xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

2017 dccc 3

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch trethu gwarediadau deunydd fel gwastraff drwy dirlenwi; ac at ddibenion cysylltiedig.

[7 Medi 2017]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

RHAN 1TROSOLWG

1Trosolwg o’r Ddeddf

(1)Mae’r Rhan hon yn darparu trosolwg o’r Ddeddf hon.

(2)Mae Rhan 2—

(a)yn gwneud darpariaeth ar gyfer codi treth (treth gwarediadau tirlenwi) ar warediadau trethadwy,

(b)yn esbonio beth yw gwarediad trethadwy, ac

(c)yn gwneud darpariaeth ynghylch gwarediadau sydd wedi eu hesemptio rhag y dreth.

(3)Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae’r dreth i’w chodi ar warediadau trethadwy a wneir ar safleoedd tirlenwi awdurdodedig. Mae’n cynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y personau y mae’r dreth i’w chodi arnynt,

(b)sut y mae swm y dreth sydd i’w godi ar warediad trethadwy i’w gyfrifo,

(c)gwarediadau trethadwy y caniateir hawlio rhyddhad rhag y dreth ar eu cyfer,

(d)gofynion cofrestru a chyfrifyddu, ac

(e)talu, adennill ac ad-dalu’r dreth.

(4)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae’r dreth i’w chodi ar warediadau trethadwy a wneir mewn lleoedd heblaw safleoedd tirlenwi awdurdodedig. Mae’n cynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)sut y mae swm y dreth sydd i’w godi ar warediad trethadwy i’w gyfrifo,

(b)y personau y caniateir codi’r dreth arnynt,

(c)y weithdrefn a ddefnyddir i godi treth ar berson,

(d)talu’r dreth, ac

(e)llog taliadau hwyr ar dreth nas talwyd.

(5)Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad â’r dreth. Mae’n cynnwys—

(a)darpariaeth sy’n galluogi rheoliadau i gael eu gwneud ynghylch amgylchiadau pan fo person i gael hawlogaeth i gredyd mewn cysylltiad â’r dreth,

(b)darpariaeth ynghylch creu mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu o fewn safleoedd tirlenwi awdurdodedig,

(c)darpariaeth ynghylch archwilio mangreoedd a rhannu gwybodaeth,

(d)darpariaeth ynghylch cosbau,

(e)darpariaeth ynghylch cymhwysiad darpariaethau’r Ddeddf hon a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) mewn achosion arbennig (er enghraifft, yn achos grwpiau corfforaethol, partneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig), ac

(f)darpariaeth ynghylch materion amrywiol eraill.

(6)Mae Rhan 5 hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

(7)Mae Rhan 6 yn cynnwys darpariaeth sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch dehongli’r Ddeddf hon).

RHAN 2Y DRETH A GWAREDIADAU TRETHADWY

PENNOD 1TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI

2Y dreth

(1)Mae treth, o’r enw treth gwarediadau tirlenwi, i’w chodi ar warediadau trethadwy yn unol â’r Ddeddf hon.

(2)Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli’r dreth.

(3)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at dreth (neu at y dreth) yn gyfeiriadau at dreth gwarediadau tirlenwi.

PENNOD 2GWAREDIADAU TRETHADWY

3Gwarediadau trethadwy

(1)Gwneir gwarediad trethadwy pan fo’r holl amodau a ganlyn wedi eu bodloni.

(2)Amod 1 yw bod deunydd yn cael ei waredu drwy dirlenwi (gweler adran 4).

(3)Amod 2 yw naill ai—

(a)bod y tir lle y gwneir y gwarediad yn safle tirlenwi awdurdodedig, neu’n rhan o safle o’r fath (gweler adran 5(1)), neu

(b)bod trwydded amgylcheddol yn ofynnol ar gyfer y gwarediad (gweler adran 5(2)) ond nad yw’r tir lle y’i gwneir yn safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath.

(4)Amod 3 yw bod y gwarediad yn warediad o’r deunydd fel gwastraff (gweler adrannau 6 a 7).

(5)Amod 4 yw bod y gwarediad yn cael ei wneud yng Nghymru.

(6)Gweler hefyd adran 8 ar gyfer mathau o weithgarwch safle tirlenwi penodedig sydd i’w trin fel gwarediadau trethadwy (pa un a fodlonir yr amodau uchod ai peidio).

4Gwaredu deunydd drwy dirlenwi

(1)Gwaredir deunydd drwy dirlenwi os caiff deunydd—

(a)ei ddodi ar wyneb y tir neu ar strwythur sydd wedi ei osod yn y tir, neu

(b)ei ddodi o dan wyneb y tir (er enghraifft, mewn ceudod megis ogof neu gloddfa).

(2)Mae is-adran (1) yn gymwys pa un a osodir y deunydd mewn cynhwysydd cyn ei ddodi ai peidio.

(3)Caiff rheoliadau addasu ystyr gwaredu deunydd drwy dirlenwi (gan gynnwys drwy ddiwygio’r adran hon neu unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â’r dreth).

5Safleoedd tirlenwi awdurdodedig a thrwyddedau amgylcheddol

(1)Mae tir yn safle tirlenwi awdurdodedig os yw trwydded amgylcheddol sy’n awdurdodi gwaredu deunydd drwy dirlenwi mewn grym mewn perthynas â’r tir.

(2)Trwydded a roddir o dan reoliadau a wneir o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p. 24) yw trwydded amgylcheddol.

6Gwaredu deunydd fel gwastraff

(1)Gwaredir deunydd fel gwastraff os yw’r person sy’n gyfrifol am y gwarediad yn bwriadu bwrw’r deunydd o’r neilltu.

(2)Gellir dod i’r casgliad bod bwriad i fwrw deunydd o’r neilltu ar sail amgylchiadau ei waredu, ac yn benodol ar sail y ffaith (os digwydd hynny) bod y deunydd wedi ei ddodi mewn man gwarediadau tirlenwi.

(3)Nid yw’r canlynol i’w trin fel pe baent yn anghyson â bwriad i fwrw deunydd o’r neilltu⁠—

(a)gwneud defnydd dros dro o’r deunydd, neu ddefnydd ohono sy’n atodol i’w waredu drwy dirlenwi;

(b)cael budd o’r deunydd neu o unrhyw beth a allyrrir ganddo (er enghraifft, defnyddio nwy a gynhyrchir wrth i’r deunydd bydru i gynhyrchu trydan).

(4)Caiff rheoliadau addasu ystyr gwaredu deunydd fel gwastraff (gan gynnwys drwy ddiwygio’r adran hon neu unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â’r dreth).

7Gwaredu deunydd fel gwastraff: person sy’n gyfrifol am warediad

(1)Mae’r adran hon yn nodi pwy yw’r person sy’n gyfrifol am warediad at ddibenion adran 6.

(2)Yn achos gwarediad a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig, y person sy’n gyfrifol am y gwarediad yw’r person sy’n weithredwr y safle ar adeg y gwarediad.

(3)Ond os gwneir y gwarediad heb ganiatâd y gweithredwr, y person sy’n gyfrifol am y gwarediad yw’r person sy’n gwneud y gwarediad.

(4)Gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig yw deiliad y drwydded amgylcheddol sy’n awdurdodi gwaredu deunydd drwy dirlenwi ar y safle.

(5)Yn achos gwarediad a wneir yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, y person sy’n gyfrifol am y gwarediad yw’r person sy’n gwneud y gwarediad.

8Gweithgarwch safle tirlenwi i’w drin fel gwarediad trethadwy

(1)Mae cyflawni gweithgarwch safle tirlenwi penodedig yng Nghymru i’w drin fel gwarediad trethadwy o’r deunydd y cyflawnir y gweithgarwch mewn perthynas ag ef (pa un a fodlonir yr amodau yn adran 3 ai peidio).

(2)Mae’r gwarediad trethadwy i’w drin fel pe bai wedi ei wneud pan gyflawnir y gweithgarwch safle tirlenwi penodedig am y tro cyntaf mewn perthynas â’r deunydd.

(3)Mae’r canlynol yn fathau o weithgarwch safle tirlenwi penodedig pan gânt eu cyflawni ar safle tirlenwi awdurdodedig—

(a)defnyddio deunydd i greu ffordd dros dro sy’n rhoi mynediad i fan gwarediadau tirlenwi neu i gynnal a chadw ffordd o’r fath;

(b)defnyddio deunydd i greu arwyneb solet dros dro neu i gynnal a chadw arwyneb o’r fath;

(c)defnyddio deunydd i greu bwnd cell neu i gynnal a chadw bwnd o’r fath;

(d)defnyddio deunydd (heblaw deunydd sy’n bodoli’n naturiol a echdynnir o’r safle) i greu bwnd sgrinio dros dro neu i gynnal a chadw bwnd o’r fath;

(e)defnyddio deunydd i orchuddio man gwarediadau tirlenwi yn ystod cyfnod pan fo gwarediadau tirlenwi yn peidio dros dro;

(f)gosod deunydd mewn man gwarediadau tirlenwi i ddarparu sylfaen ar gyfer unrhyw beth a ddefnyddir i leinio, i gapio neu i ddraenio’r man hwnnw, neu er mwyn atal difrod i unrhyw beth o’r fath;

(g)cadw deunydd mewn man nad yw at ddibenion gwaredu y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod hwyaf a bennir yn yr hysbysiad sy’n dynodi’r man o dan adran 55, oni bai yr ymdrinnir â’r deunydd yn unol â chytundeb o dan adran 56(4)(a);

(h)storio lludw (er enghraifft, lludw sy’n codi a lludw gwaelod);

(i)defnyddio deunydd mewn gwaith adfer.

(4)Yn is-adran (3)—

(5)Caiff rheoliadau—

(a)darparu bod gweithgarwch safle tirlenwi i fod yn weithgarwch safle tirlenwi penodedig,

(b)addasu’r disgrifiad o weithgarwch safle tirlenwi penodedig, neu

(c)darparu bod gweithgarwch i beidio â bod yn weithgarwch safle tirlenwi penodedig.

(6)Caiff y rheoliadau ddiwygio’r adran hon neu unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â’r dreth.

PENNOD 3GWAREDIADAU ESEMPT

9Esemptiadau: cyffredinol

(1)Mae’r Bennod hon yn darparu esemptiad rhag treth ar gyfer gwarediadau deunydd penodol a fyddai fel arall i’w trin fel gwarediadau trethadwy.

(2)Nid yw gwarediad deunydd sy’n esempt rhag treth yn warediad trethadwy.

(3)Yn y Bennod hon, mae cyfeiriadau at warediad deunydd yn cynnwys cyflawni gweithgarwch safle tirlenwi penodedig mewn perthynas â deunydd.

10Gwarediadau lluosog deunydd ar yr un safle

Mae gwarediad deunydd yn esempt rhag treth i’r graddau—

(a)y mae’n warediad deunydd sydd eisoes wedi ei gynnwys mewn gwarediad trethadwy—

(i)a wnaed ar safle tirlenwi awdurdodedig, a

(ii)yr oedd treth i’w chodi mewn cysylltiad ag ef, a

(b)y’i gwneir ar yr un safle tirlenwi awdurdodedig â’r gwarediad trethadwy hwnnw.

11Mynwentydd anifeiliaid anwes

(1)Mae gwarediad deunydd yn esempt rhag treth—

(a)os yw’n warediad deunydd sy’n weddillion anifeiliaid anwes meirw (ac unrhyw gynhwysydd neu ddeunydd y cynhwysir y gweddillion ynddo), a dim arall, a

(b)os y’i gwneir ar safle tirlenwi awdurdodedig sy’n bodloni’r amod yn is-adran (2).

(2)Yr amod yw na wnaed unrhyw warediadau tirlenwi ar y safle yn ystod y cyfnod perthnasol, heblaw am warediadau deunydd sy’n weddillion anifeiliaid anwes meirw (ac unrhyw gynhwysydd neu ddeunydd y cynhwysir y gweddillion ynddo), a dim arall.

(3)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r adran hon i rym, neu â’r diwrnod y daw’r safle yn safle tirlenwi awdurdodedig, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a

(b)sy’n dod i ben yn union cyn y gwarediad a grybwyllir yn is-adran (1).

12Pŵer i addasu esemptiadau

(1)Caiff rheoliadau—

(a)creu esemptiad ychwanegol rhag treth,

(b)addasu esemptiad presennol, neu

(c)dileu esemptiad.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu i esemptiad fod yn gymwys yn ddarostyngedig i amodau (er enghraifft, amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu cyn y gwneir gwarediad).

(3)Caiff y rheoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 1PERSONAU Y MAE’R DRETH I’W CHODI ARNYNT

13Personau y mae’r dreth i’w chodi arnynt

Mae’r dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy deunydd a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig i’w chodi ar y person sy’n weithredwr y safle ar adeg y gwarediad (pa un a yw’r gweithredwr yn gwneud y gwarediad neu’n caniatáu ei wneud ai peidio).

PENNOD 2Y DRETH SYDD I’W CHODI AR WAREDIADAU TRETHADWY

Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi

14Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i warediad trethadwy deunydd a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig.

(2)Mae swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad i’w gyfrifo drwy luosi pwysau trethadwy’r deunydd mewn tunelli â’r gyfradd safonol.

(3)Y gyfradd safonol yw’r gyfradd y dunnell a ragnodir at ddibenion is-adran (2) mewn rheoliadau.

(4)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i’r gwarediad os yw’r deunydd a waredir—

(a)yn gyfan gwbl ar ffurf un neu ragor o ddeunyddiau cymwys (gweler adran 15), neu

(b)yn gymysgedd cymwys o ddeunyddiau (gweler adran 16).

(5)Yn lle hynny, mae swm y dreth sydd i’w godi ar warediad o’r disgrifiad hwnnw i’w gyfrifo drwy luosi pwysau trethadwy’r deunydd mewn tunelli â’r gyfradd is.

(6)Y gyfradd is yw’r gyfradd y dunnell a ragnodir at ddibenion is-adran (5) mewn rheoliadau.

(7)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) neu (6) ragnodi cyfraddau gwahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o ddeunydd.

(8)Gweler adran 18 am ddarpariaeth ynghylch sut y mae pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy i’w gyfrifo.

Deunyddiau cymwys a chymysgeddau cymwys o ddeunyddiau

15Deunydd cymwys

(1)Deunydd cymwys yw deunydd y mae’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef.

(2)Caiff rheoliadau ddiwygio Atodlen 1.

16Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau

(1)Cymysgedd cymwys o ddeunyddiau yw cymysgedd y mae’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef.

(2)At ddibenion gofyniad 1—

(a)rhaid ystyried pwysau a chyfaint y deunyddiau anghymwys wrth benderfynu a yw swm y deunyddiau hynny i’w drin fel swm bychan ai peidio;

(b)rhaid ystyried potensial y deunyddiau anghymwys i beri niwed wrth benderfynu a yw’r deunyddiau hynny i’w trin fel pe baent yn atodol i’r deunyddiau cymwys ai peidio.

(3)Caiff rheoliadau ddarparu nad yw swm o ddeunyddiau anghymwys i’w drin fel swm bychan at ddibenion gofyniad 1 os yw’n fwy na chanran ragnodedig o’r cymysgedd o ddeunyddiau (yn ôl pwysau neu gyfaint neu’r ddau).

(4)Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon er mwyn—

(a)ychwanegu gofyniad pellach at is-adran (1),

(b)addasu gofyniad presennol,

(c)dileu gofyniad, neu

(d)gwneud darpariaeth bellach ynghylch materion y mae’n rhaid eu hystyried neu y caniateir eu hystyried at ddibenion penderfynu a yw gofyniad wedi ei fodloni, neu addasu neu ddileu darpariaeth bresennol ynghylch y materion hynny.

(5)Yn yr adran hon—

17Cymysgedd cymwys o ddeunyddiau: gronynnau mân

(1)Caiff rheoliadau ragnodi gofynion y mae’n rhaid eu bodloni (yn ychwanegol at ofynion 1 i 6 yn adran 16) er mwyn i gymysgedd o ddeunyddiau sy’n cynnwys dim ond gronynnau mân gael ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu (ymysg pethau eraill) bod—

(a)rhaid i’r cymysgedd fod wedi tarddu mewn modd rhagnodedig (er enghraifft, drwy broses trin gwastraff ragnodedig);

(b)rhaid bod tystiolaeth ragnodedig ynglŷn â natur y gronynnau mân yn y cymysgedd;

(c)rhaid i gamau rhagnodedig fod wedi eu cymryd mewn perthynas â’r cymysgedd (naill ai gan weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig neu gan unrhyw berson arall);

(d)rhaid bod tystiolaeth ragnodedig ynglŷn â chymryd y camau hynny;

(e)rhaid i’r cymysgedd roi canlyniad rhagnodedig os cynhelir prawf rhagnodedig arno.

(3)Pan wneir rheoliadau o dan is-adran (2)(e), caiff rheoliadau hefyd wneud darpariaeth gysylltiedig, gan gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gynnal y prawf rhagnodedig (“y prawf”) ar gymysgeddau rhagnodedig o ronynnau mân;

(b)sy’n pennu pryd y mae’n rhaid i’r gweithredwr wneud hynny;

(c)sy’n galluogi ACC—

(i)i gyfarwyddo’r gweithredwr i gynnal y prawf ar bob cymysgedd o ronynnau mân a ddygir ar y safle, neu ar ddisgrifiadau penodol o’r cymysgeddau hynny o ronynnau mân;

(ii)i gynnal y prawf ei hun ar unrhyw gymysgedd o ronynnau mân a ddygir ar y safle;

(d)sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC a’r gweithredwr—

(i)cadw tystiolaeth ragnodedig mewn cysylltiad â’r prawf, a

(ii)ei storio’n ddiogel am gyfnod rhagnodedig;

(e)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr ddarparu gwybodaeth ragnodedig i ACC mewn cysylltiad â’r prawf—

(i)ar gyfnodau rhagnodedig, a

(ii)yn y ffurf a’r modd rhagnodedig;

(f)sy’n ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i’r gweithredwr gymryd camau rhagnodedig os yw cymysgedd o ronynnau mân yn methu’r prawf;

(g)sy’n gwahardd cymysgeddau rhagnodedig o ronynnau mân rhag cael eu trin fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau mewn amgylchiadau rhagnodedig.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) wneud darpariaeth ar gyfer—

(a)cosbau, neu

(b)adolygiadau ac apelau,

mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan yr is-adran honno; a phan fyddant yn gwneud hynny, cânt ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

(5)Caiff unrhyw reoliadau o dan yr adran hon, ac eithrio rheoliadau sy’n rhoi pwerau i ACC neu’n gosod dyletswyddau arno, wneud darpariaeth drwy gyfeirio at bethau a bennir mewn hysbysiad a gyhoeddwyd gan ACC (ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad a gyhoeddwyd wedi hynny).

(6)Yn yr adran hon—

Pwysau trethadwy deunydd

18Pwysau trethadwy deunydd mewn gwarediad trethadwy

(1)Mewn perthynas â phwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig—

(a)rhaid i weithredwr y safle lle y gwneir y gwarediad trethadwy ei gyfrifo;

(b)caiff ACC ei gyfrifo os yw o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.

(2)Mae’r pwysau trethadwy i’w gyfrifo—

(a)yn unol ag adran 19, os y’i cyfrifir gan y gweithredwr;

(b)yn unol ag adran 22, os y’i cyfrifir gan ACC.

(3)Pwysau trethadwy’r deunydd at ddibenion adran 14(2) a (5)—

(a)pan na fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r gwarediad, a

(b)pan fo ACC—

(i)yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd, a

(ii)yn cymhwyso’r canlyniad wrth ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr mewn cysylltiad â’r gwarediad,

yw’r pwysau trethadwy a gyfrifir gan ACC, oni bai bod y gweithredwr yn cymryd y camau a nodir yn is-adran (4) wedi hynny.

(4)Pan fo’r gweithredwr—

(a)yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd, a

(b)yn cymhwyso’r canlyniad wrth ddychwelyd neu ddiwygio ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r gwarediad,

pwysau trethadwy’r deunydd at ddibenion adran 14(2) a (5) yw’r pwysau trethadwy a gyfrifir gan y gweithredwr, oni bai bod ACC yn cymryd y camau a nodir yn is-adran (5) wedi hynny.

(5)Pan fo ACC—

(a)yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd ar ôl i ffurflen dreth gael ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r gwarediad, a

(b)yn cymhwyso’r canlyniad wrth ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr mewn cysylltiad â’r gwarediad,

pwysau trethadwy’r deunydd at ddibenion adran 14(2) a (5) yw’r pwysau trethadwy a gyfrifir gan ACC, oni bai bod y gweithredwr yn cymryd y camau a nodir yn is-adran (4) wedi hynny.

19Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd gan y gweithredwr

(1)Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy yn y ffordd a ganlyn.

(2)Rhaid i’r gweithredwr bennu pwysau’r deunydd mewn tunelli yn unol ag adran 20.

(3)Os oes gan y gweithredwr gymeradwyaeth o dan adran 21 i gymhwyso disgownt mewn perthynas â’r gwarediad, caiff y gweithredwr gymhwyso’r disgownt (neu ddisgownt is) i’r pwysau a bennir o dan is-adran (2), yn ddarostyngedig i amodau’r gymeradwyaeth (os oes rhai).

(4)Y canlyniad yw pwysau trethadwy’r deunydd yn y gwarediad trethadwy.

20Pennu pwysau deunydd gan y gweithredwr

(1)Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy gan ddefnyddio pont bwyso.

(2)Rhaid i’r gweithredwr sicrhau, at ddibenion is-adran (1)—

(a)bod y deunydd yn cael ei bwyso ar y bont bwyso cyn y gwneir y gwarediad, a

(b)bod y bont bwyso yn bodloni pob un o’r gofynion mewn deddfwriaeth pwysau a mesurau sy’n gymwys i’r bont bwyso (os oes rhai).

(3)Caiff gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig wneud cais i ACC am gymeradwyaeth i ddefnyddio dull arall i bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy.

(4)Rhaid i gais—

(a)cael ei gyflwyno mewn unrhyw fodd,

(b)cynnwys unrhyw wybodaeth, ac

(c)cael ei gyflwyno gydag unrhyw ddogfennau,

a bennir gan ACC (naill ai’n gyffredinol neu mewn achos penodol).

(5)Pan fo’r gweithredwr yn gwneud cais am gymeradwyaeth—

(a)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr am ei benderfyniad ar y cais, a

(b)os yw ACC yn rhoi cymeradwyaeth, rhaid i’r hysbysiad nodi manylion y gymeradwyaeth.

(6)Mewn perthynas â chymeradwyaeth—

(a)caiff ymwneud â’r holl warediadau trethadwy y gwneir y cais mewn cysylltiad â hwy, neu â disgrifiadau penodol o’r gwarediadau trethadwy hynny yn unig;

(b)caiff fod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau;

(c)caniateir ei rhoi am gyfnod penodedig neu am gyfnod anghyfyngedig;

(d)caniateir ei hamrywio neu ei dirymu ar unrhyw adeg drwy ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr.

(7)Os yw ACC yn rhoi cymeradwyaeth i’r gweithredwr ddefnyddio dull arall i bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy, rhaid i’r gweithredwr—

(a)defnyddio’r dull hwnnw mewn perthynas â’r gwarediad (yn hytrach na’r dull a ddisgrifir yn is-adran (1)), a

(b)gwneud hynny yn unol ag unrhyw amod y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddo.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth pwysau a mesurau” yw Deddf Pwysau a Mesurau 1985 (p. 72) a rheoliadau a wneir (yn llwyr neu yn rhannol) o dan y Ddeddf honno.

21Disgownt mewn cysylltiad â dŵr mewn deunydd

(1)Caiff gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig wneud cais i ACC am gymeradwyaeth i gymhwyso disgownt mewn cysylltiad â dŵr sydd mewn deunydd wrth gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy.

(2)Rhaid i gais am gymeradwyaeth gael ei gyflwyno mewn ysgrifen.

(3)Pan fo’r gweithredwr yn gwneud cais am gymeradwyaeth—

(a)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr am ei benderfyniad ar y cais, a

(b)os yw ACC yn rhoi cymeradwyaeth, rhaid i’r hysbysiad nodi manylion y gymeradwyaeth.

(4)Ni chaiff ACC roi cymeradwyaeth i’r gweithredwr gymhwyso disgownt mewn cysylltiad â dŵr sydd mewn deunydd onid yw—

(a)y dŵr yno oherwydd—

(i)bod rhaid ei ychwanegu er mwyn gallu cludo’r deunydd i’w waredu,

(ii)bod rhaid ei ddefnyddio i echdynnu mwyn,

(iii)bod rhaid ei ychwanegu yng nghwrs proses ddiwydiannol, neu

(iv)ei fod yn deillio’n anochel o ganlyniad i broses ddiwydiannol, neu

(b)y deunydd yn weddillion trin elifiant neu garthion mewn gwaith trin dŵr.

(5)Mewn perthynas â chymeradwyaeth—

(a)caiff ymwneud â’r holl warediadau trethadwy y gwneir y cais mewn cysylltiad â hwy, neu â disgrifiadau penodol o’r gwarediadau trethadwy hynny yn unig;

(b)caiff bennu disgowntiau gwahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o warediadau trethadwy;

(c)caiff fod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau (er enghraifft, amod sy’n gwneud taliad yn ofynnol mewn cysylltiad â phrofion ar ddeunydd);

(d)caniateir ei rhoi am gyfnod penodedig neu am gyfnod anghyfyngedig;

(e)caniateir ei hamrywio neu ei dirymu ar unrhyw adeg drwy ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr.

(6)Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gadw cofnod o bob gwarediad trethadwy y cymhwysir disgownt iddo mewn cysylltiad â dŵr sydd mewn deunydd (sef “cofnod disgownt dŵr”).

(7)Caiff ACC bennu—

(a)ar ba ffurf y mae’n rhaid cadw cofnod disgownt dŵr;

(b)yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddo.

(8)Mae’r cofnod i’w drin at ddibenion DCRhT fel cofnod y mae’n ofynnol ei gadw a’i storio’n ddiogel o dan adran 38(1) o DCRhT at ddiben dangos bod y ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r gweithredwr ei dychwelyd, mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y mae treth i’w chodi ar y gwarediad mewn cysylltiad ag ef, yn gywir ac yn gyflawn.

22Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd gan ACC

(1)Pan fo ACC yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy, rhaid iddo wneud hynny—

(a)drwy bennu pwysau’r deunydd mewn tunelli gan ddefnyddio unrhyw ddull sy’n briodol ym marn ACC, a

(b)pan fo cymeradwyaeth o dan adran 21 i gymhwyso disgownt mewn perthynas â’r gwarediad, drwy gymhwyso’r disgownt i’r pwysau a bennir o dan baragraff (a), yn ddarostyngedig i amodau’r gymeradwyaeth (os oes rhai).

(2)Ond os yw wedi ei fodloni bod methiant neu doriad a grybwyllir yn adran 23 wedi digwydd mewn perthynas â’r gwarediad trethadwy, caiff ACC, wrth gyfrifo’r pwysau, gymryd y camau a nodir yn yr adran honno mewn cysylltiad â’r methiant neu’r toriad.

(3)Y canlyniad yw pwysau trethadwy’r deunydd yn y gwarediad trethadwy.

23Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd gan ACC: achosion o beidio â chydymffurfio

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo ACC yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy.

(2)Pan fo ACC wedi ei fodloni bod gweithredwr y safle lle y gwneir gwarediad trethadwy wedi methu â dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r gwarediad, caiff ACC anwybyddu adran 22(1)(b).

(3)Pan fo ACC wedi ei fodloni bod gweithredwr y safle lle y gwneir gwarediad trethadwy wedi methu â phennu pwysau’r deunydd yn y gwarediad yn unol ag adran 20, caiff ACC⁠—

(a)anwybyddu adran 22(1)(b), neu

(b)gostwng y disgownt sydd i’w gymhwyso o dan adran 22(1)(b) fel y bo’n briodol yn ei farn.

(4)Pan fo ACC wedi ei fodloni—

(a)bod gan weithredwr y safle lle y gwneir gwarediad trethadwy gymeradwyaeth o dan adran 21 i gymhwyso disgownt mewn perthynas â’r gwarediad, ond

(b)ei fod yn torri amod sydd ynghlwm â’r gymeradwyaeth,

caiff ACC gymryd y camau a nodir yn is-adran (5).

(5)Caiff ACC—

(a)anwybyddu adran 22(1)(b), neu

(b)gostwng y disgownt sydd i’w gymhwyso o dan adran 22(1)(b) fel y bo’n briodol yn ei farn.

(6)Pan fo ACC wedi ei fodloni nad oes cofnod disgownt dŵr mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy, caiff ACC anwybyddu adran 22(1)(b).

(7)Pan fo ACC wedi ei fodloni nad yw’r cofnod disgownt dŵr mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy yn bodloni gofyniad a bennir o dan adran 21(7), caiff ACC—

(a)anwybyddu adran 22(1)(b), neu

(b)gostwng y disgownt sydd i’w gymhwyso o dan adran 22(1)(b) fel y bo’n briodol yn ei farn.

(8)Yn yr adran hon, mae i “cofnod disgownt dŵr” yr ystyr a roddir gan adran 21(6).

24Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â’r dull o bennu pwysau deunydd

Yn adran 172 o DCRhT (penderfyniadau apeliadwy), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (g) (a fewnosodir gan baragraff 62 o Atodlen 23 i DTTT) mewnosoder—

(h)penderfyniad sy’n ymwneud â’r dull sydd i’w ddefnyddio gan weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig i bennu pwysau deunydd at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;.

25Pŵer i addasu darpariaeth sy’n ymwneud â phwysau trethadwy deunydd

Caiff rheoliadau ychwanegu at unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n ymwneud â phwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig (gan gynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â chymhwyso disgownt mewn cysylltiad â dŵr sydd yn y deunydd), ei diddymu neu ei diwygio fel arall.

PENNOD 3RHYDDHAD RHAG TRETH

26Rhyddhadau: cyffredinol

(1)Mae’r Bennod hon yn darparu rhyddhad rhag treth ar gyfer gwarediadau trethadwy penodol.

(2)Nid yw’r Bennod hon ond yn gymwys i warediadau a wneir ar safleoedd tirlenwi awdurdodedig.

(3)Nid yw’r dreth i’w chodi mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy os yw wedi ei ryddhau rhag treth.

(4)Rhaid hawlio rhyddhad rhag treth ar ffurflen dreth.

27Deunydd a dynnir o wely afon, o wely’r môr neu o wely dyfroedd eraill

(1)Mae gwarediad trethadwy wedi ei ryddhau rhag treth os yw’n warediad deunydd sy’n gyfan gwbl ar ffurf—

(a)deunydd o fewn is-adran (2) neu (3), neu

(b)deunydd o fewn un o’r is-adrannau hynny a deunydd o fewn is-adran (4).

(2)Mae deunydd o fewn yr is-adran hon os yw wedi ei dynnu o wely unrhyw un o’r canlynol (boed naturiol neu artiffisial)—

(a)afon, camlas neu gwrs dŵr arall, neu

(b)doc, harbwr neu gyffiniau harbwr.

(3)Mae deunydd o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw’n ddeunydd mwynol sy’n bodoli’n naturiol, a

(b)os yw wedi ei dynnu o wely’r môr yng nghwrs gweithrediadau a gyflawnir at ddiben cael deunyddiau megis tywod neu raean.

(4)Mae deunydd o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw’n ddeunydd cymwys,

(b)os ychwanegwyd ef at ddeunydd o fewn is-adran (2) neu (3) at ddiben sicrhau nad yw’r deunydd hwnnw ar ffurf hylif, ac

(c)os nad yw swm y deunydd a ychwanegwyd yn fwy na’r hyn sy’n angenrheidiol i gyflawni’r diben hwnnw.

(5)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at dynnu deunydd yn gyfeiriadau at ei dynnu drwy garthu neu mewn unrhyw fodd arall.

28Deunydd sy’n deillio o fwyngloddio a chwarela

(1)Mae gwarediad trethadwy wedi ei ryddhau rhag treth os yw’n warediad deunydd—

(a)sydd i gyd yn deillio o weithrediadau mwyngloddio (boed yn fwyngloddio dwfn neu’n fwyngloddio brig) neu o weithrediadau chwarela,

(b)sydd i gyd yn ddeunydd sy’n bodoli’n naturiol a echdynnwyd o’r ddaear yng nghwrs y gweithrediadau, ac

(c)nad oes dim ohono wedi bod yn destun proses o fewn is-adran (2) a gynhaliwyd ar unrhyw gam rhwng yr echdynnu a’r gwaredu, nac wedi deillio ohoni.

(2)Mae proses o fewn yr is-adran hon os yw—

(a)ar wahân i’r gweithrediadau mwyngloddio neu chwarela, neu

(b)yn rhan o’r gweithrediadau hynny ac yn newid cyfansoddiad cemegol y deunydd yn barhaol.

29Defnyddio deunydd mewn gwaith adfer safle cymeradwy

(1)Mae gwarediad trethadwy wedi ei ryddhau rhag treth os yw—

(a)yn warediad deunydd sy’n ddeunydd cymwys i gyd, a

(b)yn rhan o waith adfer a gyflawnir yn unol â chymeradwyaeth a roddir gan ACC.

(2)Ni chaiff ACC gymeradwyo cyflawni gwaith adfer ar safle tirlenwi awdurdodedig onid yw⁠—

(a)gweithredwr y safle yn gwneud cais ysgrifenedig i ACC am y gymeradwyaeth,

(b)y cais yn cael ei wneud cyn i’r gwaith adfer ddechrau, ac

(c)ACC wedi ei fodloni bod y gwaith yn ofynnol o dan un o amodau trwydded amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r safle.

(3)Caiff cymeradwyaeth—

(a)ymwneud â’r holl waith a ddisgrifir yn y cais am y gymeradwyaeth neu ran ohono;

(b)ymwneud â gwaith a gyflawnwyd cyn i’r gymeradwyaeth gael ei rhoi neu a gyflawnir ar ôl hynny (neu’r ddau);

(c)bod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau (er enghraifft, amod sy’n gwneud rhoi adroddiadau i ACC ynglŷn â chyflawni’r gwaith yn ofynnol).

30Gwaith adfer safle: y weithdrefn wrth wneud cais am gymeradwyaeth

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig wedi gwneud cais i ACC am gymeradwyaeth i gyflawni gwaith adfer.

(2)Caiff ACC ofyn drwy hysbysiad am ragor o wybodaeth gan y gweithredwr at ddiben penderfynu a ddylid rhoi cymeradwyaeth ai peidio neu o dan ba delerau y dylid ei rhoi.

(3)Rhaid i hysbysiad am gais am ragor o wybodaeth—

(a)cael ei ddyroddi o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn cael y cais am gymeradwyaeth, a

(b)pennu o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid darparu’r wybodaeth bellach, y mae’n rhaid iddo fod yn 30 o ddiwrnodau o leiaf gan ddechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y cais.

(4)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr am ei benderfyniad ar y cais am gymeradwyaeth o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau—

(a)os nad yw ACC yn gwneud cais am ragor o wybodaeth, â’r diwrnod y mae ACC yn cael y cais am gymeradwyaeth, neu

(b)os yw ACC yn gwneud cais am ragor o wybodaeth, â’r cynharaf o’r canlynol—

(i)y diwrnod y mae ACC yn cael yr wybodaeth, a

(ii)y diwrnod y mae’r cyfnod ar gyfer darparu’r wybodaeth yn dod i ben.

(5)Os yw ACC yn cymeradwyo’r cais, rhaid i’r hysbysiad nodi manylion y gymeradwyaeth.

(6)Caiff ACC a gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gytuno i ymestyn cyfnod a bennir gan yr adran hon neu oddi tani.

(7)Os yw’r cyfnod a bennir yn is-adran (4) (gan gynnwys unrhyw estyniad i’r cyfnod y cytunir iddo o dan is-adran (6)) yn dod i ben heb i ACC fod wedi dyroddi hysbysiad am ei benderfyniad, mae ACC i’w drin fel pe bai wedi cymeradwyo cyflawni gwaith adfer fel y’i disgrifir yn y cais (gan gynnwys unrhyw ran o’r gwaith a gyflawnwyd rhwng yr adeg y gwnaed y cais a’r adeg y daeth y cyfnod hwnnw i ben).

31Gwaith adfer safle: amrywio cymeradwyaeth

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo ACC wedi cymeradwyo cyflawni gwaith adfer ar safle tirlenwi awdurdodedig.

(2)Caiff gweithredwr y safle wneud cais ysgrifenedig i ACC amrywio’r gymeradwyaeth; ac mae adran 30 yn gymwys i gais i amrywio fel y mae’n gymwys i gais am gymeradwyaeth.

(3)Caiff ACC amrywio’r gymeradwyaeth ar ei gymhelliad ei hun os yw wedi ei fodloni bod yr amrywiad yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y gymeradwyaeth ond yn ymwneud â gwaith adfer sy’n ofynnol o dan un o amodau trwydded amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r safle.

(4)Os yw ACC yn amrywio cymeradwyaeth ar ei gymhelliad ei hun, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad sy’n nodi manylion yr amrywiad i weithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig.

(5)Nid yw amrywio cymeradwyaeth yn effeithio ar gymhwysiad adran 29 i waith adfer a gyflawnwyd yn unol â’r gymeradwyaeth cyn ei hamrywio.

32Ail-lenwi mwyngloddiau brig a chwareli

(1)Mae gwarediad trethadwy wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os yw’n warediad deunydd sy’n ddeunydd cymwys i gyd,

(b)os caiff ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig (neu ar ran o safle o’r fath) a ddefnyddiwyd ar gyfer gweithrediadau mwyngloddio brig neu weithrediadau chwarela,

(c)os caiff ei wneud yn unol ag amod caniatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r safle sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r safle gael ei ail-lenwi (neu i’r rhan o dan sylw gael ei hail-lenwi) yn llwyr neu’n rhannol ar ôl i’r gweithrediadau hynny ddod i ben, a

(d)os na wnaed unrhyw warediadau trethadwy eraill ar y safle (neu ar y rhan o dan sylw) ers i’r gweithrediadau hynny ddod i ben, ar wahân i warediadau a oedd wedi eu rhyddhau rhag treth o dan adran 28 neu o dan yr adran hon.

(2)Os daeth y gwarediadau a grybwyllir yn is-adran (1)(b) i ben cyn i’r adran hon ddod i rym, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(d) at warediadau trethadwy eraill yn cynnwys gwarediadau a oedd yn warediadau trethadwy at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Cyllid 1996 (p. 8) (treth dirlenwi).

(3)Os daeth yr holl weithrediadau mwyngloddio brig a’r holl weithrediadau chwarela ar y safle i ben cyn 1 Hydref 1999, nid yw’r gwarediadau deunydd ar y safle wedi eu rhyddhau rhag treth o dan yr adran hon oni bai bod y gofyniad a grybwyllir yn is-adran (1)(c) wedi ei osod ar y dyddiad hwnnw neu cyn hynny.

33Pŵer i addasu rhyddhadau

(1)Caiff rheoliadau—

(a)creu rhyddhad ychwanegol rhag treth,

(b)addasu rhyddhad presennol, neu

(c)dileu rhyddhad.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu i ryddhad fod yn gymwys yn ddarostyngedig i amodau (er enghraifft, amod sy’n ei gwneud yn ofynnol hysbysu ACC cyn gwneud gwarediad trethadwy).

(3)Caiff y rheoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

PENNOD 4CASGLU A RHEOLI’R DRETH

Cofrestru

34Cofrestr o bersonau sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy

(1)Rhaid i ACC gadw cofrestr o bersonau sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy.

(2)Mae person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy os yw’r person yn weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig lle y gwneir gwarediadau trethadwy.

(3)Rhaid i gofnod person ar y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2.

(4)Caiff y gofrestr gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae ACC o’r farn ei bod yn briodol at ddibenion casglu a rheoli’r dreth.

(5)Caiff ACC gyhoeddi gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr.

35Dyletswydd i fod yn gofrestredig

(1)Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy fod wedi ei gofrestru gydag ACC.

(2)Rhaid i berson sy’n bwriadu cyflawni gweithrediadau trethadwy ond nad yw wedi ei gofrestru—

(a)gwneud cais ysgrifenedig i ACC i gael ei gofrestru, a

(b)gwneud hynny o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y diwrnod y mae’r person yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy.

(3)Rhaid i ACC gofrestru’r person os yw wedi ei fodloni bod y cais—

(a)yn cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan ACC i gofrestru’r person, a

(b)ar y ffurf a bennir gan ACC (os o gwbl).

(4)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person am ei benderfyniad ar y cais.

(5)Os yw ACC yn cofrestru’r person, rhaid i’r hysbysiad nodi cofnod y person yn y gofrestr.

36Newidiadau a chywiro gwybodaeth

(1)Rhaid i berson cofrestredig roi hysbysiad i ACC am unrhyw newid mewn amgylchiadau sy’n peri i gofnod y person yn y gofrestr fod yn anghywir.

(2)Rhaid rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r newid yn digwydd.

(3)Rhaid i berson sydd wedi darparu gwybodaeth i ACC at ddiben sy’n ymwneud â chofrestru roi hysbysiad i ACC os yw’r person yn darganfod bod unrhyw ran o’r wybodaeth yn anghywir.

(4)Rhaid rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n ddechrau â’r diwrnod y mae’r person yn darganfod yr anghywirdeb.

(5)Os yw ACC wedi ei fodloni bod gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr yn anghywir, caiff gywiro’r gofrestr (pa un a yw’r person cofrestredig y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef wedi rhoi hysbysiad i ACC am yr anghywirdeb ai peidio).

(6)Os yw ACC yn cywiro cofnod person yn y gofrestr, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r person yn nodi’r cofnod fel y’i cywirwyd.

37Canslo cofrestriad

(1)Rhaid i berson cofrestredig sy’n peidio â chyflawni gweithrediadau trethadwy wneud cais ysgrifenedig i ACC i ganslo cofrestriad y person hwnnw.

(2)Rhaid gwneud y cais cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn peidio â chyflawni gweithrediadau trethadwy.

(3)Caiff ACC ganslo cofrestriad person os yw wedi ei fodloni bod y person wedi peidio â chyflawni gweithrediadau trethadwy (pa un a yw’r person wedi gwneud cais i ganslo’r cofrestriad ai peidio).

(4)Ond ni chaiff ACC ganslo cofrestriad y person oni bai ei fod wedi ei fodloni bod yr holl dreth y mae’n ofynnol i’r person ei thalu wedi ei thalu.

(5)Caiff ACC hefyd ganslo cofrestriad person os yw wedi ei fodloni nad yw’r person wedi cyflawni gweithrediadau trethadwy ac nad yw’n bwriadu gwneud hynny.

(6)Os yw ACC yn canslo cofrestriad person, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am y canslo i’r person.

38Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â chofrestru

Yn adran 172 o DCRhT (penderfyniadau apeliadwy), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (h) (a fewnosodir gan adran 24 o’r Ddeddf hon) mewnosoder—

(i)penderfyniad sy’n ymwneud â chofrestru person at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;.

Cyfrifo treth

39Dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â chyfnod cyfrifyddu

(1)Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy ddychwelyd ffurflen dreth i ACC mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu.

(2)Rhaid i’r ffurflen dreth gynnwys—

(a)asesiad o swm y dreth sydd i’w godi ar y person mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu (gweler adran 41), a

(b)naill ai—

(i)datganiad gan y person fod yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ar y ffurflen dreth, a’r wybodaeth mewn unrhyw ddogfen sy’n mynd gyda’r ffurflen dreth, yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth y person, neu

(ii)os yw’r person yn awdurdodi asiant i lenwi a dychwelyd y ffurflen dreth ar ran y person, ardystiad gan yr asiant fod y person wedi gwneud datganiad i’r perwyl hwnnw.

(3)Rhaid dychwelyd y ffurflen dreth ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny.

(4)Dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth—

(a)yw diwrnod gwaith olaf y mis sy’n dilyn y mis y daw’r cyfnod cyfrifyddu i ben ynddo, oni bai y caiff y dyddiad ffeilio ei amrywio o dan adran 40;

(b)os caiff y dyddiad ffeilio ei amrywio o dan adran 40, yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad (ac os gwneir mwy nag un amrywiad i’r dyddiad ffeilio, yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad diwethaf).

(5)Y cyfnodau cyfrifyddu y mae’n rhaid i berson ddychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â hwy—

(a)yw’r cyfnodau a bennir yn is-adrannau (6) a (7), oni bai y caiff y cyfnodau hynny eu hamrywio o dan adran 40;

(b)os caiff y cyfnodau a bennir yn is-adrannau (6) a (7) eu hamrywio o dan adran 40, yw’r cyfnodau a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad (ac os gwneir mwy nag un amrywiad i’r cyfnodau cyfrifyddu, yw’r cyfnodau a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad diwethaf).

(6)Yn achos person sy’n gofrestredig—

(a)y cyfnod cyfrifyddu cyntaf yw’r cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy (neu, os yw’n ddiweddarach, y diwrnod y daw’r person yn gofrestredig), a

(ii)sy’n dod i ben â diwrnod a bennir mewn hysbysiad a ddyroddir gan ACC i’r person;

(b)y cyfnodau cyfrifyddu dilynol yw pob cyfnod dilynol o 3 mis y mae’r person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy ynddo.

(7)Yn achos person nad yw’n gofrestredig—

(a)y cyfnod cyfrifyddu cyntaf yw’r cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy, a

(ii)sy’n dod i ben â diwedd y chwarter calendr y mae’r person yn dechrau gwneud hynny (neu, os yw’n gynharach, y diwrnod cyn y diwrnod y daw’r person yn gofrestredig);

(b)y cyfnodau cyfrifyddu dilynol yw pob chwarter calendr dilynol y mae’r person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy ynddo (ond os daw’r person yn gofrestredig cyn diwedd chwarter calendr, daw’r cyfnod cyfrifyddu sy’n ymwneud â’r chwarter hwnnw i ben â’r diwrnod cyn y diwrnod y daw’r person yn gofrestredig).

(8)Yn yr adran hon, ystyr “chwarter calendr” yw cyfnod o 3 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi neu 31 Rhagfyr.

40Pŵer i amrywio cyfnod cyfrifyddu neu ddyddiad ffeilio

(1)Caiff ACC amrywio—

(a)hyd cyfnod cyfrifyddu;

(b)dyddiad ffeilio ffurflen dreth.

(2)Gwneir amrywiad drwy ddyroddi hysbysiad i’r person y mae’r amrywiad yn gymwys iddo.

(3)Rhaid i’r hysbysiad nodi manylion yr amrywiad.

(4)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad o dan yr adran hon naill ai—

(a)ar gais person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy neu sy’n bwriadu gwneud hynny, neu

(b)ar ei gymhelliad ei hun.

(5)Rhaid i gais i amrywio gael ei gyflwyno mewn ysgrifen.

(6)Os yw ACC yn gwrthod cais i amrywio, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r person a wnaeth y cais.

41Y dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chyfnod cyfrifyddu

(1)Mae’r dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig i’w chodi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y gwneir y gwarediad ynddo.

(2)Ond os yw’r person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy ar y safle yn dyroddi anfoneb dirlenwi mewn cysylltiad â’r gwarediad o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y gwarediad, mae swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad i’w godi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y dyroddir yr anfoneb ynddo (yn hytrach na’r cyfnod cyfrifyddu y gwneir y gwarediad ynddo).

(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i’r gwarediad os yw’r person wedi rhoi hysbysiad i ACC, cyn dyroddi’r anfoneb dirlenwi, nad yw’r person yn dymuno manteisio arni.

(4)Caiff y person amrywio’r hysbysiad, neu ei dynnu’n ôl, drwy roi hysbysiad pellach i ACC.

(5)Caiff person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy, neu sy’n bwriadu gwneud hynny, wneud cais ysgrifenedig i ACC am gymhwyso is-adran (2)—

(a)i’r holl warediadau trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy arno, neu

(b)i ddisgrifiad o warediadau trethadwy a bennir yn y cais,

fel pe bai’r cyfeiriad at gyfnod o 14 o ddiwrnodau yn gyfeiriad at gyfnod hwy.

(6)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person am ei benderfyniad ar y cais; ac os yw ACC yn caniatáu’r cais, rhaid i’r hysbysiad bennu’r cyfnod hwy a’r gwarediadau trethadwy y mae’r cyfnod hwy i’w gymhwyso mewn perthynas â hwy.

(7)Caiff ACC amrywio’r hysbysiad, neu ei dynnu’n ôl, drwy ddyroddi hysbysiad pellach i’r person.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “anfoneb dirlenwi” yw anfoneb—

(a)a ddyroddir mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy, a

(b)sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 3.

(9)Caiff rheoliadau ddiwygio Atodlen 3.

Talu, adennill ac ad-dalu treth

42Talu treth

(1)Rhaid i berson sy’n dychwelyd ffurflen dreth dalu’r swm o dreth a nodir ar y ffurflen dreth fel y swm yr aseswyd ei fod i’w godi ar y person ar ddiwrnod ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny.

(2)Pan asesir bod swm o dreth i’w godi ar y person o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i’r ffurflen dreth o dan adran 41 o DCRhT (trethdalwr yn diwygio ffurflen dreth), rhaid i’r person dalu’r swm—

(a)os gwneir y diwygiad ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny, ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, neu

(b)os gwneir y diwygiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, ar y diwrnod y mae’r person yn rhoi hysbysiad i ACC am y diwygiad.

(3)Gweler y darpariaethau a ganlyn yn DCRhT am ddarpariaeth ynghylch talu symiau o dreth mewn amgylchiadau eraill—

43Dyletswydd i gadw crynodeb treth gwarediadau tirlenwi

(1)Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy gadw cofnod (sef “crynodeb treth gwarediadau tirlenwi”) o—

(a)swm y dreth sydd i’w godi ar y person, a

(b)y dreth a dalwyd gan y person,

mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu.

(2)Caiff ACC bennu—

(a)ar ba ffurf y mae’n rhaid cadw’r crynodeb treth gwarediadau tirlenwi, a

(b)yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddo.

(3)Mae’r crynodeb treth gwarediadau tirlenwi i’w drin at ddibenion DCRhT fel cofnod y mae’n ofynnol ei gadw a’i storio’n ddiogel o dan adran 38(1) o DCRhT at ddiben dangos bod y ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu yn gywir ac yn gyflawn.

44Gohirio adennill

(1)Mae adran 181B o DCRhT (ceisiadau i ohirio) (a fewnosodir gan baragraff 63 o Atodlen 23 i DTTT) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (3)—

(a)hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (a), a

(b)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder , ac

(c)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, y rhesymau pam y mae’r person sy’n gwneud y cais yn credu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person.

(3)Yn is-adran (4)—

(a)daw’r geiriau o “yn credu” i “yn ormodol,” yn baragraff (a), a

(b)ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder a

(b)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person,.

(4)Yn is-adran (5)—

(a)daw’r geiriau o “yn credu” i “yn ormodol,” yn baragraff (a), a

(b)yn lle’r geiriau o “caiff ganiatáu” i’r diwedd rhodder neu

(b)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu mai dim ond mewn cysylltiad â rhan o’r swm (a llog ar y rhan honno) y byddai adennill yn achosi caledi ariannol i’r person,

caiff ACC ganiatáu’r cais mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r swm sy’n briodol yn ei farn.

45Dim gofyniad i ollwng neu ad-dalu treth oni thelir yr holl dreth

Yn adran 67 o DCRhT (achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliad), ar ôl is-adran (11) mewnosoder—

(12)Achos 8 yw—

(a)pan wneir yr hawliad mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, a

(b)pan na fo swm o dreth gwarediadau tirlenwi y mae’n ofynnol i’r hawlydd ei dalu wedi ei dalu.

RHAN 4GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR MEWN LLEOEDD HEBLAW SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 1Y DRETH SYDD I’W CHODI AR WAREDIADAU TRETHADWY

46Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i warediad trethadwy deunydd a wneir yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath.

(2)Mae swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad i’w gyfrifo drwy luosi pwysau trethadwy’r deunydd mewn tunelli â’r gyfradd ar gyfer gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi.

(3)Pwysau trethadwy’r deunydd yw pwysau’r deunydd fel y’i pennir gan ACC gan ddefnyddio unrhyw ddull y mae ACC o’r farn ei fod yn briodol.

(4)Y gyfradd ar gyfer gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw’r gyfradd y dunnell a ragnodir at ddibenion is-adran (2) mewn rheoliadau.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (4) ragnodi cyfraddau gwahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o ddeunydd.

PENNOD 2Y WEITHDREFN AR GYFER CODI’R DRETH

47Yr amod ar gyfer codi treth

(1)At ddibenion y Bennod hon, mae person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy os yw’r person—

(a)wedi gwneud y gwarediad, neu

(b)wedi achosi neu ganiatáu i’r gwarediad gael ei wneud, gan wybod ei fod yn gwneud hynny.

(2)At ddibenion is-adran (1)(b)—

(a)mae person a oedd, pan wnaed y gwarediad, yn rheoli, neu mewn sefyllfa i reoli, cerbyd modur neu ôl-gerbyd y gwnaed y gwarediad ohono i’w drin fel pe bai wedi achosi i’r gwarediad gael ei wneud, gan wybod ei fod yn gwneud hynny, a

(b)mae person a oedd, pan wnaed y gwarediad, yn berchennog, yn lesddeiliad neu’n feddiannydd y tir lle y gwnaed y gwarediad i’w drin fel pe bai wedi caniatáu i’r gwarediad gael ei wneud, gan wybod ei fod yn gwneud hynny,

oni bai bod y person yn bodloni ACC neu (ar apêl) y tribiwnlys nad achosodd neu na chaniataodd y person i’r gwarediad gael ei wneud, gan wybod ei fod yn gwneud hynny.

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch—

(a)amgylchiadau pan fo person i’w drin fel pe bai’n bodloni (neu heb fod yn bodloni) yr amod ar gyfer codi treth, neu

(b)materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu a yw person yn bodloni (neu heb fod yn bodloni) yr amod hwnnw.

(4)Caiff y rheoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

48Pŵer i ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol

(1)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol i berson os ymddengys i ACC—

(a)bod gwarediad trethadwy wedi ei wneud yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, a

(b)bod y person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad (gweler adran 47).

(2)Rhaid i hysbysiad rhagarweiniol—

(a)nodi’r tir lle yr ymddengys fod y gwarediad trethadwy wedi ei wneud;

(b)disgrifio amgylchiadau’r gwarediad a natur y deunydd a waredwyd, i’r graddau y maent yn hysbys i ACC;

(c)datgan pryd yr ymddengys y gwnaed y gwarediad, ac os yw ACC wedi amcangyfrif pryd y gwnaed y gwarediad, esbonio sut y mae ACC wedi amcangyfrif hynny;

(d)esbonio pam fod ACC o’r farn fod y person y dyroddir yr hysbysiad iddo yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad;

(e)datgan swm y dreth y bwriedir ei godi ar y gwarediad;

(f)esbonio sut y cyfrifwyd y swm hwnnw, gan gynnwys y dull a ddefnyddiodd ACC i bennu pwysau trethadwy’r deunydd a waredwyd.

(3)Rhaid i hysbysiad rhagarweiniol hefyd hysbysu’r person y’i dyroddir iddo—

(a)y dyroddir hysbysiad o dan adran 49 ar ôl diwedd 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad rhagarweiniol,

(b)y caiff y person wneud cais i ACC ymestyn y cyfnod hwnnw, ac

(c)y caiff y person gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i ACC unrhyw bryd cyn y dyroddir hysbysiad o dan adran 49.

(4)Caiff un hysbysiad rhagarweiniol ymwneud â mwy nag un gwarediad trethadwy neu â nifer heb ei ganfod o warediadau trethadwy.

(5)Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol fwy na 4 blynedd ar ôl i ACC ddod yn ymwybodol o unrhyw warediad trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(6)Ni chaiff ACC ychwaith ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol fwy nag 20 mlynedd ar ôl yr adeg yr ymddengys i ACC y gwnaed unrhyw warediad trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

49Pŵer i ddyroddi hysbysiad codi treth ar ôl dyroddi hysbysiad rhagarweiniol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)ACC wedi dyroddi hysbysiad rhagarweiniol i berson o dan adran 48, a

(b)y cyfnod o 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddwyd yr hysbysiad, neu unrhyw gyfnod hwy y cytunodd ACC iddo, wedi dod i ben.

(2)Rhaid i ACC naill ai—

(a)dyroddi hysbysiad codi treth i’r person mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r gwarediadau y mae’r hysbysiad rhagarweiniol yn ymwneud â hwy, neu

(b)dyroddi hysbysiad i’r person sy’n datgan nad yw’n bwriadu dyroddi hysbysiad codi treth i’r person mewn cysylltiad â’r gwarediadau hynny.

(3)Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad codi treth i berson onid yw’n fodlon—

(a)bod gwarediad trethadwy wedi ei wneud yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, a

(b)bod y person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth ar y gwarediad.

(4)Wrth benderfynu pa un ai i ddyroddi hysbysiad codi treth i berson ai peidio, rhaid i ACC roi sylw i unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y person.

(5)Rhaid i hysbysiad codi treth—

(a)rhoi manylion y gwarediad neu’r gwarediadau trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef neu â hwy;

(b)esbonio pam fod ACC wedi ei fodloni bod y person y dyroddir yr hysbysiad iddo yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad neu’r gwarediadau;

(c)datgan swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad neu’r gwarediadau;

(d)esbonio sut y cyfrifwyd y swm hwnnw, gan gynnwys y dull a ddefnyddiodd ACC i bennu pwysau trethadwy’r deunydd a waredwyd;

(e)hysbysu’r person am yr hawl i ofyn am adolygiad a’r hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad o dan Ran 8 o DCRhT.

50Pŵer i ddyroddi hysbysiad codi treth heb ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo ACC—

(a)wedi ei fodloni bod person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy a wnaed yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, a

(b)o’r farn ei bod yn debygol y collir treth os yw’n gweithredu o dan adrannau 48 a 49.

(2)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad codi treth i’r person heb ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol yn gyntaf.

(3)Rhaid i hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan yr adran hon gynnwys—

(a)yr wybodaeth a bennir yn adran 49(5), a

(b)rhesymau ACC dros ddyroddi’r hysbysiad heb ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol yn gyntaf.

(4)Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad codi treth o dan yr adran hon fwy na 4 blynedd ar ôl i ACC ddod yn ymwybodol o unrhyw warediad trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(5)Ni chaiff ACC ychwaith ddyroddi hysbysiad codi treth o dan yr adran hon fwy nag 20 mlynedd ar ôl yr adeg yr ymddengys i ACC y gwnaed unrhyw warediad trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

51Talu treth

(1)Rhaid i berson y dyroddir hysbysiad codi treth iddo dalu’r swm o dreth a godir gan yr hysbysiad.

(2)Rhaid talu’r dreth cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.

(3)Os dyroddir hysbysiadau codi treth i fwy nag person mewn cysylltiad â’r un gwarediad trethadwy, mae’r holl bersonau hynny’n atebol ar y cyd ac yn unigol am y swm o dreth a godir ar y gwarediad.

52Pŵer i wneud darpariaeth bellach

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch—

(a)y gweithdrefnau ar gyfer dyroddi hysbysiadau rhagarweiniol a hysbysiadau codi treth;

(b)talu swm o dreth a godir gan hysbysiad codi treth;

(c)unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â chodi swm o dreth neu dalu swm o dreth o dan y Bennod hon, neu’n deillio o hynny.

(2)Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

53Llog taliadau hwyr

(1)Mae adran 157 o DCRhT (llog taliadau hwyr ar drethi datganoledig) (a amnewidir gan baragraff 58 o Atodlen 23 i DTTT) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys i swm o dreth gwarediadau tirlenwi a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran 49 neu 50 o DTGT.

(3)Yn is-adran (3), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)yn achos swm sydd o fewn is-adran (1A), y dyddiad sy’n union ar ôl diwedd y cyfnod a bennir yn adran 51 o DTGT.

RHAN 5DARPARIAETH ATODOL

PENNOD 1CREDYDAU TRETH

54Pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer credydau treth

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan fo person i fod â hawlogaeth i gredyd treth mewn cysylltiad â’r dreth.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—

(a)ynghylch amodau y mae hawlogaeth i gredyd i fod yn ddarostyngedig iddynt;

(b)ynghylch swm credyd;

(c)ynghylch y ffordd y mae person sydd â hawlogaeth i gredyd i gael budd ohono (er enghraifft, darpariaeth i dynnu didyniadau o’r dreth a fyddai fel arall i’w chodi ar berson, ac i daliadau gael eu rhoi i berson, mewn amgylchiadau a ragnodir yn y rheoliadau);

(d)ynghylch y weithdrefn ar gyfer hawlio credyd (er enghraifft, darpariaeth ynghylch gwybodaeth sydd i’w darparu gan hawlydd i ategu hawliad);

(e)ynghylch amodau y mae unrhyw fudd mewn cysylltiad â chredyd i fod yn ddarostyngedig iddynt, neu y caiff fod yn ddarostyngedig iddynt, (er enghraifft, amodau sy’n gwneud taliadau neu ad-daliadau i ACC yn ofynnol, o dan amgylchiadau a ragnodir yn y rheoliadau);

(f)ynghylch amgylchiadau y caiff ACC atal credyd oddi tanynt;

(g)sy’n caniatáu i ACC ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth a dogfennau gael eu darparu, ac yn caniatáu i ACC archwilio mangreoedd, naill ai mewn cysylltiad â gofyniad a osodir o dan y rheoliadau, neu fel arall at ddiben cadarnhau sefyllfa person o ran hawlogaeth i gredyd, neu o ran gofyniad i roi ad-daliad i ACC o dan y rheoliadau;

(h)ynghylch dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel;

(i)ar gyfer cosbau mewn cysylltiad ag achosion o fethu â chydymffurfio â gofynion a osodir gan y rheoliadau neu oddi tanynt;

(j)ynghylch adolygiadau ac apelau.

(3)Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

PENNOD 2MANNAU NAD YDYNT AT DDIBENION GWAREDU

55Dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu

(1)Caiff ACC ddynodi rhan o safle tirlenwi awdurdodedig yng Nghymru yn fan nad yw at ddibenion gwaredu drwy ddyroddi hysbysiad i weithredwr y safle.

(2)Rhaid i hysbysiad sy’n dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu bennu—

(a)y safle tirlenwi awdurdodedig y mae’n ymwneud ag ef,

(b)ffiniau’r man a ddynodir ganddo, ac

(c)y dyddiad y mae dynodiad y man yn cael effaith.

(3)Mewn perthynas â’r hysbysiad—

(a)rhaid iddo bennu’r disgrifiadau o ddeunydd y mae’n rhaid ei ddodi yn y man nad yw at ddibenion gwaredu,

(b)caiff bennu disgrifiadau o ddeunydd na chaniateir ei ddodi yn y man hwnnw,

(c)rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i bwysau unrhyw ddeunydd a ddodir yn y man neu a symudir ymaith o’r man gael ei ganfod drwy ddefnyddio dull a bennir yn yr hysbysiad,

(d)caiff bennu uchafswm y deunydd y caniateir ei gadw yn y man,

(e)rhaid iddo bennu’r gweithgarwch safle tirlenwi y caniateir ei gyflawni yn y man, ac

(f)rhaid iddo bennu’r cyfnod hwyaf y caniateir cadw deunydd yn y man.

(4)Caiff y ddarpariaeth a wneir gan yr hysbysiad o dan is-adran (3) gynnwys—

(a)darpariaeth sy’n ddarostyngedig i amodau neu eithriadau, a

(b)darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol (gan gynnwys disgrifiadau gwahanol o ddeunydd).

(5)Caiff ACC amrywio neu ganslo dynodiad o dan yr adran hon drwy ddyroddi hysbysiad pellach i weithredwr y safle.

(6)Mewn perthynas â hysbysiad sy’n amrywio neu’n canslo dynodiad—

(a)rhaid iddo nodi manylion yr amrywio neu’r canslo,

(b)rhaid iddo bennu’r dyddiad y mae’n cael effaith, ac

(c)caiff bennu’r camau y mae’n ofynnol i’r gweithredwr eu cymryd mewn cysylltiad â’r amrywio neu’r canslo, neu’r camau y caniateir iddo eu cymryd mewn cysylltiad â hynny.

(7)Caiff ACC wneud, amrywio neu ganslo dynodiad o dan yr adran hon—

(a)ar gais gweithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r dynodiad yn ymwneud ag ef, neu

(b)ar ei gymhelliad ei hun.

(8)Rhaid i gais i ddynodi, i amrywio neu i ganslo gael ei gyflwyno mewn ysgrifen.

(9)Os yw ACC yn gwrthod cais, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i weithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig.

(10)Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon er mwyn gwneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch yr hyn sydd i’w gynnwys mewn hysbysiad a ddyroddir o dan yr adran hon.

56Dyletswyddau gweithredwr mewn perthynas â man nad yw at ddibenion gwaredu

(1)Pan fo—

(a)hysbysiad mewn grym sy’n dynodi rhan o safle tirlenwi awdurdodedig yn fan nad yw at ddibenion gwaredu, a

(b)deunydd ar y safle sydd o ddisgrifiad a bennir yn yr hysbysiad fel deunydd y mae’n rhaid ei ddodi, neu na chaniateir ei ddodi, yn y man hwnnw,

rhaid i weithredwr y safle sicrhau yr ymdrinnir â’r deunydd yn unol â darpariaethau’r hysbysiad.

(2)Mae is-adran (1) yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â deunydd os gwneir gwarediad trethadwy o’r deunydd y tu allan i’r man nad yw at ddibenion gwaredu.

(3)Nid yw is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â deunydd—

(a)os yw gwarediad trethadwy o’r deunydd i’w wneud yn union ar ôl iddo gael ei gynhyrchu ar y safle tirlenwi awdurdodedig neu ei gludo iddo, neu

(b)os yw’r deunydd ar ei hynt rhwng lleoedd y tu allan i’r safle ac yn mynd i gael ei symud o’r safle ar unwaith.

(4)Nid yw’r is-adran honno yn gymwys ychwaith—

(a)os yw ACC yn cytuno mewn achos penodol y caniateir ymdrin â deunydd mewn modd nad yw’n unol â darpariaethau’r hysbysiad sy’n dynodi’r man nad yw at ddibenion gwaredu, a

(b)os ymdrinnir â’r deunydd yn unol â’r cytundeb.

(5)Mewn perthynas â chytundeb a roddir gan ACC o dan is-adran (4)(a)—

(a)caiff fod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau;

(b)caiff ddarparu bod unrhyw beth a wneir mewn perthynas â deunydd a nodir yn y cytundeb i’w drin fel pe bai wedi ei wneud mewn perthynas â deunydd arall o’r un disgrifiad ar y safle tirlenwi awdurdodedig;

(c)caiff ymwneud â phethau a wnaed cyn rhoi’r cytundeb os yw ACC wedi ei fodloni na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol i weithredwr y safle sicrhau ei gytundeb cyn i’r pethau hynny gael eu gwneud.

(6)Gweler adran 8(3)(g) am ddarpariaeth sy’n trin gwarediad trethadwy fel pe bai wedi ei wneud os cedwir deunydd mewn man nad yw at ddibenion gwaredu y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod hwyaf a bennir yn yr hysbysiad sy’n dynodi’r man, oni bai yr ymdrinnir â’r deunydd yn unol â chytundeb o dan is-adran (4)(a).

(7)Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon er mwyn gwneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch amgylchiadau pan na fo is-adran (1) yn gymwys (neu pan fo’n peidio â bod yn gymwys).

57Dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel

(1)Pan fo rhan o safle tirlenwi awdurdodedig wedi ei dynodi’n fan nad yw at ddibenion gwaredu, rhaid i weithredwr y safle gadw cofnodion sy’n ymwneud â deunydd a ddodir yn y man.

(2)Rhaid i’r cofnodion fod yn ddigonol i alluogi ACC i benderfynu pa un a yw’r gweithredwr yn cydymffurfio ag adran 56 mewn perthynas â’r deunydd, neu a yw wedi cydymffurfio â’r adran honno.

(3)Caiff ACC bennu—

(a)ar ba ffurf y mae’n rhaid cadw’r cofnodion, a

(b)yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddynt.

(4)Rhaid i’r gweithredwr storio’r cofnodion yn ddiogel hyd ddiwedd y cyfnod o 6 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y deunydd ei symud o’r man nad yw at ddibenion gwaredu, neu’r dyddiad y mae’n peidio â bod yn ddeunydd o ddisgrifiad y mae’n rhaid ei ddodi yn y man, pa un bynnag sydd gynharaf.

(5)Ond gall cytundeb a roddir o dan adran 56(4)(a) mewn perthynas â deunydd ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr storio’r cofnodion sy’n ymwneud â’r deunydd yn ddiogel am gyfnod o 6 blynedd sy’n dechrau â dyddiad gwahanol (boed gynharach neu ddiweddarach) i’r un a bennir yn is-adran (4).

(6)Gweler Pennod 2 o Ran 3 o DCRhT am ddyletswyddau eraill i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel sy’n gymwys pan gaiff gwarediad trethadwy ei drin fel pe bai wedi ei wneud yn rhinwedd adran 8(3)(g).

58Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â dynodi mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu

Yn adran 172 o DCRhT (penderfyniadau apeliadwy), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (i) (a fewnosodir gan adran 38 o’r Ddeddf hon) mewnosoder—

(j)penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;.

PENNOD 3YMCHWILIO A GWYBODAETH

59Pwerau archwilio

(1)Ar ôl adran 103 o DCRhT (pŵer ACC i archwilio mangre busnes) mewnosoder—

103APŵer pellach i archwilio mangre busnes: treth gwarediadau tirlenwi

(1)Os oes gan ACC sail dros gredu bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni, caiff ACC fynd i fangre busnes person ac archwilio—

(a)y fangre;

(b)asedau busnes sydd yn y fangre;

(c)dogfennau busnes perthnasol sydd yn y fangre (ond gweler adran 110).

(2)Yr amod cyntaf yw bod y person yn ymwneud neu wedi ymwneud mewn unrhyw rinwedd â gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy.

(3)Yr ail amod yw bod yr archwiliad o’r fangre yn ofynnol at ddiben gwirio sefyllfa person arall o ran treth gwarediadau tirlenwi mewn cysylltiad â’r gwarediad o dan sylw.

(4)Mae is-adrannau (2) i (7) o adran 103 yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan adran 103(1).

(5)Yn yr adran hon, ystyr “dogfennau busnes perthnasol” yw dogfennau busnes sy’n ymwneud â materion sy’n berthnasol i sefyllfa person o ran treth gwarediadau tirlenwi.

(6)Mae’r amgylchiadau pan fo ACC i’w drin fel pe bai ganddo sail dros gredu bod yr amod cyntaf wedi ei fodloni yn cynnwys (er enghraifft) amgylchiadau pan fo gan ACC sail dros gredu—

(a)bod y person, neu y bu’r person, yn ymwneud mewn unrhyw rinwedd â chael, â chludo neu â chyflenwi unrhyw ddeunydd at ddibenion sy’n gysylltiedig â gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy, neu sy’n baratoad ar gyfer hynny, neu

(b)bod y person, neu y bu’r person, yn ymwneud mewn unrhyw rinwedd â gwneud unrhyw ddeunydd yn destun unrhyw weithdrefn neu ddefnydd, neu fel arall ag ymdrin ag unrhyw ddeunydd neu wneud trefniadau mewn perthynas ag ef, at ddibenion sy’n gysylltiedig â gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy, neu sy’n baratoad ar gyfer hynny.

(7)Ni chaniateir cynnal archwiliad o fangre o dan yr adran hon os oes gan ACC y pŵer i gynnal yr archwiliad o dan adran 103B.

(8)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriadau at warediad deunydd yn cynnwys cyflawni gweithgarwch safle tirlenwi penodedig mewn perthynas â deunydd;

(b)mae i “deunydd”, “gweithgarwch safle tirlenwi penodedig” a “gwarediad trethadwy” yr un ystyr ag a roddir iddynt yn DTGT.

103BPŵer pellach i archwilio mangre: gwarediadau trethadwy a wneir yn rhywle ac eithrio safleoedd tirlenwi awdurdodedig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan ACC sail dros gredu—

(a)bod gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy wedi ei wneud yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, a

(b)ei bod yn ofynnol archwilio mangre sydd o fewn is-adran (3) at un neu ragor o’r dibenion a restrir yn is-adran (4).

(2)Caiff ACC fynd i’r fangre ac archwilio—

(a)y fangre, a

(b)unrhyw beth sydd yn y fangre (gan gynnwys dogfennau).

(3)Mae mangre o fewn yr is-adran hon os oes gan ACC reswm i gredu—

(a)y gwnaed y gwarediad ynddi, neu

(b)bod meddiannydd y fangre yn bodloni, neu y gallai fodloni, yr amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad.

(4)Y dibenion yw—

(a)penderfynu a wnaed y gwarediad yn y fangre;

(b)canfod natur neu darddiad y deunydd a waredwyd;

(c)canfod ar ba ddyddiad y gwnaed y gwarediad;

(d)penderfynu a yw’r gwarediad yn warediad trethadwy;

(e)pennu pwysau’r deunydd a waredwyd;

(f)pennu swm unrhyw dreth arfaethedig sydd i’w godi ar y gwarediad o dan DTGT;

(g)canfod person sy’n bodloni, neu a allai fodloni, yr amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad.

(5)Mae is-adrannau (2) i (7) o adran 103 yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan adran 103(1).

(6)Yn yr adran hon—

(a)mae i “safle tirlenwi awdurdodedig”, “deunydd” a “gwarediad trethadwy” yr un ystyron ag a roddir iddynt yn DTGT;

(b)mae i gyfeiriadau at berson yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth yr un ystyr ag ym Mhennod 2 o Ran 4 o DTGT.

(2)Yn adran 103 o DCRhT, ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(8)Ni chaniateir cynnal archwiliad o fangre o dan yr adran hon os oes gan ACC y pŵer i gynnal yr archwiliad o dan adran 103B.

60Datgelu gwybodaeth i ACC

(1)Caiff person o fewn is-adran (2) ddatgelu gwybodaeth i ACC at ddiben cynorthwyo ACC i gasglu a rheoli’r dreth.

(2)Y personau yw—

(a)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(b)Corff Adnoddau Naturiol Cymru.

(3)Nid yw datgeliad o dan yr adran hon yn torri—

(a)unrhyw rwymedigaeth gyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, neu

(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y caiff ei osod).

(4)Ond nid oes dim yn yr adran hon yn awdurdodi datgeliad—

(a)sy’n torri Deddf Diogelu Data 1998 (p. 29), neu

(b)a waherddir gan unrhyw un neu ragor o Rannau 1 i 7 neu Bennod 1 o Ran 9 o Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016 (p. 25).

(5)Hyd nes y bydd diddymiad Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (p. 23) gan baragraffau 45 a 54 o Atodlen 10 i Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016 (p. 25) mewn grym yn llwyr, mae is-adran (4)(b) yn cael effaith fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at y Rhan honno.

(6)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar unrhyw bŵer sydd gan unrhyw berson i ddatgelu gwybodaeth sy’n bodoli ar wahân i’r adran hon.

(7)Caiff rheoliadau ddiwygio is-adran (2) er mwyn ychwanegu, diwygio neu ddileu cyfeiriad at berson neu at ddisgrifiad o bersonau.

PENNOD 4COSBAU O DAN Y DDEDDF HON

Cosbau sy’n ymwneud â chyfrifo pwysau trethadwy deunydd

61Cosb am fethu â phennu pwysau yn briodol

Mae gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig sy’n methu â phennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy yn unol ag adran 20 yn agored i gosb nad yw’n fwy na £500 mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y mae’r methiant yn ymwneud ag ef.

62Cosb am gymhwyso’r disgownt dŵr yn anghywir

Pan fo gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig, wrth gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy—

(a)yn cymhwyso disgownt heb fod â chymeradwyaeth o dan adran 21 i wneud hynny, neu

(b)yn cymhwyso disgownt sy’n fwy na’r disgownt a gymeradwywyd o dan adran 21,

mae’r gweithredwr yn agored i gosb nad yw’n fwy na £500 mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y cymhwysir disgownt iddo yn y naill neu’r llall o’r ffyrdd hynny.

63Asesu cosbau o dan adrannau 61 a 62

(1)Pan ddaw gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig yn agored i gosb o dan adran 61 neu 62, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a aseswyd.

(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan adran 61 neu 62 gydag asesiad treth.

(3)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 61 neu 62 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y gweithredwr yn agored i’r gosb.

Cosbau sy’n ymwneud â chofrestru

64Cosbau am gyflawni gweithrediadau trethadwy heb fod yn gofrestredig

(1)Mae person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy yn groes i adran 35(1) (dyletswydd i fod yn gofrestredig) yn agored i gosb o £300.

(2)Os yw person yn parhau i gyflawni gweithrediadau trethadwy yn groes i adran 35(1) ar ôl diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol, mae’r person yn agored i gosb bellach neu gosbau pellach nad ydynt yn fwy na £60 ar gyfer pob diwrnod y mae’r person yn parhau i wneud hynny.

(3)Y cyfnod cosbi cychwynnol yw’r cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r person am y gosb o dan is-adran (1).

(4)Wrth gyfrifo’r cyfnod cosbi cychwynnol, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod y mae penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb o dan is-adran (1) yn destun—

(a)adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu

(b)apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl hyd yma.

65Esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfio

(1)Os yw person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy yn groes i adran 35(1) yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys fod esgus rhesymol am y toriad, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 64 mewn cysylltiad â’r toriad.

(2)At ddibenion yr adran hon—

(a)pan fo person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r toriad;

(b)pan fu gan berson esgus rhesymol am doriad ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os yw’r toriad yn cael ei unioni heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.

66Cosb am fethu â chydymffurfio â gofynion eraill sy’n ymwneud â chofrestru

(1)Mae person yn agored i gosb nad yw’n fwy na £300 os yw’r person yn methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn⁠—

(a)adran 35(2) (cais cofrestru);

(b)adran 36(1) i (4) (hysbysiad am newid neu anghywirdeb);

(c)adran 37(1) neu (2) (cais i ganslo cofrestriad).

(2)Ond nid yw person yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad â methu â chyflwyno cais neu roi hysbysiad o fewn cyfnod cyfyngedig os yw’r person yn gwneud hynny o fewn cyfnod pellach a ganiateir gan ACC.

67Asesu cosbau o dan adrannau 64 a 66

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 64 neu 66, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a aseswyd.

(2)Rhaid i asesiad o gosb o dan adran 64(1) neu 66 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n ddechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf fod y person yn agored i’r gosb.

(3)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 64(2) o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau a’r diwrnod y mae’r gosb yn ymwneud ag ef.

Cosbau sy’n ymwneud â mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu

68Cosbau sy’n ymwneud â mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu

(1)Mae person sy’n methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan adran 56 neu 57 yn agored i gosb nad yw’n fwy na £3,000.

(2)Ond nid yw person yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad â methiant i gadw cofnodion neu eu storio’n ddiogel os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n rhesymol ofynnol ganddo iddynt gael eu profi, ac y byddai’r cofnodion wedi eu profi, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.

69Asesu cosbau o dan adran 68

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 68, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a asesir.

(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan adran 68 gydag asesiad treth.

(3)Rhaid i asesiad o gosb o dan adran 68 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y person yn agored i’r gosb.

Cyffredinol

70Talu cosbau

Rhaid talu cosb o dan y Bennod hon cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y gosb (ond gweler adran 182 o DCRhT (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl)).

71Gwahardd cosbi ddwywaith

Nid yw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi cael euogfarn am drosedd mewn perthynas â hynny.

72Atebolrwydd cynrychiolwyr personol

(1)Os yw person sy’n agored i gosb o dan y Bennod hon (“P”) wedi marw, caniateir asesu unrhyw gosb y gellid bod wedi ei hasesu ar P ar gynrychiolwyr personol P.

(2)Mae cosb a asesir yn unol ag is-adran (1) i’w thalu o ystad P.

73Pŵer i wneud rheoliadau ynghylch cosbau

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch—

(a)symiau cosbau o dan y Bennod hon, a

(b)y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau o dan y Bennod hon.

(2)Caiff y rheoliadau ddiwygio’r Ddeddf hon.

PENNOD 5COSBAU YCHWANEGOL O DAN DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016

74Cosbau am fethiannau lluosog i ddychwelyd ffurflenni treth

Ar ôl adran 118 o DCRhT (cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny) mewnosoder—

118ACosbau am fethiannau lluosog i ddychwelyd ffurflenni treth mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwi

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd o dan adran 39 o DTGT, mae cyfnod cosbi—

(a)yn dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, a

(b)yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).

(2)Os yw’n ofynnol i’r person ddychwelyd ffurflen dreth arall o dan adran 39 o DTGT (“ffurflen dreth B”) cyn diwedd y cyfnod cosbi ond bod y person yn methu â gwneud hynny ar ddyddiad ffeilio ffurflen dreth B neu cyn hynny—

(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a

(b)caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl dyddiad ffeilio ffurflen dreth B.

(3)Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at nifer y ffurflenni treth—

(a)yr oedd yn ofynnol i’r person eu dychwelyd o dan adran 39 o DTGT yn ystod y cyfnod cosbi, ond

(b)y mae’r person wedi methu â’u dychwelyd ar ddyddiadau ffeilio’r ffurflenni treth hynny neu cyn hynny.

(4)Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £200 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(5)Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £300 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(6)Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £400 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(7)Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)⁠(b).

75Cosb am fethu â thalu treth mewn pryd

Yn adran 122 o DCRhT (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd) (a amnewidir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT), yn lle is-adran (2) rhodder—

(2)Y gosb—

(a)mewn cysylltiad â swm o dreth trafodiadau tir, yw 5% o swm y dreth nas talwyd;

(b)mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, yw 1% o swm y dreth nas talwyd.

76Cosbau am fethiannau lluosog i dalu treth mewn pryd

Ar ôl adran 122 o DCRhT (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd) (a amnewidir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT) mewnosoder—

122ZACosb am fethiannau lluosog i dalu treth gwarediadau tirlenwi mewn pryd

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 122 mewn cysylltiad â methiant i dalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny, mae cyfnod cosbi—

(a)yn dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad cosbi, a

(b)yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).

(2)Os yw’r person, cyn diwedd y cyfnod cosbi, yn methu â thalu swm arall o dreth gwarediadau tirlenwi (“swm B”) ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny—

(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 122(1) mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a

(b)caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl y dyddiad cosbi ar gyfer swm B.

(3)Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at—

(a)swm B, a

(b)sawl tro yn ystod y cyfnod cosbi y mae person wedi methu â thalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny.

(4)Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 2% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(5)Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 3% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(6)Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 4% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(7)Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)⁠(b).

PENNOD 6ACHOSION ARBENNIG

Grwpiau corfforaethol

77Dynodi grŵp o gwmnïau

(1)Caiff ACC ddynodi dau gorff corfforaethol neu ragor yn grŵp at ddibenion y dreth.

(2)Gwneir dynodiad drwy ddyroddi hysbysiad i bob aelod o’r grŵp.

(3)Rhaid i’r hysbysiad bennu—

(a)y cyrff corfforaethol sy’n aelodau o’r grŵp;

(b)pa aelod o’r grŵp yw’r aelod cynrychiadol;

(c)y dyddiad y mae’r dynodiad yn cael effaith.

(4)Effeithiau dynodi grŵp yw—

(a)bod aelod cynrychiadol y grŵp i’w drin at ddibenion y dreth fel gweithredwr pob safle tirlenwi awdurdodedig y mae aelod o’r grŵp yn weithredwr iddo;

(b)bod rhaid i swm perthnasol y byddai’n ofynnol i gorff corfforaethol ei dalu fel arall o ganlyniad i unrhyw beth a wneir neu nas gwneir tra bo’n aelod o’r grŵp gael ei dalu, felly, gan yr aelod cynrychiadol yn lle hynny;

(c)bod rhwymedigaeth ar bob un o’r canlynol yn unigol ac ar y cyd mewn perthynas ag unrhyw ran o’r swm perthnasol sy’n parhau i fod heb ei thalu ar ôl y dyddiad erbyn pryd yr oedd yn ofynnol i’r aelod cynrychiadol ei dalu—

(i)pob corff corfforaethol a oedd yn aelod o’r grŵp ar adeg y weithred neu’r anwaith a arweiniodd at y gofyniad i dalu’r swm, a

(ii)unrhyw gorff corfforaethol arall a oedd yn aelod o’r grŵp ar y dyddiad erbyn pryd yr oedd yn ofynnol i’r aelod cynrychiadol dalu’r swm.

(5)Ni chaiff ACC ond dynodi grŵp o gyrff corfforaethol ar gais un neu ragor o’r cyrff hynny.

(6)Rhaid i gais i ddynodi grŵp gael ei gyflwyno mewn ysgrifen; a rhaid i’r corff neu’r cyrff sy’n gwneud y cais fodloni ACC y’i gwneir gyda chytundeb pob aelod arfaethedig arall o’r grŵp.

(7)Os yw ACC yn gwrthod cais i ddynodi grŵp, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r corff neu’r cyrff a wnaeth y cais.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “swm perthnasol” yw—

(a)swm o dreth;

(b)cosb o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth;

(c)llog ar swm o fewn paragraff (a) neu (b).

78Amodau ar gyfer dynodi yn aelod o grŵp

(1)Ni chaniateir dynodi corff corfforaethol yn aelod o grŵp onid yw—

(a)yn cyflawni gweithrediadau trethadwy neu’n bwriadu gwneud hynny, a

(b)o dan yr un rheolaeth â phob aelod arall o’r grŵp.

(2)Mae dau gorff corfforaethol neu ragor o dan yr un rheolaeth os yw—

(a)un ohonynt yn rheoli’r lleill i gyd,

(b)un corff corfforaethol neu unigolyn yn eu rheoli hwy i gyd, neu

(c)dau unigolyn neu ragor sy’n rhedeg busnes mewn partneriaeth yn eu rheoli hwy i gyd.

(3)At ddibenion is-adran (2)—

(a)mae un corff corfforaethol (“A”) yn rheoli corff corfforaethol arall (“B”) os yw—

(i)y pŵer i reoli gweithgareddau B yn cael ei roi i A gan neu o dan ddeddfiad, neu

(ii)A yn gwmni daliannol i B;

(b)mae unigolyn neu unigolion yn rheoli corff corfforaethol pe byddai neu pe byddent, pe bai’r unigolyn neu’r unigolion yn gwmni, yn gwmni daliannol i’r corff.

(4)Yn is-adran (3), mae i “cwmni daliannol” yr ystyr a roddir i “holding company” gan adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (p. 46), ac Atodlen 6 iddi.

79Amrywio neu ganslo dynodiad

(1)Pan fo dau gorff corfforaethol neu ragor wedi eu dynodi’n grŵp, caiff ACC—

(a)amrywio dynodiad y grŵp drwy—

(i)ychwanegu aelod neu dynnu aelod ymaith;

(ii)newid yr aelod cynrychiadol;

(b)canslo dynodiad y grŵp.

(2)Ond rhaid i ACC—

(a)amrywio dynodiad grŵp drwy dynnu aelod ymaith os yw wedi ei fodloni nad yw’r aelod yn bodloni’r amodau yn adran 78(1);

(b)canslo dynodiad y grŵp os yw wedi ei fodloni nad oes gan y grŵp ddau aelod neu ragor sy’n bodloni’r amodau hynny.

(3)Caiff dynodiad ei amrywio neu ei ganslo drwy ddyroddi hysbysiad i bob aelod o’r grŵp (gan gynnwys, yn achos amrywio er mwyn ychwanegu aelod neu dynnu aelod ymaith, bob aelod a ychwanegir neu a dynnir ymaith).

(4)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)nodi manylion yr amrywiad neu’r canslo, a

(b)pennu ar ba ddyddiad y mae’n cael effaith.

(5)Caiff ACC amrywio neu ganslo dynodiad grŵp—

(a)ar ôl cael cais a gyflwynir mewn ysgrifen o dan yr adran hon, neu

(b)ar ei gymhelliad ei hun.

(6)Caiff aelod cynrychiadol grŵp wneud cais i amrywio neu ganslo dynodiad y grŵp; ond rhaid i’r aelod cynrychiadol fodloni ACC y gwneir y cais gyda chytundeb pob aelod arall o’r grŵp (gan gynnwys, yn achos cais i amrywio’r dynodiad drwy ychwanegu aelod, yr aelod a fyddai’n cael ei ychwanegu pe bai’r amrywiad yn cael ei wneud).

(7)Caiff aelod sy’n dymuno cael ei dynnu ymaith hefyd wneud cais i amrywio dynodiad grŵp drwy dynnu’r aelod ymaith; mewn achos o’r fath, rhaid i’r aelod hwnnw fodloni ACC bod pob aelod arall o’r grŵp wedi ei hysbysu am y cais.

(8)Os yw ACC yn gwrthod cais i amrywio neu ganslo dynodiad, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r corff corfforaethol a wnaeth y cais.

80Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â dynodi grwpiau o gwmnïau

Yn adran 172 o DCRhT (penderfyniadau apeliadwy), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (j) (a fewnosodir gan adran 58 o’r Ddeddf hon) mewnosoder—

(k)penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi grŵp o gyrff corfforaethol at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi.

81Pŵer i wneud darpariaeth bellach ynglŷn â dynodi grwpiau o gwmnïau

(1)Caiff rheoliadau ychwanegu at unrhyw ddarpariaeth a wneir gan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth ynglŷn â dynodi grwpiau o gyrff corfforaethol, ei diddymu neu ei diwygio fel arall.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill) ynglŷn â’r cyrff corfforaethol y caniateir eu dynodi’n aelodau o grŵp ac ynglŷn ag effeithiau dynodiad.

Partneriaethau a chyrff anghorfforedig

82Cofrestru partneriaethau a chyrff anghorfforedig a newidiadau mewn aelodaeth

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo dau berson neu ragor yn rhedeg busnes tirlenwi mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig.

(2)Caiff ACC gofrestru’r personau o dan eu henwau eu hunain neu o dan enw’r bartneriaeth neu’r corff.

(3)Pan fo’r personau wedi eu cofrestru o dan enw’r bartneriaeth neu’r corff a bod ei haelodaeth neu ei aelodaeth yn newid, mae’r personau sy’n aelodau ar ôl y newid yn parhau i fod yn gofrestredig o dan yr enw hwnnw os oedd o leiaf un ohonynt yn aelod cyn y newid.

(4)Mae person sy’n peidio â bod yn aelod o bartneriaeth neu gorff anghorfforedig i’w drin fel pe bai’n parhau i fod yn aelod hyd y dyddiad y rhoddir hysbysiad am y newid mewn aelodaeth i ACC o dan adran 36.

(5)Mae is-adran (4) yn gymwys at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth, ond mae’n ddarostyngedig i adran 36(3) o Ddeddf Partneriaeth 1890 (p. 39) (rhwymedigaeth ystad yn sgil marwolaeth neu fethdaliad).

83Dyletswyddau a rhwymedigaethau partneriaethau a chyrff anghorfforedig

(1)Pan fo unrhyw beth yn ofynnol neu pan ganiateir gwneud unrhyw beth o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth gan bersonau neu mewn perthynas â phersonau sy’n rhedeg busnes mewn partneriaeth, rhaid iddo gael ei wneud gan bob person neu mewn perthynas â phob person sy’n bartner ar yr adeg y’i gwneir neu y mae’n ofynnol ei wneud.

(2)Ond caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob partner gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw un neu ragor ohonynt; ac os yw prif fan busnes y bartneriaeth yn yr Alban, caniateir hefyd iddo gael ei wneud gan unrhyw berson arall a awdurdodir gan y bartneriaeth.

(3)Pan fo unrhyw beth yn ofynnol neu pan ganiateir gwneud unrhyw beth o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth gan bersonau neu mewn perthynas â phersonau sy’n rhedeg busnes fel corff anghorfforedig, rhaid iddo gael ei wneud gan bob person neu mewn perthynas â phob person sy’n aelod rheoli o’r corff ar yr adeg y’i gwneir neu y mae’n ofynnol ei wneud.

(4)Ond caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob aelod rheoli o’r corff gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw un neu ragor ohonynt.

(5)Aelodau rheoli corff anghorfforedig yw—

(a)pob aelod o’r corff anghorfforedig sy’n dal swydd llywydd, cadeirydd, trysorydd, ysgrifennydd neu unrhyw swydd debyg;

(b)os nad oes unrhyw swydd o’r fath, pob aelod sy’n dal swydd aelod o bwyllgor sy’n rheoli materion y corff;

(c)os nad oes unrhyw swydd na phwyllgor o’r fath, pob aelod o’r corff.

(6)Mae rhwymedigaeth i dalu swm perthnasol o ganlyniad i unrhyw beth a wneir neu nas gwneir gan bersonau sy’n rhedeg busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig yn rhwymedigaeth unigol ac ar y cyd i bob person sy’n aelod o’r bartneriaeth neu’r corff ar yr adeg y gwneir y peth neu’r adeg nas gwneir.

(7)Ond pan fo—

(a)personau yn rhedeg busnes tirlenwi mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig, a

(b)person yn aelod o’r bartneriaeth neu’r corff am ran o gyfnod cyfrifyddu yn unig,

rhwymedigaeth bersonol y person am y dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu yw’r gyfran o’r rhwymedigaeth sy’n ymwneud â busnes y bartneriaeth neu’r corff sy’n deg ac yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “swm perthnasol” yw—

(a)swm o dreth;

(b)cosb o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth;

(c)llog ar swm o fewn paragraff (a) neu (b).

84Pŵer i wneud darpariaeth bellach ynglŷn â phartneriaethau a chyrff anghorfforedig

Caiff rheoliadau ychwanegu at unrhyw ddarpariaeth a wneir gan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth ynglŷn ag achosion pan fo personau yn rhedeg busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig, ei diddymu neu ei diwygio fel arall.

Personau sy’n rhedeg busnes tirlenwi yn newid

85Marwolaeth, analluedd ac ansolfedd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person (“A”) yn rhedeg busnes tirlenwi person arall (“B”) sydd wedi marw, wedi mynd yn analluog neu wedi dod yn destun gweithdrefn ansolfedd.

(2)Rhaid i A roi hysbysiad i ACC ynglŷn ag—

(a)y ffaith bod A yn rhedeg y busnes tirlenwi, a

(b)natur a dyddiad y digwyddiad sydd wedi arwain at y ffaith bod A yn ei redeg.

(3)Rhaid i’r hysbysiad gael ei roi cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dechreuodd A redeg y busnes tirlenwi.

(4)Caiff ACC drin A fel pe bai A yn B at ddibenion y dreth, gydag effaith o’r adeg y dechreuodd A redeg y busnes tirlenwi; a chaiff ACC wneud hynny pa un a yw A wedi rhoi hysbysiad o dan is-adran (2) ai peidio.

(5)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i A (ac, os yw’n briodol, i B) am benderfyniad i drin A fel pe bai’n B.

(6)Os yw ACC yn trin A yn y fath fodd, nid yw’n ofynnol i A fod yn gofrestredig, na gwneud cais i gael ei gofrestru, yn rhinwedd y driniaeth honno.

(7)Os yw—

(a)B yn peidio â bod yn analluog neu’n destun gweithdrefn ansolfedd, neu

(b)A yn peidio â rhedeg busnes tirlenwi B,

rhaid i A roi hysbysiad i ACC am y ffaith honno a’r dyddiad y digwyddodd hynny.

(8)Rhaid i’r hysbysiad gael ei roi cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.

(9)Rhaid i ACC beidio â thrin A fel pe bai’n B os yw—

(a)ACC wedi ei fodloni bod y naill neu’r llall o’r amodau yn is-adran (7) wedi ei fodloni (pa un a yw A wedi rhoi hysbysiad o dan yr is-adran honno ai peidio), neu

(b)ACC yn canslo cofrestriad B.

(10)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i A (ac, os yw’n briodol, i B) am benderfyniad i beidio â thrin A fel pe bai’n B.

(11)At ddibenion yr adran hon, daw person yn destun gweithdrefn ansolfedd—

(a)os gwneir y person yn fethdalwr;

(b)os yw trefniant gwirfoddol ar ran cwmni yn cael effaith mewn perthynas â’r person o dan Ran 1 o Ddeddf Ansolfedd 1986 (p. 45);

(c)os yw’r person yn mynd i ddwylo’r gweinyddwr neu’n destun datodiad neu dderbynyddiad;

(d)os yw unrhyw ddigwyddiad cyfatebol yn digwydd sy’n cael effaith o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu o ganlyniad iddi.

86Pŵer i wneud darpariaeth bellach ynglŷn â marwolaeth, analluedd ac ansolfedd

(1)Caiff rheoliadau ychwanegu at unrhyw ddarpariaeth a wneir gan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth ynglŷn ag achosion pan fo person sydd wedi rhedeg busnes tirlenwi yn marw, yn mynd yn analluog neu’n dod yn destun gweithdrefn ansolfedd, ei diddymu neu ei diwygio fel arall.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—

(a)ynglŷn â’r amgylchiadau pan fo person yn mynd yn analluog neu’n dod yn destun gweithdrefn ansolfedd, neu’n peidio â bod yn analluog neu’n destun gweithdrefn ansolfedd;

(b)ynglŷn â dyletswyddau, rhwymedigaethau a hawlogaethau sy’n ymwneud â’r dreth pan fo person wedi marw, wedi mynd yn analluog neu wedi dod yn destun gweithdrefn ansolfedd;

(c)sy’n gymwys pa un a yw unrhyw un arall yn rhedeg busnes tirlenwi person ar ôl i’r person farw, fynd yn analluog neu ddod yn destun gweithdrefn ansolfedd ai peidio.

87Pŵer i wneud darpariaeth ynglŷn â throsglwyddo busnesau fel busnesau gweithredol

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth i sicrhau dilyniant wrth gymhwyso unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth pan drosglwyddir busnes tirlenwi o un person i un arall fel busnes gweithredol.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu am y trosglwyddiad;

(b)i unrhyw rwymedigaeth neu ddyletswydd ar ran y trosglwyddwr mewn perthynas â’r dreth ddod yn rhwymedigaeth neu’n ddyletswydd i’r trosglwyddai;

(c)i unrhyw hawlogaeth ar ran y trosglwyddwr i ollwng neu ad-dalu swm o dreth, pa un a yw’n codi cyn y trosglwyddiad neu ar ei ôl, ddod yn hawlogaeth i’r trosglwyddai;

(d)i unrhyw beth a wnaed cyn y trosglwyddiad gan y trosglwyddwr neu mewn perthynas â’r trosglwyddwr gael ei drin at ddibenion y dreth fel pe bai wedi ei wneud gan y trosglwyddai neu mewn perthynas â’r trosglwyddai;

(e)ynglŷn â dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy’n gymwys yn ddarostyngedig i amodau, ac yn benodol cânt—

(a)darparu ei bod yn ofynnol cael cymeradwyaeth ACC cyn cymhwyso unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (2)(b) i (e) i drosglwyddwr a throsglwyddai;

(b)gwneud darpariaeth ynglŷn â gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth a phenderfynu arnynt.

(4)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer—

(a)cosbau mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio â’r rheoliadau;

(b)adolygiadau ac apelau.

(5)Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

PENNOD 7AMRYWIOL

Darpariaeth bellach mewn perthynas â’r dreth

88Addasu contractau

(1)Pan fo—

(a)gwarediad trethadwy yn cael ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig,

(b)contract sy’n ymwneud â’r gwarediad trethadwy sy’n darparu i daliad gael ei wneud, ac

(c)ar ôl gwneud y contract, y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad trethadwy yn newid o ganlyniad i ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth,

mae swm y taliad y darperir ar ei gyfer o dan y contract i’w addasu, oni bai bod y contract yn darparu fel arall, i adlewyrchu’r newid yn y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad trethadwy.

(2)At ddibenion yr adran hon, mae contract sy’n ymwneud â gwarediad trethadwy yn gontract sy’n darparu ar gyfer gwaredu’r deunydd sydd wedi ei gynnwys yn y gwarediad trethadwy, ac nid yw’n berthnasol pa un a yw’r contract hefyd yn darparu ar gyfer materion eraill ai peidio.

(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at newid yn y dreth sydd i’w chodi yn gyfeiriad at—

(a)newid o fod dim treth i’w chodi i fod treth i’w chodi,

(b)newid o fod treth i’w chodi i fod dim treth i’w chodi, neu

(c)newid yn swm y dreth sydd i’w godi.

89Pŵer i osod atebolrwydd eilaidd ar reolwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth i’w gwneud yn ofynnol i reolwr safle tirlenwi awdurdodedig, neu ran o safle o’r fath, dalu’r dreth sydd i’w chodi ar warediadau trethadwy a wneir ar y safle neu’r rhan o dan sylw, ac mewn cysylltiad â hynny.

(2)Mewn perthynas â rheolwr safle tirlenwi awdurdodedig neu ran o safle o’r fath—

(a)mae’n berson, ac eithrio gweithredwr y safle, sy’n penderfynu, neu sydd â’r hawl i benderfynu, pa warediadau deunyddiau y caniateir eu gwneud ledled y safle neu’r rhan o dan sylw, ond

(b)nid yw’n cynnwys person sy’n penderfynu, neu sydd â’r hawl i benderfynu, pa warediadau a wneir dim ond oherwydd bod y person yn gyflogai neu’n asiant i berson arall.

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu os yw person yn dod, neu’n peidio â bod, yn rheolwr ar safle tirlenwi awdurdodedig neu ran o safle o’r fath;

(b)ynglŷn â’r amgylchiadau pan fo’n ofynnol i reolwr dalu treth;

(c)ar gyfer pennu swm y dreth y mae’n ofynnol i reolwr ei dalu;

(d)ynglŷn â’r berthynas rhwng gofyniad i reolwr dalu treth ac unrhyw rwymedigaeth ar weithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig i dalu treth;

(e)ynglŷn â’r weithdrefn i’w gwneud yn ofynnol i reolwr dalu treth;

(f)ynglŷn â pha bryd y mae’n rhaid talu’r dreth;

(g)ynglŷn â dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel;

(h)ar gyfer cosbau mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio â’r rheoliadau;

(i)ar gyfer adolygiadau ac apelau.

(4)Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

90Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Mae Atodlen 4 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i DCRhT.

91Arfer pwerau a dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon

(1)Wrth arfer eu pwerau a’u dyletswyddau o dan y Ddeddf hon—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r amcan o leihau gwarediadau tirlenwi yng Nghymru;

(b)caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i unrhyw faterion eraill sy’n briodol yn eu barn hwy.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i arfer pwerau a dyletswyddau o dan adran 92.

Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

92Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar y diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym yn llawn neu cyn hynny.

(2)Rhaid i’r Cynllun wneud darpariaeth ar gyfer rhoi grantiau gan Weinidogion Cymru i bersonau sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y byddant yn hyrwyddo neu’n gwella llesiant cymdeithasol neu amgylcheddol ardaloedd yng Nghymru a effeithir gan—

(a)gwneud gwarediadau tirlenwi, neu

(b)gweithgareddau sy’n baratoadol ar gyfer gwneud gwarediadau tirlenwi.

(3)Caiff y Cynllun ddarparu i’r grantiau—

(a)cael eu dyrannu drwy gyfeirio at feini prawf a bennir yn y Cynllun;

(b)bod yn ddarostyngedig i amodau a bennir yn y Cynllun neu gan Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)adolygu’r Cynllun—

(i)o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i cyhoeddir gyntaf, a

(ii)yn dilyn hynny, o leiaf unwaith yn ystod pob cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblheir yr adolygiad blaenorol, a

(b)ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy pan fyddant yn gwneud hynny.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio neu ddirymu’r Cynllun ar ôl cynnal adolygiad; ond ni chaniateir dirymu’r Cynllun o fewn y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i cyhoeddir gyntaf.

(6)Os caiff y Cynllun ei ddiwygio, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r Cynllun diwygiedig.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru osod y Cynllun, ac unrhyw Gynllun diwygiedig, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

RHAN 6DARPARIAETHAU TERFYNOL

93Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.

(1)Caiff rheoliadau wneud—

(a)unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol neu atodol, neu

(b)unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed,

y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn y Ddeddf hon neu a wneir oddi tani, mewn cysylltiad â darpariaeth o’r fath, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, ddirymu neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys yn y Ddeddf hon neu a wneir oddi tani).

(3)Yn yr adran hon, ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir) sy’n un o’r canlynol, neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—

(a)Deddf Seneddol,

(b)Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu

(c)is-ddeddfwriaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “subordinate legislation” yn Neddf Dehongli 1978 (p. 30)) a wnaed o dan—

(i)Deddf Seneddol, neu

(ii)Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

94Rheoliadau o dan y Ddeddf hon: cyffredinol

(1)Mae rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w gwneud gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(3)Mae offeryn statudol nad yw ond yn cynnwys rheoliadau o fewn is-adran (4) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Mae rheoliadau o fewn yr is-adran hon os ydynt yn—

(a)rheoliadau a wneir o dan adran 16(3) (uchafswm y ganran o ddeunyddiau anghymwys sydd i’w chynnwys mewn cymysgedd cymwys o ddeunyddiau),

(b)rheoliadau a wneir o dan adran 41(9) (cynnwys anfoneb dirlenwi), neu

(c)rheoliadau a wneir o dan adran 93 sy’n bodloni’r amod yn is-adran (5).

(5)Yr amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r rheoliadau yn gwneud unrhyw ddarpariaeth a all—

(a)peri i swm y dreth sydd i’w godi ar warediad trethadwy fod yn fwy na’r swm a fyddai i’w godi ar y gwarediad fel arall, neu

(b)peri i dreth fod i’w chodi pan na fyddai treth i’w chodi fel arall.

(6)Ni chaniateir gwneud unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon, ac eithrio un y mae adran 95 yn gymwys iddo, oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

95Rheoliadau sy’n newid cyfraddau treth

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i offeryn statudol nad yw ond yn cynnwys—

(a)yr ail reoliadau neu reoliadau dilynol a wneir o dan—

(i)adran 14(3) (cyfradd dreth safonol);

(ii)adran 14(6) (cyfradd dreth is);

(iii)adran 46(4) (cyfradd dreth gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi);

(b)rheoliadau a wneir o dan adran 93 sy’n gwneud darpariaeth y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn rheoliadau o fewn paragraff (a), mewn cysylltiad â darpariaeth o’r fath, neu ar gyfer rhoi effaith lawn iddi.

(2)Rhaid gosod yr offeryn statudol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Oni chymeradwyir yr offeryn drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn, mae’r rheoliadau yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(4)Ond—

(a)os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pleidleisio ar gynnig am benderfyniad i gymeradwyo’r offeryn cyn diwrnod olaf y cyfnod hwnnw, a

(b)os na chaiff y cynnig ei basio,

maent yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y cynhelir y bleidlais.

(5)Mewn perthynas â’r rheoliadau—

(a)os ydynt yn peidio â chael effaith yn rhinwedd is-adran (3) neu (4),

(b)os gwnaed gwarediad trethadwy ar adeg pan oeddent mewn grym, ac

(c)os yw swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad yn rhinwedd y rheoliadau yn fwy na’r swm a fyddai wedi bod i’w godi fel arall,

mae’r rheoliadau i’w trin fel pe na baent erioed wedi cael effaith mewn perthynas â’r gwarediad hwnnw.

(6)Wrth gyfrifo’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adrannau (3) a (4), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)wedi ei ddiddymu, neu

(b)ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

96Dehongli

(1)Yn y Ddeddf hon—

(2)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae cyfeiriadau at waredu deunydd drwy dirlenwi i’w dehongli yn unol ag adran 4;

(b)mae cyfeiriadau at waredu deunydd fel gwastraff i’w dehongli yn unol ag adran 6 (a gweler adran 7 hefyd);

(c)mae cyfeiriadau at weithgarwch safle tirlenwi penodedig i’w dehongli yn unol ag adran 8;

(d)mae cyfeiriadau at berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy i’w dehongli yn unol ag adran 34(2).

(3)At ddibenion y Ddeddf hon, mae apêl wedi ei dyfarnu’n derfynol—

(a)pan fydd dyfarniad wedi ei roi, a

(b)pan na fo unrhyw bosibilrwydd pellach o amrywio’r dyfarniad na’i roi o’r neilltu (gan ddiystyru unrhyw bŵer i roi caniatâd i apelio ar ôl yr amser a bennir ar gyfer dwyn apêl).

(4)At ddibenion y Ddeddf hon, gellir llunio disgrifiad drwy gyfeirio at unrhyw faterion neu amgylchiadau.

97Dod i rym

(1)Daw Rhan 1 (trosolwg) a’r Rhan hon i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

98Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.

(a gyflwynir gan adran 15)

ATODLEN 1DEUNYDD CYMWYS: DEUNYDDIAU PENODEDIG AC AMODAU

Cyffredinol

1Mae’r Tabl yn nodi—

(a)yn yr ail golofn, y deunyddiau sydd wedi eu pennu at ddibenion gofyniad 1 yn adran 15;

(b)yn y drydedd golofn, yr amodau (os oes rhai) sy’n gymwys mewn perthynas â’r deunyddiau at ddibenion gofyniad 2 yn yr adran honno.

TABL

GrŵpDeunyddiauAmodau
1Creigiau a phriddEu bod yn digwydd yn naturiol
2Deunydd cerameg neu goncrit
3MwynauEu bod wedi eu prosesu neu eu paratoi
4Slag ffwrnais
5Lludw
6Cyfansoddion anorganig actifedd isel
7Calsiwm sylffad
1.

Bod y drwydded amgylcheddol sy’n ymwneud â’r safle y gwaredir y deunydd ynddo yn awdurdodi gwarediadau tirlenwi o wastraff nad yw’n beryglus yn unig.

2.

Bod y deunydd yn cael ei waredu mewn cell nad yw’n cynnwys unrhyw wastraff bioddiraddadwy.

8Calsiwm hydrocsid a heliEi fod wedi ei waredu mewn ceudod heli

Dehongli

2Mae’r Tabl i’w ddehongli yn unol â’r paragraffau a ganlyn o’r Atodlen hon.

3Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 1—

(a)creigiau;

(b)clai;

(c)tywod;

(d)grafel;

(e)tywodfaen;

(f)calchfaen;

(g)malurion cerrig;

(h)caolin;

(i)cerrig adeiladu;

(j)cerrig o ddymchwel adeiladau neu strwythurau;

(k)llechi;

(l)isbridd;

(m)silt;

(n)sorod.

4Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 2—

(a)gwydr, gan gynnwys enamel wedi ei ffritio;

(b)cerameg, gan gynnwys brics, brics a morter, teils, nwyddau clai, crochenwaith, tseini a deunyddiau anhydrin;

(c)concrit, gan gynnwys blociau concrit cyfnerthedig, brisblociau a blociau aercrit.

5Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 2 yn cynnwys—

(a)ffeibr gwydr na phlastig a gyfnerthwyd â gwydr;

(b)golchion gweithfeydd concrit.

6Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 3—

(a)tywod mowldio, gan gynnwys tywod ffowndri defnyddiedig;

(b)clai, gan gynnwys clai mowldio ac amsugnyddion clai (gan gynnwys pridd pannwr a bentonit);

(c)amsugnyddion mwynol;

(d)ffeibrau mwynol o waith dyn, gan gynnwys ffeibrau gwydr;

(e)silica;

(f)mica;

(g)treulyddion mwynol.

7Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 3 yn cynnwys—

(a)tywod mowldio sy’n cynnwys glynwyr organig;

(b)ffeibrau mwynol o wneuthuriad dyn a wnaed o—

(i)plastig a gyfnerthwyd â gwydr, neu

(ii)asbestos.

8Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 4—

(a)gwastraff a gweddillion gwydredig o brosesu mwynau yn thermol pan fo’r gwastraff neu’r gweddillion yn ymdoddedig ac yn anhydawdd;

(b)slag o losgi gwastraff.

9Yr unig ddeunyddiau sydd yng Ngrŵp 5 yw lludw sy’n codi a lludw gwaelod—

(a)o hylosgi pren neu wastraff, neu

(b)o hylosgi glo neu olosg petrolewm (gan gynnwys lludw sy’n codi a lludw gwaelod a gynhyrchir pan gaiff glo neu olosg petrolewm ei hylosgi gyda biomas).

10Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 5 yn cynnwys lludw sy’n codi—

(a)o slwtsh carthion, neu

(b)o losgyddion gwastraff trefol, gwastraff clinigol neu wastraff peryglus.

11Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 6—

(a)gwastraff adwaith seiliedig ar galsiwm, a’r gwastraff hwnnw’n deillio o gynhyrchu titaniwm deuocsid;

(b)calsiwm carbonad;

(c)magnesiwm carbonad;

(d)magnesiwm ocsid;

(e)magnesiwm hydrocsid;

(f)haearn ocsid;

(g)fferrig hydrocsid;

(h)alwminiwm ocsid;

(i)alwminiwm hydrocsid;

(j)sirconiwm deuocsid.

12Mae Grŵp 7 yn cynnwys calsiwm sylffad, gypswm a phlastrau sy’n seiliedig ar galsiwm sylffad ond nid yw’n cynnwys bwrdd plastr.

13Yn nhrydedd golofn y Tabl, ystyr “gwastraff nad yw’n beryglus” yw gwastraff nad yw’n wastraff peryglus o fewn ystyr Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff dyddiedig 18 Tachwedd 2008.

(a gyflwynir gan adran 34(3))

ATODLEN 2YR HYN SYDD I’W GYNNWYS YN Y GOFRESTR

Gwybodaeth gyffredinol

1Rhaid i gofnod person yn y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw’r person;

(b)unrhyw enw masnachu a ddefnyddir gan y person;

(c)datganiad ynghylch pa un a yw’r person cofrestredig yn gorff corfforaethol, yn unigolyn, yn bartneriaeth neu’n gorff anghorfforedig;

(d)cyfeiriad busnes y person;

(e)cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r person yn weithredwr arno;

(f)y rhif cofrestru a aseinir i’r person gan ACC.

Aelodau cynrychiadol grwpiau corfforaethol: gwybodaeth ychwanegol am grŵp

2Os yw’r person cofrestredig yn aelod cynrychiadol grŵp o gyrff corfforaethol a ddynodir o dan adran 77, rhaid i gofnod y person yn y gofrestr gynnwys—

(a)datganiad o’r ffaith honno;

(b)enw a chyfeiriad busnes pob corff corfforaethol arall sy’n aelod o’r grŵp;

(c)cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae unrhyw aelod o’r grŵp yn weithredwr arno;

(d)enw a chyfeiriad busnes unrhyw gorff corfforaethol neu unigolyn nad yw’n aelod o’r grŵp ond sy’n rheoli (naill ai’n unigol neu mewn partneriaeth) ei holl aelodau (gweler adran 78).

Partneriaethau a chyrff anghorfforedig: gwybodaeth ychwanegol am aelodau

3Pan fo partneriaeth neu gorff anghorfforedig wedi ei chofrestru neu ei gofrestru yn enw’r bartneriaeth neu’r corff, rhaid i’r cofnod amdani neu amdano yn y gofrestr gynnwys enwau a chyfeiriadau pob un o’i aelodau.

Dehongli

4At ddibenion yr Atodlen hon, cyfeiriad busnes corff corfforaethol, partneriaeth neu gorff anghorfforedig yw cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa.

(a gyflwynir gan adran 41(8))

ATODLEN 3YR HYN SYDD I’W GYNNWYS AR ANFONEB DIRLENWI

1Rhaid i anfoneb dirlenwi gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)rhif adnabod;

(b)dyddiad dyroddi’r anfoneb;

(c)enw a chyfeiriad y person sy’n dyroddi’r anfoneb;

(d)y rhif cofrestru a aseinir i’r person hwnnw gan ACC;

(e)enw a chyfeiriad y person y dyroddir yr anfoneb iddo;

(f)dyddiad gwneud y gwarediad trethadwy;

(g)disgrifiad o’r deunydd yn y gwarediad trethadwy;

(h)cyfradd y dreth sydd i’w chodi ar y deunydd yn y gwarediad trethadwy;

(i)pwysau trethadwy’r deunydd yn y gwarediad trethadwy;

(j)unrhyw ddisgownt a gymhwysir o dan adran 19(3) mewn cysylltiad â dŵr sydd yn y deunydd;

(k)unrhyw ryddhad a hawlir mewn perthynas â’r gwarediad trethadwy;

(l)swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad trethadwy;

(m)cyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r anfoneb.

2Pan ddyroddir anfoneb dirlenwi mewn cysylltiad â mwy nag un gwarediad trethadwy, rhaid iddi ddangos, mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy, yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau 1(f) i (l).

(a gyflwynir gan adran 90)

ATODLEN 4MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016

1Mae DCRhT wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2Yn adran 39 (storio gwybodaeth etc. yn ddiogel) (fel y’i diwygir gan baragraff 7 o Atodlen 23 i DTTT)—

(a)daw’r testun presennol yn is-adran (1);

(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

(2)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a bennir o dan adran 21(7) (cofnod disgownt dŵr) neu 43(2) (crynodeb treth gwarediadau tirlenwi) o DTGT.

3Yn adran 40 (ystyr “dyddiad ffeilio”) (fel y’i diwygir gan baragraff 9 o Atodlen 23 i DTTT), yn lle’r geiriau o “y “dyddiad ffeilio”” i’r diwedd rhodder

(a)ystyr “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen dreth ar gyfer treth trafodiadau tir, yw’r diwrnod erbyn pryd y mae’n ofynnol dychwelyd y ffurflen o dan DTTT;

(b)mae i “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen dreth ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi, yr ystyr a roddir gan adran 39(4) o DTGT.

4Yn adran 104 (cynnal archwiliadau o dan adran 103: darpariaeth bellach)—

(a)yn y pennawd, ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;

(b)yn is-adran (1), ar ôl “103,” mewnosoder “103A neu 103B,”;

(c)yn is-adran (2), hepgorer “busnes”.

5Yn adran 105 (cynnal archwiliadau o dan adran 103: defnyddio offer a deunyddiau)—

(a)yn y pennawd, ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;

(b)yn is-adran (1) yn lle “103 i’r fangre busnes” rhodder “103, 103A neu 103B i’r fangre”;

(c)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at hysbysiad a ddyroddir o dan adran 103(3)(b)(i) yn cynnwys hysbysiad a ddyroddir o dan y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5).

6Yn adran 107 (dangos awdurdodiad i gynnal archwiliadau), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A, 103B”.

7Yn adran 108 (cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwilio mangre)—

(a)yn is-adran (1)(a), ar ôl “103“ mewnosoder “, 103A, 103B”;

(b)yn is-adran (1)(b), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;

(c)yn is-adran (2), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;

(d)yn is-adran (4), yn lle’r geiriau o “103” i ddiwedd paragraff (a) (ond heb gynnwys y gair “a” ar ôl y paragraff hwnnw) rhodder 103, 103A neu 103B—

(a)onid yw’n fodlon bod y gofyniad cymwys wedi ei fodloni,;

(e)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A)Y gofyniad cymwys yw—

(a)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103, bod gan ACC sail dros gredu ei bod yn ofynnol archwilio’r fangre at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person;

(b)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103A, bod gan ACC sail dros gredu bod yr amodau a nodir yn is-adrannau (2) a (3) o’r adran honno wedi eu bodloni;

(c)yn achos archwiliad o fangre o dan adran 103B, bod gan ACC sail dros gredu’r materion a nodir yn is-adran (1) o’r adran honno.

8Yn adran 111 (dehongli Pennod 4)—

(a)daw’r testun presennol yn is-adran (1);

(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

(2)At ddibenion y diffiniad o “mangre” yn is-adran (1) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi, mae “tir” yn cynnwys deunydd (o fewn ystyr DTGT) y mae gan ACC sail dros gredu ei fod wedi ei ddodi ar wyneb y tir neu ar strwythur sydd wedi ei osod yn y tir, neu o dan wyneb y tir.

9Yn adran 118 (cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny) (fel y’i diwygir gan baragraff 39 o Atodlen 23 i DTTT)—

(a)daw’r ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1);

(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

(2)Ond gweler adran 118A am eithriad i’r rheol uchod.

10Yn adran 121 (gostwng cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth: datgelu), yn is-adran (1), ar ôl “adran 118,” mewnosoder “118A,”.

11Yn adran 122 (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd) (fel y’i hamnewidir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT)—

(a)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Ond gweler adran 122ZA am eithriad i’r rheol yn is-adran (1).;

(b)yn is-adran (3), yn lle “adran 122A” rhodder “adrannau 122ZA a 122A”.

12Yn adran 122A (cosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledig) (a fewnosodir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (1), ar ôl “adran 122” mewnosoder “neu 122ZA”.

13Yn adran 126 (esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth) (fel y’i diwygir gan baragraff 45 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (2), yn lle “adran 122 neu 122A” rhodder “adrannau 122 i 122A”.

14Yn adran 127 (asesu cosbau) (fel y’i diwygir gan baragraff 46 o Atodlen 23 i DTTT)—

(a)yn is-adran (5), ar ôl “adran 122” mewnosoder “, 122ZA”;

(b)yn is-adran (6), ar ôl “adran 122” mewnosoder “, 122ZA”.

15Yn adran 157A (llog taliadau hwyr ar gosbau) (a fewnosodir gan baragraff 58 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (1), yn lle “y mae’n ofynnol ei dalu o dan Ran 5 o’r Ddeddf hon” rhodder “sy’n ymwneud â threth ddatganoledig”.

16Yn adran 172 (penderfyniadau apeliadwy) (fel y’i diwygir gan baragraff 62 o Atodlen 23 i DTTT), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Yn is-adran (2), mae i “gweithredwr”, “safle tirlenwi awdurdodedig”, “cofrestru” a “man nad yw at ddibenion gwaredu” yr un ystyr ag a roddir iddynt yn DTGT.

17Yn adran 182 (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl) (fel y’i diwygir gan baragraff 64 o Atodlen 23 i DTTT)—

(a)yn is-adran (2), yn lle “adran 154” rhodder “dyddiad talu arferol y gosb”;

(b)yn is-adran (4), ym mharagraff (a), yn lle “adran 154” rhodder “dyddiad talu arferol y gosb”;

(c)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(7)Yn yr adran hon, ystyr “dyddiad talu arferol y gosb” yw’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid talu cosb o dan—

(a)adran 154, neu

(b)adran 70 o DTGT.

18Yn adran 190 (dyroddi hysbysiadau gan ACC) (fel y’i diwygir gan baragraff 68 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (9)(a), ar ôl “103(4) neu 105(3)” mewnosoder “(gan gynnwys unrhyw hysbysiad a roddir o dan adran 103(4) fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5))”.

19Yn adran 192 (dehongli) (fel y’i diwygir gan baragraff 70 o Atodlen 23 i DTTT)—

(a)yn is-adran (2), mewnosoder yn y lleoedd priodol—

(b)yn yr is-adran honno, yn y diffiniad o “Deddfau Trethi Cymru”—

(i)hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (a);

(ii)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder , ac

(c)DTGT.

20Yn adran 193 (mynegai o ymadroddion a ddiffinnir) (fel y’i diwygir gan baragraff 71 o Atodlen 23 i DTTT), yn Nhabl 1, mewnosoder yn y lleoedd priodol—

DTGT (“LDTA”)adran 192(2)
Treth gwarediadau tirlenwi (“landfill disposals tax”)adran 192(2)