xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4AMRYWIOL

Enwau lleoedd hanesyddol

34Rhestr o enwau lleoedd hanesyddol

Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru.

Cofnodion amgylchedd hanesyddol

35Cofnodion amgylchedd hanesyddol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio cofnod amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru a’i gadw’n gyfredol.

(2)Mae cofnod amgylchedd hanesyddol yn gofnod sy’n darparu—

(a)manylion pob adeilad yn ardal yr awdurdod sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr a lunnir neu a gymeradwyir o dan adran 1 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9),

(b)manylion pob ardal cadwraeth yn ardal yr awdurdod sydd wedi ei dynodi o dan adran 69 o’r Ddeddf honno,

(c)manylion pob heneb yn ardal yr awdurdod sydd wedi ei chynnwys yn y Gofrestr a lunnir ac a gynhelir o dan adran 1 o Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (p.46),

(d)manylion pob un o’r tiroedd yn ardal yr awdurdod sydd wedi eu cynnwys yn y gofrestr o barciau a gerddi hanesyddol a lunnir ac a gynhelir o dan adran 41A o’r Ddeddf honno,

(e)manylion pob safle gwrthdaro yn ardal yr awdurdod sydd o ddiddordeb hanesyddol ym marn Gweinidogion Cymru,

(f)pan fo awdurdod cyhoeddus (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phersonau eraill) yn cynnal rhestr o dirweddau hanesyddol yng Nghymru, fanylion pob tirwedd hanesyddol yn ardal yr awdurdod lleol sydd wedi ei chynnwys yn y rhestr,

(g)manylion pob safle treftadaeth y byd yn ardal yr awdurdod,

(h)manylion pob ardal neu safle arall neu fan arall yn ardal yr awdurdod sydd o ddiddordeb hanesyddol, archaeolegol neu bensaernïol lleol ym marn yr awdurdod neu Weinidogion Cymru,

(i)gwybodaeth am y ffordd y mae datblygiad hanesyddol, archaeolegol neu bensaernïol ardal yr awdurdod, neu unrhyw ran ohoni, wedi cyfrannu at gymeriad presennol yr ardal neu’r rhan a sut y gellir diogelu’r cymeriad hwnnw,

(j)manylion ymchwiliadau perthnasol a gynhelir yn ardal yr awdurdod a manylion canfyddiadau’r ymchwiliadau hynny, a

(k)dull o gael mynediad i fanylion pob enw lle hanesyddol yn ardal yr awdurdod sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr a lunnir ac a gynhelir o dan adran 34.

(3)Yn is-adran (2)(e), ystyr “safle gwrthdaro” yw—

(a)maes brwydr neu safle lle y digwyddodd rhyw wrthdaro arall a oedd yn cynnwys lluoedd arfog, neu

(b)safle lle y digwyddodd gweithgareddau sylweddol a oedd yn ymwneud â brwydr neu unrhyw wrthdaro arall a grybwyllir ym mharagraff (a).

(4)Yn is-adran (2)(f), ystyr “awdurdod cyhoeddus” yw person y mae rhai o’i swyddogaethau yn swyddogaethau o natur gyhoeddus.

(5)Yn is-adran (2)(g), ystyr “safle treftadaeth y byd” yw safle neu fan arall neu beth arall sy’n dreftadaeth ddiwylliannol neu’n dreftadaeth naturiol o fewn yr ystyr a roddir i “cultural heritage” a “natural heritage” yng Nghonfensiwn Treftadaeth y Byd ac sydd wedi ei gynnwys yn Rhestr Treftadaeth y Byd a grybwyllir yn Erthygl 11 o’r Confensiwn hwnnw.

(6)Yn is-adran (5), ystyr “Confensiwn Treftadaeth y Byd” yw’r Confensiwn ynghylch Diogelu Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd a fabwysiadwyd gan Gynhadledd Gyffredinol Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig ym Mharis ar 16 Tachwedd 1972.

(7)Yn is-adran (2)(h), mae’r cyfeiriad at ardal awdurdod lleol yn cynnwys, yn achos awdurdod y mae ei ardal yn cynnwys rhan o lan y môr, gyfeiriad at unrhyw ran o’r môr tiriogaethol sy’n gorwedd tua’r môr o’r rhan honno o’r lan ac sy’n rhan o Gymru (o fewn yr ystyr a roddir i “Wales” gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32)).

(8)Yn is-adran (2)(j), ystyr “ymchwiliad perthnasol”, mewn perthynas ag ardal awdurdod lleol, yw—

(a)ymchwiliad gan yr awdurdod neu Weinidogion Cymru at ddiben cael gwybodaeth o ddiddordeb hanesyddol, archaeolegol neu bensaernïol sy’n ymwneud â’r ardal, a

(b)unrhyw ymchwiliad arall at y diben hwnnw y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ei gynnwys yn y cofnod.

(9)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon er mwyn amrywio ystyr “cofnod amgylchedd hanesyddol”.

(10)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (9), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

(a)â phob awdurdod lleol yng Nghymru, a

(b)ag unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(11)At ddibenion yr adran hon, mae ardal neu safle neu fan arall neu beth arall i’w ystyried fel pe bai mewn ardal awdurdod lleol os yw unrhyw ran o’r ardal, y safle, y man arall neu’r peth arall yn yr ardal.

(12)Yn yr adran hon ac yn adran 37, ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

36Mynediad i gofnodion amgylchedd hanesyddol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi pob cofnod amgylchedd hanesyddol ar gael er mwyn i’r cyhoedd edrych arno mewn unrhyw fodd sy’n briodol yn eu barn hwy;

(b)pan fo person yn gofyn am gopi o ran o gofnod amgylchedd hanesyddol neu fanylion y ceir mynediad iddynt drwy gofnod o’r fath, ac y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod y cais yn rhesymol, ddarparu copi o’r rhan honno o’r cofnod neu’r manylion hynny i’r person;

(c)rhoi ar gael i berson sy’n dymuno edrych ar gofnod amgylchedd hanesyddol gyngor ar adalw a deall yr wybodaeth sydd wedi ei darparu yn y cofnod neu y ceir mynediad iddi drwy’r cofnod neu gynhorthwy i wneud hynny;

(d)pan fo person yn gofyn i wybodaeth sydd wedi ei darparu mewn cofnod amgylchedd hanesyddol neu y ceir mynediad iddi drwy gofnod o’r fath gael ei hadalw ac y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod y cais yn rhesymol, lunio dogfen sy’n cynnwys yr wybodaeth i’r person.

(2)Wrth asesu at ddibenion is-adran (1)(b) neu (d) a yw cais yn rhesymol, mae’r materion y caiff Gweinidogion Cymru eu hystyried yn cynnwys unrhyw geisiadau blaenorol o’r fath a wnaed gan y person o dan sylw neu ar ei ran.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru godi ffi am—

(a)darparu copi neu fanylion o dan is-adran (1)(b);

(b)darparu cyngor neu gynhorthwy o dan is-adran (1)(c);

(c)llunio dogfen o dan is-adran (1)(d).

(4)Rhaid i ffi a godir o dan is-adran (3) gael ei chyfrifo drwy gyfeirio at y gost o ddarparu’r gwasanaeth y mae’r ffi yn ymwneud ag ef.

37Canllawiau

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r cyrff a restrir yn is-adran (2) ar—

(a)y modd y caiff y cyrff gyfrannu at lunio cofnodion amgylchedd hanesyddol a chynorthwyo i’w cadw’n gyfredol, a

(b)y defnydd o gofnodion amgylchedd hanesyddol wrth arfer swyddogaethau’r cyrff.

(2)Y cyrff yw—

(a)awdurdodau lleol yng Nghymru;

(b)awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru;

(c)Cyfoeth Naturiol Cymru.

(3)Rhaid i’r cyrff a restrir yn is-adran (2) roi sylw i ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon.

(4)Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

(a)â’r cyrff a restrir yn is-adran (2), a

(b)ag unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon.

Y Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru

38Sefydlu Panel a rhaglen waith

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu panel o bersonau, a elwir y Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru (“y Panel”).

(2)Diben y Panel yw rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ar faterion sy’n ymwneud â llunio, datblygu a gweithredu polisi a strategaeth mewn perthynas â’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru; ac at y diben hwn mae i “Cymru” yr un ystyr â “Wales” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (gweler adran 158(1) o’r Ddeddf honno).

(3)Rhaid i’r Panel, cyn pob blwyddyn ariannol berthnasol, gyhoeddi dogfen (y “rhaglen waith”) sy’n nodi’r materion y mae’n bwriadu rhoi cyngor i Weinidogion Cymru arnynt yn ystod cyfnod o dair blynedd, sef y flwyddyn ariannol honno a’r ddwy flwyddyn ariannol ddilynol.

(4)Ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth; ac ystyr “blwyddyn ariannol berthnasol” yw—

(a)y flwyddyn ariannol gyntaf i ddechrau ar ôl cychwyn is-adran (3), a

(b)pob trydedd flwyddyn ariannol ar ôl hynny.

(5)Rhaid i’r Panel gadw’r rhaglen waith o dan adolygiad a chaiff ei diwygio yn sgil gwneud hynny; a phan fo’r Panel yn diwygio’r rhaglen waith, rhaid iddo ei chyhoeddi fel y’i diwygiwyd.

(6)Cyn cyhoeddi’r rhaglen waith o dan is-adran (3) neu (5), rhaid i’r Panel gyflwyno drafft ohoni i Weinidogion Cymru; ond nid yw’r gofyniad i gyflwyno drafft sydd wedi ei ddiwygio o dan is-adran (5) ond yn gymwys i’r graddau y mae’r Panel yn ystyried bod y diwygiadau yn sylweddol.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl cael drafft o dan is-adran (6), gymeradwyo’r drafft gydag addasiadau neu hebddynt.

(8)Rhaid i’r Panel, ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, gyhoeddi dogfen sy’n nodi’r materion yn y rhaglen waith y mae wedi rhoi cyngor i Weinidogion Cymru arnynt yn ystod y flwyddyn ariannol honno.

39Cyfansoddiad etc

(1)Mae aelodau’r Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru i’w penodi ar unrhyw delerau ac amodau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.

(2)Ni chaniateir i aelodaeth y Panel fod yn fwy na 15 o bersonau.

(3)Nid yw’r Panel i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac ychwaith i’w ystyried yn un sy’n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(4)Nid yw swydd wag ymhlith aelodau’r Panel yn effeithio ar ddilysrwydd gweithred ganddo.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru dalu i aelod o’r Panel unrhyw ffioedd, lwfansau neu dreuliau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu unrhyw staff, llety neu gyfleusterau eraill sy’n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru er mwyn galluogi’r Panel i gyflawni ei swyddogaethau.

(7)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Panel os yw’r person—

(a)yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru,

(b)yn aelod o Dŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi,

(c)yn aelod o Senedd yr Alban,

(d)yn aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon,

(e)yn aelod o Senedd Ewrop,

(f)yn aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,

(g)yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, neu

(h)yn aelod o staff sefydliad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(8)Yn unol â hynny, ni chaniateir i berson sydd wedi ei anghymhwyso gael ei benodi’n aelod o’r Panel; ac mae person a benodir felly ac sy’n cael ei anghymhwyso yn peidio â bod yn aelod.

(9)Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo aelod o’r Panel os ydynt wedi eu bodloni—

(a)bod yr aelod yn anaddas i barhau fel aelod,

(b)nad yw’r aelod yn gallu neu’n fodlon gweithredu fel aelod, neu

(c)bod yr aelod wedi dwyn anfri ar y Panel.

(10)Caiff aelod o’r Panel ymddiswyddo drwy roi dim llai na thri mis o rybudd ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.