yr oedolyn i wneud cais am y gwasanaeth.

(3)Yn is-adrannau (1) a (2), ystyr “darparydd gwasanaeth cyfrifol” yw person sy'n ymgymryd â gweithgareddau yng Nghymru a fyddai'n darparu'r gwasanaeth pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i'w ddarparu.

Atodol

29Penderfynu man preswylio arferol

(1)At ddibenion y Rhan hon, mae unrhyw gwestiwn o ran ardal yr awdurdod lleol y mae oedolyn fel arfer yn preswylio ynddi i'w benderfynu yn unol â darpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir iddi gael ei gwneud mewn rheoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys darpariaeth (ond nid yw wedi ei chyfyngu iddi)–

(a)sy'n rhoi pŵer i benderfynu ar ardal yr awdurdod lleol y mae oedolyn fel arfer yn preswylio ynddi;

(b)ar gyfer tybio bod oedolyn fel arfer yn preswylio mewn ardal.

30Cymhwysiad y Rhan hon i bersonau o dan warcheidiaeth awdurdod lleol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i unigolyn–

(a)sydd wedi peidio â bod o dan warcheidiaeth awdurdod lleol, a

(b)wrth beidio â bod felly, na ddarparwyd iddo wasanaeth iechyd meddwl eilaidd.

(2)At ddibenion y Rhan hon, mae'r unigolyn i'w drin fel un a gafodd ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd ar y dyddiad pan beidiodd yr unigolyn â bod o dan warcheidiaeth yr awdurdod lleol.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill