Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Landlord cymdeithasol cofrestredig yn hysbysu am newidiadau cyfansoddiadol, etc.

Adran 4 – Cyfuno a newidiadau strwythurol eraill

18.Mae adran 4 yn diwygio paragraffau 12 i 14 o Atodlen 1.

Paragraff 12 o Atodlen 1

19.Mae paragraff 12 o Atodlen 1 yn gymwys i landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gymdeithas gofrestredig o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014.

20.Mae adran 109 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 yn caniatáu i gymdeithas gofrestredig basio penderfyniad arbennig i gyfuno â chymdeithas arall. Mae adran 110 o’r Ddeddf honno yn caniatáu i gymdeithas gofrestredig basio penderfyniad arbennig i drosglwyddo ymrwymiadau rhwng cymdeithasau. Mae adran 112 o’r Ddeddf honno yn caniatáu i gymdeithas gofrestredig basio penderfyniad i’w throsi ei hun yn gwmni, i gyfuno â chwmni neu i drosglwyddo ei hymrwymiadau i gwmni. Rhaid anfon copi o’r penderfyniad at yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

21.Gall cymdeithas hefyd basio penderfyniad arbennig i ddirwyn y gymdeithas i ben yn wirfoddol o dan Ddeddf Ansolfedd 1986. Os yw cymdeithas yn gwneud hynny, rhaid iddi anfon copi o’r penderfyniad at yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

22.Gall cymdeithas sy’n solfent hefyd wneud cais i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol am gofrestru offeryn diddymu a fydd yn caniatáu iddi gael ei diddymu ac yn terfynu ei chofrestriad fel cymdeithas.

23.Gwneir diwygiadau i baragraff 12 o Atodlen 1 i ddileu’r gofynion i landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gymdeithas gofrestredig gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i benderfyniad:

24.O ganlyniad i’r diwygiadau a wneir i baragraff 12 o Atodlen 1 gan adran 4, nid oes rhaid i landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gymdeithas gofrestredig gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i benderfyniad i gyfuno â chymdeithas arall, i drosglwyddo ei ymrwymiadau i gymdeithas arall, i’w drosi ei hun yn gwmni cofrestredig, i gyfuno â chwmni neu i drosglwyddo ei ymrwymiadau i gwmni. Rhaid i’r landlord cymdeithasol cofrestredig hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt. I gael rhagor o wybodaeth am gyfarwyddydau hysbysu gweler paragraff 13A o Atodlen 1, a fewnosodir gan adran 5 o’r Ddeddf.

25.Yn ogystal â hynny, rhaid i unrhyw hysbysiad i Weinidogion Cymru ynghylch unrhyw un neu ragor o’r penderfyniadau y cyfeirir atynt yn y paragraff uchod (ac eithrio penderfyniadau i drosi cymdeithas yn gwmni) ddod gyda datganiad sy’n nodi’r modd yr ymgynghorodd y landlord cymdeithasol cofrestredig â’i denantiaid cyn pasio’r penderfyniad o dan sylw.

26.Nid yw’n ofynnol cael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn i benderfyniad gael ei basio bod y landlord cymdeithasol cofrestredig yn cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol o dan Ddeddf Ansolfedd 1986 neu os yw’r landlord cymdeithasol cofrestredig i gael ei ddiddymu drwy offeryn diddymu. Rhaid i’r landlord cymdeithasol cofrestredig hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt. I gael rhagor o wybodaeth am gyfarwyddydau hysbysu gweler paragraff 13A o Atodlen 1, a fewnosodir gan adran 5 o’r Ddeddf.

Paragraff 13 o Atodlen 1

27.Mae paragraff 13 yn gymwys i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy’n gwmnïau cofrestredig y mae eu cofrestriad fel landlord cymdeithasol wedi ei gofnodi gan y Cofrestrydd Cwmnïau.

28.Mae adran 899 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn caniatáu i gwmni wneud cais am orchymyn llys i ddod i gyfaddawd neu wneud trefniant â’i gredydwyr neu ei aelodau. Mae adran 900 o’r Ddeddf honno yn caniatáu i’r cwmni wneud cais am orchymyn llys i drosglwyddo’r cyfan neu unrhyw ran o’i ymgymeriad, neu ei eiddo neu ei rwymedigaethau, at ddibenion atgyfansoddi neu gyfuno’r cwmni, ymhlith pethau eraill. Rhaid i’r cwmni anfon y copi swyddfa o’r gorchymyn at y Cofrestrydd Cwmnïau.

29.Gall landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gwmni hefyd basio penderfyniad o dan adran 115 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 i drosi yn gymdeithas gofrestredig a rhaid iddo anfon copi o’r penderfyniad at y Cofrestrydd Cwmnïau.

30.Gall cyfarwyddwr, gweinyddwr neu ddatodwr i’r cwmni hefyd wneud trefniant gwirfoddol â chredydwyr y cwmni o dan Ran 1 o Ddeddf Ansolfedd 1986. Rhaid i aelodau a chredydwyr y cwmni gymeradwyo’r trefniant hwn.

31.Gall cwmni basio penderfyniad arbennig ei fod yn cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol o dan Ddeddf Ansolfedd 1986, ac yn unol ag adran 30 o Ddeddf Cwmnïau 2006, rhaid anfon copi o’r penderfyniad at y Cofrestrydd Cwmnïau.

32.Gwneir newidiadau i baragraff 13 o Atodlen 1 i ddileu’r gofynion bod landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gwmni yn cael cydsyniad Gweinidogion Cymru er mwyn cymryd unrhyw un neu ragor o’r camau a restrir yn y pedwar paragraff blaenorol.

33.O ganlyniad i’r diwygiad a wneir gan adran 4, mae’r sefyllfa o dan baragraff 13 fel a ganlyn:

I gael rhagor o wybodaeth am gyfarwyddydau hysbysu gweler paragraff 13A o Atodlen 1, a fewnosodir gan adran 5 o’r Ddeddf.

Paragraff 14 o Atodlen 1

34.Mae adran 4 hefyd yn dileu paragraff 14 o Atodlen 1, gan ddileu pŵer Gweinidogion Cymru i wneud cais i ddirwyn i ben landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gwmni neu’n gymdeithas gofrestredig o dan Ddeddf Ansolfedd 1986 pan fo landlord cymdeithasol cofrestredig naill ai’n methu â chyflawni ei ddibenion neu ei amcanion yn briodol, neu’n analluog i dalu ei ddyledion.