1AA Dyletswydd i ymgynghori ar ddiwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr
10.Mae adran newydd 1AA yn gosod gofyniad ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ar gynigion i gynnwys heneb yn y Gofrestr, i eithrio heneb o’r Gofrestr neu i wneud diwygiad perthnasol sy’n ymwneud â chofnod yn y Gofrestr.
11.Dim ond enw’r heneb sydd mewn cofnod yn y Gofrestr, ond mae map sy’n dangos union hyd a lled yr heneb sy’n cael ei gwarchod yn dod gyda’r cofnod. Mae adran 1AA(5) yn diffinio diwygiad perthnasol (“material amendment”) fel un sy’n ychwanegu at yr ardal a ddangosir, neu sy’n lleihau’r ardal a ddangosir, ar gyfer yr heneb ar fap o’r fath. Os bwriedir cynyddu neu leihau’r ardal a ddangosir ar gyfer heneb ar y map, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar y newid.
12.Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal yr ymgynghoriad drwy gyflwyno hysbysiad o’r cynnig i’r personau priodol, fel y’u diffinnir yn adran 1AA(3). Mae adran 1AA(6) yn darparu pwerau gwneud rheoliadau i ganiatáu i Weinidogion Cymru ychwanegu personau priodol pellach at y rhestr yn is-adran (3) a gwneud unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i’r Ddeddf a all fod yn angenrheidiol o ganlyniad i hynny.
13.Mae adran 1AA(4) yn ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth benodol, gan gynnwys:
y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i’r personau priodol gyflwyno eu sylwadau ysgrifenedig ynghylch y cofrestru arfaethedig (rhaid i’r dyddiad fod o leiaf 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad);
esboniad sy’n nodi y bydd gwarchodaeth interim yn gymwys pan fo’r cynnig i gynnwys heneb yn y Gofrestr, neu i wneud diwygiad perthnasol mewn perthynas â chofnod yn y Gofrestr a fyddai’n cynyddu’r ardal o dir sydd wedi ei chofrestru. Caiff yr heneb ei gwarchod felly fel pe bai wedi ei chofrestru yn unol â’r cynnig hyd nes y cyflwynir hysbysiad pellach i’r perchennog, y meddiannydd a’r awdurdod lleol. Yn y cyfamser, bydd unrhyw waith anawdurdodedig i’r heneb yn drosedd; ac
y dyddiad y mae’r warchodaeth interim yn cymryd effaith, y caniateir iddo fod yr un dyddiad â dyddiad cyflwyno’r hysbysiad ymgynghori i’r personau priodol (o dan adran 1AA(2)).
14.Mae adran 56 o Ddeddf 1979 yn nodi sut y caniateir i ddogfennau gael eu cyflwyno o dan y Ddeddf, ac mae ei darpariaethau yn gymwys i ddosbarthu hysbysiadau i’r personau priodol o dan adran newydd 1AA.