xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3ASESIADAU AR DDEFNYDDWYR BLAENOROL O WASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD

Hawliau asesu

22Hawl i asesiad

(1)Mae gan oedolyn hawl i asesiad fel a ddisgrifir yn adran 25–

(a)os yw'r oedolyn yn gwneud cais i'r naill neu'r llall o'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol y mae'r oedolyn fel arfer yn preswylio ynddi i gynnal asesiad o'r fath;

(b)os yw'r oedolyn wedi'i ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd (p'un a oedd y gwasanaethau yn gyfrifoldeb partner iechyd meddwl lleol y gwnaed y cais am asesiad iddo ai peidio);

(c)os gwneir y cais o fewn y cyfnod rhyddhau perthnasol (gweler adran 23); a

(d)os nad yw'r partner iechyd meddwl lleol y gwneir y cais iddo yn ystyried y cais yn flinderus neu'n wacsaw.

(2)At ddibenion is-adran (1)(b), mae oedolyn wedi'i ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd os darparwyd gwasanaeth neu wasanaethau iechyd meddwl eilaidd i'r oedolyn ond na ddarperir iddo bellach, am ba reswm bynnag, unrhyw wasanaeth iechyd meddwl eilaidd.

(3)Mae'r cyfeiriad at ryddhau oedolyn o wasanaeth iechyd meddwl eilaidd yn cynnwys rhyddhau a ddigwyddodd pan oedd yr oedolyn yn blentyn.

23Asesiadau: y cyfnod rhyddhau perthnasol

(1)Mae'r cyfnod rhyddhau perthnasol mewn perthynas ag oedolyn–

(a)yn dechrau ar y dyddiad pan gafodd yr oedolyn ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd (o fewn ystyr adran 22(2)); a

(b)yn gorffen pan fo'r cyfnod o amser a bennir mewn rheoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon gan Weinidogion Cymru wedi dod i ben.

(2)Mae'r cyfnod rhyddhau perthnasol hefyd yn dod i ben, cyn i'r cyfnod o amser y cyfeirir ati yn is-adran (1)(b) ddod i ben, os bydd achlysur a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn digwydd.

24Darparu gwybodaeth am asesiadau

(1)Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn rhyddhau oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i'r Bwrdd roi gwybodaeth ysgrifenedig i'r oedolyn ynghylch hawl i asesiad o dan y Rhan hon os nad yw unrhyw awdurdod lleol, ar ddyddiad rhyddhau'r oedolyn, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd iddo.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn rhyddhau oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i'r awdurdod roi gwybodaeth ysgrifenedig i'r oedolyn ynghylch hawl i asesiad o dan y Rhan hon os nad oes unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol, ar ddyddiad yr asesiad, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd ar gyfer yr oedolyn.

(3)Pan fo'r cyfnod rhyddhau perthnasol yn cychwyn pan fo unigolyn yn blentyn ac yn dod i ben pan fo'r unigolyn hwnnw'n dod yn oedolyn, mae'r Bwrdd neu'r awdurdod o dan yr un ddyletswydd i roi gwybodaeth i'r unigolyn hwnnw ynghylch ei hawl i asesiad ag y mae i roi'r cyfryw wybodaeth i oedolyn o dan is-adrannau (1) a (2).

(4)At ddibenion yr adran hon, mae Bwrdd neu awdurdod yn rhyddhau unigolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd pan fydd yn gweithredu penderfyniad nad oes angen i'r Bwrdd neu'r awdurdod ddarparu mwyach unrhyw wasanaeth o'r fath ar gyfer yr unigolyn.