Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

57Talu trethLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Pan fo prynwr mewn trafodiad tir yn dychwelyd ffurflen dreth, rhaid i’r prynwr dalu unrhyw swm o dreth sy’n daladwy, neu unrhyw swm ychwanegol o dreth sy’n daladwy, yn ddim hwyrach na dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.

(2)Pan fo prynwr mewn trafodiad tir yn diwygio ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw, rhaid i’r prynwr dalu unrhyw swm o dreth sy’n daladwy o ganlyniad i’r diwygiad hwnnw neu unrhyw swm ychwanegol o dreth sy’n daladwy o ganlyniad i’r diwygiad hwnnw—

(a)os gwneir y diwygiad erbyn dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth honno, yn ddim hwyrach na’r dyddiad hwnnw, a

(b)os gwneir y diwygiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, pan fydd y prynwr yn hysbysu ACC am y diwygiad.

(3)Ond gweler Pennod 3 (gohirio treth).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2A. 57 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3