Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

1Trosolwg

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r Ddeddf hon yn ffurfio rhan o god o gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.

(2)Mae’n cydgrynhoi deddfiadau a gynhwysir yn y canlynol neu a wneir odanynt—

(a)Deddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion Hynafol 1953 (p. 49);

(b)Rhannau 1 a 3 o Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (p. 46);

(c)Rhannau 14 a 15 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);

(d)Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p. 9);

(e)Rhan 5 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5);

(f)Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (dccc 4).

(3)Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cadwraeth henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer—

(a)cofrestr o henebion o bwysigrwydd cenedlaethol, a gynhelir gan Weinidogion Cymru,

(b)rheolaethu gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig, ac

(c)caffael henebion, gwarcheidiaeth henebion a diogelu henebion.

(4)Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch cadwraeth adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer—

(a)rhestr o adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a gynhelir gan Weinidogion Cymru,

(b)rheolaethu gwaith sy’n effeithio ar adeiladau rhestredig, ac

(c)caffael a diogelu adeiladau.

(5)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch ardaloedd cadwraeth, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer—

(a)dynodi ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn ardaloedd cadwraeth gan awdurdodau cynllunio,

(b)rheolaethu gwaith ar gyfer dymchwel adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth, ac

(c)diogelu ac atgyweirio adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth.

(6)Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth atodol sy’n ymwneud â Rhannau 3 a 4, gan gynnwys—

(a)darpariaeth ynghylch achosion gerbron Gweinidogion Cymru o dan y Rhannau hynny, gan gynnwys gwrandawiadau ac ymchwiliadau;

(b)darpariaeth ynghylch dilysrwydd penderfyniadau a wneir o dan y Rhannau hynny a chywiro’r penderfyniadau hynny.

(7)Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer—

(a)cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol;

(b)rhestr o enwau lleoedd hanesyddol;

(c)cofnodion amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob ardal yng Nghymru.

(8)Mae Rhan 7 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol, gan gynnwys diwygiadau i ddeddfiadau eraill a diddymiadau deddfiadau eraill.