Adran 25 – Diwygiadau sy’n ymwneud â rhestru dros dro
155.Mae adran 25 yn mewnosod adran newydd 3A yn Neddf 1990 i ddarparu gwarchodaeth interim i adeiladau sydd heb eu rhestru mewn modd sy’n ystyried y ddarpariaeth newydd ar gyfer gwarchodaeth interim y mae’r Ddeddf hon yn ei mewnosod yn Neddf 1990.
156.Mae is-adran (1) yn cyfyngu ar gymhwysiad adran 3 o Ddeddf 1990 (rhestru dros dro: hysbysiadau diogelu adeiladau) i Loegr yn unig.
157.Mae is-adran (3) yn mewnosod adran newydd 3A yn Neddf 1990. Mae’r adran newydd hon yn gymwys i adeiladau yng Nghymru.
158.Mae adran 3A(1) yn datgan os yw awdurdod cynllunio lleol yn credu bod adeilad a all haeddu gael ei restru oherwydd ei ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig mewn perygl sydd ar fin digwydd o gael ei ddinistrio neu ei newid mewn modd sy’n bygwth ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb, caiff gyflwyno hysbysiad diogelu adeilad. Mae adran 3A(3) yn pennu bod hysbysiad diogelu adeilad yn cymryd effaith cyn gynted ag y caiff ei gyflwyno i’r perchennog a’r meddiannydd a’i fod yn parhau mewn grym am hyd at chwe mis, yn ddarostyngedig i adran 3A(4).
159.Mae adran 3A(4) yn darparu y bydd hysbysiad diogelu adeilad yn peidio â chael effaith os yw Gweinidogion Cymru yn cyflwyno hysbysiad ymgynghori o dan adran 2A(2) sy’n sbarduno gwarchodaeth interim neu os ydynt yn hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig nad ydynt yn bwriadu ymgynghori o dan adran newydd 2A ar gynnig i gynnwys yr adeilad mewn rhestr.
160.Mae adran 3A(5) yn pennu, tra bo’r hysbysiad diogelu adeilad mewn grym, fod y darpariaethau yn Neddf 1990, ac eithrio adrannau 47 i 51 ac adran 59 (caffael yn orfodol adeiladau rhestredig y mae angen eu hatgyweirio a gweithredoedd penodol sy’n achosi difrod i adeiladau rhestredig neu sy’n debygol o arwain at ddifrod i adeiladau rhestredig), yn gymwys.
161.Mae adran 3A(6) yn gymwys mewn sefyllfaoedd pan fo gwarchodaeth interim yn cymryd lle hysbysiad diogelu adeilad. Mae unrhyw beth a wneir o dan adran 3A(5) tra bo’r hysbysiad diogelu adeilad mewn grym — megis rhoi cydsyniad adeilad rhestredig neu gyflwyno hysbysiad stop dros dro ar adeilad rhestredig — i gael ei drin fel pe bai wedi ei wneud o dan warchodaeth interim yn rhinwedd adran newydd 2B(2).
162.Mae adran 3A(7) ac (8) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol hysbysu perchennog a meddiannydd yr adeilad ar unwaith os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi gwybod i’r awdurdod nad ydynt yn bwriadu ymgynghori o dan adran newydd 2A ar gynnig i gynnwys yr adeilad mewn rhestr. Os rhoddir hysbysiad o’r fath, ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol gyflwyno hysbysiad diogelu adeilad arall ar yr adeilad am gyfnod o 12 mis.
163.Mae adran 25(4) yn addasu’r modd y cyfrifir digollediad am warchodaeth interim mewn achosion pan oedd hysbysiad diogelu adeilad mewn grym yn union cyn i warchodaeth interim ddechrau. Mae’n ychwanegu is-adrannau (4) a (5) i adran newydd 28B o Ddeddf 1990 (digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim), sy’n darparu, at ddibenion digollediad, fod gwarchodaeth interim i gael ei thrin fel pe bai’n dechrau ar yr adeg y daeth yr hysbysiad diogelu adeilad i rym.
164.Mae adran 25(5) yn mewnosod is-adran newydd (1A) yn adran 29 o Ddeddf 1990 (digollediad am golled neu ddifrod a achosir drwy gyflwyno hysbysiad diogelu adeilad). Mae’n pennu bod hawl gan unrhyw un a chanddo fuddiant mewn adeilad ar yr adeg y cyflwynwyd hysbysiad diogelu adeilad i gael digollediad oddi wrth yr awdurdod cynllunio lleol am unrhyw golled neu ddifrod y gellir ei briodoli’n uniongyrchol i effaith yr hysbysiad os yw’r hysbysiad diogelu adeilad yn peidio â bod yn rhinwedd y ffaith ei fod yn dod i ben ar ddiwedd chwe mis (adran 3A(3)(b)) neu os yw Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol nad ydynt yn bwriadu ymgynghori o dan adran newydd 2A ar gynnig i gynnwys yr adeilad mewn rhestr (adran 3A(4)(b)).