Adran 16 – Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau
34.Mae’r adran hon yn nodi’r profion y mae’n rhaid i gymysgedd o ddeunyddiau eu bodloni er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y gyfradd TGT is. Mae gofynion 1-6 yn gymwys i bob cymysgedd cymwys ac mae gofyniad 7 yn darparu ar gyfer y posibilrwydd y bydd gofynion ychwanegol i’w bodloni pan fo’r cymysgedd yn cynnwys gronynnau mân.
35.Dylid nodi bod gofyniad 1 yn darparu bod rhaid i’r llwyth fod ar ffurf un deunydd cymwys neu ragor a swm bychan yn unig o ddeunydd anghymwys sy’n atodol i’r deunydd cymwys. Mae is-adran (2) yn nodi materion y mae’n rhaid eu hystyried wrth benderfynu a yw swm o ddeunydd anghymwys yn swm bychan, ac a yw’n atodol i’r deunyddiau cymwys ai peidio.
36.Mae gofyniad 3 yn nodi na ddylai’r deunydd anghymwys fod wedi ei gymysgu’n fwriadol â’r deunyddiau cymwys at ddibenion gwaredu na materion sy’n ymwneud â pharatoi i waredu: er enghraifft, ar gyfer eu cludo. Bydd y prawf hwn yn gwahaniaethu, er enghraifft, rhwng achos pan fo darnau o ddeunydd anghymwys ynghlwm wrth ddeunydd cymwys am nad oedd yn bosibl eu tynnu oddi yno’n llwyr, ac achos pan fo deunydd anghymwys wedi ei ychwanegu at y llwyth, ar wahân ac yn fwriadol. Ni fyddai’r achos olaf yn bodloni gofyniad 3.
37.Mae gofyniad 4 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ragnodi mewn rheoliadau unrhyw ddeunyddiau na chaniateir eu cynnwys mewn cymysgedd cymwys o ddeunyddiau. Pe bai’r fath reoliadau yn cael eu gwneud, byddai’r gyfradd dreth safonol (fel y’i diffinnir yn adran 14) yn gymwys i unrhyw gymysgedd o ddeunyddiau sy’n cynnwys deunydd rhagnodedig, ni waeth pa un a oedd swm y deunydd rhagnodedig yn fychan ac yn atodol ai peidio.
38.Mae gofyniad 6 yn nodi na chaniateir i unrhyw drefniadau (mae hyn yn cynnwys unrhyw gamau neu weithrediadau) gael eu gwneud mewn cysylltiad â’r cymysgedd y mae osgoi atebolrwydd i’r dreth yn brif ddiben iddynt, neu’n un o’u prif ddibenion. Er enghraifft, gallai trefniadau o’r fath gynnwys paratoi cymysgedd mewn ffordd sy’n galluogi i’w gyfansoddiad gael ei guddio. Gall hyn gynnwys gwasgu neu guddio’n fwriadol ddeunydd cyfradd safonol o fewn llwyth o ddeunydd cymwys er mwyn lleihau’r tebygolrwydd y bydd yn ymddangos bod mwy na swm bychan ac atodol o ddeunydd o’r fath yn bresennol yn y llwyth.