Atodlen A1 Darfodiad gwarchodaeth interim
250.Mae Atodlen A1 yn cynnwys darpariaeth sy’n gymwys pan fo gwarchodaeth interim yn peidio â chael effaith o ganlyniad i benderfyniad gan Weinidogion Cymru:
i beidio â chynnwys heneb yn y Gofrestr, neu
i beidio â gwneud diwygiad perthnasol sy’n cynyddu’r ardal a ddangosir ar gyfer heneb ar fap sy’n dod gyda’i chofnod yn y Gofrestr.
251.Hyd yn oed ar ôl i warchodaeth interim ddarfod, gall person barhau gael ei erlyn am droseddau penodol a wnaed pan oedd ganddi effaith. Caiff Gweinidogion Cymru hefyd adennill costau yr aed iddynt wrth gyflawni gwaith o dan adran 9ZF(2) o Ddeddf 1979 yn dilyn methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi a gyflwynwyd pan oedd gan y warchodaeth interim effaith. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o faterion eraill a wneir o dan Ddeddf 1979 yn peidio â chael effaith wrth i warchodaeth interim ddarfod: er enghraifft, cydsyniad heneb gofrestredig, hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau stop dros dro.