xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5DARPARIAETH ATODOL

PENNOD 7AMRYWIOL

Darpariaeth bellach mewn perthynas â’r dreth

88Addasu contractau

(1)Pan fo—

(a)gwarediad trethadwy yn cael ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig,

(b)contract sy’n ymwneud â’r gwarediad trethadwy sy’n darparu i daliad gael ei wneud, ac

(c)ar ôl gwneud y contract, y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad trethadwy yn newid o ganlyniad i ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth,

mae swm y taliad y darperir ar ei gyfer o dan y contract i’w addasu, oni bai bod y contract yn darparu fel arall, i adlewyrchu’r newid yn y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad trethadwy.

(2)At ddibenion yr adran hon, mae contract sy’n ymwneud â gwarediad trethadwy yn gontract sy’n darparu ar gyfer gwaredu’r deunydd sydd wedi ei gynnwys yn y gwarediad trethadwy, ac nid yw’n berthnasol pa un a yw’r contract hefyd yn darparu ar gyfer materion eraill ai peidio.

(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at newid yn y dreth sydd i’w chodi yn gyfeiriad at—

(a)newid o fod dim treth i’w chodi i fod treth i’w chodi,

(b)newid o fod treth i’w chodi i fod dim treth i’w chodi, neu

(c)newid yn swm y dreth sydd i’w godi.

89Pŵer i osod atebolrwydd eilaidd ar reolwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth i’w gwneud yn ofynnol i reolwr safle tirlenwi awdurdodedig, neu ran o safle o’r fath, dalu’r dreth sydd i’w chodi ar warediadau trethadwy a wneir ar y safle neu’r rhan o dan sylw, ac mewn cysylltiad â hynny.

(2)Mewn perthynas â rheolwr safle tirlenwi awdurdodedig neu ran o safle o’r fath—

(a)mae’n berson, ac eithrio gweithredwr y safle, sy’n penderfynu, neu sydd â’r hawl i benderfynu, pa warediadau deunyddiau y caniateir eu gwneud ledled y safle neu’r rhan o dan sylw, ond

(b)nid yw’n cynnwys person sy’n penderfynu, neu sydd â’r hawl i benderfynu, pa warediadau a wneir dim ond oherwydd bod y person yn gyflogai neu’n asiant i berson arall.

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu os yw person yn dod, neu’n peidio â bod, yn rheolwr ar safle tirlenwi awdurdodedig neu ran o safle o’r fath;

(b)ynglŷn â’r amgylchiadau pan fo’n ofynnol i reolwr dalu treth;

(c)ar gyfer pennu swm y dreth y mae’n ofynnol i reolwr ei dalu;

(d)ynglŷn â’r berthynas rhwng gofyniad i reolwr dalu treth ac unrhyw rwymedigaeth ar weithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig i dalu treth;

(e)ynglŷn â’r weithdrefn i’w gwneud yn ofynnol i reolwr dalu treth;

(f)ynglŷn â pha bryd y mae’n rhaid talu’r dreth;

(g)ynglŷn â dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel;

(h)ar gyfer cosbau mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio â’r rheoliadau;

(i)ar gyfer adolygiadau ac apelau.

(4)Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

90Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Mae Atodlen 4 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i DCRhT.

91Arfer pwerau a dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon

(1)Wrth arfer eu pwerau a’u dyletswyddau o dan y Ddeddf hon—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r amcan o leihau gwarediadau tirlenwi yng Nghymru;

(b)caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i unrhyw faterion eraill sy’n briodol yn eu barn hwy.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i arfer pwerau a dyletswyddau o dan adran 92.

Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

92Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar y diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym yn llawn neu cyn hynny.

(2)Rhaid i’r Cynllun wneud darpariaeth ar gyfer rhoi grantiau gan Weinidogion Cymru i bersonau sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y byddant yn hyrwyddo neu’n gwella llesiant cymdeithasol neu amgylcheddol ardaloedd yng Nghymru a effeithir gan—

(a)gwneud gwarediadau tirlenwi, neu

(b)gweithgareddau sy’n baratoadol ar gyfer gwneud gwarediadau tirlenwi.

(3)Caiff y Cynllun ddarparu i’r grantiau—

(a)cael eu dyrannu drwy gyfeirio at feini prawf a bennir yn y Cynllun;

(b)bod yn ddarostyngedig i amodau a bennir yn y Cynllun neu gan Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)adolygu’r Cynllun—

(i)o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i cyhoeddir gyntaf, a

(ii)yn dilyn hynny, o leiaf unwaith yn ystod pob cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblheir yr adolygiad blaenorol, a

(b)ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy pan fyddant yn gwneud hynny.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio neu ddirymu’r Cynllun ar ôl cynnal adolygiad; ond ni chaniateir dirymu’r Cynllun o fewn y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i cyhoeddir gyntaf.

(6)Os caiff y Cynllun ei ddiwygio, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r Cynllun diwygiedig.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru osod y Cynllun, ac unrhyw Gynllun diwygiedig, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.