xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 3)

ATODLENComisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ei benodi

1Rhaid i'r Cynulliad wneud trefniadau —

(a)i sicrhau bod unrhyw berson a benodir yn Gomisiynydd wedi'i nodi drwy gystadleuaeth deg ac agored, a

(b)i bennu'r telerau y bydd y penodiad hwnnw, o'i wneud, yn effeithiol odanynt.

2Caniateir i'r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1, (ond nid penodi'r person a nodir fel hyn,) gael eu dirprwyo gan y Cynulliad, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, i'r Comisiwn, i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad neu i staff y Cynulliad a chaniateir i'r trefniadau hynny gynnwys personau sy'n annibynnol ar y Cynulliad.

Corfforaeth undyn

3Mae'r person sydd am y tro yn dal swydd Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i fod yn gorfforaeth undyn, o dan enw'r swydd honno.

Dogfennau

4(1)Mae gosod sêl y Comisiynydd i'w ddilysu —

(a)â llofnod y Comisiynydd, neu

(b)â llofnod unrhyw berson a awdurdodir gan y Comisiynydd at y diben hwnnw.

(2)Caniateir i ddogfen sy'n honni ei bod wedi'i gweithredu'n briodol o dan sêl y Comisiynydd neu ei bod wedi'i llofnodi ar ran y Comisiynydd gael ei derbyn fel tystiolaeth ac, oni phrofir i'r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi'i gweithredu felly neu wedi'i llofnodi felly.

Ariannol

5(1)Rhaid i'r Comisiwn —

(a)talu i'r Comisiynydd unrhyw gyflog ac unrhyw lwfansau, a

(b)gwneud unrhyw daliadau tuag at ddarparu buddion blwydd-dal ar gyfer y Comisiynydd neu mewn perthynas ag ef,

y darperir ar eu cyfer gan delerau penodi'r Comisiynydd neu o danynt.

(2)Rhaid i'r Comisiwn dalu i berson neu mewn perthynas â pherson sydd wedi rhoi'r gorau i ddal swydd y Comisiynydd unrhyw symiau (os oes rhai) ar ffurf —

(a)pensiwn neu roddion, neu

(b)darpariaeth ar gyfer y buddion hynny,

y darparwyd ar eu cyfer gan delerau penodi'r Comisiynydd neu o danynt.

(3)Rhaid i'r Comisiwn dalu unrhyw rwymedigaethau rhesymol y mae'r Comisiynydd wedi'u hysgwyddo'n gyfreithlon —

(a)wrth gyflogi staff,

(b)wrth sicrhau bod nwyddau neu wasanaethau'n cael eu darparu, ac

(c)mewn perthynas â lwfansau a threuliau personau sy'n rhoi tystiolaeth neu sy'n cyflwyno dogfennau.

(4)Mae symiau y mae eu hangen er mwyn gwneud taliadau o dan is-baragraffau (1) a (2) i'w codi ar Gronfa Gyfunol Cymru.

Staff, nwyddau a gwasanaethau

6(1)Caiff y Comisiynydd, ar unrhyw delerau a bennir gan y Comisiynydd, benodi unrhyw staff neu sicrhau y darperir unrhyw nwyddau neu wasanaethau y mae'r Comisiynydd o'r farn eu bod yn angenrheidiol i helpu i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.

(2)Caiff y Comisiynydd wneud trefniadau gydag unrhyw gorff cyhoeddus neu ddeiliad swydd gyhoeddus, ar unrhyw delerau y bydd y Comisiynydd a'r corff hwnnw neu'r deiliaid swydd hwnnw yn cytuno arnynt, i'r corff hwnnw neu'r deiliaid swydd hwnnw ddarparu unrhyw wasanaethau y mae'r Comisiynydd o'r farn eu bod yn angenrheidiol i helpu i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.

(3)Wrth arfer pwerau o dan is-baragraffau (1) a (2) neu o dan adran 11(3), rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i gyfrifoldebau'r Clerc, yn rhinwedd ei swydd fel prif swyddog cyfrifyddu'r Comisiwn, o dan adran 138(3)(a) o'r Ddeddf.

(4)O ran unrhyw rwymedigaeth y gall fod yn ofynnol i'r Comisiwn ei thalu o dan baragraff 5(3), rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r Clerc a rhaid iddo wneud hynny—

(a)os yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, cyn ysgwyddo'r rhwymedigaeth o dan sylw,

(b)os nad yw, cyn gynted wedyn ag y bydd yn rhesymol ymarferol.

(5)Rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y Clerc pan ymgynghorir â'r Clerc o dan is-baragraff (4).

(6)Gall dyletswydd y Comisiynydd i ymgynghori â'r Clerc o dan is-baragraff (4) gael ei chyflawni mewn perthynas â rhwymedigaeth benodol naill ai—

(a)drwy roi manylion y rhwymedigaeth o dan sylw i'r Clerc, neu

(b)drwy hysbysu'r Clerc y gallai rhwymedigaethau o ddisgrifiad penodol hyd at gyfanswm penodedig gael eu hysgwyddo,

ar yr amod, pan fo (b) yn gymwys, fod y rhwymedigaeth benodol o dan sylw yn dod o fewn y disgrifiad a hysbyswyd ac nad yw, o'i chymryd ynghyd ag unrhyw rwymedigaethau eraill y mae'r hysbysiad hwnnw'n cyfeirio atynt, yn fwy na'r cyfanswm a hysbyswyd.

Gwybodaeth Ariannol

7Rhaid i'r Comisiynydd roi i'r Comisiwn unrhyw wybodaeth am faterion a thrafodion ariannol y Comisiynydd y mae'n rhesymol i'r Comisiwn ofyn amdani i'w alluogi i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir ar y Comisiwn gan gyfarwyddyd a roddir i'r Comisiwn mewn perthynas â'r Comisiynydd o dan adran 137(1) a (2) o'r Ddeddf.