Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 5DARPARIAETH ATODOL

PENNOD 1CREDYDAU TRETH

54Pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer credydau treth

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan fo person i fod â hawlogaeth i gredyd treth mewn cysylltiad â’r dreth.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—

(a)ynghylch amodau y mae hawlogaeth i gredyd i fod yn ddarostyngedig iddynt;

(b)ynghylch swm credyd;

(c)ynghylch y ffordd y mae person sydd â hawlogaeth i gredyd i gael budd ohono (er enghraifft, darpariaeth i dynnu didyniadau o’r dreth a fyddai fel arall i’w chodi ar berson, ac i daliadau gael eu rhoi i berson, mewn amgylchiadau a ragnodir yn y rheoliadau);

(d)ynghylch y weithdrefn ar gyfer hawlio credyd (er enghraifft, darpariaeth ynghylch gwybodaeth sydd i’w darparu gan hawlydd i ategu hawliad);

(e)ynghylch amodau y mae unrhyw fudd mewn cysylltiad â chredyd i fod yn ddarostyngedig iddynt, neu y caiff fod yn ddarostyngedig iddynt, (er enghraifft, amodau sy’n gwneud taliadau neu ad-daliadau i ACC yn ofynnol, o dan amgylchiadau a ragnodir yn y rheoliadau);

(f)ynghylch amgylchiadau y caiff ACC atal credyd oddi tanynt;

(g)sy’n caniatáu i ACC ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth a dogfennau gael eu darparu, ac yn caniatáu i ACC archwilio mangreoedd, naill ai mewn cysylltiad â gofyniad a osodir o dan y rheoliadau, neu fel arall at ddiben cadarnhau sefyllfa person o ran hawlogaeth i gredyd, neu o ran gofyniad i roi ad-daliad i ACC o dan y rheoliadau;

(h)ynghylch dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel;

(i)ar gyfer cosbau mewn cysylltiad ag achosion o fethu â chydymffurfio â gofynion a osodir gan y rheoliadau neu oddi tanynt;

(j)ynghylch adolygiadau ac apelau.

(3)Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

PENNOD 2MANNAU NAD YDYNT AT DDIBENION GWAREDU

55Dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu

(1)Caiff ACC ddynodi rhan o safle tirlenwi awdurdodedig yng Nghymru yn fan nad yw at ddibenion gwaredu drwy ddyroddi hysbysiad i weithredwr y safle.

(2)Rhaid i hysbysiad sy’n dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu bennu—

(a)y safle tirlenwi awdurdodedig y mae’n ymwneud ag ef,

(b)ffiniau’r man a ddynodir ganddo, ac

(c)y dyddiad y mae dynodiad y man yn cael effaith.

(3)Mewn perthynas â’r hysbysiad—

(a)rhaid iddo bennu’r disgrifiadau o ddeunydd y mae’n rhaid ei ddodi yn y man nad yw at ddibenion gwaredu,

(b)caiff bennu disgrifiadau o ddeunydd na chaniateir ei ddodi yn y man hwnnw,

(c)rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i bwysau unrhyw ddeunydd a ddodir yn y man neu a symudir ymaith o’r man gael ei ganfod drwy ddefnyddio dull a bennir yn yr hysbysiad,

(d)caiff bennu uchafswm y deunydd y caniateir ei gadw yn y man,

(e)rhaid iddo bennu’r gweithgarwch safle tirlenwi y caniateir ei gyflawni yn y man, ac

(f)rhaid iddo bennu’r cyfnod hwyaf y caniateir cadw deunydd yn y man.

(4)Caiff y ddarpariaeth a wneir gan yr hysbysiad o dan is-adran (3) gynnwys—

(a)darpariaeth sy’n ddarostyngedig i amodau neu eithriadau, a

(b)darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol (gan gynnwys disgrifiadau gwahanol o ddeunydd).

(5)Caiff ACC amrywio neu ganslo dynodiad o dan yr adran hon drwy ddyroddi hysbysiad pellach i weithredwr y safle.

(6)Mewn perthynas â hysbysiad sy’n amrywio neu’n canslo dynodiad—

(a)rhaid iddo nodi manylion yr amrywio neu’r canslo,

(b)rhaid iddo bennu’r dyddiad y mae’n cael effaith, ac

(c)caiff bennu’r camau y mae’n ofynnol i’r gweithredwr eu cymryd mewn cysylltiad â’r amrywio neu’r canslo, neu’r camau y caniateir iddo eu cymryd mewn cysylltiad â hynny.

(7)Caiff ACC wneud, amrywio neu ganslo dynodiad o dan yr adran hon—

(a)ar gais gweithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r dynodiad yn ymwneud ag ef, neu

(b)ar ei gymhelliad ei hun.

(8)Rhaid i gais i ddynodi, i amrywio neu i ganslo gael ei gyflwyno mewn ysgrifen.

(9)Os yw ACC yn gwrthod cais, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i weithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig.

(10)Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon er mwyn gwneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch yr hyn sydd i’w gynnwys mewn hysbysiad a ddyroddir o dan yr adran hon.

56Dyletswyddau gweithredwr mewn perthynas â man nad yw at ddibenion gwaredu

(1)Pan fo—

(a)hysbysiad mewn grym sy’n dynodi rhan o safle tirlenwi awdurdodedig yn fan nad yw at ddibenion gwaredu, a

(b)deunydd ar y safle sydd o ddisgrifiad a bennir yn yr hysbysiad fel deunydd y mae’n rhaid ei ddodi, neu na chaniateir ei ddodi, yn y man hwnnw,

rhaid i weithredwr y safle sicrhau yr ymdrinnir â’r deunydd yn unol â darpariaethau’r hysbysiad.

(2)Mae is-adran (1) yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â deunydd os gwneir gwarediad trethadwy o’r deunydd y tu allan i’r man nad yw at ddibenion gwaredu.

(3)Nid yw is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â deunydd—

(a)os yw gwarediad trethadwy o’r deunydd i’w wneud yn union ar ôl iddo gael ei gynhyrchu ar y safle tirlenwi awdurdodedig neu ei gludo iddo, neu

(b)os yw’r deunydd ar ei hynt rhwng lleoedd y tu allan i’r safle ac yn mynd i gael ei symud o’r safle ar unwaith.

(4)Nid yw’r is-adran honno yn gymwys ychwaith—

(a)os yw ACC yn cytuno mewn achos penodol y caniateir ymdrin â deunydd mewn modd nad yw’n unol â darpariaethau’r hysbysiad sy’n dynodi’r man nad yw at ddibenion gwaredu, a

(b)os ymdrinnir â’r deunydd yn unol â’r cytundeb.

(5)Mewn perthynas â chytundeb a roddir gan ACC o dan is-adran (4)(a)—

(a)caiff fod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau;

(b)caiff ddarparu bod unrhyw beth a wneir mewn perthynas â deunydd a nodir yn y cytundeb i’w drin fel pe bai wedi ei wneud mewn perthynas â deunydd arall o’r un disgrifiad ar y safle tirlenwi awdurdodedig;

(c)caiff ymwneud â phethau a wnaed cyn rhoi’r cytundeb os yw ACC wedi ei fodloni na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol i weithredwr y safle sicrhau ei gytundeb cyn i’r pethau hynny gael eu gwneud.

(6)Gweler adran 8(3)(g) am ddarpariaeth sy’n trin gwarediad trethadwy fel pe bai wedi ei wneud os cedwir deunydd mewn man nad yw at ddibenion gwaredu y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod hwyaf a bennir yn yr hysbysiad sy’n dynodi’r man, oni bai yr ymdrinnir â’r deunydd yn unol â chytundeb o dan is-adran (4)(a).

(7)Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon er mwyn gwneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch amgylchiadau pan na fo is-adran (1) yn gymwys (neu pan fo’n peidio â bod yn gymwys).

57Dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel

(1)Pan fo rhan o safle tirlenwi awdurdodedig wedi ei dynodi’n fan nad yw at ddibenion gwaredu, rhaid i weithredwr y safle gadw cofnodion sy’n ymwneud â deunydd a ddodir yn y man.

(2)Rhaid i’r cofnodion fod yn ddigonol i alluogi ACC i benderfynu pa un a yw’r gweithredwr yn cydymffurfio ag adran 56 mewn perthynas â’r deunydd, neu a yw wedi cydymffurfio â’r adran honno.

(3)Caiff ACC bennu—

(a)ar ba ffurf y mae’n rhaid cadw’r cofnodion, a

(b)yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddynt.

(4)Rhaid i’r gweithredwr storio’r cofnodion yn ddiogel hyd ddiwedd y cyfnod o 6 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y deunydd ei symud o’r man nad yw at ddibenion gwaredu, neu’r dyddiad y mae’n peidio â bod yn ddeunydd o ddisgrifiad y mae’n rhaid ei ddodi yn y man, pa un bynnag sydd gynharaf.

(5)Ond gall cytundeb a roddir o dan adran 56(4)(a) mewn perthynas â deunydd ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr storio’r cofnodion sy’n ymwneud â’r deunydd yn ddiogel am gyfnod o 6 blynedd sy’n dechrau â dyddiad gwahanol (boed gynharach neu ddiweddarach) i’r un a bennir yn is-adran (4).

(6)Gweler Pennod 2 o Ran 3 o DCRhT am ddyletswyddau eraill i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel sy’n gymwys pan gaiff gwarediad trethadwy ei drin fel pe bai wedi ei wneud yn rhinwedd adran 8(3)(g).

58Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â dynodi mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu

Yn adran 172 o DCRhT (penderfyniadau apeliadwy), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (i) (a fewnosodir gan adran 38 o’r Ddeddf hon) mewnosoder—

(j)penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;.

PENNOD 3YMCHWILIO A GWYBODAETH

59Pwerau archwilio

(1)Ar ôl adran 103 o DCRhT (pŵer ACC i archwilio mangre busnes) mewnosoder—

103APŵer pellach i archwilio mangre busnes: treth gwarediadau tirlenwi

(1)Os oes gan ACC sail dros gredu bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni, caiff ACC fynd i fangre busnes person ac archwilio—

(a)y fangre;

(b)asedau busnes sydd yn y fangre;

(c)dogfennau busnes perthnasol sydd yn y fangre (ond gweler adran 110).

(2)Yr amod cyntaf yw bod y person yn ymwneud neu wedi ymwneud mewn unrhyw rinwedd â gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy.

(3)Yr ail amod yw bod yr archwiliad o’r fangre yn ofynnol at ddiben gwirio sefyllfa person arall o ran treth gwarediadau tirlenwi mewn cysylltiad â’r gwarediad o dan sylw.

(4)Mae is-adrannau (2) i (7) o adran 103 yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan adran 103(1).

(5)Yn yr adran hon, ystyr “dogfennau busnes perthnasol” yw dogfennau busnes sy’n ymwneud â materion sy’n berthnasol i sefyllfa person o ran treth gwarediadau tirlenwi.

(6)Mae’r amgylchiadau pan fo ACC i’w drin fel pe bai ganddo sail dros gredu bod yr amod cyntaf wedi ei fodloni yn cynnwys (er enghraifft) amgylchiadau pan fo gan ACC sail dros gredu—

(a)bod y person, neu y bu’r person, yn ymwneud mewn unrhyw rinwedd â chael, â chludo neu â chyflenwi unrhyw ddeunydd at ddibenion sy’n gysylltiedig â gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy, neu sy’n baratoad ar gyfer hynny, neu

(b)bod y person, neu y bu’r person, yn ymwneud mewn unrhyw rinwedd â gwneud unrhyw ddeunydd yn destun unrhyw weithdrefn neu ddefnydd, neu fel arall ag ymdrin ag unrhyw ddeunydd neu wneud trefniadau mewn perthynas ag ef, at ddibenion sy’n gysylltiedig â gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy, neu sy’n baratoad ar gyfer hynny.

(7)Ni chaniateir cynnal archwiliad o fangre o dan yr adran hon os oes gan ACC y pŵer i gynnal yr archwiliad o dan adran 103B.

(8)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriadau at warediad deunydd yn cynnwys cyflawni gweithgarwch safle tirlenwi penodedig mewn perthynas â deunydd;

(b)mae i “deunydd”, “gweithgarwch safle tirlenwi penodedig” a “gwarediad trethadwy” yr un ystyr ag a roddir iddynt yn DTGT.

103BPŵer pellach i archwilio mangre: gwarediadau trethadwy a wneir yn rhywle ac eithrio safleoedd tirlenwi awdurdodedig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan ACC sail dros gredu—

(a)bod gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy wedi ei wneud yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, a

(b)ei bod yn ofynnol archwilio mangre sydd o fewn is-adran (3) at un neu ragor o’r dibenion a restrir yn is-adran (4).

(2)Caiff ACC fynd i’r fangre ac archwilio—

(a)y fangre, a

(b)unrhyw beth sydd yn y fangre (gan gynnwys dogfennau).

(3)Mae mangre o fewn yr is-adran hon os oes gan ACC reswm i gredu—

(a)y gwnaed y gwarediad ynddi, neu

(b)bod meddiannydd y fangre yn bodloni, neu y gallai fodloni, yr amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad.

(4)Y dibenion yw—

(a)penderfynu a wnaed y gwarediad yn y fangre;

(b)canfod natur neu darddiad y deunydd a waredwyd;

(c)canfod ar ba ddyddiad y gwnaed y gwarediad;

(d)penderfynu a yw’r gwarediad yn warediad trethadwy;

(e)pennu pwysau’r deunydd a waredwyd;

(f)pennu swm unrhyw dreth arfaethedig sydd i’w godi ar y gwarediad o dan DTGT;

(g)canfod person sy’n bodloni, neu a allai fodloni, yr amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad.

(5)Mae is-adrannau (2) i (7) o adran 103 yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan adran 103(1).

(6)Yn yr adran hon—

(a)mae i “safle tirlenwi awdurdodedig”, “deunydd” a “gwarediad trethadwy” yr un ystyron ag a roddir iddynt yn DTGT;

(b)mae i gyfeiriadau at berson yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth yr un ystyr ag ym Mhennod 2 o Ran 4 o DTGT.

(2)Yn adran 103 o DCRhT, ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(8)Ni chaniateir cynnal archwiliad o fangre o dan yr adran hon os oes gan ACC y pŵer i gynnal yr archwiliad o dan adran 103B.

60Datgelu gwybodaeth i ACC

(1)Caiff person o fewn is-adran (2) ddatgelu gwybodaeth i ACC at ddiben cynorthwyo ACC i gasglu a rheoli’r dreth.

(2)Y personau yw—

(a)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(b)Corff Adnoddau Naturiol Cymru.

(3)Nid yw datgeliad o dan yr adran hon yn torri—

(a)unrhyw rwymedigaeth gyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, neu

(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y caiff ei osod).

(4)Ond nid oes dim yn yr adran hon yn awdurdodi datgeliad—

(a)sy’n torri Deddf Diogelu Data 1998 (p. 29), neu

(b)a waherddir gan unrhyw un neu ragor o Rannau 1 i 7 neu Bennod 1 o Ran 9 o Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016 (p. 25).

(5)Hyd nes y bydd diddymiad Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (p. 23) gan baragraffau 45 a 54 o Atodlen 10 i Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016 (p. 25) mewn grym yn llwyr, mae is-adran (4)(b) yn cael effaith fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at y Rhan honno.

(6)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar unrhyw bŵer sydd gan unrhyw berson i ddatgelu gwybodaeth sy’n bodoli ar wahân i’r adran hon.

(7)Caiff rheoliadau ddiwygio is-adran (2) er mwyn ychwanegu, diwygio neu ddileu cyfeiriad at berson neu at ddisgrifiad o bersonau.

PENNOD 4COSBAU O DAN Y DDEDDF HON

Cosbau sy’n ymwneud â chyfrifo pwysau trethadwy deunydd

61Cosb am fethu â phennu pwysau yn briodol

Mae gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig sy’n methu â phennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy yn unol ag adran 20 yn agored i gosb nad yw’n fwy na £500 mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y mae’r methiant yn ymwneud ag ef.

62Cosb am gymhwyso’r disgownt dŵr yn anghywir

Pan fo gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig, wrth gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy—

(a)yn cymhwyso disgownt heb fod â chymeradwyaeth o dan adran 21 i wneud hynny, neu

(b)yn cymhwyso disgownt sy’n fwy na’r disgownt a gymeradwywyd o dan adran 21,

mae’r gweithredwr yn agored i gosb nad yw’n fwy na £500 mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y cymhwysir disgownt iddo yn y naill neu’r llall o’r ffyrdd hynny.

63Asesu cosbau o dan adrannau 61 a 62

(1)Pan ddaw gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig yn agored i gosb o dan adran 61 neu 62, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a aseswyd.

(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan adran 61 neu 62 gydag asesiad treth.

(3)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 61 neu 62 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y gweithredwr yn agored i’r gosb.

Cosbau sy’n ymwneud â chofrestru

64Cosbau am gyflawni gweithrediadau trethadwy heb fod yn gofrestredig

(1)Mae person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy yn groes i adran 35(1) (dyletswydd i fod yn gofrestredig) yn agored i gosb o £300.

(2)Os yw person yn parhau i gyflawni gweithrediadau trethadwy yn groes i adran 35(1) ar ôl diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol, mae’r person yn agored i gosb bellach neu gosbau pellach nad ydynt yn fwy na £60 ar gyfer pob diwrnod y mae’r person yn parhau i wneud hynny.

(3)Y cyfnod cosbi cychwynnol yw’r cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r person am y gosb o dan is-adran (1).

(4)Wrth gyfrifo’r cyfnod cosbi cychwynnol, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod y mae penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb o dan is-adran (1) yn destun—

(a)adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu

(b)apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl hyd yma.

65Esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfio

(1)Os yw person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy yn groes i adran 35(1) yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys fod esgus rhesymol am y toriad, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 64 mewn cysylltiad â’r toriad.

(2)At ddibenion yr adran hon—

(a)pan fo person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r toriad;

(b)pan fu gan berson esgus rhesymol am doriad ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os yw’r toriad yn cael ei unioni heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.

66Cosb am fethu â chydymffurfio â gofynion eraill sy’n ymwneud â chofrestru

(1)Mae person yn agored i gosb nad yw’n fwy na £300 os yw’r person yn methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn⁠—

(a)adran 35(2) (cais cofrestru);

(b)adran 36(1) i (4) (hysbysiad am newid neu anghywirdeb);

(c)adran 37(1) neu (2) (cais i ganslo cofrestriad).

(2)Ond nid yw person yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad â methu â chyflwyno cais neu roi hysbysiad o fewn cyfnod cyfyngedig os yw’r person yn gwneud hynny o fewn cyfnod pellach a ganiateir gan ACC.

67Asesu cosbau o dan adrannau 64 a 66

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 64 neu 66, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a aseswyd.

(2)Rhaid i asesiad o gosb o dan adran 64(1) neu 66 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n ddechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf fod y person yn agored i’r gosb.

(3)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 64(2) o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau a’r diwrnod y mae’r gosb yn ymwneud ag ef.

Cosbau sy’n ymwneud â mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu

68Cosbau sy’n ymwneud â mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu

(1)Mae person sy’n methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan adran 56 neu 57 yn agored i gosb nad yw’n fwy na £3,000.

(2)Ond nid yw person yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad â methiant i gadw cofnodion neu eu storio’n ddiogel os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n rhesymol ofynnol ganddo iddynt gael eu profi, ac y byddai’r cofnodion wedi eu profi, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.

69Asesu cosbau o dan adran 68

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 68, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a asesir.

(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan adran 68 gydag asesiad treth.

(3)Rhaid i asesiad o gosb o dan adran 68 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y person yn agored i’r gosb.

Cyffredinol

70Talu cosbau

Rhaid talu cosb o dan y Bennod hon cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y gosb (ond gweler adran 182 o DCRhT (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl)).

71Gwahardd cosbi ddwywaith

Nid yw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi cael euogfarn am drosedd mewn perthynas â hynny.

72Atebolrwydd cynrychiolwyr personol

(1)Os yw person sy’n agored i gosb o dan y Bennod hon (“P”) wedi marw, caniateir asesu unrhyw gosb y gellid bod wedi ei hasesu ar P ar gynrychiolwyr personol P.

(2)Mae cosb a asesir yn unol ag is-adran (1) i’w thalu o ystad P.

73Pŵer i wneud rheoliadau ynghylch cosbau

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch—

(a)symiau cosbau o dan y Bennod hon, a

(b)y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau o dan y Bennod hon.

(2)Caiff y rheoliadau ddiwygio’r Ddeddf hon.

PENNOD 5COSBAU YCHWANEGOL O DAN DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016

74Cosbau am fethiannau lluosog i ddychwelyd ffurflenni treth

Ar ôl adran 118 o DCRhT (cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny) mewnosoder—

118ACosbau am fethiannau lluosog i ddychwelyd ffurflenni treth mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwi

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd o dan adran 39 o DTGT, mae cyfnod cosbi—

(a)yn dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, a

(b)yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).

(2)Os yw’n ofynnol i’r person ddychwelyd ffurflen dreth arall o dan adran 39 o DTGT (“ffurflen dreth B”) cyn diwedd y cyfnod cosbi ond bod y person yn methu â gwneud hynny ar ddyddiad ffeilio ffurflen dreth B neu cyn hynny—

(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a

(b)caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl dyddiad ffeilio ffurflen dreth B.

(3)Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at nifer y ffurflenni treth—

(a)yr oedd yn ofynnol i’r person eu dychwelyd o dan adran 39 o DTGT yn ystod y cyfnod cosbi, ond

(b)y mae’r person wedi methu â’u dychwelyd ar ddyddiadau ffeilio’r ffurflenni treth hynny neu cyn hynny.

(4)Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £200 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(5)Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £300 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(6)Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £400 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(7)Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)⁠(b).

75Cosb am fethu â thalu treth mewn pryd

Yn adran 122 o DCRhT (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd) (a amnewidir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT), yn lle is-adran (2) rhodder—

(2)Y gosb—

(a)mewn cysylltiad â swm o dreth trafodiadau tir, yw 5% o swm y dreth nas talwyd;

(b)mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, yw 1% o swm y dreth nas talwyd.

76Cosbau am fethiannau lluosog i dalu treth mewn pryd

Ar ôl adran 122 o DCRhT (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd) (a amnewidir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT) mewnosoder—

122ZACosb am fethiannau lluosog i dalu treth gwarediadau tirlenwi mewn pryd

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 122 mewn cysylltiad â methiant i dalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny, mae cyfnod cosbi—

(a)yn dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad cosbi, a

(b)yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).

(2)Os yw’r person, cyn diwedd y cyfnod cosbi, yn methu â thalu swm arall o dreth gwarediadau tirlenwi (“swm B”) ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny—

(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 122(1) mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a

(b)caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl y dyddiad cosbi ar gyfer swm B.

(3)Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at—

(a)swm B, a

(b)sawl tro yn ystod y cyfnod cosbi y mae person wedi methu â thalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny.

(4)Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 2% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(5)Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 3% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(6)Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 4% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(7)Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)⁠(b).

PENNOD 6ACHOSION ARBENNIG

Grwpiau corfforaethol

77Dynodi grŵp o gwmnïau

(1)Caiff ACC ddynodi dau gorff corfforaethol neu ragor yn grŵp at ddibenion y dreth.

(2)Gwneir dynodiad drwy ddyroddi hysbysiad i bob aelod o’r grŵp.

(3)Rhaid i’r hysbysiad bennu—

(a)y cyrff corfforaethol sy’n aelodau o’r grŵp;

(b)pa aelod o’r grŵp yw’r aelod cynrychiadol;

(c)y dyddiad y mae’r dynodiad yn cael effaith.

(4)Effeithiau dynodi grŵp yw—

(a)bod aelod cynrychiadol y grŵp i’w drin at ddibenion y dreth fel gweithredwr pob safle tirlenwi awdurdodedig y mae aelod o’r grŵp yn weithredwr iddo;

(b)bod rhaid i swm perthnasol y byddai’n ofynnol i gorff corfforaethol ei dalu fel arall o ganlyniad i unrhyw beth a wneir neu nas gwneir tra bo’n aelod o’r grŵp gael ei dalu, felly, gan yr aelod cynrychiadol yn lle hynny;

(c)bod rhwymedigaeth ar bob un o’r canlynol yn unigol ac ar y cyd mewn perthynas ag unrhyw ran o’r swm perthnasol sy’n parhau i fod heb ei thalu ar ôl y dyddiad erbyn pryd yr oedd yn ofynnol i’r aelod cynrychiadol ei dalu—

(i)pob corff corfforaethol a oedd yn aelod o’r grŵp ar adeg y weithred neu’r anwaith a arweiniodd at y gofyniad i dalu’r swm, a

(ii)unrhyw gorff corfforaethol arall a oedd yn aelod o’r grŵp ar y dyddiad erbyn pryd yr oedd yn ofynnol i’r aelod cynrychiadol dalu’r swm.

(5)Ni chaiff ACC ond dynodi grŵp o gyrff corfforaethol ar gais un neu ragor o’r cyrff hynny.

(6)Rhaid i gais i ddynodi grŵp gael ei gyflwyno mewn ysgrifen; a rhaid i’r corff neu’r cyrff sy’n gwneud y cais fodloni ACC y’i gwneir gyda chytundeb pob aelod arfaethedig arall o’r grŵp.

(7)Os yw ACC yn gwrthod cais i ddynodi grŵp, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r corff neu’r cyrff a wnaeth y cais.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “swm perthnasol” yw—

(a)swm o dreth;

(b)cosb o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth;

(c)llog ar swm o fewn paragraff (a) neu (b).

78Amodau ar gyfer dynodi yn aelod o grŵp

(1)Ni chaniateir dynodi corff corfforaethol yn aelod o grŵp onid yw—

(a)yn cyflawni gweithrediadau trethadwy neu’n bwriadu gwneud hynny, a

(b)o dan yr un rheolaeth â phob aelod arall o’r grŵp.

(2)Mae dau gorff corfforaethol neu ragor o dan yr un rheolaeth os yw—

(a)un ohonynt yn rheoli’r lleill i gyd,

(b)un corff corfforaethol neu unigolyn yn eu rheoli hwy i gyd, neu

(c)dau unigolyn neu ragor sy’n rhedeg busnes mewn partneriaeth yn eu rheoli hwy i gyd.

(3)At ddibenion is-adran (2)—

(a)mae un corff corfforaethol (“A”) yn rheoli corff corfforaethol arall (“B”) os yw—

(i)y pŵer i reoli gweithgareddau B yn cael ei roi i A gan neu o dan ddeddfiad, neu

(ii)A yn gwmni daliannol i B;

(b)mae unigolyn neu unigolion yn rheoli corff corfforaethol pe byddai neu pe byddent, pe bai’r unigolyn neu’r unigolion yn gwmni, yn gwmni daliannol i’r corff.

(4)Yn is-adran (3), mae i “cwmni daliannol” yr ystyr a roddir i “holding company” gan adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (p. 46), ac Atodlen 6 iddi.

79Amrywio neu ganslo dynodiad

(1)Pan fo dau gorff corfforaethol neu ragor wedi eu dynodi’n grŵp, caiff ACC—

(a)amrywio dynodiad y grŵp drwy—

(i)ychwanegu aelod neu dynnu aelod ymaith;

(ii)newid yr aelod cynrychiadol;

(b)canslo dynodiad y grŵp.

(2)Ond rhaid i ACC—

(a)amrywio dynodiad grŵp drwy dynnu aelod ymaith os yw wedi ei fodloni nad yw’r aelod yn bodloni’r amodau yn adran 78(1);

(b)canslo dynodiad y grŵp os yw wedi ei fodloni nad oes gan y grŵp ddau aelod neu ragor sy’n bodloni’r amodau hynny.

(3)Caiff dynodiad ei amrywio neu ei ganslo drwy ddyroddi hysbysiad i bob aelod o’r grŵp (gan gynnwys, yn achos amrywio er mwyn ychwanegu aelod neu dynnu aelod ymaith, bob aelod a ychwanegir neu a dynnir ymaith).

(4)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)nodi manylion yr amrywiad neu’r canslo, a

(b)pennu ar ba ddyddiad y mae’n cael effaith.

(5)Caiff ACC amrywio neu ganslo dynodiad grŵp—

(a)ar ôl cael cais a gyflwynir mewn ysgrifen o dan yr adran hon, neu

(b)ar ei gymhelliad ei hun.

(6)Caiff aelod cynrychiadol grŵp wneud cais i amrywio neu ganslo dynodiad y grŵp; ond rhaid i’r aelod cynrychiadol fodloni ACC y gwneir y cais gyda chytundeb pob aelod arall o’r grŵp (gan gynnwys, yn achos cais i amrywio’r dynodiad drwy ychwanegu aelod, yr aelod a fyddai’n cael ei ychwanegu pe bai’r amrywiad yn cael ei wneud).

(7)Caiff aelod sy’n dymuno cael ei dynnu ymaith hefyd wneud cais i amrywio dynodiad grŵp drwy dynnu’r aelod ymaith; mewn achos o’r fath, rhaid i’r aelod hwnnw fodloni ACC bod pob aelod arall o’r grŵp wedi ei hysbysu am y cais.

(8)Os yw ACC yn gwrthod cais i amrywio neu ganslo dynodiad, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r corff corfforaethol a wnaeth y cais.

80Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â dynodi grwpiau o gwmnïau

Yn adran 172 o DCRhT (penderfyniadau apeliadwy), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (j) (a fewnosodir gan adran 58 o’r Ddeddf hon) mewnosoder—

(k)penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi grŵp o gyrff corfforaethol at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi.

81Pŵer i wneud darpariaeth bellach ynglŷn â dynodi grwpiau o gwmnïau

(1)Caiff rheoliadau ychwanegu at unrhyw ddarpariaeth a wneir gan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth ynglŷn â dynodi grwpiau o gyrff corfforaethol, ei diddymu neu ei diwygio fel arall.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill) ynglŷn â’r cyrff corfforaethol y caniateir eu dynodi’n aelodau o grŵp ac ynglŷn ag effeithiau dynodiad.

Partneriaethau a chyrff anghorfforedig

82Cofrestru partneriaethau a chyrff anghorfforedig a newidiadau mewn aelodaeth

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo dau berson neu ragor yn rhedeg busnes tirlenwi mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig.

(2)Caiff ACC gofrestru’r personau o dan eu henwau eu hunain neu o dan enw’r bartneriaeth neu’r corff.

(3)Pan fo’r personau wedi eu cofrestru o dan enw’r bartneriaeth neu’r corff a bod ei haelodaeth neu ei aelodaeth yn newid, mae’r personau sy’n aelodau ar ôl y newid yn parhau i fod yn gofrestredig o dan yr enw hwnnw os oedd o leiaf un ohonynt yn aelod cyn y newid.

(4)Mae person sy’n peidio â bod yn aelod o bartneriaeth neu gorff anghorfforedig i’w drin fel pe bai’n parhau i fod yn aelod hyd y dyddiad y rhoddir hysbysiad am y newid mewn aelodaeth i ACC o dan adran 36.

(5)Mae is-adran (4) yn gymwys at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth, ond mae’n ddarostyngedig i adran 36(3) o Ddeddf Partneriaeth 1890 (p. 39) (rhwymedigaeth ystad yn sgil marwolaeth neu fethdaliad).

83Dyletswyddau a rhwymedigaethau partneriaethau a chyrff anghorfforedig

(1)Pan fo unrhyw beth yn ofynnol neu pan ganiateir gwneud unrhyw beth o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth gan bersonau neu mewn perthynas â phersonau sy’n rhedeg busnes mewn partneriaeth, rhaid iddo gael ei wneud gan bob person neu mewn perthynas â phob person sy’n bartner ar yr adeg y’i gwneir neu y mae’n ofynnol ei wneud.

(2)Ond caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob partner gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw un neu ragor ohonynt; ac os yw prif fan busnes y bartneriaeth yn yr Alban, caniateir hefyd iddo gael ei wneud gan unrhyw berson arall a awdurdodir gan y bartneriaeth.

(3)Pan fo unrhyw beth yn ofynnol neu pan ganiateir gwneud unrhyw beth o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth gan bersonau neu mewn perthynas â phersonau sy’n rhedeg busnes fel corff anghorfforedig, rhaid iddo gael ei wneud gan bob person neu mewn perthynas â phob person sy’n aelod rheoli o’r corff ar yr adeg y’i gwneir neu y mae’n ofynnol ei wneud.

(4)Ond caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob aelod rheoli o’r corff gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw un neu ragor ohonynt.

(5)Aelodau rheoli corff anghorfforedig yw—

(a)pob aelod o’r corff anghorfforedig sy’n dal swydd llywydd, cadeirydd, trysorydd, ysgrifennydd neu unrhyw swydd debyg;

(b)os nad oes unrhyw swydd o’r fath, pob aelod sy’n dal swydd aelod o bwyllgor sy’n rheoli materion y corff;

(c)os nad oes unrhyw swydd na phwyllgor o’r fath, pob aelod o’r corff.

(6)Mae rhwymedigaeth i dalu swm perthnasol o ganlyniad i unrhyw beth a wneir neu nas gwneir gan bersonau sy’n rhedeg busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig yn rhwymedigaeth unigol ac ar y cyd i bob person sy’n aelod o’r bartneriaeth neu’r corff ar yr adeg y gwneir y peth neu’r adeg nas gwneir.

(7)Ond pan fo—

(a)personau yn rhedeg busnes tirlenwi mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig, a

(b)person yn aelod o’r bartneriaeth neu’r corff am ran o gyfnod cyfrifyddu yn unig,

rhwymedigaeth bersonol y person am y dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu yw’r gyfran o’r rhwymedigaeth sy’n ymwneud â busnes y bartneriaeth neu’r corff sy’n deg ac yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “swm perthnasol” yw—

(a)swm o dreth;

(b)cosb o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth;

(c)llog ar swm o fewn paragraff (a) neu (b).

84Pŵer i wneud darpariaeth bellach ynglŷn â phartneriaethau a chyrff anghorfforedig

Caiff rheoliadau ychwanegu at unrhyw ddarpariaeth a wneir gan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth ynglŷn ag achosion pan fo personau yn rhedeg busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig, ei diddymu neu ei diwygio fel arall.

Personau sy’n rhedeg busnes tirlenwi yn newid

85Marwolaeth, analluedd ac ansolfedd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person (“A”) yn rhedeg busnes tirlenwi person arall (“B”) sydd wedi marw, wedi mynd yn analluog neu wedi dod yn destun gweithdrefn ansolfedd.

(2)Rhaid i A roi hysbysiad i ACC ynglŷn ag—

(a)y ffaith bod A yn rhedeg y busnes tirlenwi, a

(b)natur a dyddiad y digwyddiad sydd wedi arwain at y ffaith bod A yn ei redeg.

(3)Rhaid i’r hysbysiad gael ei roi cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dechreuodd A redeg y busnes tirlenwi.

(4)Caiff ACC drin A fel pe bai A yn B at ddibenion y dreth, gydag effaith o’r adeg y dechreuodd A redeg y busnes tirlenwi; a chaiff ACC wneud hynny pa un a yw A wedi rhoi hysbysiad o dan is-adran (2) ai peidio.

(5)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i A (ac, os yw’n briodol, i B) am benderfyniad i drin A fel pe bai’n B.

(6)Os yw ACC yn trin A yn y fath fodd, nid yw’n ofynnol i A fod yn gofrestredig, na gwneud cais i gael ei gofrestru, yn rhinwedd y driniaeth honno.

(7)Os yw—

(a)B yn peidio â bod yn analluog neu’n destun gweithdrefn ansolfedd, neu

(b)A yn peidio â rhedeg busnes tirlenwi B,

rhaid i A roi hysbysiad i ACC am y ffaith honno a’r dyddiad y digwyddodd hynny.

(8)Rhaid i’r hysbysiad gael ei roi cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.

(9)Rhaid i ACC beidio â thrin A fel pe bai’n B os yw—

(a)ACC wedi ei fodloni bod y naill neu’r llall o’r amodau yn is-adran (7) wedi ei fodloni (pa un a yw A wedi rhoi hysbysiad o dan yr is-adran honno ai peidio), neu

(b)ACC yn canslo cofrestriad B.

(10)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i A (ac, os yw’n briodol, i B) am benderfyniad i beidio â thrin A fel pe bai’n B.

(11)At ddibenion yr adran hon, daw person yn destun gweithdrefn ansolfedd—

(a)os gwneir y person yn fethdalwr;

(b)os yw trefniant gwirfoddol ar ran cwmni yn cael effaith mewn perthynas â’r person o dan Ran 1 o Ddeddf Ansolfedd 1986 (p. 45);

(c)os yw’r person yn mynd i ddwylo’r gweinyddwr neu’n destun datodiad neu dderbynyddiad;

(d)os yw unrhyw ddigwyddiad cyfatebol yn digwydd sy’n cael effaith o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu o ganlyniad iddi.

86Pŵer i wneud darpariaeth bellach ynglŷn â marwolaeth, analluedd ac ansolfedd

(1)Caiff rheoliadau ychwanegu at unrhyw ddarpariaeth a wneir gan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth ynglŷn ag achosion pan fo person sydd wedi rhedeg busnes tirlenwi yn marw, yn mynd yn analluog neu’n dod yn destun gweithdrefn ansolfedd, ei diddymu neu ei diwygio fel arall.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—

(a)ynglŷn â’r amgylchiadau pan fo person yn mynd yn analluog neu’n dod yn destun gweithdrefn ansolfedd, neu’n peidio â bod yn analluog neu’n destun gweithdrefn ansolfedd;

(b)ynglŷn â dyletswyddau, rhwymedigaethau a hawlogaethau sy’n ymwneud â’r dreth pan fo person wedi marw, wedi mynd yn analluog neu wedi dod yn destun gweithdrefn ansolfedd;

(c)sy’n gymwys pa un a yw unrhyw un arall yn rhedeg busnes tirlenwi person ar ôl i’r person farw, fynd yn analluog neu ddod yn destun gweithdrefn ansolfedd ai peidio.

87Pŵer i wneud darpariaeth ynglŷn â throsglwyddo busnesau fel busnesau gweithredol

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth i sicrhau dilyniant wrth gymhwyso unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth pan drosglwyddir busnes tirlenwi o un person i un arall fel busnes gweithredol.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu am y trosglwyddiad;

(b)i unrhyw rwymedigaeth neu ddyletswydd ar ran y trosglwyddwr mewn perthynas â’r dreth ddod yn rhwymedigaeth neu’n ddyletswydd i’r trosglwyddai;

(c)i unrhyw hawlogaeth ar ran y trosglwyddwr i ollwng neu ad-dalu swm o dreth, pa un a yw’n codi cyn y trosglwyddiad neu ar ei ôl, ddod yn hawlogaeth i’r trosglwyddai;

(d)i unrhyw beth a wnaed cyn y trosglwyddiad gan y trosglwyddwr neu mewn perthynas â’r trosglwyddwr gael ei drin at ddibenion y dreth fel pe bai wedi ei wneud gan y trosglwyddai neu mewn perthynas â’r trosglwyddai;

(e)ynglŷn â dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy’n gymwys yn ddarostyngedig i amodau, ac yn benodol cânt—

(a)darparu ei bod yn ofynnol cael cymeradwyaeth ACC cyn cymhwyso unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (2)(b) i (e) i drosglwyddwr a throsglwyddai;

(b)gwneud darpariaeth ynglŷn â gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth a phenderfynu arnynt.

(4)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer—

(a)cosbau mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio â’r rheoliadau;

(b)adolygiadau ac apelau.

(5)Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

PENNOD 7AMRYWIOL

Darpariaeth bellach mewn perthynas â’r dreth

88Addasu contractau

(1)Pan fo—

(a)gwarediad trethadwy yn cael ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig,

(b)contract sy’n ymwneud â’r gwarediad trethadwy sy’n darparu i daliad gael ei wneud, ac

(c)ar ôl gwneud y contract, y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad trethadwy yn newid o ganlyniad i ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth,

mae swm y taliad y darperir ar ei gyfer o dan y contract i’w addasu, oni bai bod y contract yn darparu fel arall, i adlewyrchu’r newid yn y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad trethadwy.

(2)At ddibenion yr adran hon, mae contract sy’n ymwneud â gwarediad trethadwy yn gontract sy’n darparu ar gyfer gwaredu’r deunydd sydd wedi ei gynnwys yn y gwarediad trethadwy, ac nid yw’n berthnasol pa un a yw’r contract hefyd yn darparu ar gyfer materion eraill ai peidio.

(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at newid yn y dreth sydd i’w chodi yn gyfeiriad at—

(a)newid o fod dim treth i’w chodi i fod treth i’w chodi,

(b)newid o fod treth i’w chodi i fod dim treth i’w chodi, neu

(c)newid yn swm y dreth sydd i’w godi.

89Pŵer i osod atebolrwydd eilaidd ar reolwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth i’w gwneud yn ofynnol i reolwr safle tirlenwi awdurdodedig, neu ran o safle o’r fath, dalu’r dreth sydd i’w chodi ar warediadau trethadwy a wneir ar y safle neu’r rhan o dan sylw, ac mewn cysylltiad â hynny.

(2)Mewn perthynas â rheolwr safle tirlenwi awdurdodedig neu ran o safle o’r fath—

(a)mae’n berson, ac eithrio gweithredwr y safle, sy’n penderfynu, neu sydd â’r hawl i benderfynu, pa warediadau deunyddiau y caniateir eu gwneud ledled y safle neu’r rhan o dan sylw, ond

(b)nid yw’n cynnwys person sy’n penderfynu, neu sydd â’r hawl i benderfynu, pa warediadau a wneir dim ond oherwydd bod y person yn gyflogai neu’n asiant i berson arall.

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu os yw person yn dod, neu’n peidio â bod, yn rheolwr ar safle tirlenwi awdurdodedig neu ran o safle o’r fath;

(b)ynglŷn â’r amgylchiadau pan fo’n ofynnol i reolwr dalu treth;

(c)ar gyfer pennu swm y dreth y mae’n ofynnol i reolwr ei dalu;

(d)ynglŷn â’r berthynas rhwng gofyniad i reolwr dalu treth ac unrhyw rwymedigaeth ar weithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig i dalu treth;

(e)ynglŷn â’r weithdrefn i’w gwneud yn ofynnol i reolwr dalu treth;

(f)ynglŷn â pha bryd y mae’n rhaid talu’r dreth;

(g)ynglŷn â dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel;

(h)ar gyfer cosbau mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio â’r rheoliadau;

(i)ar gyfer adolygiadau ac apelau.

(4)Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

90Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Mae Atodlen 4 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i DCRhT.

91Arfer pwerau a dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon

(1)Wrth arfer eu pwerau a’u dyletswyddau o dan y Ddeddf hon—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r amcan o leihau gwarediadau tirlenwi yng Nghymru;

(b)caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i unrhyw faterion eraill sy’n briodol yn eu barn hwy.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i arfer pwerau a dyletswyddau o dan adran 92.

Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

92Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar y diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym yn llawn neu cyn hynny.

(2)Rhaid i’r Cynllun wneud darpariaeth ar gyfer rhoi grantiau gan Weinidogion Cymru i bersonau sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y byddant yn hyrwyddo neu’n gwella llesiant cymdeithasol neu amgylcheddol ardaloedd yng Nghymru a effeithir gan—

(a)gwneud gwarediadau tirlenwi, neu

(b)gweithgareddau sy’n baratoadol ar gyfer gwneud gwarediadau tirlenwi.

(3)Caiff y Cynllun ddarparu i’r grantiau—

(a)cael eu dyrannu drwy gyfeirio at feini prawf a bennir yn y Cynllun;

(b)bod yn ddarostyngedig i amodau a bennir yn y Cynllun neu gan Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)adolygu’r Cynllun—

(i)o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i cyhoeddir gyntaf, a

(ii)yn dilyn hynny, o leiaf unwaith yn ystod pob cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblheir yr adolygiad blaenorol, a

(b)ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy pan fyddant yn gwneud hynny.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio neu ddirymu’r Cynllun ar ôl cynnal adolygiad; ond ni chaniateir dirymu’r Cynllun o fewn y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i cyhoeddir gyntaf.

(6)Os caiff y Cynllun ei ddiwygio, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r Cynllun diwygiedig.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru osod y Cynllun, ac unrhyw Gynllun diwygiedig, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill