Rhagarweiniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 18 Gorffennaf 2017 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 07 Medi 2017. Fe’u lluniwyd gan Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru i gynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf.

2.Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohono. Ni fwriedir iddynt fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Ddeddf. Pan fo adran o’r Ddeddf yn hunanesboniadol ac nid oes angen unrhyw esboniad neu sylw pellach, nis rhoddir.

Trosolwg O’R Ddeddf

3.Mae Deddf yr Undebau Llafur 2016 (Trade Union Act 2016 (c. 15)) (“Deddf 2016”) yn mewnosod darpariaethau yn Neddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (Trade Union and Labour Relations (Consolidation) Act 1992 (c. 52)) (“Deddf 1992”). Mae’r Ddeddf hon yn diwygio darpariaethau Deddf 1992 a fewnosodwyd gan adrannau 3, 13, 14 a 15 o Ddeddf 2016 er mwyn eu datgymhwyso i’r graddau y maent yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus penodol a ddarperir gan awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymreig, neu’n ymwneud yn fwy cyffredinol â gweithrediadau awdurdodau o’r fath.

4.Mae’r Ddeddf hefyd yn gwahardd awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymreig rhag defnyddio gweithwyr a gyflenwir gan fusnes cyflogaeth (a elwir yn gyffredin yn weithwyr asiantaeth), i gyflawni dyletswyddau staff sy’n cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol swyddogol.

Cefndir Polisi

5.Yn ystod hynt y Bil a ddaeth yn Ddeddf 2016 drwy Senedd y Deyrnas Unedig, ystyriodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, a’i wrthwynebu, gan atal cydsyniad i Lywodraeth y DU ddeddfu ar gymalau sy’n ymwneud ag awdurdodau cyhoeddus Cymreig. Roedd y darpariaethau y gwnaeth y Cynulliad Cenedlaethol atal cydsyniad ar eu cyfer yn ymwneud â throthwy cefnogaeth cyffredinol ar gyfer ‘gwasanaethau cyhoeddus pwysig’, amser cyfleuster a threfniadau ar gyfer didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres.

6.Mae Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 yn datgymhwyso adrannau 3, 13, 14 a 15 o Ddeddf 2016 fel y maent yn gymwys i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Y diben yw dileu’r darpariaethau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu bod yn groes i’w dull o weithredu ar sail partneriaethau cymdeithasol wrth reoli’r sector cyhoeddus, er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r dull partneriaethau cymdeithasol yn golygu bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau datganoledig Cymreig, a gweision sifil a gweithwyr y cyrff hynny, yn gweithio ar y cyd i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

7.Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y bydd effaith Deddf yr Undebau Llafur 2016 yn un a fydd yn effeithio ar ei dull partneriaethau cymdeithasol, yn arwain at berthnasau mwy gwrthdrawiadol rhwng cyflogwyr a gweithwyr, ac yn tanseilio’r ffordd y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu yn y pen draw. Mae llwyddiant y model o weithredu ar sail partneriaethau cymdeithasol yn dibynnu ar gydbwysedd priodol yn y perthnasau rhwng y partneriaid ac yn benodol rhwng undebau llafur a chyflogwyr.

8.Mae’r Ddeddf yn gwahardd awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymreig rhag defnyddio gweithwyr asiantaeth i gyflawni dyletswyddau staff sy’n cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol swyddogol. Y bwriad yw diogelu’r model partneriaethau cymdeithasol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhag arferion a allai danseilio perthnasau diwydiannol.

Cefndir Deddfwriaethol

9.Mae’r brif ddeddfwriaeth ar undebau llafur a chymdeithasau cyflogwyr wedi ei chynnwys yn Neddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (Trade Union and Labour Relations (Consolidation) Act 1992 (c. 52)). Yn hanesyddol, roedd undebau llafur yn cael eu trin fel cyrff anghyfreithlon nad oeddynt er budd y cyhoedd. O dan y gyfraith gyffredin, ystyriwyd bod gweithiwr a oedd yn ymwneud â gweithredu diwydiannol yn euog o dorri ei gytundeb cyflogaeth. Roedd undeb llafur a oedd yn cymell gweithredu diwydiannol yn cyflawni camwedd y gellir dwyn achos yn ei gylch sy’n groes i’r athrawiaeth ar lesteirio masnach. Yn sgil diwygiadau undebau llafur rhwng yr 1800au a’r 1900au, cyflwynwyd deddfwriaeth a oedd yn rhoi “imiwneddau statudol” penodol ac a oedd yn drech na statws sefydledig y gyfraith gyffredin.

10.Cafodd y ddeddfwriaeth honno ei chydgrynhoi yn Neddf 1992 sy’n diffinio undebau llafur ac sy’n nodi’r fframwaith (gan gynnwys hawliau cyfreithiol a dyletswyddau cyfreithiol) y cânt weithredu oddi tano gan gynnwys ym mha amgylchiadau y caniateir ymgymryd â gweithredu diwydiannol.

11.Mae Deddf 2016 yn diwygio Deddf 1992 i wneud darpariaethau (ymhlith pethau eraill) ynghylch y gofynion pleidleisio ar gyfer gweithredu diwydiannol swyddogol ac yn mewnosod darpariaethau ynghylch amser cyfleuster yn y sector cyhoeddus a’r amgylchiadau pan ganiateir i gyflogwyr y sector cyhoeddus ddidynnu taliadau tanysgrifio i undeb llafur o gyflog eu gweithwyr. Mae’r Ddeddf hon yn datgymhwyso’r darpariaethau hynny i’r graddau y maent yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir gan awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymreig, neu’n ymwneud yn fwy cyffredinol â gweithrediadau awdurdodau o’r fath.

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 1 - Diwygiadau i Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992

Dileu cyfyngiadau ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undeb llafur o gyflogau yn y sector cyhoeddus

12.Mae adran 1(2) yn darparu nad yw adran 116B o Ddeddf 1992 (a fewnosodwyd gan adran 15 o Ddeddf 2016), sy’n cyfyngu ar yr amgylchiadau pan ganiateir didynnu taliadau tanysgrifio i undeb llafur o gyflogau gweithwyr yn y sector cyhoeddus, yn gymwys i awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymreig.

13.Mae rhai cyflogwyr yn didynnu tâl tanysgrifio i undeb llafur o gyflogau eu gweithwyr (cyfeirir at hyn fel didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres). Mae adran 116B yn gosod cyfyngiadau fel na chaniateir didyniadau o’r fath oni bai bod gan weithwyr yr opsiwn i dalu eu taliadau tanysgrifio i undeb drwy gyfrwng arall, a bod trefniadau wedi eu gwneud i’r undeb wneud taliadau rhesymol i’r cyflogwr o ran gwneud y didyniadau.

Datgymhwyso rheoliadau ynghylch amser cyfleuster i awdurdodau cyhoeddus Cymreig

14.Mae adran 1(3) yn darparu nad yw adrannau 172A a 172B o Ddeddf 1992 (fel y’u mewnosodwyd gan adrannau 13 a 14 o Ddeddf 2016) yn gymwys i awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymreig.

15.Mae adrannau 168 i 172 o Ddeddf 1992 yn gwneud darpariaeth ynghylch “amser cyfleuster”, sy’n amser i ffwrdd a ganiateir gan weithwyr at ddiben cyflawni dyletswyddau undebau llafur. Mewnosodwyd adrannau 172A a 172B, sy’n rhoi pwerau i Weinidog y Goron wneud rheoliadau ynghylch amser cyfleuster, gan adrannau 13 a 14 o Ddeddf 2016.

16.Caiff rheoliadau a wneir o dan adran 172A ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr y sector cyhoeddus gyhoeddi gwybodaeth am faint o amser cyfleuster a ganiateir. Mae adran 172B yn darparu y caiff Gweinidog y Goron, pan fo’n ystyried ei bod yn briodol, ac wrth roi sylw i faterion yn adran 172B(1), wneud rheoliadau i gapio’r ganran o gyfanswm bil tâl y cyflogwyr sy’n cael ei wario ar dalu swyddogion undebau am amser cyfleuster ac i gyfyngu ar hawliau swyddogion undebau i amser cyfleuster drwy ddiwygio darpariaethau yn adran 172B(4). Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan adran 172B oni fo’n dair blynedd ers i’r rheoliadau cyntaf o dan adran 172A ddod i rym.

Datgymhwyso’r trothwy o gefnogaeth 40% o’r aelodau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus pwysig mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus Cymreig

17.Mae adran 1(4) yn darparu na chaiff rheoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n diffinio “gwasanaethau cyhoeddus pwysig” at ddiben adran 226 o Ddeddf 1992 gynnwys gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymreig.

18.Mae adran 219 o Ddeddf 1992 yn darparu bod camau penodol a gymerir wrth ystyried neu fwrw ymlaen ag anghydfod masnachol wedi eu diogelu gan na ellir dwyn achos o gamwedd yn eu cylch. Mae adran 226 yn nodi’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni cyn y caiff undeb llafur ymgymryd â gweithredu diwydiannol yn y fath fodd fel ei fod yn denu imiwnedd o dan adran 219. Mae hynny’n cynnwys gofyniad bod yn rhaid cynnal pleidlais o aelodau’r undeb. Rhaid i o leiaf 50% (mwyafrif syml) o’r rheini sy’n pleidleisio fod o blaid gweithredu diwydiannol.

19.Mae Deddf 2016 yn diwygio adran 226 i gynnwys gofynion pellach y mae’n rhaid eu bodloni cyn bod yr imiwnedd statudol yn adran 219 yn gymwys. Mae adran 226(2)(iia) (a fewnosodwyd gan adran 2 o Ddeddf 2016) yn darparu bod yn rhaid i o leiaf 50% (mwyafrif syml) o’r rheini sydd â’r hawl i bleidleisio fwrw pleidlais; a phan fo’r rheini sydd â’r hawl i bleidleisio yn ymwneud â darparu gwasanaethau cyhoeddus pwysig, mae adran 226(2B) (a fewnosodwyd gan adran 3 o Ddeddf 2016) yn darparu bod yn rhaid i o leiaf 40% ohonynt bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol.

20.Felly, mae adran 226 yn ei gwneud yn ofynnol bellach fod yn rhaid i o leiaf 50% o’r holl aelodau sydd â’r hawl i bleidleisio arfer eu hawl i bleidleisio, a bod yn rhaid i o leiaf 50% o’r rheini sy’n pleidleisio fwrw pleidlais o blaid gweithredu. Er enghraifft, pan fo’r anghydfod yn effeithio ar 1000 o aelodau undeb, mae hynny’n golygu bod yn rhaid i o leiaf 500 o aelodau bleidleisio a bod yn rhaid i o leiaf 251 ohonynt bleidleisio o blaid gweithredu.

21.Mae adran 226(2B) yn gosod gofyniad pellach pan fo aelodau yn ymwneud â darparu gwasanaethau cyhoeddus pwysig sydd wedi eu diffinio mewn rheoliadau a wneir o dan adran 226(2D) gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Rhaid i o leiaf 40% o’r aelodau hynny sydd â’r hawl i bleidleisio fwrw pleidlais o blaid gweithredu diwydiannol. O ran yr enghraifft uchod, byddai angen i o leiaf 400 o aelodau bleidleisio o blaid gweithredu i’r imiwnedd statudol yn adran 219 fod yn gymwys.

22.Mae adran 226(2)(iia) yn gymwys o ran Cymru ond mae adran 1(2) o’r Ddeddf yn darparu nad yw is-adrannau 226(2B) i (2F) yn gymwys i awdurdodau datganoledig Cymreig.

Diffiniad o awdurdodau datganoledig Cymreig

23.Mae adran 1(5) yn diffinio’r awdurdodau cyhoeddus Cymreig y mae’r Ddeddf yn gymwys iddynt drwy gyfeirio at y diffiniad o “devolved Welsh authority” yn adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (a fewnosodwyd gan adran 4 o Ddeddf Cymru 2017). Yn yr adran honno, ystyr “devolved Welsh authority” yw awdurdod cyhoeddus a bennir yn Atodlen 9A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 neu sy’n arfer swyddogaethau sydd (a) yn arferadwy o ran Cymru yn unig a (b) yn swyddogaethau nad ydynt yn ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf â materion a gedwir yn ôl. Caniateir i Atodlen 9A gael ei diwygio gan Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor a gymeradwyir gan y Senedd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran 2 – Gwaharddiad ar ddefnyddio gweithwyr dros dro i gymryd lle staff yn ystod gweithredu diwydiannol

24.Mae adran 2 yn gwahardd awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymreig rhag cyflogi gweithiwr a gyflenwir gan fusnes cyflogaeth (a elwir yn gyffredin yn “weithwyr asiantaeth”) i gyflawni dyletswyddau arferol aelod o’i staff sy’n cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol, neu aelod o staff sy’n cyflawni dyletswyddau’r gweithiwr sy’n cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol.

25.Rhaid i’r gweithredu diwydiannol dan sylw fod yn “swyddogol” – sef cysyniad a ddiffinnir drwy gyfeirio at adran 237 o Ddeddf 1992.

26.Nid yw’r ddarpariaeth hon yn effeithio ar y gyfraith bresennol o ran ymddygiad busnesau cyflogaeth a nodir yn Neddf Asiantaethau Cyflogi 1973 neu Reoliadau Ymddygiad Asiantaethau Cyflogi a Busnesau Cyflogaeth 2003 (O.S. 2003/3319) a wnaed o dan adran 5 o’r Ddeddf honno. (Mae Rheoliad 7 o Reoliadau 2003 yn gwahardd busnesau cyflogaeth rhag cyflenwi gweithwyr yn lle staff sy’n cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol).

Cofnod Y Trafodion Yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

27.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

CyfnodDyddiad
Cyflwynwyd16 Ionawr 2017
Cyfnod 1 – Dadl9 Mai 2017
Cyfnod 2 – Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau15 Mehefin 2017
Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau11 Gorffennaf 2017
Cyfnod 4 – Cymeradwywyd gan y Cynulliad18 Gorffennaf 2017
Y Cydsyniad Brenhinol7 Medi 2017