Adran 9 – Y weithdrefn ar gyfer penderfynu ar geisiadau
50.Mae adran 9 yn cyflwyno gweithdrefnau newydd ar gyfer penderfynu ar geisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig.
51.Mae adran 9(1) yn cyfyngu ar gymhwysiad paragraff 3 yn Rhan 1 o Atodlen 1 o Ddeddf 1979 (ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig) i henebion cofrestredig yn Lloegr.
52.Mae adran 9(2) yn mewnosod paragraff 3A yn Rhan 1 o Atodlen 1. Mae’r paragraff hwn yn gymwys i geisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig i gwneud gwaith ar henebion cofrestredig yng Nghymru.
53.Mae paragraff 3A yn nodi y caiff Gweinidogion Cymru, cyn penderfynu pa un ai i roi cydsyniad heneb gofrestredig ai peidio, gynnal ymchwiliad lleol cyhoeddus neu roi cyfle i bersonau i ymddangos gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru a chael gwrandawiad ganddo neu i gyflwyno sylwadau i berson o’r fath.
54.Mae paragraff 3A(4) yn gorfodi Gweinidogion Cymru i roi ystyriaeth i unrhyw sylwadau a gyflwynir mewn cysylltiad â chais ac i ystyried unrhyw adroddiad a wneir gan berson a benodir i gynnal ymchwiliad neu wrandawiad neu i gael sylwadau.
55.Mae paragraff 3A(5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad o’u penderfyniad i’r ymgeisydd ac i bob person sydd wedi cyflwyno sylwadau ynghylch y cais am gydsyniad heneb gofrestredig.