Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

26Pwerau a dyletswyddau arolygwyr

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae gan arolygydd hawl ar bob adeg resymol—

(a)i fynd i mewn i unrhyw fangre sydd gan awdurdod gwella Cymreig, a

(b)i weld unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r awdurdod ac sy'n ymddangos yn angenrheidiol i'r arolygydd at ddibenion yr arolygiad, yr archwiliad neu'r asesiad.

(2)Mae'r hawl a roddir gan is-adran (1) yn cynnwys hawl i arolygu neu gopïo'r ddogfen neu i fynd â hi oddi yno.

(3)Caiff arolygydd—

(a)ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n dal unrhyw ddogfen o'r fath neu sy'n atebol amdani roi unrhyw wybodaeth neu esboniad i'r arolygydd sy'n angenrheidiol yn ei farn ef, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw ddod yn bersonol ger ei fron i roi'r wybodaeth neu'r esboniad neu i ddangos y ddogfen.

(4)Mewn perthynas â dogfen a gedwir ar ffurf electronig, mae'r pŵer yn is-adran (3)(b) i'w gwneud yn ofynnol i berson ddangos dogfen yn cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol iddi gael ei dangos ar ffurf sy'n ddarllenadwy ac y gellir mynd â hi oddi yno.

(5)Mewn cysylltiad ag arolygu dogfen o'r fath, caiff arolygydd—

(a)sicrhau mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig y mae'n credu eu bod yn cael neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r ddogfen, ac arolygu a gwirio eu gweithrediad;

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (6) roi unrhyw gymorth rhesymol y bydd ar yr arolygydd ei angen at y diben hwnnw.

(6)Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)os ef yw'r person sy'n defnyddio neu a ddefnyddiodd y cyfrifiadur, neu os defnyddir neu defnyddiwyd y cyfrifiadur ar ei ran; neu

(b)os yw'n berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'i weithredu.

(7)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi i arolygydd bob cyfleuster a phob gwybodaeth y mae ar yr arolygydd angen rhesymol ei gael neu ei chael at ddibenion yr arolygiad neu'r asesiad.

(8)Rhaid i arolygydd—

(a)oni bai bod yr amgylchiadau, ym marn yr arolygydd, yn eithriadol roi tri diwrnod clir o rybudd am unrhyw ofyniad o dan yr adran hon, a

(b)os gofynnir i'r arolygydd wneud hynny, dangos dogfennau sy'n nodi bod yr arolygydd yn berson ag awdurdod i osod gofynion o dan yr adran hon.

(9)Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn atal unrhyw bŵer a roddir gan yr adran hon rhag cael ei arfer neu sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad gan arolygydd o dan yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(10)Gellir adennill unrhyw dreuliau yr â arolygydd iddynt mewn achos cyfreithiol am dramgwydd o dan is-adran (9) yr honnir ei fod wedi'i gyflawni mewn perthynas ag arolygiad o awdurdod gwella Cymreig wrth yr awdurdod hwnnw, i'r graddau nad oes modd eu hadennill o unrhyw ffynhonnell arall.

(11)Yn yr adran hon ystyr “arolygydd” yw Archwilydd Cyffredinol Cymru, aelod o staff yr Archwilydd Cyffredinol neu berson sy'n darparu gwasanaethau i'r Archwilydd Cyffredinol ac sy'n cynnal archwiliad o dan adran 17, asesiad o dan adran 18 neu arolygiad arbennig.