Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Ddeddf yw ‘Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018

Sylwebaeth Ar Adrannau’R Ddeddf

26.Os nad oes angen rhoi esboniad neu sylw ar adran unigol o’r Ddeddf, nis rhoddir.

Adran 2 – cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE

27.Mae adran 2 o’r Ddeddf yn diffinio cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE at ddiben y Ddeddf fel darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau o dan adrannau 3 a 4 o’r Ddeddf, darpariaeth sy’n parhau mewn effaith o dan neu yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 4 neu ddarpariaeth a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau o dan adran 5. Bydd y mwyafrif o gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE yn seiliedig ar y corff o gyfraith yr UE a deddfwriaeth weithredu ddomestig a fydd yn peidio â chael effaith mewn cyfraith ddomestig yn rhinwedd diddymu adran 2(1) a (2) o DCE 1972. Mae cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE hefyd yn cynnwys categori pellach o gyfraith ddomestig nad yw’n dibynnu ar DCE 1972 er mwyn i’w effaith barhau mewn cyfraith ddomestig; hynny yw, darpariaeth a wneir mewn neu o dan ddeddfwriaeth sylfaenol ac eithrio DCE 1972.

28.Mae cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE hefyd i gynnwys unrhyw ychwanegiadau neu addasiadau a wneir i’r corff hwnnw o gyfraith ar unrhyw adeg yn y dyfodol. Diffinnir ‘addasu’ yn adran 20(1) o’r Ddeddf ac mae’n cynnwys diwygio, diddymu neu ddirymu. Hyd yn oed os caiff darpariaeth yng nghyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE ei diddymu neu ei dirymu a bod darpariaeth newydd yn cael ei rhoi yn ei lle, mae adran 2, wedi ei darllen ochr yn ochr ag adran 20(1), yn ei gwneud yn glir y gallai’r ddarpariaeth newydd fod yn rhan o gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE o hyd. Bydd pa un a yw darpariaeth newydd o’r fath yn rhan o gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE mewn gwirionedd yn dibynnu ar yr amgylchiadau a’r bwriad sy’n sail i’r addasiad.

Adran 3 – Pŵer i ddargadw cyfraith uniongyrchol yr UE

29.Mae adran 3 yn darparu ar gyfer y gainc gyntaf o gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE a restrir yn y diffiniad yn adran 2. Nid yw’r adran yn darparu ar gyfer corffori cyfraith uniongyrchol yr UE mewn cyfraith ddomestig yn awtomatig fel sy’n digwydd yng nghymal 3 o’r Bil i Ymadael â’r UE. Yn hytrach, mae’n galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig sy’n cyfateb i gyfraith uniongyrchol yr UE.

30.Diffinnir cyfraith uniongyrchol yr UE yn adran 3(3). Mae’n dal pob un o gyfreithiau’r UE sy’n uniongyrchol gymwys yn y DU.

31.Un categori o gyfraith yr UE yw Cytuniadau’r UE sy’n cael effaith uniongyrchol yng nghyfraith Cymru a Lloegr yn rhinwedd adran 2(1) o DCE 1972 (adran 3(3)(a)). Diffinnir Cytuniadau’r UE (“EU Treaties”) yn Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978 (“DD 1978”) drwy gyfeirio at adran 1 o DCE 1972 ac Atodlen 1 iddi. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddiddymu DCE 1972 ac mae darpariaeth wedi ei chynnwys i’r perwyl hwnnw yng nghymal 1 o’r Bil i Ymadael â’r UE. Mae’r Bil i Ymadael â’r UE (ym mharagraff 11 o Atodlen 8) yn diwygio’r diffiniad o Gytuniadau’r UE a geir yn Atodlen 1 i DD 1978 fel y bydd yn parhau i gyfeirio’n ôl at y diffiniad yn DCE 1972 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn ei diddymu.

32.Mae Cytuniadau’r UE yn gytundebau rhwymol rhwng Aelod-wladwriaethau’r UE. Maent yn nodi amcanion a rheolau’r UE ar gyfer sefydliadau’r UE, sut y gwneir penderfyniadau a’r berthynas rhwng yr UE ac Aelod-wladwriaethau. Mae pob cam a gymerir gan yr UE yn seiliedig ar Gytuniadau’r UE. Mae Cytuniadau’r UE hefyd yn cynnwys hawliau o sylwedd, megis cyflog cyfartal i ddynion a menywod o dan Erthygl 157 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

33.Dau brif Gytuniad yr UE yw’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd a’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd. Mae adran 3(3)(a) yn darparu mai dim ond darpariaeth yng Nghytuniadau’r UE sy’n cael effaith uniongyrchol sydd i ddod o fewn cwmpas pŵer Gweinidogion Cymru yn adran 3(1).

34.Mae’r egwyddor o effaith uniongyrchol ynghlwm wrth ddarpariaethau penodol yng nghyfraith yr UE sy’n arwain at roi hawliau i unigolion sy’n orfodadwy yn y llysoedd cenedlaethol. Mae’r hawliau wedi eu rhoi’n uniongyrchol ac nid yw’n ofynnol cymryd unrhyw gamau deddfwriaethol ar ran yr Aelod-wladwriaeth. Nid yw effaith uniongyrchol ond yn gymwys i ddarpariaethau yng nghyfraith yr UE sy’n ddigon clir, manwl gywir a diamod(5).

35.Nid yw adran 3(3)(a) ond yn dal yr hawliau hynny o dan Gytuniadau’r UE sy’n uniongyrchol effeithiol ac nad ydynt wedi eu hatgynhyrchu eisoes mewn deddfiad sy’n gymwys o ran Cymru.

36.Diffinnir “Cytuniadau’r UE” (“EU Treaties”) at ddiben adran 3(3)(a) yn DD 1978 drwy gyfeirio at adran 1 o DCE 1972. Gwnaeth adran 1 o Ddeddf yr Ardal Economaidd Ewropeaidd 1993 gytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (“yr AEE”) yn un o Gytuniadau’r UE at ddibenion DCE 1972. Felly, mae unrhyw hawliau sy’n uniongyrchol effeithiol o dan gytundeb yr AEE o fewn cwmpas y pŵer yn adran 3(1).

37.Pan fo darpariaeth yn un o Gytuniadau’r UE eisoes wedi ei hatgynhyrchu mewn deddfiad o ran Cymru, byddai’r deddfiad o dan sylw yn dod o fewn cwmpas adran 4 neu 5, nid adran 3. Mae’r cwestiwn o ran a yw darpariaeth yn un o Gytuniadau’r UE eisoes wedi ei hatgynhyrchu mewn deddfiad o ran Cymru i’w benderfynu drwy gyfeirio at y gyfraith ar y diwrnod y daw adran 3 i rym. Os caiff deddfiad ei basio neu ei wneud ar ôl i adran 3 ddod i rym sy’n atgynhyrchu darpariaeth yn un o Gytuniadau’r UE, ni fyddai’n atal Gweinidogion Cymru rhag arfer y pŵer yn adran 3(1) mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth yng Nghytuniad yr UE.

38.Mae’r ail gategori o gyfraith uniongyrchol yr UE wedi ei nodi yn adran 3(3)(b). Diffinnir rheoliad gan yr UE yn adran 20(1) fel rheoliad o fewn ystyr Erthygl 288 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd. Mae rheoliadau gan yr UE yn cynnwys rheolau cyfreithiol manwl ac maent yn uniongyrchol gymwys ym mhob Aelod-wladwriaeth. Mae angen i’r DU fabwysiadu trefniadau ar lefel ddomestig er mwyn i gyfraith yr UE sy’n uniongyrchol gymwys gael effaith. Cyflawnir hyn drwy adran 2(1) o DCE 1972. Mae adran 2(1) yn darparu’r cyfrwng i reoliadau’r UE lifo drwyddo i gyfraith ddomestig. Yn gyffredinol, y canlyniad yw nad yw’n ofynnol cymryd unrhyw gamau pellach yn y DU i sicrhau bod rheoliad gan yr UE yn cael yr effaith gyfreithiol a ddymunir. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae angen cymryd rhai camau domestig i addasu cyfraith ddomestig er mwyn sicrhau cydymffurfedd â rheoliad gan yr UE (er enghraifft, gall fod angen creu trosedd mewn cyfraith ddomestig er mwyn gorfodi rheoliad gan yr UE) neu pan fo darpariaeth ganlyniadol yn ofynnol ar lefel ddomestig er mwyn rhoi effaith lawn i’r gofynion a geir mewn rheoliad gan yr UE.

39.Mae penderfyniadau gan yr UE wedi eu dal hefyd gan adran 3(3)(b) ac fe’u diffinnir yn adran 20(1) fel penderfyniad o fewn ystyr Erthygl 288 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd neu benderfyniad o dan Erthygl 34(2)(c) flaenorol o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd. Mae penderfyniadau gan yr UE yn weithredoedd cyfreithiol rhwymol sy’n gymwys i un neu ragor o Aelod-wladwriaethau, cwmnïau neu unigolion(6). Mae rhai penderfyniadau yn gyffredinol ac yn uniongyrchol gymwys ac ar gael mewn cyfraith ddomestig heb yr angen am ddeddfwriaeth weithredu benodol(7). Fodd bynnag, pan fo penderfyniad wedi ei gyfeirio at Aelod-wladwriaeth, gall fod angen gweithredu mewn cyfraith ddomestig er mwyn rhoi effaith i’r penderfyniad(8). Mae’r cyfeiriad at Erthygl 34(2)(c) flaenorol o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd yn adlewyrchu’r ffaith bod rhai penderfyniadau gan yr UE a wnaed cyn y Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, ac felly o dan Erthygl 34(2)(c) o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd, yn parhau i fod mewn grym.

40.Deddfwriaeth drydyddol yr UE yw’r trydydd categori o gyfraith yr UE a ddelir gan adran 3(3)(b), ac fe’i diffinnir yn adran 20(1). Mae dau fath o ddeddfwriaeth drydyddol yr UE: actau dirprwyedig ac actau gweithredu. Mae actau dirprwyedig yn ddeddfau sy’n gyfreithiol rwymol sy’n galluogi’r Comisiwn Ewropeaidd (“y Comisiwn”) i ychwanegu at rannau nad ydynt yn hanfodol o actau deddfwriaethol yr UE, neu i ddiwygio’r rhannau hynny(9), er enghraifft, er mwyn diffinio mesurau manwl. Mae actau gweithredu yn gyfreithiol rwymol hefyd ac yn galluogi’r Comisiwn, o dan oruchwyliaeth pwyllgorau sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Aelod-wladwriaethau, i osod amodau sy’n sicrhau y caiff cyfreithiau’r UE eu cymhwyso’n unffurf(10). Gall deddfwriaeth drydyddol yr UE fod ar yr un ffurf â rheoliad gan yr UE, cyfarwyddeb gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, argymhelliad gan yr UE neu farn gan yr UE.

41.Mae adran 3(3)(c) a (d) yn dal darpariaeth mewn unrhyw reoliad gan yr UE, unrhyw benderfyniad gan yr UE ac unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth drydyddol yr UE fel y maent yn gymwys i’r AEE. Mae Deddf yr Ardal Economaidd Ewropeaidd 1993 yn gwneud cytundeb yr AEE yn un o gytuniadau’r UE at ddibenion DCE 1972. O ganlyniad, mae adran 2(1) a (2) o DCE 1972 yn gymwys i ddarpariaethau cytundeb yr AEE. Yn y bôn, mae rheoliadau gan yr UE, penderfyniadau gan yr UE a deddfwriaeth drydyddol yr UE yn gymwys i’r AEE yn rhinwedd eu cynnwys yn yr Atodiadau i gytundeb yr AEE, gydag unrhyw gyfaddasiadau sy’n angenrheidiol er mwyn iddynt weithredu’n effeithiol yng nghyd-destun yr AEE. Mae rheoliadau gan yr UE, penderfyniadau gan yr UE a deddfwriaeth drydyddol yr UE, fel y’u cyfaddesir, wedyn yn llifo i ddeddfwriaeth ddomestig y DU o ganlyniad i adran 2(1) o DCE 1972. Mae Protocol 1 i gytundeb yr AEE yn cynnwys cyfaddasiadau llorweddol sy’n nodi darpariaethau dehongli cyffredinol sy’n gymwys yn yr holl Atodiadau i gytundeb yr AEE. Er enghraifft, pryd bynnag y mae offerynnau gan yr UE yn cyfeirio at wladolion un o Aelod-wladwriaethau’r UE, mae’r cyfeiriadau, at ddibenion cytundeb yr AEE, i’w deall fel cyfeiriadau hefyd at wladolion gwladwriaethau Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop(11).

42.Mae adran 3(3)(c)(i) yn darparu cyswllt rhwng paragraffau (c) a (b). Ni fyddai unrhyw atodiad i gytundeb yr AEE yn berthnasol ond pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan adran 3 i wneud darpariaeth sy’n cyfateb i reoliadau gan yr UE, penderfyniadau gan yr UE neu ddeddfwriaeth drydyddol yr UE. Felly, byddai’r cyfuniad o adran 3(3)(b), (c) a (d) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth sy’n cyfateb i reoliadau gan yr UE, penderfyniadau gan yr UE neu ddeddfwriaeth drydyddol yr UE fel y maent yn gymwys i gyd-destun yr AEE ac wedi eu cyfaddasu iddo.

43.Fel gyda pharagraffau (a) a (b), ni chaiff Gweinidogion Cymru ddefnyddio’r pŵer i wneud rheoliadau pan fo effaith yr offeryn gan yr UE (fel y’i cyfaddesir ar gyfer yr AEE) eisoes wedi ei hatgynhyrchu mewn deddfiad.

44.Mae adran 3(1) yn darparu pŵer i wneud darpariaeth gyfatebol yn hytrach na phŵer i ailddatgan. Mae hyn yn adlewyrchu natur cyfraith uniongyrchol yr UE. Cafodd cyfraith uniongyrchol yr UE ei dylunio, ei drafftio a’i mabwysiadu i fod yn gymwys yn gydwladol. Felly, mae cyfraith uniongyrchol yr UE yn cynnwys darpariaeth na all weithredu’n effeithiol o ran Cymru yn unig. Bydd y pŵer i wneud darpariaeth gyfatebol felly yn galluogi Gweinidogion Cymru i gymryd darn o gyfraith uniongyrchol yr UE a’i ail-lunio’n rheoliadau Cymreig sy’n gweithredu’n effeithiol mewn cyd-destun domestig. Bydd y broses hon yn golygu addasiadau i gyfraith uniongyrchol yr UE. Mae adran 3(4) yn rhoi enghreifftiau o’r math o addasiadau a ragwelir fel rhan o’r rheoliadau. Nid yw’r rhestr o enghreifftiau yn adran 3(4) yn rhestr gynhwysfawr.

45.Nid yw’r pŵer i wneud addasiadau o’r fath yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddileu hawliau etc. a fwynheir ar hyn o bryd o dan gyfraith uniongyrchol yr UE gan unigolion yng Nghymru. Mae is-adrannau (1) a (2) yn gweithredu er mwyn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau fod at ddiben parhau â gweithrediad cyfraith uniongyrchol yr UE ac er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru geisio parhau â’r hawliau etc. a fwynheir ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae pwerau Gweinidogion Cymru wedi eu cyfyngu i ddarpariaeth sydd o fewn cymhwysedd datganoledig. Bydd unrhyw hawliau etc. yng nghyfraith uniongyrchol yr UE nad ydynt yn dod o fewn cymhwysedd datganoledig yn fater i Senedd y DU, ac yn benodol, os caiff ei basio, y Bil i Ymadael â’r UE sy’n mynd ar ei hynt drwy Senedd y DU ar hyn o bryd.

46.Mae is-adran (4)(a) yn adlewyrchu na all darpariaethau penodol yng nghyfraith uniongyrchol yr UE weithredu’n effeithiol mewn cyd-destun domestig yng Nghymru. Gallai hyn gynnwys darpariaethau penodol sy’n gymwys i Aelod-wladwriaeth benodol, ardal benodol neu ranbarth penodol yn yr UE ac eithrio Cymru. Er enghraifft, mae Erthygl 1 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1100/2007 sy’n sefydlu mesurau ar gyfer adfer stoc llyswennod Ewropeaidd yn cyfeirio at ddiogelu stoc llyswennod Ewropeaidd, a’r defnydd cynaliadwy o’r stoc honno, yn nyfroedd y Gymuned, mewn morlynnoedd arfordirol, aberoedd ac afonydd sy’n llifo i foroedd, megis Môr y Canoldir. Ni fyddai darpariaeth sy’n cyfateb i Erthygl 1 o Reoliad y Cyngor 1100/2007 a wneir o dan adran 3 o’r Ddeddf ond yn gwneud darpariaeth ar gyfer diogelu stoc mewn dyfroedd, morlynnoedd arfordirol, aberoedd ac afonydd sy’n llifo i’r môr o amgylch Cymru. Byddai unrhyw gyfeiriad, er enghraifft at Fôr y Canoldir, yn ddiangen. Wrth wneud y newidiadau i ddarpariaeth yng nghyfraith uniongyrchol yr UE, byddai’n golygu rhywfaint o addasu yn hytrach na hepgoriad syml, yn y rhan fwyaf o achosion. Yn yr enghraifft o Reoliad y Cyngor 1100/2007, yn hytrach na dim ond hepgor y moroedd amherthnasol a restrir, efallai y bydd yn well hepgor pob un o’r cyfeiriadau at y moroedd a rhoi geiriad newydd yn eu lle sy’n adlewyrchu’r moroedd o amgylch Cymru.

47.Gallai fod elfen o orgyffwrdd rhwng adran 3(4)(a) a’r hidlydd cyntaf a gymhwysir gan adran 3(1) - darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig. Pan fo darpariaeth yng nghyfraith uniongyrchol yr UE yn gymwys ac eithrio o ran Cymru neu’n rhychwantu ac eithrio dim ond i Gymru a Lloegr, ni fyddai’n goresgyn y prawf yn adran 3(1) (yr eithriad yw y gallai darpariaeth a oedd yn gymwys ac eithrio o ran Cymru fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad pe bai’n dod o fewn adran 108(5) o DLlC 2006. O dan amgylchiadau o’r fath, byddai angen i Weinidogion Cymru, wrth wneud darpariaeth gyfatebol o dan adran 3(1), hepgor y darpariaethau a oedd yn dod y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad.

48.Mae is-adran (4)(b) yn adlewyrchu bod cyfraith uniongyrchol yr UE yn sefydlu nifer o endidau o’r UE ac yn rhoi swyddogaethau i’r endidau hyn neu mewn perthynas â’r endidau hyn. Er enghraifft, mae Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid yn rhoi rhan ganolog i Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop wrth awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid (yn ychwanegol at y Comisiwn). Yn ddarostyngedig i’r negodiadau rhwng y DU a’r UE ac unrhyw gytundebau ar gyfer perthynas yn y dyfodol, ni fyddai Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop yn chwarae rhan mwyach wrth awdurdodi’r defnydd o ychwanegion bwyd anifeiliaid yng Nghymru. Gallai rheoliadau a wneir o dan adran 3 a oedd yn gwneud darpariaeth gyfatebol i Reoliad 1831/2003 hepgor y swyddogaethau a roddid i Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop. Fodd bynnag, er mwyn parhau â gweithrediad y system ar gyfer awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid, gallai Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth i sefydlu awdurdod cyhoeddus newydd yng Nghymru (is-adran 4(h)) a rhoi’r swyddogaethau i’r awdurdod hwnnw, neu roi’r swyddogaethau i awdurdod cyhoeddus sy’n bodoli eisoes (is-adran (4)(g)). Pan fo swyddogaethau o’r fath yn cael eu rhoi i awdurdod cyhoeddus sy’n bodoli eisoes, gall fod angen gwneud newidiadau i’r fframwaith deddfwriaethol sy’n llywodraethu’r corff hwnnw. Gallai hyn gynnwys gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol y mae is-adran (4)(i) yn darparu’n benodol ar ei gyfer.

49.Mae is-adran (4)(c), (d) ac (e) yn amlygu’r posibilrwydd y gall fod angen ymdrin ag unrhyw drefniadau cilyddol, neu drefniadau eraill sy’n ymwneud â’r UE, yng nghyfraith uniongyrchol yr UE fel rhan o wneud darpariaeth o dan adran 3. Bydd hyn yn dibynnu’n helaeth ar ganlyniad y negodiadau rhwng y DU a’r UE ar unrhyw berthynas yn y dyfodol. Fodd bynnag, dylid nodi mai adran 11 a fyddai’r pŵer perthnasol pan fo unrhyw gytundeb ymadael yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefniadau cilyddol yn y dyfodol rhwng y DU a’r UE. Gallai is-adran (4)(c) fod yn berthnasol, er enghraifft, mewn perthynas â rhannu gwybodaeth. Er enghraifft, mae Erthygl 19(1) o Reoliad (EU) 2016/429 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar glefydau trosglwyddadwy anifeiliaid ac sy’n diwygio ac yn diddymu actau penodol ym maes iechyd anifeiliaid yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau hysbysu’r Comisiwn ac Aelod-wladwriaethau eraill am unrhyw achosion o unrhyw glefydau a restrir. Wrth i’r DU ymadael â’r UE, byddai’r ddyletswydd ar Aelod-wladwriaethau ac eithrio’r DU i hysbysu’r DU o dan y ddarpariaeth hon yn peidio â bod yn gymwys. Felly, byddai’n amhriodol parhau â gofyniad mewn cyfraith ddomestig i Weinidogion Cymru hysbysu’r Comisiwn a’r Aelod-wladwriaethau pe bai achosion o unrhyw glefydau a restrir yng Nghymru. Fodd bynnag, unwaith eto, mae trefniadau cilyddol o’r fath yn debygol o fod yn destun trafodaethau fel rhan o’r negodiadau am unrhyw berthynas yn y dyfodol rhwng y DU a’r UE.

50.Mae is-adran (4)(f) yn adlewyrchu’r cyfeiriadau helaeth at yr UE (sy’n cynnwys cyfeiriadau at yr AEE) a geir yng nghyfraith uniongyrchol yr UE na fyddant yn briodol mwyach wrth i’r darpariaethau gael eu cyfaddasu i fod yn gymwys mewn cyd-destun domestig yn unig. Er enghraifft, mae cyfran fawr o gyfreithiau uniongyrchol yr UE yn nodi pwnc yr offeryn yn yr Erthygl(au) agoriadol. Yn aml, maent yn cyfeirio at nodau a dibenion y Rheoliad ac maent wedi eu drafftio fel arfer gan gyfeirio at amcanion Ewropeaidd, neu gymorth cydweithredu a chydgysylltu rhwng Aelod-wladwriaethau (gweler, er enghraifft, Erthygl 1(2) o Benderfyniad Rhif 1082/2013/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fygythiadau trawsffiniol difrifol i iechyd ac sy’n diddymu Penderfyniad Rhif 2119/98/EC). Gallai ymdrin â diffygion o’r fath gynnwys hepgor y cyfeiriadau neu gyfaddasu’r cyfeiriad fel ei fod yn gweithredu’n effeithiol mewn cyd-destun domestig. Yn lle cyfeiriad at gyfrannu at lefel uchel o ddiogelwch iechyd y cyhoedd yn yr Undeb, gellid rhoi cyfeiriad at gyfrannu at ddiogelwch o’r fath yng Nghymru, pe bai’n briodol.

51.Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 3 wedi ei gyfyngu. Mae’r cyfyngiadau yn adlewyrchu’n fras y cyfyngiadau sy’n gymwys i’r pŵer yn adran 2(2) o DCE 1972. Mae’r cyfyngiad ar osod neu gynyddu trethiant yn deillio o baragraff 1(1)(a) o Atodlen 2 i DCE 1972, mae’r cyfyngiad ar wneud darpariaeth ôl-weithredol yn deillio o baragraff 1(1)(b) o Atodlen 2 ac mae’r cyfyngiad ar greu troseddau perthnasol yn deillio o baragraff 1(1)(d) o Atodlen 2. Diffinnir trosedd berthnasol yn adran 20.

52.Mae’r cyfyngiadau yn adran 3(5)(d) ac (e) yn adlewyrchu’r terfynau ar gymhwysedd y Cynulliad mewn cysylltiad â deddfu mewn perthynas â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron. Mae paragraff (d) yn adlewyrchu’r cyfyngiad a geir ym mharagraff 1(2) o Ran 2 o Atodlen 7 i DLlC 2006. Mae paragraff (e) yn adlewyrchu’r cyfyngiad a geir ym mharagraff 1(1) o Ran 2 o Atodlen 7, ond mae hefyd yn adlewyrchu’r eithriad i’r cyfyngiad hwnnw a geir ym mharagraff 6(1)(b) o Ran 3 o Atodlen 7. Nid yw paragraff (d) yn cyfeirio at unrhyw ailddatganiad o swyddogaethau Gweinidogion y Goron (a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn rhinwedd paragraff 8 o Ran 3 o Atodlen 7 i DLlC 2006) gan nad yw cyfraith uniongyrchol yr UE yn cynnwys unrhyw swyddogaethau Gweinidogion y Goron.

53.Mae adran 108(6)(c) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu na all y Cynulliad wneud deddfwriaeth sy’n anghydnaws â chyfraith yr UE. Yn y mwyafrif o achosion, byddai darpariaeth a wneir o dan adran 3 yn anghydnaws â chyfraith yr UE pe bai’n dod i rym tra oedd y DU yn dal i fod yn aelod o’r UE ac yn ddarostyngedig i gyfraith yr UE. Er enghraifft, byddai darpariaeth o dan adran 3 a oedd yn hepgor gofyniad i hysbysu’r Comisiwn am achos o glefydau penodol yn groes i gyfraith yr UE ac felly ni fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Felly, mae’r cyfyngiad yn adran 3(6)(b) i atal y pŵer rhag cael ei ddefnyddio mewn modd sydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Dylid nodi bod Gweinidogion Cymru yn ddarostyngedig i gyfyngiad wrth wneud, cadarnhau a chymeradwyo unrhyw is-ddeddfwriaeth, neu wrth wneud unrhyw weithred arall, sy’n anghydnaws â chyfraith yr UE yn rhinwedd adran 80(8) o DLlC 2006. Felly, dim ond rheoliadau a oedd yn dod i rym ar neu ar ôl y diwrnod ymadael y gallai Gweinidogion Cymru eu gwneud o dan adran 3.

54.Darperir y cronicliadau sydd wedi eu cynnwys yng nghyfraith uniongyrchol yr UE yn unol ag Erthygl 296 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd. Gellir defnyddio’r rhain i hwyluso dehongli ond mae cyfraith achosion Llys Cyfiawnder yr UE yn ei gwneud yn glir nad oes ganddynt unrhyw rym cyfreithiol rhwymol(12). Felly, ni fydd rheoliadau a wneir o dan adran 3 ond yn cynnwys darpariaeth sy’n cyfateb i’r rheolau cyfreithiol a geir yng nghyfraith uniongyrchol yr UE ac nid y cronicliadau.

Adran 4 – Ailddatgan a pharhad deddfiadau sy’n deillio o’r UE

55.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ailddatgan y ddeddfwriaeth ddomestig sy’n gymwys yng Nghymru mewn pynciau datganoledig ac sy’n deillio o gyfraith yr UE neu’n ymwneud â’r UE neu’r AEE at rai dibenion neu at bob diben, ac i barhau â’r ddeddfwriaeth honno mewn effaith.

56.Mae adran 4(1) yn pennu bod y pŵer yn adran 4(2) yn gymwys i ddeddfiadau, fel y’u diffinnir yn adran 20(1), sy’n gweithredu mewn rhyw ffordd i weithredu rhwymedigaethau cyfraith yr UE neu’n ymwneud fel arall â’r UE neu’r AEE. Wrth ymadael â’r UE, gallai fod amheuaeth ynghylch a fyddai deddfiadau a oedd yn rhagdybio aelodaeth o’r UE yn parhau i weithio’n effeithiol. Gallai’r un amheuon fod yn gymwys hefyd i ddeddfiadau sy’n ymwneud â’r UE neu’r AEE neu sy’n cyfeirio at yr UE neu’r AEE.

57.Mae’r pŵer yn adran 4(2) yn ymdrin â’r amheuaeth hon. Mae’n gwneud hynny drwy alluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i:

  • ddiddymu neu ddirymu deddfiadau ac i’w hailddatgan (is-adran (2)(a)), a

  • datgymhwyso deddfiadau a’u hailddatgan wedi hynny (is-adran (2)(b)).

58.Mae deddfiad yn cael ei ddiddymu neu ei ddirymu pan yw’r deddfiad yn peidio â bod yn rhan o gyfraith awdurdodaeth. Mae Cymru yn parhau i fod yn rhan o awdurdodaeth unedig Cymru a Lloegr, er gwaethaf datganoli. Mae hyn yn golygu bod deddfau sy’n gymwys o ran Cymru yn unig yn dechnegol yn rhan o’r gyfraith a gydnabyddir gan lysoedd Cymru a Lloegr. Deddfiadau sy’n gymwys i Gymru yn unig, naill ai mewn Deddfau Seneddol neu odanynt neu yn Neddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu odanynt, ac sy’n cynnwys pynciau sydd o fewn cymhwysedd datganoledig yn gyfan gwbl yw’r mathau o ddeddfiadau y gellir eu diddymu neu eu dirymu o dan is-adran (2)(a).

59.Pan fo deddfiad sy’n gymwys i Gymru hefyd yn gymwys i Loegr neu pan fo’n cynnwys pynciau neilltuol nad ydynt wedi eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ni ellir ei ddiddymu na’i ddirymu o dan y pŵer yn is-adran (2)(a). Bwriedir i is-adran (2)(b) gwmpasu’r math hwn o ddeddfiad y bydd angen ei ddatgymhwyso o ran Cymru neu mewn perthynas â phynciau datganoledig (y datgymhwyso y mae diwygiadau i’r deddfiad yn rhoi effaith iddo), o ystyried cyfyngiadau cymhwysedd datganoledig.

60.Bydd yn ofynnol cywiro llawer o’r deddfiadau a gwmpesir gan adran 4 er mwyn sicrhau y gallant barhau i weithredu’n effeithiol ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Mae’r pwerau ym mharagraffau (c) a (d) o is-adran (2) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ailddatgan y deddfiadau gyda’r addasiadau sy’n angenrheidiol er mwyn cyflawni’r nod hwn.

61.Mae adran 4(2)(e) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad ag ailddatgan. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys darpariaeth mewn perthynas â phwerau a geir mewn cyfarwyddebau gan yr UE i wneud deddfwriaeth drydyddol yr UE (gweler is-adran (5)(f)). O dan yr amgylchiadau hynny, bydd y gyfarwyddeb gan yr UE wedi ei gweithredu mewn deddfwriaeth ddomestig, ond ni fydd y pŵer i wneud deddfwriaeth drydyddol yr UE yn rhan o gyfraith ddomestig. Mae angen y pŵer i wneud deddfwriaeth drydyddol yr UE er mwyn sicrhau y gellir gweithredu’r gyfarwyddeb gan yr UE yn effeithiol. Gallai hyn gynnwys pwerau i ddiweddaru agweddau technegol ar gyfarwyddeb gan yr UE i adlewyrchu datblygiadau ymarferol, gwyddonol neu dechnolegol. Felly, mae adran 4(2) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ail-greu’r pwerau hynny yn ddomestig er mwyn sicrhau y gall y cynllun deddfwriaethol llawn weithredu’n effeithiol ar ôl i’r DU ymadael â’r UE.

62.Mae adran 4(3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau fel bod is-ddeddfwriaeth a wneir o dan ddeddfiadau sydd wedi eu diddymu, eu dirymu neu eu datgymhwyso o ran Cymru yn rhinwedd adran 4(2) yn parhau i gael effaith. Neu, gellid defnyddio adran 4(2) i ailddatgan yr is-ddeddfwriaeth o dan sylw. Bydd Gweinidogion Cymru yn gallu penderfynu pa un ai i ddelio ag is-ddeddfwriaeth o dan y pwerau yn adran 4(2) neu (3). Gellir addasu is-ddeddfwriaeth sy’n parhau i gael effaith yn y ffordd hon hefyd er mwyn sicrhau ei bod yn gweithredu’n effeithiol.

63.Fel gydag adran 3, mae adran 4 yn nodi rhestr nad yw’n gynhwysfawr o’r math o addasiadau y rhagwelir y byddant yn angenrheidiol er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol y deddfiad ailddatganedig. Mae enghreifftiau penodol yn cynnwys:

  • Cyfeiriadau at yr UE: mae deddfiadau domestig yn cynnwys cyfeiriadau niferus at “cyfraith yr UE”, “rhwymedigaethau gan yr UE”, “Aelod-wladwriaethau ac eithrio’r DU” a “gwladwriaethau’r AEE”. Bydd yn ofynnol addasu’r rhain er mwyn adlewyrchu ymadawiad y DU â’r UE. Er enghraifft, mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017(13) yn diffinio “deddfwriaeth yr Undeb”. Mae’r term wedi ei ddiffinio drwy gyfeirio at ddeddfiadau sy’n gymwys o ran Cymru sy’n rhoi effaith i “un o rwymedigaethau’r UE”. Bydd yn ofynnol diwygio’r rhain gan na fydd darpariaeth mewn deddfiadau sy’n rhoi effaith i rwymedigaethau’r UE ar ôl i’r DU ymadael â’r UE (oni bai bod y cytundeb ymadael yn cynnwys darpariaeth o’r fath – mae’r pŵer yn adran 10 i ymdrin â hyn).

  • Sefydliadau’r UE: mae darpariaethau mewn deddfiadau domestig yn gweithredu ar sail aelodaeth o’r UE, gan gynnwys y rhan a chwaraeir gan sefydliadau amrywiol yr UE a’r ddarpariaeth o gyllid drwy gynlluniau a weithredir gan yr UE. Mae rheoliad 3 o Reoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2017(14) yn gwneud darpariaeth ar gyfer darparu “cymorth gwladol” i geiswyr sydd hefyd yn cael “cymorth Undeb”. Mae cymorth Undeb yn gymorth a ddarperir o dan Erthygl 23 o Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac sy’n diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007. Gan na fydd “cymorth Undeb” yn daladwy mwyach, ni fydd modd gweithredu meini prawf cymhwystra yn seiliedig ar gael cymorth o’r fath mwyach. Bydd y diwygiad i Reoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2017 yn dibynnu ar y ddarpariaeth gyfatebol a wneir i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 mewn rheoliadau a wneir o dan adran 3.

  • Trefniadau cilyddol: mae trefniadau amrywiol a rhwymedigaethau gan yr UE yn arwain yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol at raddau amrywiol o gilyddiaeth rhwng Aelod-wladwriaethau, neu’n gwneud hynny yn ofynnol. Un enghraifft yw’r egwyddor o gydnabod cymwysterau yn gilyddol. Mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012(15) yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud ag unigolion sydd â’r hawl i addysgu yn y DU yn rhinwedd Cyfarwyddeb y Cyngor 2005/36/EC ar gydnabod cymwysterau proffesiynol (er y gwneir hyn yn anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddeddfwriaeth ddomestig arall). Wrth ailddatgan Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012, gellid eu haddasu er mwyn ymdrin â newidiadau i’r egwyddor o gydnabod cymwysterau yn gilyddol.

64.Mae is-adran (5) hefyd yn cynnwys yr enghraifft o roi swyddogaethau neu osod cyfyngiadau a oedd mewn cyfarwyddeb gan yr UE ac a oedd mewn grym yn union cyn y diwrnod ymadael ac y mae’n briodol eu dargadw. Mae hyn yn adlewyrchu’r posibilrwydd bod Gweinidogion Cymru wedi gweithredu cyfarwyddeb gan yr UE ond nad ydynt wedi gweithredu’r darpariaethau yn y gyfarwyddeb sy’n darparu i’r Comisiwn Ewropeaidd neu asiantaeth o’r UE gyflawni swyddogaeth. Mewn enghraifft o’r fath, gallai’r deddfiad domestig weithredu ar y sail bod swyddogaeth benodol yn cael ei harfer gan y Comisiwn Ewropeaidd neu asiantaeth o’r UE. Mae is-adran (5)(f) yn cadarnhau bod y pŵer i ailddatgan gydag addasiadau o dan is-adran (2) neu i wneud darpariaeth bellach yn cynnwys y pŵer i ail-greu’r swyddogaeth a’i rhoi, er enghraifft, i Weinidogion Cymru neu awdurdod cyhoeddus priodol.

65.Ni wneir unrhyw gyfeiriad yn is-adran (5) at y pŵer i addasu deddfiad am fod is-adran (1) a (2) a’r diffiniad o ddeddfiad yn adran 20(2) yn ei gwneud yn glir y gellir defnyddio’r pŵer i addasu unrhyw ddeddfiad sydd o fewn cymhwysedd datganoledig yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

66.Mae’r cyfyngiadau ar arfer y pŵer yn adran 4(2) yn cyfateb i’r rheini sy’n gymwys yn adran 3, ac eithrio mân wahaniaeth yn adran 4(7)(d). Mae adran 4(7)(d) yn adlewyrchu’r terfynau ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad mewn perthynas â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron, yn benodol y cyfyngiad ym mharagraff 1(2) o Ran 2 o Atodlen 7 i DLlC 2006 ar roi swyddogaethau i un o Weinidogion y Goron neu osod swyddogaethau arno. Fodd bynnag, gan fod a wnelo’r pŵer yn adran 4 ag ailddatgan y gyfraith, mae is-adran (7)(d) yn cadarnhau y gall rheoliadau a wneir o dan is-adran (2) ailddatgan swyddogaeth sydd gan un o Weinidogion y Goron oherwydd yr eithriad ym mharagraff 8 o Ran 3 o Atodlen 7 i DLlC 2006.

67.Mae’r un cyfyngiadau o ran amser hefyd yn gymwys i reoliadau a wneir o dan adran 4 yn rhinwedd is-adran (8).

Adran 5 - Darpariaeth a wneir o dan bwerau sy’n ymwneud â’r UE i barhau i gael effaith

68.Os caiff ei basio, bydd y Bil i Ymadael â’r UE sydd gerbron Senedd y DU ar hyn o bryd yn diddymu DCE 1972. Yn gyffredinol, mae is-ddeddfwriaeth yn darfod yn awtomatig pan fydd y ddeddfwriaeth sylfaenol y mae wedi ei gwneud odani yn peidio â chael effaith oni chaiff ei harbed yn benodol. Felly, byddai unrhyw ddarpariaeth a wneid o dan adran 2(2) o DCE 1972, neu baragraff 1A o Atodlen 2 iddi, yn peidio â chael effaith pan ddiddymir y Ddeddf honno. Mae adran 5 yn gweithredu i ddiogelu offerynnau statudol a wneir o dan y darpariaethau hyn.

69.Mae categori ychwanegol o offeryn statudol hefyd wedi ei ddal o dan adran 5 – y rheini a wneir o dan adran 56 o Ddeddf Cyllid 1973 (“DC 1973”). Mae adran 56 o DC 1973 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i ffioedd a thaliadau gael eu talu am ddarparu unrhyw wasanaethau, cyfleusterau, awdurdodiadau, tystysgrifau neu ddogfennau a ddarparant yn unol ag unrhyw rwymedigaeth gan yr UE. Caiff y mwyafrif o rwymedigaethau’r UE eu gweithredu o dan adran 2(2) o DCE 1972, tra bo’r ddarpariaeth a wneir o dan adran 56 o DC 1973 wedi ei chynnwys yn aml yn yr un offeryn â darpariaeth a wneir o dan adran 2(2) o DCE 1972. O ganlyniad, mae adran 5 yn galluogi offerynnau o’r fath yn eu cyfanrwydd i gael eu trin fel pe baent wedi eu gwneud o dan adran 5. Mae hyn yn osgoi unrhyw ymgais i wneud darpariaeth ar wahân o dan y pwerau gwahanol o fewn yr un offeryn. Gan gydnabod y gall rhai offerynnau statudol gynnwys darpariaethau o dan bwerau eraill hefyd, mae is-adran (3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddarparu bod yr offeryn cyfan i’w drin fel pe bai’n cael effaith o dan adran 5.

70.Mae adran 5(4) yn cadarnhau mai dim ond darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad y gellir ei phennu mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (1).

71.Mae rhywfaint o orgyffwrdd rhwng cwmpas y pwerau yn adrannau 4 a 5. Er enghraifft, gellir pennu darpariaeth a wneir o dan adran 2(2) o DCE 1972 o dan adran 5(1), ond byddai hefyd yn ddeddfiad a wneid yn gyfan gwbl at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2)(a) neu (b) ac felly gellid ei hailddatgan o dan y pŵer yn adran 4. Mae pwerau Gweinidogion Cymru yn adrannau 4 a 5 yn ddisgresiynol a bydd Gweinidogion Cymru yn gallu dewis defnyddio’r naill bŵer neu’r llall mewn cysylltiad â’r darpariaethau.

72.Yn ogystal â diogelu’r darpariaethau a wneir o dan bwerau sy’n ymwneud â’r UE, bydd pennu’r darpariaethau hefyd yn ei gwneud yn bosibl i Weinidogion Cymru ddefnyddio’r ‘pŵer cywiro’ yn adran 5(5). Nod y pŵer, yn debyg i’r pwerau yn adrannau 3 a 4, yw galluogi i’r addasiadau angenrheidiol gael eu gwneud i’r darpariaethau a nodir, yng ngoleuni ymadawiad y DU â’r UE. Rhaid i unrhyw addasiad neu ddarpariaeth bellach fod o fewn cymhwysedd datganoledig a bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol y ddarpariaeth o dan sylw. Gellir gwneud yr un ddarpariaeth â’r math a wneir o dan adran 4(5) a (6) o dan adran 5(5). Mae is-adran (6)(b) yn ei gwneud yn glir bod y pŵer yn cynnwys pŵer i addasu deddfwriaeth sylfaenol (sydd hefyd ar gael o dan adran 4, ond a gyflawnir drwy ddull gwahanol).

73.Mae’r un cyfyngiadau yn gymwys i arfer y pŵer ag sy’n gymwys i adrannau 3 a 4, ac eithrio nad yw adran 5(7)(d) yn cyfeirio at ailddatgan swyddogaethau Gweinidogion y Goron (fel sy’n wir yn adran 4(5)(d)) gan nad yw’r pwerau yn adran 5(1) a (5) yn ymwneud ag ailddatgan fel sy’n wir yn adran 4.

Adran 6 – Heriau i gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE sy’n codi o annilysrwydd offerynnau gan yr UE

74.Mae pob darn o gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE yn gysylltiedig mewn rhyw ffordd ag offeryn gan yr UE. Mae gan Lys Cyfiawnder yr UE awdurdodaeth dros unrhyw her i offeryn gan yr UE. Gellid herio offeryn gan yr UE ar sail diffyg cymhwysedd, torri gofyniad gweithdrefnol hanfodol, torri’r Cytuniadau neu unrhyw reol gyfreithiol sy’n ymwneud â’u cymhwyso neu gamddefnyddio pwerau(16). Gallai her lwyddiannus i offeryn gan yr UE fwrw amheuaeth ar unrhyw ddarn o gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE sy’n gysylltiedig â hynny. Mae adran 6(1) yn gosod sefyllfa ddiofyn nad yw penderfyniad gan Lys Cyfiawnder yr UE fod offeryn gan yr UE yn annilys yn creu hawl yn y gyfraith i herio unrhyw ddarn o gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE. Nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw her ar sail arall o ran cyfraith gyhoeddus.

75.Mae adran 6(2) yn darparu tri eithriad i’r sefyllfa ddiofyn. Y trydydd eithriad, ym mharagraff (c), yw pŵer i Weinidogion Cymru ychwanegu eithriadau pellach. Gallai hyn gynnwys achosion pan fo Llys Cyfiawnder yr UE wedi penderfynu bod offeryn gan yr UE yn annilys ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Mae adran 6(3) yn gadarnhad bod y pŵer yn adran 6(2)(c) yn cynnwys y pŵer i ddarparu ar gyfer gwneud her yn erbyn awdurdod cyhoeddus domestig (ond nid un o Weinidogion y Goron – gan adlewyrchu’r terfynau ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ac yn benodol y cyfyngiad ym mharagraff 1(2) o Ran 2 o Atodlen 7 i DLlC 2006) yn lle un o sefydliadau’r UE.

Adran 7 – Dehongli cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE

76.Bydd ymadawiad y DU â’r UE yn golygu na fydd gan Lys Cyfiawnder yr UE awdurdodaeth mwyach mewn perthynas â’r DU. Felly, ni fydd llysoedd domestig yn gallu atgyfeirio achosion i Lys Cyfiawnder yr UE ar neu ar ôl y diwrnod ymadael.

77.Mae adran 7(2) yn darparu y penderfynir ar unrhyw gwestiwn o ran dilysrwydd, ystyr neu effaith cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE yn llysoedd y DU yn unol â chyfraith achosion perthnasol Llys Cyfiawnder yr UE cyn i’r DU ymadael â’r UE, egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE a ddargedwir a’r Siarter Hawliau Sylfaenol. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith materion eraill, ddehongli mewn dull dibennol pan fo ystyr y mesurau yn aneglur. Mae dull dibennol yn golygu ystyried diben y gyfraith drwy edrych ar ddogfennau perthnasol eraill megis y sail gyfreithiol mewn cytuniadau ar gyfer mesur a phan fo’n berthnasol, y ‘travaux preparatoires’ (y papurau gwaith) a arweiniodd at fabwysiadu’r mesur, cymhwyso’r dehongliad sy’n gwneud y ddarpariaeth o gyfraith yr UE yn gydnaws â’r cytuniadau, egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE a’r Siarter Hawliau Sylfaenol.

78.Mae Llys Cyfiawnder yr UE a llysoedd domestig yn cymhwyso egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE (megis cymesuredd, hawliau sylfaenol, yr egwyddor ragofalus a pheidio â bod yn ôl-weithredol) wrth benderfynu ar gyfreithlondeb mesurau deddfwriaethol a gweinyddol o fewn cwmpas cyfraith yr UE, ac maent yn helpu i ddehongli cyfraith yr UE hefyd.

79.Pan na fo cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE wedi ei diwygio ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, yna caiff ei dehongli yn unol â chyfraith achosion Llys Cyfiawnder yr UE cyn i’r DU ymadael â’r UE, egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE a ddargedwir a’r Siarter Hawliau Sylfaenol (i’r graddau y bônt yn berthnasol).

80.Mae is-adran (2)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i lysoedd a thribiwnlysoedd y DU ddehongli cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE drwy gyfeirio (ymhlith pethau eraill) at derfynau cymhwysedd yr UE, fel y mae’n bodoli ar y diwrnod y mae’r DU yn ymadael â’r UE. Ni allai mater ddod o fewn cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE pe na bai gan yr UE gymhwysedd yn y maes hwnnw. Mae Erthygl 5(2) o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd yn cadarnhau na allai’r Undeb ond gweithredu o fewn terfynau’r cymwyseddau a roddir iddo gan yr Aelod-wladwriaethau. Mae cymwyseddau nas rhoddir i’r Undeb yn aros gyda’r Aelod-wladwriaethau.

81.Nid yw adran 7(2) ond yn gymwys i gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE fel y mae’r gyfraith honno heb ei haddasu ar neu ar ôl y diwrnod ymadael. Bydd gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i gyfraith uniongyrchol yr UE o dan y pŵer yn adran 3 yn aml yn cynnwys gwneud addasiadau i’r ddarpariaeth yng nghyfraith uniongyrchol yr UE ar neu ar ôl y diwrnod ymadael. Yn yr un modd, bydd addasiadau i gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE o dan adrannau 4 a 5 yn cael eu gwneud ar neu ar ôl y diwrnod ymadael. Yn yr achosion hyn, ni fydd yr egwyddor yn adran 7(2) yn gymwys ac felly nid oes gofyniad i benderfynu ar gwestiynau o ran dilysrwydd, ystyr neu effaith y rheoliadau hynny yn unol â’r is-adran honno. Fodd bynnag, mae adran 7(5) yn ei gwneud yn glir nad yw is-adran (2) yn gweithredu i atal llys rhag penderfynu ar gwestiwn o ran dilysrwydd, ystyr neu effaith darn o gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE sydd wedi ei addasu ar neu ar ôl y diwrnod ymadael fel y darperir ar ei gyfer yn is-adran (2) os yw gwneud hynny yn gyson â bwriad yr addasiadau.

82.Mae adran 7(3) yn galluogi’r Goruchaf Lys, ond nid unrhyw lys domestig arall, i wyro oddi wrth gyfraith achosion Llys Cyfiawnder yr UE cyn i’r DU ymadael â’r UE. Mae is-adrannau (2) a (3) yn cyfuno i ddarparu y bydd i gyfraith achosion Llys Cyfiawnder yr UE cyn i’r DU ymadael â’r UE yr un statws rhwymol, neu statws o ran cynsail, mewn llysoedd a thribiwnlysoedd domestig â phenderfyniadau presennol y Goruchaf Lys. Mae is-adran (4) yn adlewyrchu’r arfer presennol a ddefnyddir gan y Goruchaf Lys wrth benderfynu pa un ai i wyro oddi wrth ei benderfyniad blaenorol ei hun. Mae’r prawf a ddefnyddir gan Oruchaf Lys y DU wedi ei nodi mewn datganiad arfer presennol a wnaed gan Dŷ’r Arglwyddi ym 1966 ac a fabwysiadwyd gan y Goruchaf Lys yn 2010. Nododd y datganiad hwnnw, ymhlith pethau eraill, er y bydd yn trin ei benderfyniadau blaenorol fel pe baent yn rhwymol fel arfer, y bydd yn gwyro oddi wrth ei benderfyniadau blaenorol pan ymddengys yn briodol gwneud hynny.

83.Mae adran 7(6) yn darparu diffiniadau at ddibenion adran 7. Mae’r diffiniadau o gyfraith achosion ddomestig a ddargedwir, cyfraith achosion yr UE a ddargedwir ac egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE a ddargedwir wedi eu cyfyngu i’r materion hynny sy’n berthnasol i unrhyw beth y caniateir gwneud rheoliadau mewn cysylltiad ag ef o dan adran 3, 4 neu 5. Mae effaith adran 7 wedi ei chyfyngu felly i gwmpas cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE.

Adran 8 - Rheolau tystiolaeth etc.

84.Yn gyffredinol, trinnir ystyr neu effaith y gyfraith mewn awdurdodaethau eraill fel cwestiwn ffeithiol, i’w brofi mewn achos cyfreithiol drwy dystiolaeth, yn hytrach na thrwy ddyfarniad gan farnwr fel cwestiwn cyfreithiol. Eglurodd adran 3 o DCE 1972, pan ymunodd y DU â’r UE, fod barnwyr y DU i benderfynu ar ystyr neu effaith Cytuniadau’r UE, neu ddilysrwydd, ystyr neu effaith unrhyw offeryn gan yr UE, fel cwestiwn cyfreithiol, yn unol â’r egwyddorion a osodwyd gan Lys Cyfiawnder yr UE a’i benderfyniadau perthnasol. Bydd cyfraith yr UE sy’n cael ei diogelu gan y Ddeddf yn dod yn gyfraith ddomestig, ac felly barnwyr yn llysoedd Cymru a Lloegr a fydd yn ei dehongli. Ni fydd rhai darnau o gyfraith yr UE yn dod yn gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE, ond efallai y byddant yn dal i fod yn berthnasol i ddehongli cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE (er enghraifft, efallai y bydd rhaid i lys ystyried ystyr cyfarwyddeb gan yr UE wrth ddehongli rheoliadau domestig a wneir i weithredu’r gyfarwyddeb honno). Mae adran 8(1) yn darparu, i’r graddau bod angen penderfynu ar ystyr neu effaith cyfraith yr UE er mwyn i lys ddehongli cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE, y bydd barnwyr yn parhau i benderfynu ar yr ystyr hwnnw neu’r effaith honno eu hunain fel cwestiwn cyfreithiol, yn hytrach na thrin hynny yn gwestiwn ffeithiol.

85.Tybir bod materion sydd wedi eu ‘cydnabod heb dystiolaeth’ o fewn gwybodaeth y llys eisoes, ac felly nid yw’n ofynnol eu ‘profi’ i’r llys. Er enghraifft, mae’n ofynnol i Ddeddfau gan y Cynulliad gael eu cydnabod heb dystiolaeth(17). Mae adran 8(3) yn darparu y gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n darparu i sylw barnwrol gael ei roi i fater perthnasol, ac ar gyfer derbynioldeb mewn achosion cyfreithiol dystiolaeth o fater perthnasol ac offerynnau a dogfennau a ddyroddir gan endid o’r UE neu sydd o dan gadwraeth endid o’r UE, er mwyn sicrhau y gellir rhoi rheolau tystiolaethol priodol ar waith er mwyn adlewyrchu’r dirwedd gyfreithiol newydd ar ôl ymadael â’r UE. Gall rheoliadau o dan adran 8 ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol (is-adran (5)).

Adran 9 – Cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol

86.Gallai ymadawiad y DU â’r UE arwain yn awtomatig at dorri rhwymedigaethau rhyngwladol y DU gan y DU. Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft, am fod cydymffurfedd â rhwymedigaethau rhyngwladol yn gysylltiedig â pharhau i gydymffurfio â chyfraith yr UE, neu’n dibynnu ar hynny. Bydd y pŵer yn adran 9 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth briodol i atal neu unioni unrhyw achos o’r fath o dorri rhwymedigaethau rhyngwladol. Gallai hyn gynnwys gwneud darpariaeth i weithredu confensiwn rhyngwladol a weithredid o’r blaen yn rhinwedd bod yn aelod o’r UE.

87.Mae’r pŵer i wneud rheoliadau wedi ei gyfyngu i ddarpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig, fel y’i diffinnir yn adran 17. Oherwydd y caniateir i’r pŵer yn adran 9 gael ei ddefnyddio i wneud rheoliadau i ddod i rym cyn ymadael, bydd y cyfyngiad yn adran 108(6)(c) o DLlC 2006 ar wneud deddfwriaeth sy’n anghydnaws â chyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol i reoliadau sy’n dod i rym cyn ymadael.

88.Mae’r pŵer yn cynnwys y pŵer i addasu deddfwriaeth sylfaenol, ond mae’n ddarostyngedig i gyfyngiadau sy’n debyg i’r rheini a oedd yn gymwys i adrannau 3 a 5. Yr unig wahaniaethau yw nad oes cyfyngiad ar osod na chynyddu trethiant (er y bydd y terfynau ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn rhoi rhywfaint o gyfyngiad o ran trethiant) ac ni ellir gwneud i adran 9 weithredu’r cytundeb ymadael. Mae’r gwaharddiad ar ddefnyddio’r pŵer i weithredu’r cytundeb ymadael yn adlewyrchu’r debygoliaeth y byddai unrhyw gytundeb ymadael rhwng y DU a’r UE yn ffurfio rhwymedigaethau rhyngwladol ar ran y DU. Byddai gweithredu’r cytundeb ymadael yn dod o dan y pŵer yn adran 10.

Adran 10 – Gweithredu’r cytundeb ymadael

89.Mae adran 10 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i weithredu cytundeb ymadael y mae’r DU a’r UE yn dod iddo o dan Erthygl 50(2) o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd (neu’r Erthygl honno fel y’i cymhwysir gan Gytuniad Euratom).

90.Ni ellir defnyddio’r pŵer ond i wneud darpariaeth a ddylai fod mewn grym ar neu cyn y diwrnod ymadael. Pan fo angen i unrhyw ddarpariaeth ddod i rym ar ôl y diwrnod ymadael, ni ellir defnyddio’r pŵer. Byddai angen i unrhyw addasiadau ar ôl ymadael fod yn destun deddfwriaeth bellach.

91.Ni ellir defnyddio’r pŵer ond i wneud darpariaeth sydd o fewn cymhwysedd datganoledig y Cynulliad a ddiffinnir yn adran 17. Caiff rheoliadau a wneir o dan yr adran hon ddod i rym cyn ac ar y diwrnod ymadael. Pan fo’r rheoliadau o dan adran 10 i ddod i rym cyn ymadael, bydd y cyfyngiad ar wneud deddfwriaeth sy’n anghydnaws â chyfraith yr UE yn adran 108(6)(c) o DLlC 2006 yn berthnasol. Pan fo rheoliadau o dan adran 10 i ddod i rym ar y diwrnod ymadael (noder na all y rheoliadau gynnwys darpariaeth i ddod i rym ar ôl y diwrnod ymadael – gweler is-adran (1)), ni fydd y cyfyngiad yn adran 108(6)(c) sy’n ymwneud â gwneud deddfwriaeth sy’n anghydnaws â chyfraith yr UE yn berthnasol gan na fydd y DU yn aelod o’r UE mwyach ac felly ni fydd yn ddarostyngedig i gyfraith yr UE.

92.Gellir defnyddio’r pŵer i addasu deddfwriaeth sylfaenol, gan gynnwys y Ddeddf. Diffinnir ‘addasu’ yn adran 20(1) ac mae’n cynnwys diwygio, diddymu neu ddirymu deddfwriaeth.

93.Mae’r pŵer yn ddarostyngedig i’r un cyfyngiadau ag sy’n gymwys i’r pŵer yn adran 3. Mae datganoli yn darparu cyfyngiad pellach ar gwmpas y pŵer, nid yn unig o ran y pwnc y gellid ei gynnwys yn y rheoliadau, ond hefyd o ran y cyfyngiadau yn Rhan 2 o Atodlen 7 i DLlC 2006 sy’n cynnwys gwaharddiad ar addasu darpariaethau penodedig yn DLlC 2006, DLlC 1998 a Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ynghyd â DCE 1972, Deddf Diogelu Data 1998, Deddf Hawliau Dynol 1998, Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 a Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2005(18) yn eu cyfanrwydd.

94.Mae adran 18 yn cadarnhau nad yw’r ffaith bod y pŵer hwn (a phwerau eraill yn y Ddeddf) yn dod i ben ar y diwrnod ymadael yn effeithio ar barhad mewn grym y rheoliadau a wneir ar neu cyn y diwrnod ymadael.

Adran 11 – Pŵer i wneud darpariaeth sy’n cyfateb i gyfraith yr UE ar ôl y diwrnod ymadael

95.Mae adran 11 yn creu pŵer disgresiynol i Weinidogion Cymru gadw bob yn gam â chyfraith yr UE ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Os caiff ei basio, byddai’r Bil i Ymadael â’r UE yn diddymu DCE 1972, gan gynnwys adran 2(2). Ni ellid adlewyrchu yn ddomestig unrhyw ddatblygiadau yng nghyfraith yr UE yn dilyn ymadawiad y DU heb unrhyw bwerau perthnasol eraill sy’n bodoli eisoes. Mae adran 11 yn parhau â’r pŵer i weithredu cyfraith yr UE, er na fyddai rhwymedigaeth i weithredu cyfraith yr UE, gan na fydd y DU yn aelod o’r UE mwyach.

96.Fel gydag adran 2(2) o DCE 1972, gall y pŵer addasu deddfwriaeth sylfaenol ac mae’n ddarostyngedig i gyfyngiadau sy’n ymwneud â gosod neu gynyddu trethiant, darpariaeth ôl-weithredol a throseddau. Mae is-adran (3) yn adlewyrchu y bydd yn ofynnol addasu cyfraith yr UE i raddau amrywiol cyn y gall fod yn gymwys yn effeithiol mewn cyd-destun domestig.

97.Nid yw’r cyfyngiad ym mharagraff 1(1)(c) o Atodlen 2 i DCE 1972 ar roi pwerau i ddeddfu yn gymwys i’r pŵer yn adran 11. Gan fod y diffiniad o gymhwysedd datganoledig wedi ei lunio drwy gyfeirio at ddarpariaeth y gellid ei chynnwys mewn Deddf gan y Cynulliad, mae’r pŵer yn cynnwys y pŵer i ddirprwyo’r pŵer o dan adran 11. Mae hyn yn adlewyrchu y gallai rheoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE neu gyfarwyddeb gan yr UE gynnwys pŵer i wneud deddfwriaeth drydyddol yr UE. Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu arfer y pŵer yn adran 11 i wneud darpariaeth gyfatebol i’r offeryn gan yr UE o dan sylw, gallai Gweinidogion Cymru ystyried pa un ai i roi’r pŵer i wneud deddfwriaeth drydyddol yr UE iddynt hwy eu hunain neu i awdurdod cyhoeddus arall.

Adran 12 – Adolygu’r pŵer yn adran 11(1) a machlud y pŵer

98.Mae adran 12 yn cyfyngu ar oes pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 11(1) i wneud darpariaeth sy’n cyfateb i gyfraith yr UE ar ôl y diwrnod ymadael. Yn benodol, mae’n golygu y bydd y pŵer yn peidio â chael effaith 5 mlynedd ar ôl y diwrnod ymadael. Gellir estyn y pŵer, ond dim ond os gwneir rheoliadau gan Weinidogion Cymru. Gellir estyn y cyfnod am gyfnodau dilynol nad ydynt yn fwy na 5 mlynedd yn unigol. Er enghraifft, os pennir 29 Mawrth 2019 fel y diwrnod ymadael, byddai’r pŵer yn dod i ben yn 2024. Yn 2024, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu estyn y pŵer am 5 mlynedd arall hyd 2029. Yn yr un modd, yn 2029, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu estyn y pŵer am 5 mlynedd arall hyd 2034.

99.Cyn arfer y pŵer i estyn effaith y pŵer yn adran 11(1), rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad ar weithrediad ac effaith y pŵer yn adran 11(1) ac a oes ei angen o hyd (ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol). Mae hyn er mwyn rhoi i’r Cynulliad y sail i benderfynu a oes angen y pŵer o hyd cyn estyn ei effaith.

Adran 13 ac Atodlen 1 – Ffioedd a thaliadau

100.Mae’r pwerau i wneud rheoliadau a geir yn yr adrannau a restrir ym mharagraff 1(1)(a) i (f) o Atodlen 1 wedi eu cyfyngu o ran amser, wedi eu cyfyngu o ran gosod neu gynyddu trethiant neu wedi eu cyfyngu o ran y ddau. Mae’r pŵer hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer codi ffioedd neu daliadau eraill, neu mewn cysylltiad â chodi ffioedd neu daliadau eraill, mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth a roddir i awdurdod cyhoeddus o dan yr adrannau a bennir ym mharagraff 1(1) yn barhaus.

101.Mae adran 2(2) o DCE 1972 ac adran 56 o DC 1973 yn galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i ffioedd a thaliadau gael eu talu am ddarparu unrhyw wasanaethau, cyfleusterau, awdurdodiadau, tystysgrifau neu ddogfennau a ddarparant yn unol ag unrhyw rwymedigaeth gan yr UE. Bydd y pŵer ym mharagraff 1 o Atodlen 1 yn disodli’r pwerau hyn.

102.Mae paragraff 1(2)(c) yn galluogi i’r pŵer i osod ffioedd a thaliadau gael ei ddirprwyo i awdurdod cyhoeddus. Bydd unrhyw bwerau a ddirprwyir o dan y ddarpariaeth hon yn ddarostyngedig i’r un terfynau, cyfyngiadau a chraffu ag sy’n gymwys pan fydd Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer.

103.Mae adran 2(2) o DCE 1972 ac adran 56 o DC 1973 wedi eu defnyddio sawl gwaith yn ystod aelodaeth y DU o’r UE i osod ffioedd a thaliadau mewn cysylltiad â rhwymedigaethau gan yr UE. Mae adran 5 yn galluogi Gweinidogion Cymru i nodi a diogelu’r offerynnau statudol a wneir o dan y pwerau hyn sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer ffioedd a thaliadau ynghyd â’r darpariaethau sy’n ymwneud â’r gwasanaeth cysylltiedig. Gellid gwneud rheoliadau o dan adran 4 hefyd i ailddatgan ac felly ddiogelu taliadau neu ffioedd o’r fath. Fodd bynnag, os caiff ei basio, bydd y Bil i Ymadael â’r UE sydd gerbron Senedd y DU ar hyn o bryd yn golygu na fydd y pwerau yn DCE 1972 a DC 1973 mewn perthynas â ffioedd a thaliadau ar gyfer rhwymedigaethau gan yr UE ar gael mwyach. Mae paragraff 2 o Atodlen 1 yn sicrhau y gall Gweinidogion Cymru addasu’r ffioedd a’r taliadau a ddiogelir yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 4 neu 5.

104.Mae’r pŵer ym mharagraff 2 o Atodlen 1 yn ddarostyngedig i derfynau, yn benodol na ellir defnyddio’r pŵer ar gyfer taliadau neu ffioedd newydd. Gellid defnyddio’r pŵer, er enghraifft, i gynyddu ffioedd yn unol â chwyddiant er mwyn sicrhau y gall yr awdurdod cyhoeddus a chanddo’r dasg o ddarparu’r gwasanaeth barhau i dalu costau darparu gwasanaeth perthnasol, megis arolygiadau iechyd anifeiliaid.

105.Mae paragraff 3 o Atodlen 1 yn sicrhau bod unrhyw ffioedd neu daliadau a oedd wedi eu gosod gan reoliadau a wnaed o dan adran 2(2) o DCE 1972 yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r un cyfyngiadau o dan y Ddeddf honno – sef na allant osod na chynyddu trethiant (gweler paragraff 1(1)(a) o Atodlen 2 i DCE 1972).

106.Mae paragraff 4 yn adlewyrchu’r ffaith y gellid gwneud darpariaeth ar gyfer ffioedd a thaliadau o dan adrannau 3, 4, 5, 9, 10 ac 11. Er enghraifft, gellid pennu darpariaeth ynghylch ffioedd a thaliadau mewn rheoliadau a wneir o dan adran 56 o DC 1973 mewn rheoliadau a wneir o dan adran 5(1). Fodd bynnag, gall fod yn ofynnol addasu’r ddarpariaeth er mwyn sicrhau y gall barhau i weithredu’n effeithiol ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Mae paragraff 4 yn cadarnhau y gellir gwneud darpariaeth o’r fath o dan adran 5(5) ac na fyddai angen ei gwneud o dan Atodlen 1.

Adrannau 14 a 15 – Cydsyniad Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth a chydsyniad Gweinidogion Cymru i gymeradwyo neu gadarnhau is-ddeddfwriaeth

107.Mae’r adrannau hyn yn sefydlu’r sefyllfa ddiofyn yn y gyfraith ei bod yn ofynnol cael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn y gall unrhyw berson wneud, cadarnhau neu gymeradwyo is-ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu pynciau datganoledig a wneir o dan Ddeddfau Seneddol a gaiff eu pasio ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym (ac sy’n bodloni amodau eraill). Gall Senedd y DU newid y sefyllfa ddiofyn hon os yw’n dymuno gwneud hynny pan fydd yn creu swyddogaethau newydd i wneud, cadarnhau neu gymeradwyo is-ddeddfwriaeth.

108.Mae pum amod ar gyfer cymhwyso’r gofyniad cydsyniad mewn geiriau tebyg ym mhob adran, gyda’r gwahaniaethau yn ymwneud â’r math o ddeddfwriaeth a gwmpesir gan bob adran. Mae adran 14 yn cwmpasu is-ddeddfwriaeth a wneir gan un o Weinidogion y Goron ac mae adran 15 yn cwmpasu is-ddeddfwriaeth a gymeradwyir neu a gadarnheir gan un o Weinidogion y Goron.

109.Mae adrannau 14 a 15 yn gymwys pan fo pob un o amodau 1, 2 a 3 wedi eu bodloni a bo amod 4 neu 5 wedi ei fodloni. Ni fyddai’r gofyniad i geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru yn codi pan fo’r is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud, ei chadarnhau neu ei chymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

110.Mae amod 1 yn gysylltiedig â therfynau cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Nid yw wedi ei fodloni pan na fo’r is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig fel y’i diffinnir yn adran 17. Felly, ni allai gofyniad ar gyfer cydsyniad Gweinidogion Cymru godi ar gyfer darpariaethau mewn is-ddeddfwriaeth sydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Er enghraifft, ni fyddai darpariaeth mewn pwnc nad yw wedi ei ddatganoli, megis bancio, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ac felly ni allai fodloni amod 1.

111.Mae amod 2 yn cyfyngu effaith adrannau 14 a 15 i gwmpas cyfraith yr UE fel y’i diffinnir yn adran 20(1) o’r Ddeddf. Mae’r diffiniad o gyfraith yr UE yn adran 20(1) yn gyson â’r diffiniad o “EU law” yn adran 158(1) o DLlC 2006.

112.Mae amod 3 yn cyfyngu adrannau 14 a 15 i is-ddeddfwriaeth a wneir drwy offeryn statudol. Yn adran 15 (sy’n gymwys i gymeradwyo a chadarnhau is-ddeddfwriaeth), mae hefyd yn amod bod y ddeddfwriaeth a gymeradwyir neu a gadarnheir i gael ei gwneud gan berson ac eithrio Gweinidogion Cymru.

113.Mae amod 4 yn cwmpasu sefyllfaoedd pan fo is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud, ei chymeradwyo neu ei chadarnhau o dan swyddogaethau newydd i wneud, cadarnhau neu gymeradwyo is-ddeddfwriaeth a roddir gan neu o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig. Er mwyn bodloni amod 4, rhaid i’r Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig sy’n rhoi’r swyddogaeth gael ei deddfu ar ôl y diwrnod y daw’r adran i rym. Pan fo’r swyddogaeth wedi ei rhoi mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig sydd wedi ei deddfu cyn i’r adran ddod i rym, nid yw amod 4 wedi ei fodloni. Hyd yn oed pan fo swyddogaeth yn cael ei harfer ar ôl i’r adran ddod i rym, os cafodd y Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig sy’n rhoi’r swyddogaeth ei deddfu cyn i’r adran ddod i rym, nid yw amod 4 wedi ei fodloni.

114.Mae amod 5 yn cwmpasu sefyllfaoedd pan fo is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud, ei chymeradwyo neu ei chadarnhau o dan swyddogaethau presennol a addesir gan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig a ddeddfir ar ôl i’r adrannau ddod i rym. Er mwyn bodloni amod 5, rhaid i’r addasiad olygu bod y swyddogaeth yn arferadwy fel bod is-ddeddfwriaeth a wneir, a gadarnheir neu a gymeradwyir yn cynnwys darpariaeth ddatganoledig na allai ei chynnwys yn flaenorol.

115.Mae adran 15(9) yn cadarnhau bod swyddogaeth o roi cydsyniad i is-ddeddfwriaeth wedi ei chynnwys o fewn cwmpas adran 15.

Adran 16 - Dyletswydd i adrodd ar arfer swyddogaethau o dan adrannau 14(1) a 15(1)

116.Rhaid i ddarpariaeth a wneir mewn is-ddeddfwriaeth y mae angen cydsyniad Gweinidogion Cymru ar ei chyfer o dan adrannau 14(1) a 15(1) fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, a gellid ei chynnwys mewn Deddf Seneddol. Mae adran 16 yn darparu dull adrodd i sicrhau bod y Cynulliad yn cael ei hysbysu’n rheolaidd wrth i Weinidogion Cymru arfer eu swyddogaethau o ran cydsyniad o dan adrannau 14(1) a 15(1) o’r Ddeddf.

117.Nid yw’r dull adrodd yn golygu ei bod yn ofynnol llunio adroddiad unigol mewn perthynas â phob cydsyniad unigol. Gallai adroddiad a osodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynnwys manylion mwy nag un cydsyniad, ar yr amod bod yr adroddiad yn cael ei osod o fewn 60 niwrnod i roi’r cydsyniad a bod yr adroddiad yn cynnwys y manylion gofynnol yn adran 16(2) mewn perthynas â phob cydsyniad.

118.Mae adran 16(3) yn sicrhau bod unrhyw ddiwrnodau pan fo Cynlluniad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu’n cael toriad am fwy na pedwar diwrnod yn cael eu hanwybyddu at ddibenion cyfrifo’r cyfnod 60 niwrnod y mae rhaid i adroddiad gael ei osod o’i fewn ar ôl rhoi cydsyniad. Mae hyn yn sicrhau nad yw’r cyfnod 60 niwrnod yn dod i ben tra na fo’r Cynulliad yn eistedd am gyfnod estynedig a fyddai’n atal Gweinidogion Cymru rhag gosod adroddiad.

Adran 17 – Ystyr cymhwysedd datganoledig

119.Mae adran 17 yn diffinio cymhwysedd datganoledig drwy gyfeirio at ddarpariaeth a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf gan y Cynulliad a ddeddfir ar y diwrnod y daw’r adran hon i rym. Mae hyn yn cadarnhau’r terfynau o ran cymhwysedd deddfwriaethol, ond mae hefyd yn golygu y gall rheoliadau o dan yr adrannau penodedig hefyd wneud darpariaeth y gallai Deddf gan y Cynulliad ei gwneud, gan gynnwys addasu deddfwriaeth sylfaenol a dirprwyo’r pŵer i wneud rheoliadau. Cadarnheir y ffaith y gellir defnyddio’r pwerau i addasu deddfwriaeth sylfaenol yn yr adrannau perthnasol.

120.Wrth asesu cymhwysedd datganoledig o dan adran 17(1), byddai hyn yn cynnwys ystyried y cyfyngiad ar wneud deddfwriaeth sy’n anghydnaws â chyfraith yr UE a geir yn adran 108(6)(c) o DLlC 2006. Fodd bynnag, ni fyddai’r cyfyngiad yn adran 108(6)(c) yn berthnasol i unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau sydd i gael effaith ar neu ar ôl y diwrnod ymadael gan y byddai’r Cytuniadau (fel y’u diffinnir yn adran 20(5)) wedi peidio â bod yn gymwys. Er enghraifft, ni all rheoliadau a wneir o dan adran 3 ddod i rym cyn y diwrnod ymadael ac felly ar adeg pan fo’r Cytuniadau yn gymwys i’r DU. Felly, ni allai’r cyfyngiad yn adran 108(6)(c) fod yn gymwys i’r rheoliadau. Mae’r sefyllfa yn wahanol i reoliadau o dan adrannau 9 a 10 gan y gall rheoliadau o’r fath ddod i rym cyn y diwrnod ymadael. Fodd bynnag, byddai unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau a wneir o dan adrannau 9 a 10 sydd i ddod i rym cyn y diwrnod ymadael yn ddarostyngedig i’r cyfyngiad yn adran 108(6)(c)..

121.Mae is-adran (2) yn darparu diffiniad gwahanol o gymhwysedd datganoledig at ddiben adrannau 11, 14 a 15, y bwriedid iddo weithredu pe bai’r adran yn dod i rym cyn 1 Ebrill 2018. Mae’r diffiniad yn adlewyrchu’r diwygiadau a wnaed i bwerau deddfwriaethol y Cynulliad gan Ddeddf Cymru 2017. Cyn 1 Ebrill 2018, mae’r setliad datganoli y darparwyd ar ei gyfer o dan adran 108 o DLlC 2006, ac Atodlen 7 iddi, i fod yn gymwys. Ar ac ar ôl 1 Ebrill 2018, mae darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig at ddiben adrannau 11, 14 a 15 os gellid cynnwys y ddarpariaeth mewn Deddf gan y Cynulliad o dan y setliad datganoli cyfredol a’r setliad datganoli newydd y darperir ar ei gyfer o dan Ddeddf Cymru 2017. Yr effaith y bwriedid i hyn ei chael oedd y byddai unrhyw ostyngiadau yng nghymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad o ganlyniad i Ddeddf Cymru 2017 yn gymwys i adrannau 11, 14 a 15 ac na fyddai unrhyw gynnydd yng nghymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn rhinwedd Deddf Cymru 2017 yn gymwys.

Adran 18 – Rheoliadau i barhau i gael effaith

122.Mae’r pwerau i wneud rheoliadau o dan adrannau 3, 4, 5, 9, 10 ac 11 i gyd wedi eu cyfyngu o ran amser. Fodd bynnag, mae adran 16 yn egluro, er bod y pwerau yn y Ddeddf yn dod i ben, nad yw unrhyw reoliadau a wneir odanynt yn dod i ben.

Adran 19 ac Atodlen 2 – Rheoliadau

123.Mae adran 19(2) yn darparu y caiff y pwerau i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol neu ardaloedd gwahanol. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, bennu diwrnod ymadael gwahanol at ddibenion gwahanol, ped ystyrid bod hynny’n briodol.

124.Mae’r holl reoliadau a wneir o dan y Ddeddf yn ddarostyngedig i’r un fframwaith craffu a nodir o dan Atodlen 2. Mae Atodlen 2 yn darparu ar gyfer tair gweithdrefn wahanol ar gyfer craffu ar reoliadau a wneir o dan y Ddeddf. Y weithdrefn gadarnhaol, fel y’i nodir ym mharagraff 3, yw’r weithdrefn safonol. Mae’r weithdrefn hon yn gymwys i’r holl reoliadau a wneir o dan y Ddeddf, ac eithrio’r rheini sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn frys neu’r weithdrefn uwch.

125.Mae’r weithdrefn uwch wedi ei nodi ym mharagraff 4 ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i reoliadau sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gael eu gwneud ac wedyn eu gosod gerbron y Cynulliad. Bydd y rheoliadau yn peidio â chael effaith ar ôl cyfnod o 30 o ddiwrnodau ar ôl cael eu gwneud oni bai bod y rheoliadau wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan y Cynulliad yn ystod y cyfnod o 30 o ddiwrnodau. Wrth osod yr offeryn (ar ôl ei wneud) rhaid i Weinidogion Cymru hefyd osod datganiad gan egluro amgylchiadau’r brys a pham y mae’n angenrheidiol i’r rheoliadau fod yn ddarostyngedig i’r weithdrefn frys.

126.Mae’r weithdrefn frys yn gymwys i reoliadau sy’n cynnwys datganiad bod Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, fod angen gwneud y rheoliadau heb osod na chymeradwyo drafft. Ni all rheoliadau a wneir o dan adrannau 11, 12 a 22 fod yn ddarostyngedig i’r weithdrefn frys a rhaid craffu arnynt ym mhob achos yn unol â’r weithdrefn uwch a nodir ym mharagraff 1.

127.Y weithdrefn sydd â’r potensial ar gyfer y craffu mwyaf yw’r weithdrefn uwch fel y’i nodir ym mharagraff 1. Ar wahân i reoliadau a wneir o dan adran 11, 12 neu 22, mae’r weithdrefn graffu i’w chymhwyso yn seiliedig ar gynnwys y rheoliadau yn hytrach na’r pŵer y gwneir y rheoliadau odano. Mae’r holl reoliadau a wneir o dan adran 11, 12 neu 22 o’r Ddeddf yn ddarostyngedig i’r weithdrefn uwch a nodir ym mharagraff 1. Mae paragraff 1(1) yn rhestru’r rheoliadau sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn uwch.

128.O dan y weithdrefn uwch, caiff y Cynulliad gymhwyso’r weithdrefn gadarnhaol safonol i unrhyw reoliadau sy’n dod o fewn paragraff 1(1) ac eithrio’r rheini a wneir o dan adrannau 12 neu 22. Caiff y Cynulliad ddewis y weithdrefn hon drwy gymeradwyo drafft o’r rheoliadau drwy benderfyniad ar ôl i 40 o ddiwrnodau ddod i ben ers i’r rheoliadau drafft gael eu gosod gan Weinidogion Cymru. Mae’r weithdrefn uwch lawn fel y’i nodir ym mharagraff 1(6) i (14) yn gymwys i unrhyw reoliadau a wneir o dan adrannau 12 neu 22.

129.Caiff y Cynulliad benderfynu cymhwyso’r weithdrefn uwch at reoliadau drafft sy’n dod o fewn paragraff 1(1) drwy benderfynu o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau ar ôl eu gosod y dylai’r weithdrefn fod yn gymwys. Caiff pwyllgor yn y Cynulliad a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft argymell o fewn yr un cyfnod o 30 o ddiwrnodau y dylai’r weithdrefn uwch fod yn gymwys. Os ceir argymhelliad o’r fath, mae’r weithdrefn uwch i fod yn gymwys oni bai bod y Cynulliad yn gwrthod yr argymhelliad drwy benderfyniad o fewn yr un cyfnod o 30 o ddiwrnodau.

130.Pan fo’r weithdrefn uwch yn gymwys, mae paragraff 1(6) i (14) yn nodi’r weithdrefn i’w dilyn. Gweithdrefn dau gam yw hon pan gaiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r rheoliadau drafft. Y cam cychwynnol yw cyfnod o 60 o ddiwrnodau ar ôl gosod y rheoliadau drafft pan ganiateir i sylwadau gael eu cyflwyno, caiff y Cynulliad basio penderfyniadau a chaiff pwyllgor yn y Cynulliad a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft wneud argymhellion. Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried pob sylw, penderfyniad ac argymhelliad o’r fath. Ar ôl gosod datganiad o dan baragraff 1(7), caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ar ffurf y rheoliadau drafft os y’u cymeradwyir drwy benderfyniad gan y Cynulliad. Pan fo Gweinidogion Cymru yn dymuno gwneud newidiadau sylweddol i’r rheoliadau drafft, rhaid iddynt osod gerbron y Cynulliad y rheoliadau drafft diwygiedig a datganiad yn unol â pharagraff 1(11)(b). Gall Gweinidogion Cymru wneud y rheoliadau drafft diwygiedig os y’u cymeradwyir drwy benderfyniad gan y Cynulliad.

131.Mae paragraff 1(9) a (13) yn galluogi pwyllgor yn y Cynulliad i argymell nad oes unrhyw drafodion pellach mewn cysylltiad â’r rheoliadau drafft neu’r rheoliadau drafft diwygiedig. Pan fo argymhelliad o’r fath wedi ei wneud, ni chaniateir unrhyw drafodion pellach mewn cysylltiad â’r rheoliadau drafft neu’r rheoliadau drafft diwygiedig oni bai bod yr argymhelliad wedi ei wrthod drwy benderfyniad gan y Cynulliad. Mae hyn yn golygu, heb i’r Cynulliad wrthod yr argymhelliad, na all Gweinidogion Cymru wneud y rheoliadau drafft neu’r rheoliadau drafft diwygiedig.

132.Mae paragraff 2(1) a (2) yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr achosion pan na chaiff Gweinidogion Cymru ddatgelu sylwadau, a phan nad oes angen iddynt ddatgelu sylwadau, a gyflwynir am reoliadau drafft neu reoliadau drafft diwygiedig o dan baragraff 1. Fodd bynnag, nid yw’r ddarpariaeth ym mharagraff 2(1) a (2) yn gweithredu i atal Gweinidogion Cymru rhag datgelu i bwyllgor yn y Cynulliad a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft neu’r rheoliadau drafft diwygiedig.

133.Mae adran 14 o DD 1978 yn darparu, pan fo Deddf yn rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, ei bod yn ymhlygu, onid ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb, fod pŵer, sy’n arferadwy yn yr un modd ac sy’n ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau, i ddirymu, diwygio neu ailddeddfu unrhyw offeryn a wneir o dan y pŵer. Mae hyn yn darparu bod unrhyw offeryn dirymu, diwygio neu ailddeddfu yn ddarostyngedig i’r un gofynion craffu sy’n gymwys i’r offeryn gwreiddiol. Mae paragraff 5 yn darparu bwriad i’r gwrthwyneb at ddibenion adran 14 o DD 1978. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith mai cynnwys y rheoliadau (ac eithrio rheoliadau a wneir o dan adran 11) sy’n llywodraethu’r trefniadau craffu sy’n gymwys o dan Atodlen 2. Felly, efallai y bydd yn ofynnol diwygio offeryn gwreiddiol, a wneir o dan y weithdrefn safonol, o dan y weithdrefn frys yn ddiweddarach. Mae paragraff 5 yn galluogi i hyn ddigwydd.

134.Mae paragraff 6 yn adlewyrchu’r posibilrwydd y caiff offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hefyd gynnwys rheoliadau a wneir o dan bŵer gwahanol sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol. Mae paragraff 6 yn darparu mai’r trefniadau craffu a nodir yn y Ddeddf sy’n gymwys o dan amgylchiadau o’r fath.

Adran 20 – Dehongli cyffredinol

135.Mae’r nodiadau esboniadol eisoes wedi amlygu nifer o’r termau a ddiffinnir yn adran 20 drwy gyfeirio at y darpariaethau y maent yn berthnasol iddynt.

136.Mae ‘diwrnod ymadael’ yn derm allweddol yn y Ddeddf ac fe’i diffinnir yn adran 20(1). Mae i’w benodi mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Mae Erthygl 50(3) o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd yn darparu y bydd y Cytuniadau yn peidio â bod yn gymwys i’r DU o’r dyddiad y daw’r cytundeb ymadael i rym neu, os na ddigwydd hynny, ddwy flynedd ar ôl yr hysbysiad o dan Erthygl 50(2). Mae Erthygl 50(3) yn mynd yn ei blaen i ddarparu y caiff y Cyngor Ewropeaidd, drwy gytuno â’r DU, benderfynu’n unfrydol i estyn y cyfnod hwn.

137.Ar 29 Mawrth 2017, hysbysodd y DU y Cyngor Ewropeaidd am ei bwriad i ymadael â’r UE. Os na chytunir ar gytundeb ymadael yn gyntaf neu os na chytunir ar estyniad rhwng y DU a’r Cyngor Ewropeaidd, bydd y Cytuniadau yn peidio â bod yn gymwys am 11:00pm ar 29 Mawrth 2019. Diffinnir ‘Treaties’ yn Erthygl 1 o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd fel y Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd a’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

138.Mae gadael penodi’r diwrnod ymadael i reoliadau yn adlewyrchu’r posibiliadau y darparwyd ar eu cyfer o dan Erthygl 50(2) o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd. Wrth wneud rheoliadau sy’n pennu’r diwrnod ymadael, rhaid i Weinidogion Cymru gadw at y gofynion a nodir yn adran 20(4).

139.Yn gyntaf, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r diwrnod a benodir at yr un dibenion neu at ddibenion tebyg mewn neu o dan Ddeddf gan Senedd y DU i roi effaith i ymadawiad y DU â’r UE. Os caiff ei basio, bydd y diwrnod ymadael a bennir yn y Bil i Ymadael â’r UE sydd gerbron Senedd y DU ar hyn o bryd yn dod yn berthnasol i arfer pŵer Gweinidogion Cymru i benodi diwrnod ymadael at ddibenion y Ddeddf. Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru fabwysiadu’r un diwrnod ymadael.

140.Mae’r ail ofyniad yn adran 20(4) yn darparu na all Gweinidogion Cymru bennu’r diwrnod ymadael ar adeg pan fo’r Cytuniadau yn dal i fod yn gymwys i’r DU. Mae Erthygl 50 o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd yn darparu ar gyfer ymadawiad Aelod-wladwriaethau â’r UE ac mae Erthygl 50(3) yn darparu ar gyfer yr adeg pan fo’r Cytuniadau i beidio â bod yn gymwys i Aelod-wladwriaeth. Felly, mae adran 20(4)(b) yn sicrhau na all y diwrnod ymadael ond bod yn adeg ar ôl i’r Cytuniadau beidio â bod yn gymwys i’r DU yn unol ag Erthygl 50(3). Ni allai Gweinidogion Cymru bennu dyddiad pan fo’r Cytuniadau yn dal i fod yn gymwys oherwydd y cyfyngiad ar wneud deddfwriaeth sy’n anghydnaws â chyfraith yr UE a geir yn adran 80(8) o DLlC 2006, ond mae adran 20(4)(b) yn cadarnhau’r sefyllfa hon. Y Cytuniadau at ddibenion adran 20(4)(b), sy’n gyson â’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd, yw’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd a’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, ond yn rhinwedd adran 20(7) mae hefyd yn dal Cytuniad Euratom.

141.Mae adran 20(2) yn cynnwys darpariaeth bellach sy’n berthnasol i’r diffiniad o’r diwrnod ymadael. Mae nifer o’r darpariaethau yn y Ddeddf yn gweithredu gan gyfeirio at cyn, ar ôl neu ar y diwrnod ymadael. Mae adran 20(2) yn egluro’r union adeg y mae cyfeiriadau o’r fath i’w darllen. Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi amser yn ogystal â diwrnod fel y diwrnod ymadael, mae cyfeiriadau i’w darllen yn unol â’r amser a bennir. Er enghraifft, os yw Gweinidogion Cymru yn penodi 11:00pm ar 29 Mawrth 2019, mae cyfeiriad yn y Ddeddf at reoliadau yn dod i rym ar y diwrnod ymadael i’w ddarllen fel cyfeiriad at y rheoliadau hynny yn dod i rym am 11:00pm ar 29 Mawrth 2019. Pan na fo Gweinidogion Cymru yn penodi amser yn ogystal â diwrnod fel y diwrnod ymadael, mae unrhyw gyfeiriad at y diwrnod ymadael yn y Ddeddf i’w ddarllen fel cyfeiriad at ddechrau’r diwrnod hwnnw.

Adran 22 – Diddymu’r Ddeddf hon

142.Caniateir i’r pŵer yn adran 22 gael ei ddefnyddio i ddiddymu’r Ddeddf yn ei chyfanrwydd neu unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf. Mae rheoliadau a wneir o dan adran 22 yn ddarostyngedig i’r weithdrefn uwch fel y’i nodir ym mharagraff 1(6) i (14).

Adran 23 – Enw byr

143.Enw byr y Ddeddf yw ‘Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018’

5

Achos 26/62 NV Algemene Transporten Expeditie Onderneming van Gend en Loos v Nederlandse Administratie der Belastingen.

6

Erthygl 288 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

7

Er enghraifft, nid yw Penderfyniad y Comisiwn 2011/753/EU, sy’n sefydlu’r rheolau a’r dulliau ar gyfer cyfrifo targedau ailddefnyddio ac ailgylchu a nodir yn y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff, wedi ei weithredu drwy ddeddfwriaeth benodol yn y DU, ond mae ar gael mewn cyfraith ddomestig drwy adran 2(1) o DCE 1972.

8

Er enghraifft, mae Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3154 (Cy. 282)) yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC dyddiedig 14 Mehefin 2007 sy’n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy’n esemptio’r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a dileu penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac sy’n diddymu Penderfyniad 2005/598/EC.

9

Erthygl 290(1) o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

10

Erthygl 291(2) o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

11

Mae Erthygl 2(b) o Gytundeb yr AEE yn diffinio gwladwriaethau Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop fel Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Liechtenstein a Theyrnas Norwy.

12

Casa Fleischhandels, Achos 215/88.

16

Erthygl 263 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

17

Gweler adran 107(4) o DLlC 2006.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill