Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Rhwymedigaethau etc. tenantiaid nad ydynt yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

16(1)Yn achos rhoi les nid oes yr un o’r canlynol yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy—

(a)unrhyw ymgymeriad gan y tenant i atgyweirio, i gynnal a chadw neu i yswirio’r eiddo sydd ar les;

(b)unrhyw ymgymeriad gan y tenant i dalu unrhyw swm mewn cysylltiad â gwasanaethau, atgyweiriadau, cynnal a chadw neu yswiriant neu gostau rheoli’r landlord;

(c)unrhyw rwymedigaeth arall ar ran y tenant nad yw’n effeithio ar y rhent y byddai tenant yn fodlon ei dalu ar y farchnad agored;

(d)unrhyw warant am dalu’r rhent neu gyflawni unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau eraill y tenant o dan y les;

(e)unrhyw rent penydiol, neu rent uwch o natur rhent penydiol, sy’n daladwy mewn cysylltiad â thorri unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau’r tenant o dan y les;

(f)unrhyw atebolrwydd ar ran y tenant ar gyfer costau o dan adran 14(2) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p. 88) neu adran 60 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (costau i’w hysgwyddo gan berson sy’n arfer hawliau statudol i gael les);

(g)unrhyw rwymedigaeth arall ar ran y tenant i ysgwyddo costau neu dreuliau rhesymol y landlord wrth roi’r les neu’n atodol i hynny;

(h)unrhyw rwymedigaeth o dan y les i drosglwyddo i’r landlord, pan derfynir y les, hawliau i daliadau a roddwyd i’r tenant o dan gynllun y taliad sengl (hynny yw, y cynllun cymorthdal incwm i ffermwyr yn unol â Theitl III o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009) mewn cysylltiad â thir sy’n ddarostyngedig i’r les.

(2)Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â rhwymedigaeth, nid yw taliad a wneir i gyflawni’r rhwymedigaeth yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.

(3)Nid yw gollwng rhwymedigaeth fel a grybwyllir yn is-baragraff (1) yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy mewn perthynas ag ildio’r les.