xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018

2018 dccc 1

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch diddymu’r hawl i brynu, yr hawl i gaffael a hawliau cysylltiedig; ac at ddibenion cysylltiedig.

[24 Ionawr 2018]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

1TrosolwgLL+C

(1)Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau’r Ddeddf hon.

(2)Mae adran 2 yn cyfyngu ar arfer yr hawl i brynu hyd nes i’r hawl honno gael ei diddymu (gweler adran 6); ac mae adran 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer eithriadau i’r cyfyngiad hwnnw.

(3)Mae adran 4 yn cyfyngu ar arfer yr hawl i gaffael hyd nes i’r hawl honno gael ei diddymu (gweler adran 6); ac mae adran 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer eithriad i’r cyfyngiad hwnnw.

(4)Mae adran 6 yn gwneud darpariaeth i’r hawl i brynu a’r hawl i gaffael beidio â bodoli yng Nghymru.

(5)Mae adran 7 yn dileu pŵer Gweinidogion Cymru i roi grantiau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a darparwyr preifat cofrestredig tai cymdeithasol mewn cysylltiad â disgowntiau a roddir i denantiaid sy’n prynu eu hanheddau.

(6)Mae adran 8—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu gwybodaeth i landlordiaid a phersonau eraill sydd â buddiant ynglŷn â newidiadau i’r gyfraith a wneir gan y Ddeddf hon, a

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid roi gwybod i’w tenantiaid am y newidiadau hynny.

(7)Mae adrannau 9, 10, 11 a 12 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ynglŷn â’r Ddeddf; effaith adran 11 yw—

(a)bod adran 8 (darparu gwybodaeth) yn dod i rym pan geir y Cydsyniad Brenhinol,

(b)bod adrannau 2 i 5 (cyfyngu ar arfer yr hawliau) yn dod i rym ddau fis ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol, ac

(c)y caniateir dod ag adrannau 6 a 7 (diddymu’r hawliau etc.) i rym drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol heb fod yn gynharach na deuddeg mis ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)

Cyfyngiad ar arfer yr hawl i brynu a’r hawl i gaffaelLL+C

F12Cyfyngiad ar arfer yr hawl i brynuLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F23Eithriadau i’r cyfyngiad ar arfer yr hawl i brynuLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F34Cyfyngiad ar arfer yr hawl i gaffaelLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F45Eithriad i’r cyfyngiad ar arfer yr hawl i gaffaelLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diddymu’r hawl i brynu a’r hawl i gaffaelLL+C

6Diddymu’r hawl i brynu a’r hawl i gaffaelLL+C

(1)Nid yw’r hawliau a ganlyn yn bodoli mwyach mewn perthynas ag anheddau yng Nghymru—

(a)yr hawl i gaffael rhydd-ddaliad tŷ annedd, na’r hawl i gael les ar dŷ annedd, yn unol â Rhan 5 o Ddeddf Tai 1985 (Housing Act 1985 (c. 68)) (yr hawl i brynu);

(b)yr hawl i gaffael annedd yn unol ag adran 16 o Ddeddf Tai 1996 (Housing Act 1996 (c. 52)) (yr hawl i gaffael).

(2)Yn unol â hynny, diddymir y deddfiadau a ganlyn—

(a)adrannau 2 a 3 o’r Ddeddf hon (cyfyngiad ar arfer yr hawl i brynu etc.), ac adrannau 121ZA, 121ZB a 171B(7) o Ddeddf Tai 1985 (a fewnosodir gan adrannau 2 a 3 o’r Ddeddf hon);

(b)adrannau 4 a 5 o’r Ddeddf hon (cyfyngiad ar arfer yr hawl i gaffael etc.), ac adrannau 16B, 16C ac 21(2A) o Ddeddf Tai 1996 (a fewnosodir gan adrannau 4 a 5 o’r Ddeddf hon);

(c)adran 8 o’r Ddeddf hon.

(3)Mae Atodlen 1 (sy’n gwneud diwygiadau a diddymiadau canlyniadol) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(3)

I3A. 6 mewn grym ar 26.1.2019 gan O.S. 2018/100, ergl. 2(a) (ynghyd ag ergl. 3)

Grantiau disgowntLL+C

7Dileu’r pŵer i roi grantiau mewn cysylltiad â disgowntiauLL+C

(1)Mae Deddf Tai 1996 (Housing Act 1996 (c. 52)) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Mae adran 21 (grant prynu gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwaredu anheddau am bris gostyngol ac eithrio yn unol â’r hawl i gaffael) wedi ei diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(3)

I5A. 7 mewn grym ar 26.1.2019 gan O.S. 2018/100, ergl. 2(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaidLL+C

F58Gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaidLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

CyffredinolLL+C

9Pŵer drwy reoliadau i wneud diwygiadau canlyniadol etc.LL+C

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, ddarfodol neu drosiannol neu unrhyw ddarpariaeth arbed y maent yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus o ganlyniad i, neu at ddiben rhoi effaith lawn i, unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon neu unrhyw ddarpariaeth a wneir oddi tani (pa un ai o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) neu oddi tani, neu fel arall).

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 9 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)

10Darparieth bellach ynghylch rheoliadau o dan adran 9LL+C

(1)Mae’r pŵer yn adran 9 i wneud rheoliadau yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Caiff rheoliadau o dan adran 9 ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth o’r Ddeddf hon).

(3)Os yw’r is-adran hon yn gymwys, ni chaniateir i reoliadau o dan adran 9 gael eu gwneud oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(4)Mae is-adran (3) yn gymwys pan fo rheoliadau o dan adran 9 yn diwygio, yn addasu neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, pa un a yw’r offeryn statudol yn cynnwys unrhyw reoliadau eraill ai peidio.

(5)Pan na fo is-adran (3) yn gymwys, mae rheoliadau o dan adran 9 yn ddarostyngedig i’w diddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 10 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)

11Dod i rymLL+C

(1)Daw’r adran hon ac adrannau 1, 8, 9, 10 a 12 i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw adrannau 2 i 5 i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(3)Daw adrannau 6 a 7 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(4)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru bennu diwrnod i unrhyw un neu ragor o adrannau 6 neu 7 ddod i rym sydd cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(5)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon wneud darpariaeth ddarfodol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod ag unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 11 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)

12Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 12 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)

(a gyflwynir gan adran 6(3))

ATODLEN 1LL+CDIWYGIADAU A DIDDYMIADAU CANLYNIADOL

Deddf Cyllid 1981 (Finance Act 1981 (c. 35))LL+C

1(1)Mae Deddf Cyllid 1981 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 107 (awdurdodau lleol yn gwerthu tai am bris gostyngol), hepgorer is-adran (3C).

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(3)

I11Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 26.1.2019 gan O.S. 2018/100, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)

Deddf Tai 1988 (Housing Act 1988 (c. 50))LL+C

2(1)Mae Deddf Tai 1988 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 81 (cydsyniad yn ofynnol ar gyfer gwarediadau dilynol penodol), yn is-adran (8), ym mharagraff (ab), hepgorer y geiriau o “or Part I” i ddiwedd y paragraff.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(3)

I13Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 26.1.2019 gan O.S. 2018/100, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)

Deddf Tai 1996 (Housing Act 1996 (c. 52))LL+C

3(1)Mae Deddf Tai 1996 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 10 (gosod anheddau a gwarediadau eraill nad yw’n ofynnol cael cydsyniad Gweinidogion Cymru iddynt), hepgorer is-adran (3).

(3)Mae adran 16 (hawl tenant i gaffael annedd) wedi ei diddymu.

(4)Mae adran 16A (estyn yr hawl i gaffael i anheddau a ariannwyd drwy grantiau o dan adran 27A) wedi ei diddymu.

(5)Mae adran 17 (hawl tenant i gaffael annedd: darpariaeth atodol) wedi ei diddymu.

(6)Mae adran 20 (grant prynu pan fo’r hawl i brynu’n cael ei arfer) wedi ei diddymu.

(7)Yn adran 24 (y gronfa enillion o warediadau), yn is-adran (2)—

(a)ym mharagraff (a)(i), hepgorer “section 16 above or”;

(b)hepgorer paragraff (b);

(c)ym mharagraff (c), hepgorer “(b) or”.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(3)

I15Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 26.1.2019 gan O.S. 2018/100, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)

Deddf Cyllid 2003 (Finance Act 2003 (c. 14))LL+C

4(1)Mae Deddf Cyllid 2003 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Atodlen 9 (treth dir y dreth stamp: hawl i brynu, lesoedd rhanberchnogaeth etc.), ym mharagraff 1 (trafodiadau’r hawl i brynu), hepgorer is-baragraff (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(3)

I17Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 26.1.2019 gan O.S. 2018/100, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)

Deddf Tai 2004 (Housing Act 2004 (c. 34))LL+C

5(1)Mae Deddf Tai 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 192 (hawl i brynu: atal drwy orchymyn llys), yn is-adran (3), yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)section 184 of the Housing and Regeneration Act 2008 (c. 17) (application of that Part in relation to the right to acquire a dwelling in England),.

(3)Yn adran 194 (datgelu gwybodaeth am orchmynion etc. mewn cysylltiad ag ymddygiad gwrthgymdeithasol), yn is-adran (4), yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)section 184 of the Housing and Regeneration Act 2008 (c. 17) (application of that Part in relation to the right to acquire a dwelling in England),.

(4)Mae adran 202 (hawl tenant sicr i gaffael annedd nad yw rhyddfraint ar y cyd yn effeithio arni) wedi ei diddymu.

(5)Mae adran 221 (estyn yr hawl i gaffael) wedi ei diddymu.

(6)Yn Atodlen 11 (landlordiaid cymdeithasol cofrestredig), hepgorer paragraffau 9 a 10.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(3)

I19Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 26.1.2019 gan O.S. 2018/100, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)

Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Housing and Regeneration Act 2008 (c. 17))LL+C

6(1)Mae Deddf Tai ac Adfywio 2008 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 62 (cyfeiriadau at Weinidogion Cymru), yn y tabl, yn y golofn gyntaf hepgorer y cyfeiriad at adran 17(1), (2)(b), (5)(b) a (6), ac yn yr ail golofn hepgorer y cofnod cyfatebol.

(3)Yn adran 63 (cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru), yn y tabl, yn y golofn gyntaf hepgorer y cyfeiriad at adran 17(7), ac yn yr ail golofn hepgorer y cofnod cyfatebol.

(4)Yn adran 149 (gwarediadau esempt), yn is-adran (8), hepgorer paragraff (b) (a’r “or” sy’n ei ragflaenu).

(5)Yn adran 181 (dehongli “publicly funded”), yn is-adran (6), ym mharagraff (b), yn lle “under section 16(4) of that Act” rhodder “by the Welsh Ministers”.

(6)Yn adran 184 (hawl i gaffael: atodol), yn lle is-adrannau (1) a (2) rhodder—

(1)The Secretary of State may by order—

(a)specify the amount or rate of discount to be given on the exercise of the right conferred by section 180, and

(b)designate rural areas in relation to dwellings in which the right conferred by that section does not arise.

(2)The provisions of Part 5 of the Housing Act 1985 apply in relation to the right to acquire under section 180—

(a)subject to any order under subsection (1) above, and

(b)subject to such other exceptions, adaptations and other modifications as may be specified by regulations made by the Secretary of State.

(3)The regulations may provide—

(a)that the powers of the Secretary of State under sections 164 to 170 of that Act (powers to intervene, give directions or assist) do not apply,

(b)that paragraphs 1 and 3 (exceptions for charities and certain housing associations), and paragraph 11 (right of appeal to Secretary of State), of Schedule 5 to that Act do not apply,

(c)that the provisions of Part 5 of that Act relating to the right to acquire on rent to mortgage terms do not apply,

(d)that the provisions of that Part relating to restrictions on disposals in National Parks etc. do not apply, and

(e)that the provisions of that Part relating to the preserved right to buy do not apply.

Nothing in this subsection affects the generality of the power conferred by subsection (2).

(4)The specified exceptions, adaptations and other modifications shall take the form of textual amendments of the provisions of Part 5 of that Act as they apply in relation to the right to buy under that Part; and any consolidating regulations shall set out the provisions of Part 5 as they so apply.

(5)Before making an order which would have the effect that an area ceased to be designated under subsection (1)(b), the Secretary of State shall consult—

(a)the local housing authority or authorities in whose district the area or any part of it is situated or, if the order is general in its effect, local housing authorities in general, and

(b)such bodies appearing to the Secretary of State to be representative of private registered providers as the Secretary of State considers appropriate.

(6)Regulations made under this section are consolidating regulations if they are made for the purposes of consolidating other regulations that are being revoked in the instrument containing the consolidating regulations.

(7)Mae adran 185 (hawl i gaffael: diwygiadau canlyniadol) wedi ei diddymu.

(8)Yn adran 320 (gorchmynion a rheoliadau), yn is-adran (7), ar ôl paragraff (a), mewnosoder—

(aa)an order or regulations of the Secretary of State under section 184,.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(3)

I21Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 26.1.2019 gan O.S. 2018/100, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)

Mesur Tai (Cymru) 2011 (mccc 5)LL+C

7(1)Mae Mesur Tai (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Mae Rhan 1 wedi ei diddymu.

(3)Yn adran 89 (gorchmynion), hepgorer is-adrannau (2) i (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(3)

I23Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 26.1.2019 gan O.S. 2018/100, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)

Deddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013 (Prevention of Social Housing Fraud Act 2013 (c. 3))LL+C

8(1)Mae Deddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 7 (rheoliadau ynglŷn â phwerau i fynnu gwybodaeth), yn is-adran (7), ym mharagraff (e)(ii) ar ôl “under section 16 of the Housing Act 1996”, mewnosoder “before the repeal of that section by the Abolition of the Right to Buy and Associated Rights (Wales) Act 2017 came into force”.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(3)

I25Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 26.1.2019 gan O.S. 2018/100, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1)LL+C

9(1)Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Atodlen 2, ym mharagraff 8 (ystyr “tenantiaeth hir”), yn is-baragraff (1)(c), yn lle “fel y mae’n cael effaith” rhodder “fel yr oedd y Rhan honno yn cael effaith”.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(3)

I27Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 26.1.2019 gan O.S. 2018/100, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)