xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CDARPARIAETH ATODOL

PENNOD 4LL+CCOSBAU O DAN Y DDEDDF HON

Cosbau sy’n ymwneud â chyfrifo pwysau trethadwy deunyddLL+C

61Cosb am fethu â phennu pwysau yn briodolLL+C

Mae gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig sy’n methu â phennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy yn unol ag adran 20 yn agored i gosb nad yw’n fwy na £500 mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y mae’r methiant yn ymwneud ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 61 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

62Cosb am gymhwyso’r disgownt dŵr yn anghywirLL+C

Pan fo gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig, wrth gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy—

(a)yn cymhwyso disgownt heb fod â chymeradwyaeth o dan adran 21 i wneud hynny, neu

(b)yn cymhwyso disgownt sy’n fwy na’r disgownt a gymeradwywyd o dan adran 21,

mae’r gweithredwr yn agored i gosb nad yw’n fwy na £500 mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y cymhwysir disgownt iddo yn y naill neu’r llall o’r ffyrdd hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I4A. 62 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

63Asesu cosbau o dan adrannau 61 a 62LL+C

(1)Pan ddaw gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig yn agored i gosb o dan adran 61 neu 62, rhaid i ACC

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a aseswyd.

(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan adran 61 neu 62 gydag asesiad treth.

(3)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 61 neu 62 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y gweithredwr yn agored i’r gosb.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I6A. 63 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

Cosbau sy’n ymwneud â chofrestruLL+C

64Cosbau am gyflawni gweithrediadau trethadwy heb fod yn gofrestredigLL+C

(1)Mae person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy yn groes i adran 35(1) (dyletswydd i fod yn gofrestredig) yn agored i gosb o £300.

(2)Os yw person yn parhau i gyflawni gweithrediadau trethadwy yn groes i adran 35(1) ar ôl diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol, mae’r person yn agored i gosb bellach neu gosbau pellach nad ydynt yn fwy na £60 ar gyfer pob diwrnod y mae’r person yn parhau i wneud hynny.

(3)Y cyfnod cosbi cychwynnol yw’r cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r person am y gosb o dan is-adran (1).

(4)Wrth gyfrifo’r cyfnod cosbi cychwynnol, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod y mae penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb o dan is-adran (1) yn destun—

(a)adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu

(b)apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl hyd yma.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I8A. 64 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

65Esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfioLL+C

(1)Os yw person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy yn groes i adran 35(1) yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys fod esgus rhesymol am y toriad, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 64 mewn cysylltiad â’r toriad.

(2)At ddibenion yr adran hon—

(a)pan fo person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r toriad;

(b)pan fu gan berson esgus rhesymol am doriad ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os yw’r toriad yn cael ei unioni heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I10A. 65 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

66Cosb am fethu â chydymffurfio â gofynion eraill sy’n ymwneud â chofrestruLL+C

(1)Mae person yn agored i gosb nad yw’n fwy na £300 os yw’r person yn methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn⁠—

(a)adran 35(2) (cais cofrestru);

(b)adran 36(1) i (4) (hysbysiad am newid neu anghywirdeb);

(c)adran 37(1) neu (2) (cais i ganslo cofrestriad).

(2)Ond nid yw person yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad â methu â chyflwyno cais neu roi hysbysiad o fewn cyfnod cyfyngedig os yw’r person yn gwneud hynny o fewn cyfnod pellach a ganiateir gan ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I12A. 66 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(t)

67Asesu cosbau o dan adrannau 64 a 66LL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 64 neu 66, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a aseswyd.

(2)Rhaid i asesiad o gosb o dan adran 64(1) neu 66 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n ddechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf fod y person yn agored i’r gosb.

(3)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 64(2) o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau a’r diwrnod y mae’r gosb yn ymwneud ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I14A. 67 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(u)

Cosbau sy’n ymwneud â mannau nad ydynt at ddibenion gwareduLL+C

68Cosbau sy’n ymwneud â mannau nad ydynt at ddibenion gwareduLL+C

(1)Mae person sy’n methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan adran 56 neu 57 yn agored i gosb nad yw’n fwy na £3,000.

(2)Ond nid yw person yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad â methiant i gadw cofnodion neu eu storio’n ddiogel os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n rhesymol ofynnol ganddo iddynt gael eu profi, ac y byddai’r cofnodion wedi eu profi, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I16A. 68 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

69Asesu cosbau o dan adran 68LL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 68, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a asesir.

(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan adran 68 gydag asesiad treth.

(3)Rhaid i asesiad o gosb o dan adran 68 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y person yn agored i’r gosb.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I18A. 69 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

CyffredinolLL+C

70Talu cosbauLL+C

Rhaid talu cosb o dan y Bennod hon cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y gosb (ond gweler adran 182 o DCRhT (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl)).

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I20A. 70 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(v)

71Gwahardd cosbi ddwywaithLL+C

Nid yw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi cael euogfarn am drosedd mewn perthynas â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I22A. 71 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(v)

72Atebolrwydd cynrychiolwyr personolLL+C

(1)Os yw person sy’n agored i gosb o dan y Bennod hon (“P”) wedi marw, caniateir asesu unrhyw gosb y gellid bod wedi ei hasesu ar P ar gynrychiolwyr personol P.

(2)Mae cosb a asesir yn unol ag is-adran (1) i’w thalu o ystad P.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I24A. 72 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(v)

73Pŵer i wneud rheoliadau ynghylch cosbauLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch—

(a)symiau cosbau o dan y Bennod hon, a

(b)y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau o dan y Bennod hon.

(2)Caiff y rheoliadau ddiwygio’r Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I26A. 73 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3