Rhan 5: Cyffredinol
Adran 40 – Rheoliadau a gorchmynion
240.Mae adran 40 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Ddeddf 1979 a Deddf 1990 er mwyn egluro pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau a gorchmynion o dan y Deddfau hynny a’r gweithdrefnau sy’n gymwys i wneud y rheoliadau a’r gorchmynion hynny. Bydd y ddarpariaeth ddiwygiedig yn adran 60 o Ddeddf 1979 (rheoliadau a gorchmynion) ac adran 93 o Ddeddf 1990 (rheoliadau a gorchmynion) yn gymwys i wneud rheoliadau o dan y darpariaethau newydd a fewnosodir yn y Deddfau hynny gan y Ddeddf hon.
241.Mae is-adran (2) yn diwygio adran 60 o Ddeddf 1979. Mae’n cadarnhau bod pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf neu orchymyn o dan adrannau 3 (rhoi cydsyniad heneb gofrestredig), 37 (esemptiadau rhag trosedd o dan adran 35) neu 61 (dehongli) o’r Ddeddf yn arferadwy drwy offeryn statudol.
242.Mae is-adran (2) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i unrhyw offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adrannau newydd 1AA (dyletswydd i ymgynghori ar ddiwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr) neu 9ZB (cytundeb partneriaeth dreftadaeth) o Ddeddf 1979 gael ei osod ar ffurf ddrafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad. Rhaid i unrhyw offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan Ddeddf 1979 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol hefyd fod yn ddarostyngedig i’r weithdrefn honno. Mae’r is-adran yn darparu ymhellach y bydd unrhyw offerynnau statudol eraill sy’n cynnwys rheoliadau neu orchmynion a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf 1979, ac eithrio rheoliadau a wneir o dan adran 19 o’r Ddeddf honno (mynediad cyhoeddus i henebion sydd o dan reolaeth gyhoeddus), yn ddarostyngedig i gael eu diddymu drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
243.Mae is-adran (3) yn diwygio is-adran (1) o adran 93 o Ddeddf 1990 (rheoliadau a gorchmynion) er mwyn ei gwneud yn glir y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan y Ddeddf honno o ran Cymru.
244.Mae is-adrannau (4) a (5) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adrannau newydd 2A (dyletswydd i ymgynghori ar newidiadau penodol i restrau) neu 26M (cytundebau partneriaeth dreftadaeth) neu 56A (diogelu adeiladau rhestredig mewn cyflwr gwael) o Ddeddf 1990 gael ei osod ar ffurf ddrafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad. Bydd unrhyw reoliadau eraill o dan y Ddeddf yn ddarostyngedig i gael eu diddymu drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
245.Mae is-adrannau (6) a (7) yn cadarnhau bod gorchymyn o dan adran 55(5B) o Ddeddf 1990 (llog ar y costau sy’n weddill ar gyfer gwaith brys) i gael ei wneud drwy offeryn statudol ac y bydd yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
246.Mae is-adran (12) yn ei gwneud yn ofynnol i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 35(9) (pŵer i amrywio ystyr “cofnod amgylchedd hanesyddol”) neu adran 39(7)(h) (Y Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru: anghymhwyso staff sefydliadau penodedig rhag bod yn aelodau) gael ei osod ar ffurf ddrafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
Adran 41 – Dod i rym
247.Mae adran 41 yn nodi’r darpariaethau a fydd yn dod i rym ar ddyddiad y Cydsyniad Brenhinol; y rhai a fydd yn dod i rym ddau fis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol; a’r rhai a fydd yn cael eu dwyn i rym drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
Adran 42 – Enw byr
248.Mae’r adran hon yn nodi enw byr y Ddeddf.