Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 3 – Codi Taliadau am Fagiau Siopa

212.Mae’r Rhan hon yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch codi taliadau am fagiau siopa.

213.Mae’n diddymu, mewn perthynas â Chymru, adran 77 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27), ac Atodlen 6 iddi, a oedd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch codi taliadau am fagiau siopa a fwriedir i’w defnyddio unwaith yn unig. Diwygiwyd y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd gan Fesur Gwastraff (Cymru) 2010 (mccc 8), a oedd yn rhoi pwerau pellach i wneud rheoliadau ynghylch sut y mae’n rhaid cymhwyso’r enillion net o werthu bagiau siopa. Ni chafodd y pwerau hyn eu harfer bryd hynny gan mai’r polisi a oedd yn cael ei ffafrio oedd sicrhau cydweithrediad y gwerthwyr drwy eu hannog i gymhwyso’r enillion net at achosion da drwy gytundeb gwirfoddol.

214.Y rheoliadau a wnaed o dan y darpariaethau hyn sydd mewn grym ar yr adeg y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 (fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) 2011 (“Rheoliadau 2010”).

215.Yn gyffredinol, mae’r darpariaethau yn y Rhan hon yn rhoi’r un pwerau i wneud rheoliadau â Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. Dyma’r prif newidiadau:

Adran 54 – Ystyr “bag siopa”

216.Mae adran 54 yn diffinio “bagiau siopa” fel y bagiau hynny y gellir eu darparu yn y man y gwerthir y nwyddau, neu’r rheini a ddarperir at ddiben danfon nwyddau. Yn gyffredinol y bagiau siopau y byddai isafswm tâl yn gymwys iddynt fyddai’r rheini a ddarperir gan fanwerthwyr i’w cwsmeriaid pan fônt yn prynu nwyddau mewn siop, neu’r rheini a ddarperir gan gwmnïau sy’n danfon nwyddau, megis archfarchnadoedd sy’n darparu gwasanaeth danfon bwydydd ar-lein.

Adran 55 – Gofyniad i godi tâl

217.Mae adran 55(1) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau bagiau siopa. Rheoliadau yw’r rhain sy’n ei gwneud yn ofynnol i werthwyr nwyddau godi tâl am fagiau siopa, fel a bennir yn y rheoliadau, a gyflenwir o dan yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (3). Yr amgylchiadau hynny yw bod y nwyddau naill ai’n cael eu gwerthu o le yng Nghymru, neu y bwriedir iddynt gael eu danfon i berson sy’n byw yng Nghymru.

218.Mae is-adran (4) yn darparu y gellir disgrifio bagiau siopa y mae’r gofyniad yn gymwys iddynt drwy gyfeirio at eu manylion technegol megis maint, trwch, gwneuthuriad a phris y bag a/neu’r defnydd y bwriedir ei wneud ohono, neu gyfuniad o unrhyw rai o blith y ffactorau hynny. Ni chafodd y pris ei nodi fel ffactor yn Atodlen 6 i Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008.

Adran 56 – Gwerthwyr nwyddau

219.Mae adran 56 yn darparu y caiff y rheoliadau bagiau siopa fod yn gymwys naill ai i bob gwerthwr nwyddau neu i fathau penodol o werthwr (gweler is-adran (3)). Mae’n caniatáu i’r rheoliadau gymhwyso darpariaethau i werthwyr a enwir ac i werthwyr a ddynodir drwy gyfeirio at ffactorau penodedig (a rhoddir enghreifftiau o’r ffactorau y caniateir eu pennu yn is-adran (4)).

220.Mae is-adran (1) yn diffinio “gwerthwyr nwyddau”, at ddiben y rheoliadau, fel person sy’n gwerthu nwyddau yng nghwrs busnes. Gall gwerthwr gynnwys, er enghraifft, fanwerthwyr y stryd fawr, archfarchnadoedd, masnachwyr stryd neu farchnad neu unrhyw berson sy’n rhedeg busnes sy’n gwerthu nwyddau ar y rhyngrwyd. Nid yw’r term yn cynnwys unrhyw bersonau sy’n gwerthu eu nwyddau eu hunain yn breifat yn achlysuro, mewn sêl cist car neu ar safle gwerthu neu ocsiwn ar y rhyngrwyd er enghraifft, ac ni chaniateir i’r rheoliadau fod yn gymwys iddynt.

221.Mae is-adran (2) yn egluro nad yw’n angenrheidiol bod y busnes a weithredir gan werthwr nwyddau yn fenter fasnachol er mwyn gwneud elw (felly gallai gwerthwr nwyddau fod yn elusen) a bod corff sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus yn gweithredu yng nghwrs busnes.

Adran 57 – Cymhwyso’r enillion

222.O dan adran 57(1), rhaid i reoliadau bagiau siopa ei gwneud yn ofynnol i werthwyr gymhwyso’r enillion net o’r tâl at ddibenion elusennol sy’n ymwneud â diogelu neu wella’r amgylchedd ac sydd o fudd i Gymru. Mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (2), sy’n darparu bod rhaid i reoliadau gynnwys eithriad ar gyfer gwerthwyr sydd â threfniadau presennol i gymhwyso’r arian a enillir ganddynt drwy werthu bagiau siopa at ddibenion elusennol eraill.

223.Diffinnir “enillion net o’r tâl” yn adran 63, sef yr enillion gros ar ôl tynnu unrhyw swm y caiff y rheoliadau eu pennu megis, er enghraifft, costau gweinyddol. Ystyr “enillion gros o’r tâl” yw’r swm y mae’r gwerthwr yn ei dderbyn o ganlyniad i’r isafswm tâl. Nid yw’n cynnwys arian sy’n dod i law sydd uwchlaw’r isafswm tâl; pe bai’r gwerthwr yn codi 8c am fag a 5c fyddai’r isafswm tâl yna’r enillion net o’r tâl fyddai 5c.

224.Rhaid i’r enillion net gael eu cymhwyso at “dibenion elusennol”, a diffinnir yn is-adran (8) bod i “ddiben elusennol” yr ystyr a roddir i “charitable purpose” yn adran 2 o Ddeddf Elusennau 2011 (p.25). Disgrifir y dibenion hynny yn adran 3 o’r Ddeddf honno ac maent yn cynnwys hybu’r gwaith o ddiogelu neu wella’r amgylchedd.

225.O dan is-adran (8) caiff rheoliadau addasu’r diffiniad o “diben elusennol” pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus gwneud hynny er mwyn sicrhau bod yr enillion net o’r tâl yn cael eu defnyddio’n briodol. Gallai’r pŵer hwn gael ei arfer, er enghraifft, pe bai’r diffiniad yn adran 2 o’r Ddeddf Elusennau wedi ei ddiwygio ac nad ystyrir bod y diffiniad newydd yn briodol bellach at ddiben y rheoliadau.

226.Pan fo gan werthwyr drefniadau presennol cyn i’r rheoliadau ddod i rym a’u bod yn rhoi arian y maent yn ei gael am fagiau siopa yn wirfoddol at ddibenion elusennol nad ydynt yn dod o fewn is-adran (1), mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid i’r rheoliadau gynnwys eithriad sy’n eu galluogi i roi’r enillion net o’r tâl at y dibenion hynny. Mae hyn yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau o dan is-adrannau (2) a (3).

227.O dan is-adran (2)(a), rhaid i’r rheoliadau bennu o fewn pa gyfnod y mae’n ofynnol bod y gwerthwr wedi rhoi taliadau at ddibenion elusennol eraill. Er enghraifft, gallai’r rheoliadau ddarparu nad yw’r eithriad yn gymwys onid yw’r gwerthwr wedi gwneud taliad yn ystod y flwyddyn cyn i’r rheoliadau ddod i rym.

228.O dan is-adran (2)(b), rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i werthwyr roi hysbysiad eu bod yn dymuno parhau â’r trefniadau hyn er mwyn dibynnu ar yr eithriad. Mae is-adran (3) yn darparu y caiff rheoliadau gynnwys manylion ynghylch sut y cymhwysir yr eithriad, fel sut y mae’n rhaid rhoi hysbysiad, yr wybodaeth sydd i’w chynnwys ynddo, ac unrhyw amodau.

229.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff y rheoliadau o dan is-adran (1) roi disgresiwn i’r gwerthwr i ddewis y diben elusennol, neu bennu un diben elusennol neu ragor (ond rhaid iddo fod yn ddiben elusennol sy’n dod o fewn is-adran (1)).

230.Mae is-adran (5) yn darparu y caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer cymhwyso’r enillion net a’r person a gaiff dderbyn yr enillion hynny ar ran yr elusen. O dan is-adran (6), caiff y rheoliadau roi’r pwerau i Weinidogion Cymru orfodi’r rheoliadau os yw’r gwerthwr yn methu â chymhwyso’r enillion net yn ôl y gofyn.

Adran 58 - Gweinyddu

231.Mae adran 58 yn gwneud darpariaeth ynghylch pwy a gaiff fod yn gyfrifol am weinyddu’r drefn o godi tâl am fagiau siopa. Mae’r adran hon yn darparu y caiff y rheoliadau bagiau siopa benodi unrhyw berson i fod yn weinyddwr ac y caiff roi pwerau i’r person hwnnw, a gosod dyletswyddau arno, at ddiben gweinyddu’r drefn. O dan Reoliadau 2010, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yw’r gweinyddwyr ar gyfer eu hardaloedd.

232.Er mwyn rhoi pwerau i’r gweinyddwr, a gosod dyletswyddau arno, o dan is-adran (3), mae is-adran (4) yn darparu y caiff y rheoliadau ddiwygio deddfiadau sy’n gymwys i’r gweinyddwr (megis deddfiadau ynghylch pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol). Diffinnir “deddfiad” yn adran 87. Caniateir rhoi swyddogaethau gorfodi i’r gweinyddwr o dan adran 60.

Adran 59 – Cadw a chyhoeddi cofnodion

233.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch y cofnodion y mae’n rhaid eu cadw a’r wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu mewn perthynas â’r drefn o godi tâl am fagiau siopa. Caniateir i’r adran hon fod yn gymwys i unrhyw berson ond mae’r rheoliadau’n fwyaf tebygol o osod dyletswyddau ar y gwerthwyr ac unrhyw berson sy’n derbyn unrhyw enillion net o’r tâl at ddibenion elusennol.

234.Ar hyn o bryd mae rheoliad 8(3) o Reoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i werthwyr gadw gwybodaeth am nifer y bagiau siopau untro a gyflenwyd, y swm a gafwyd ar ffurf y tâl ac at ba ddibenion y defnyddiwyd yr enillion net o’r tâl.

235.Mae is-adran (2)(b) yn darparu y caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth am daliadau bagiau siopa gael ei chyhoeddi neu ei darparu i unrhyw un neu ragor o’r personau a nodir ym mharagraffau (i) i (iii). Y personau hynny yw Gweinidogion Cymru, unrhyw weinyddwr a benodir o dan adran 58 neu aelodau o’r cyhoedd.

236.Mae is-adran (3) yn darparu enghreifftiau o gofnodion neu wybodaeth a gaiff fod yn ofynnol o dan y rheoliadau. Gallai’r rheoliadau, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i werthwyr ddarparu gwybodaeth ynghylch faint o fagiau y maent wedi eu gwerthu o fewn cyfnod penodol a swm y taliadau a ddaeth i law. Gallent hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r gwerthwyr roi dadansoddiad o sut y maent wedi cyfrifo’r enillion net o’r tâl fel y’i diffinnir yn adran 63 a sut y defnyddiwyd yr enillion hynny.

237.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n derbyn unrhyw enillion net o’r tâl bagiau siopa gan werthwr nwyddau gyhoeddi neu ddarparu cofnodion neu wybodaeth am yr arian y maent wedi ei dderbyn.

Adran 60 - Gorfodi

238.Mae adran 60 yn galluogi rheoliadau bagiau siopa i wneud darpariaeth ynghylch sut y mae’r drefn bagiau siopa i gael ei gorfodi. Caiff y rheoliadau roi swyddogaethau amrywiol i weinyddwyr a benodir o dan adran 58. Caiff y rheoliadau roi’r pŵer i’r gweinyddwr ei gwneud yn ofynnol i’r gwerthwr ddarparu gwybodaeth a dogfennau a holi’r gwerthwyr neu eu cyflogeion, ond dim ond os yw’r gweinyddwr yn credu’n rhesymol bod methiant wedi bod i gydymffurfio â’r rheoliadau.

Adran 61 – Sancsiynau sifil

239.Mae adran 61 yn cyflwyno Atodlen 2 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch y sancsiynau sifil y gellir eu gosod ar unrhyw berson nad yw’n cydymffurfio â’r rheoliadau bagiau siopa.

Adran 62 – Rheoliadau o dan y Rhan hon

240.Mae adran 62 yn darparu bod rhaid i’r rheoliadau bagiau siopa gael eu gwneud drwy offeryn statudol ac na chaniateir eu gwneud hyd nes y bydd drafft wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

241.Mae’r adran hon hefyd yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru gynnwys darpariaethau yn y rheoliadau bagiau siopa sy’n ymwneud ag unrhyw faterion cysylltiedig, ac i gymhwyso’r rheoliadau mewn gwahanol ffyrdd, drwy gymhwyso isafswm tâl gwahanol i wahanol fathau o fagiau er enghraifft.

Adran 64 – Mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau

242.Mae’r adran hon yn cyflwyno Rhan 2 o Atodlen 2 i’r Ddeddf, sy’n gwneud mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau i Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 a Mesur Gwastraff (Cymru) 2010.