Paragraff 15B o Atodlen 1
48.Gwneir diwygiadau i’r trothwy lle y gall Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i landlord cymdeithasol cofrestredig dendro ei swyddogaethau rheoli o dan baragraff 15B o Atodlen 1. Y trothwy oedd bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bu camymddwyn neu gamreoli o ran materion y landlord cymdeithasol cofrestredig, a’r trothwy yn awr yw eu bod wedi eu bodloni bod y landlord cymdeithasol cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano.
49.O ganlyniad, mae’r sefyllfa fel a ganlyn:
Os yw landlord cymdeithasol cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano, gall Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r landlord cymdeithasol cofrestredig dendro ei holl swyddogaethau rheoli, neu rai ohonynt.
Nid yw’r paragraff yn gymwys pan fo’r methiant i gydymffurfio yn ymwneud yn unig â’r landlord cymdeithasol cofrestredig yn darparu tai yn Lloegr.