Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 1 – Ymgysylltiad cymunedau â gwaredu caeau chwarae gan awdurdodau lleol

2.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cynnwys cymunedau ym mhenderfyniadau’r awdurdodau lleol ynghylch gwaredu tir sy’n gae chwarae neu sy’n ffurfio rhan o gae chwarae.

3.Diffinnir “awdurdod lleol” yn is-adran (3) fel cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, cyngor cymuned (gan gynnwys cyngor tref) neu awdurdod parc cenedlaethol, a “gwaredu” fel caniatáu unrhyw ystâd neu fuddiant mewn tir neu wneud cytundeb i wneud hynny.  Mae is-adran (3) hefyd yn diffinio “cae chwarae”, sef man agored sy’n cynnwys un neu fwy o ardaloedd sydd ar unrhyw adeg wedi’u marcio neu wedi’u neilltuo mewn modd arall ar gyfer chwaraeon neu weithgarwch hamdden tebyg.

4.Caiff rheoliadau a wneir o dan yr adran hon ddarparu i’r rheoliadau hynny gael eu cymhwyso at fathau penodol o waredu neu fathau penodol o gaeau chwarae, a chânt beri bod yn rhaid ymgynghori ynglŷn â gwarediad yn unol â’r rheoliadau, a’i gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi ynglŷn â’r cynigion.  Caniateir ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth am effaith gwarediad arfaethedig ar unrhyw strategaeth, cynllun neu asesiad a bennir yn y rheoliadau, neu am unrhyw beth arall sy’n gysylltiedig â’r gwarediad, a chaniateir ei gwneud yn ofynnol iddynt ddarparu’r wybodaeth yn y ffurf a’r dull a bennir yn y rheoliadau.

5.Os darperir felly gan y rheoliadau, rhaid i’r awdurdod lleol, wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan y rheoliadau, roi sylw i ganllawiau a gyflwynir gan Weinidogion Cymru.

6.Caniateir i reoliadau a wneir o dan yr adran hon wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o achosion, gwneud darpariaeth yn gyffredinol neu’n benodol, a gwneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, darpariaethau atodol, darpariaethau canlyniadol, darpariaethau trosiannol neu ddarpariaethau arbed a wêl Gweinidogion Cymru yn dda.

Adran 2 – Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70)

7.Mae adran 2 yn diwygio adran 123 (gwaredu tir gan y prif gynghorau) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) sy’n gwneud darpariaeth ynghylch gwaredu mannau agored gan yr awdurdodau lleol.  Mae’r diwygiad a wneir gan is-adran (2) yn darparu y bydd gwaredu tir gan y prif gynghorau, hynny yw cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol, yn ogystal â dod o dan ddarpariaethau adran 123, hefyd yn dod o dan ddarpariaethau’r Mesur. Mae is-adran (3) yn gwneud diwygiad tebyg i adran 127 o Ddeddf 1972 (gwaredu tir gan blwyfi a chymunedau).

Adran 3 -  Gwaredu caeau chwarae gan awdurdodau parciau cenedlaethol

8.Mae adran 3 yn diwygio Deddf yr Amgylchedd 1995.  Effaith y diwygiad yw cymhwyso darpariaethau’r Mesur at waredu tir gan awdurdodau parciau cenedlaethol.

Adran 4 - Trefn ar gyfer rheoliadau

9.Mae rheoliadau a wneir o dan y Mesur i’w gwneud drwy offeryn statudol a gallant gael eu diddymu yn unol â phenderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Adran 5 – Enw byr a chychwyn

10.Mae’r adran hon yn darparu mai Mesur Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2010 fydd enw’r Mesur. Daw’r Mesur i rym ar y diwrnod y caiff ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.