Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

CyffredinolLL+C

70CanllawiauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn cael effaith o ran unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn i gyrff y mae'n rhaid iddynt roi sylw i'r canllawiau.

(2)O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt roi canllawiau i gyrff yn gyffredinol neu i un corff penodol neu i gyrff penodol;

(b)cânt ddyroddi canllawiau gwahanol i gyrff gwahanol neu mewn perthynas â hwy;

(c)rhaid iddynt, cyn iddynt ddyroddi canllawiau, ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n rhaid iddynt roi sylw i'r canllawiau;

(d)rhaid iddynt gyhoeddi'r canllawiau.

Rhagolygol

71Dehongli'n GyffredinolLL+C

Yn y Mesur hwn—

  • ystyr “awdurdod Cymreig” (“Welsh authority”) yw person a bennir yn adran 6(1);

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);

  • mae “gofal dydd i blant” (“day care for children”) (a “gofal dydd” (“day care”)) i'w ddehongli yn unol ag adran 19 at ddibenion Rhan 2;

  • mae “gwarchod plant” (“child minding”) i'w ddehongli yn unol ag adran 19 at ddibenion Rhan 2;

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le ac unrhyw gerbyd;

  • ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 18 oed;

  • ystyr “rhagnodi” (“prescribed”) yw rhagnodi mewn rheoliadau;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 71 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

72Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 1 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 72 mewn grym ar 10.2.2010 by virtue of s. 75(2)

I4A. 72 mewn grym ar 10.2.2010 gan virtue of a. 75(2), gweler Measure

I5A. 72 mewn grym ar 1.4.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

73DiddymiadauLL+C

Mae Atodlen 2 yn cynnwys diddymiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 73 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I7A. 73 mewn grym ar 1.4.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag ergl. 3, Atod. 2, Atod. 3)

74Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion neu wahanol ddosbarthau o achos neu wahanol ardaloedd neu wahanol ddibenion;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodol neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau o achos yn unig;

(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed ag y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys i orchmynion y mae is-adran (5) yn gymwys iddynt.

(5)Ni cheir gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau o dan adran 2(5) neu orchymyn o dan adran 1(8), 6(2) neu 19(4) oni chafodd drafft o'r offeryn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 74 mewn grym ar 10.4.2010, gweler a. 75(1)

75CychwynLL+C

(1)Mae'r darpariaethau canlynol yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor—

  • adran 1;

  • adran 2 (i'r graddau y mae'n gymwys i Weinidogion Cymru);

  • adran 3;

  • adran 74;

  • yr adran hon;

  • adran 76.

(2)Daw paragraffau 19 i 20 o Atodlen 1 i rym ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

(3)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 75 mewn grym ar 10.4.2010, gweler a. 75(1)

76Enw byrLL+C

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 76 mewn grym ar 10.4.2010, gweler a. 75(1)