Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 2 – Newid yn yr hinsawdd

144.Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod ‘cyfrif allyriadau net Cymru’ ar gyfer y flwyddyn 2050 o leiaf 80% yn is na’r waelodlin. Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru.

145.Rhaid i Weinidogion Cymru bennu mewn rheoliadau dargedau allyriadau interim ar gyfer 2020, 2030 a 2040. Rhaid i’r targedau interim hyn fod yn gyson â tharged 2050. Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru bennu mewn rheoliadau gyfres o gyllidebau carbon ar gyfer pob cyfnod o bum mlynedd rhwng 2016 a 2050 a sicrhau nad yw cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer pob un o’r cyfnodau hynny yn fwy na’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw. Rhaid i’r cyllidebau carbon hyn fod yn gyson â’r targedau interim a’r targed ar gyfer 2050.

146.Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynhyrchu adroddiad sy’n manylu ar y polisïau a’r cynigion a fydd yn cyflawni’r gostyngiadau y mae’r cyllidebau carbon yn gofyn amdanynt yng Nghymru drwy gyfeirio at feysydd cyfrifoldeb holl Weinidogion Cymru. Wrth osod neu ddiwygio targedau interim neu gyllidebau carbon, rhaid i Weinidogion Cymru gael cyngor gan y ‘corff cynghori’, a allai fod y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd (a sefydlwyd yn Neddf Newid yn yr Hinsawdd 2008), yn berson a ddynodir gan Weinidogion Cymru mewn is-ddeddfwriaeth, neu’n gorff newydd a sefydlir gan Weinidogion Cymru i arfer swyddogaethau’r corff cynghori.

Adran 28 – Diben y Rhan hon

147.Mae’r adran hon yn nodi diben y Rhan hon, sef ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o Gymru.

Adran 29 – Targed allyriadau 2050

148.Mae is-adran (1) o’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer 2050 o leiaf 80% yn is na’r waelodlin. Diffinnir y waelodlin yn adran 38 fel swm cyfanredol allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr penodol a restrir ar gyfer blynyddoedd gwaelodlin y nwyon hynny (naill ai 1990 neu 1995 ar gyfer pob nwy). Pennir y targed ar gyfer 2050 drwy gyfeirio at flynyddoedd gwaelodlin yn hytrach na swm penodol o allyriadau gan y gallai’r blynyddoedd gwaelodlin gael eu hadolygu wrth i’r ddealltwriaeth o allyriadau hanesyddol wella. Mae defnyddio gwaelodlin ar gyfer y cyfrifiad hwn yn gyson â’r fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer Protocol Kyoto i Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd 1998, sef cytundeb rhyngwladol i gyfyngu ar allyriadau nwyon tŷ gwydr, y mae’r DU yn barti iddo.

149.Mae is-adran (3) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio is-adran (1) drwy osod targed 2050 fel canran sy’n fwy nag 80%. Ni chaniateir defnyddio’r pŵer oni fodlonir un o’r amodau a ddarperir yn adran 32(2) a rhaid iddo roi sylw i’r materion y darperir ar eu cyfer yn adran 32(3). Cyn i Weinidogion Cymru osod rheoliadau drafft i ddiwygio targed 2050, rhaid iddynt ofyn am gyngor gan y corff cynghori (adran 49(1)). Rhaid i gyngor y corff cynghori i Weinidogion Cymru gynnwys yn ogystal farn y corff ar y materion y darperir ar eu cyfer yn adran 50(1), gan gynnwys a yw’r targed a gynigir y targed uchaf y gellir ei gyflawni ac, os nad ydyw, beth yw’r targed uchaf y gellir ei gyflawni.

150.Diffinnir y term “cyfrif allyriadau net Cymru” yn adran 34. Gweler y nodiadau esboniadol ar adrannau 33 a 38 i gael eglurhad manylach o gyllidebu carbon a chyfrif allyriadau net Cymru.

Adran 30 – Targedau allyriadau interim

151.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod targedau allyriadau interim, sef uchafsymiau cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer pob blwyddyn darged interim. Mae hefyd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau nad eir uwchlaw’r targedau hynny. Mynegir y targedau interim hyn fel gostyngiad canrannol a byddant yn gweithio yn yr un ffordd â tharged 2050.

152.Mae is-adran (3) yn pennu mai’r blynyddoedd targed interim yw 2020, 2030 a 2040, ac mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, cyn diwedd 2018, osod targedau allyriadau interim ar gyfer y blynyddoedd hynny. Wrth wneud y rheoliadau sy’n gosod y targedau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r materion y darperir ar eu cyfer yn adran 32(3). Rhaid i Weinidogion Cymru ofyn am gyngor gan y corff cynghori (adran 49(1)) cyn gosod rheoliadau drafft i osod y targedau ar gyfer 2020, 2030 a 2040. Rhaid i gyngor y corff cynghori i Weinidogion Cymru gynnwys yn ogystal farn y corff ar y materion y darperir ar eu cyfer yn adran 50(1), gan gynnwys a yw’r targedau a gynigir y targedau uchaf y gellir eu cyflawni ac, os nad ydynt, beth yw’r targedau uchaf y gellir eu cyflawni.

Adran 31 – Cyllidebau carbon

153.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod, ar gyfer pob cyfnod cyllidebol o bum mlynedd, gyfanswm uchaf ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru, a elwir yn gyllideb garbon. Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer pob cyfnod yn uwch na’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw. Y cyfnod cyllidebol cyntaf yw 2016 i 2020, a’r cyfnodau cyllidebol sy’n weddill yw pob cyfnod dilynol o bum mlynedd, gan ddod i ben â 2046-2050.

154.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod 2 gyllideb garbon olynol ar gyfer y cyfnodau 2016-2020 a 2021-2025 cyn diwedd 2018. Mae hefyd yn creu dyletswydd i osod cyllidebau carbon dilynol o leiaf 5 mlynedd cyn y cyfnod cyllidebol o dan sylw. Wrth wneud y rheoliadau sy’n gosod cyllidebau carbon, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r materion y darperir ar eu cyfer yn adran 32(3). Rhaid i Weinidogion Cymru ofyn am gyngor gan y corff cynghori (adran 49(1)) cyn gosod y rheoliadau drafft i osod cyllideb garbon. Rhaid i gyngor y corff cynghori i Weinidogion Cymru gynnwys yn ogystal farn y corff ar y materion y darperir ar eu cyfer yn adran 50(2), gan gynnwys lefel briodol y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod.

Adran 32 – Targedau allyriadau a chyllidebau carbon: egwyddorion

155.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod targedau allyriadau interim ar lefel sy’n gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod cyllidebau carbon ar lefel sy’n gyson â chyrraedd y targedau interim a tharged 2050.

156.O dan is-adran (2), ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, targed allyriadau interim na chyllideb garbon oni bai bod o leiaf un o’r amodau a ganlyn yn gymwys:

157.Mae is-adran (4) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw i gyfres o feini prawf wrth wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, neu wrth osod neu newid targed allyriadau interim, neu gyllideb garbon. Dyma’r meini prawf:

 Adran 33 – Cyfrif allyriadau net Cymru

158.Mae is-adran (1) yn diffinio cyfrif allyriadau net Cymru fel swm cyfanredol allyriadau net Cymru ar ôl tynnu unrhyw unedau carbon a gredydir i’r cyfrif am y cyfnod ac ychwanegu unrhyw unedau carbon a ddidynnir o’r cyfrif am y cyfnod.

159.Mae is-adran (2) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiffinio mewn rheoliadau pa unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru a’u didynnu ohono, a sut y gellir gwneud hynny.

160.Mae is-adran (3) yn darparu bod rhaid i reoliadau a wneir o dan is-adran (2) sicrhau, pan ddefnyddir unedau carbon i leihau cyfrif allyriadau net Cymru, nad ydynt yn cael eu defnyddio yn ogystal i’w gosod yn erbyn allyriadau eraill o le arall. Fel arall, gallai hyn arwain at “gyfrif dwbl”.

161.Mae is-adran (4) yn darparu bod rhaid i reoliadau gyfyngu ar y graddau y gellir defnyddio unedau carbon i leihau cyfrif allyriadau net Cymru.

Adran 34 – Allyriadau net Cymru

162.Mae’r adran hon yn diffinio allyriadau Cymru ac echdyniadau Cymru o nwyon tŷ gwydr, ac yn darparu mai allyriadau net Cymru ar gyfer cyfnod yw allyriadau Cymru minws echdyniadau Cymru.

Adran 35 – Allyriadau Cymru o hedfan a morgludiant rhyngwladol

163.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n darparu bod allyriadau o nwy tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol neu forgludiant rhyngwladol yn cyfrif fel allyriadau Cymru o’r nwy.

Adran 36 – Unedau carbon

164.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiffinio “unedau carbon” mewn rheoliadau. Mae’n rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, sefydlu cynllun neu ddefnyddio cynllun cyfredol ar gyfer cofrestru a chadw cyfrif o unedau carbon ac ar gyfer sefydlu a chynnal cyfrifon y caniateir cadw unedau carbon ynddynt.

Adran 37 – Nwyon tŷ gwydr

165.Mae’r adran hon yn rhestru “nwyon tŷ gwydr” at ddiben Rhan 2 o’r Ddeddf ac yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau er mwyn ychwanegu nwy neu ddiwygio disgrifiad o nwy.

Adran 38 – Y waelodlin

166.Mae’r adran hon yn diffinio’r “waelodlin” at ddibenion y Rhan hon o’r Ddeddf ac yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau er mwyn diwygio’r waelodlin honno. Byddai hynny’n galluogi Gweinidogion Cymru i bennu’r flwyddyn waelodlin ar gyfer nwy tŷ gwydr sydd wedi ei ychwanegu gan reoliadau o dan is-adran 37(2) neu addasu’r flwyddyn waelodlin ar gyfer nwy tŷ gwydr sydd eisoes wedi ei restru. Ni chaiff Gweinidogion Cymru addasu’r flwyddyn waelodlin ar gyfer nwy tŷ gwydr onid ydynt wedi eu bodloni y byddai’n briodol gwneud hynny o ganlyniad i ddatblygiadau sylweddol yng nghyfreithiau neu bolisïau’r UE neu gyfreithiau neu bolisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd.

Adran 39 – Cynigion a pholisïau ar gyfer cyrraedd cyllidebau carbon

167.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi adroddiad ar gyfer pob cyfnod cyllidebol, sy’n amlinellu eu cynigion a’u polisïau ynghylch sut y cyrhaeddir y cyllidebau a bennwyd ganddynt. Rhaid i’r adroddiad gynnwys cynigion a pholisïau drwy gyfeirio at feysydd cyfrifoldeb pob un o Weinidogion Cymru. Rhaid cynhyrchu’r adroddiad ar y cyfnod cyllidebol cyntaf cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gosod y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw (fel a ddarperir yn adran 31). Ar gyfer cyfnodau cyllidebol dilynol rhaid i’r adroddiad gael ei gyhoeddi cyn diwedd blwyddyn gyntaf y cyfnod o dan sylw. Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad.

Adran 40 – Cario symiau o un cyfnod cyllidebol i un arall

168.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru “gronni” a “benthyca” allyriadau rhwng cyfnodau cyllidebol.

169.O dan is-adrannau (1) a (3), caiff Gweinidogion Cymru “fenthyca” hyd at 1% o’r gyllideb nesaf. Caiff swm o’r gyllideb nesaf ei “gario yn ôl” i’r gyllideb flaenorol. Pan ddefnyddir y pŵer hwn, caiff y gyllideb nesaf (a fydd eisoes wedi ei gosod drwy orchymyn) ei gostwng yn ôl y swm a fenthycwyd.

170.O dan is-adran (4) caiff Gweinidogion Cymru gario ymlaen unrhyw ran o’r gyllideb garbon sydd uwchlaw cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y cyfnod hwnnw (hynny yw “cronni” y swm sydd dros ben, ond nid y swm cyfan o anghenraid). Ychwanegir y swm sydd wedi ei gronni at y gyllideb nesaf (is-adran (5)).

171.Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r ‘corff cynghori’ cyn arfer pŵer o dan yr adran hon (hynny yw cyn cronni neu fenthyca).

Adran 41 – Datganiad terfynol ar gyfer cyfnod cyllidebol

172.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y ffigurau terfynol ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru yn ystod cyfnod cyllidebol; defnyddir y ffigurau hyn i benderfynu a gyrhaeddwyd cyllideb garbon.

173.Mae is-adrannau (2) i (6) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddarparu gwybodaeth ynghylch:

174.Mae is-adran (7) yn darparu bod rhaid i’r cwestiwn o ba un a gyrhaeddwyd y gyllideb i’w benderfynu drwy gyfeirio at y ffigurau yn y datganiad.

175.Mae is-adran (8) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu eglurhad ynghylch pam y maent yn ystyried bod y gyllideb garbon wedi ei chyrraedd, neu nad yw wedi ei chyrraedd.

176.Mae is-adran (9) yn ei gwneud yn ofynnol i’r datganiad gynnwys asesiad Gweinidogion Cymru o’r graddau y mae eu cynigion a’u polisïau (gan gynnwys y rhai a nodir yn yr adroddiad o dan adran 39) wedi cyfrannu at y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw a sut y maent wedi eu gweithredu.

177.O dan is-adran (10) rhaid i asesiad ymdrin â meysydd cyfrifoldeb pob un o Weinidogion Cymru. Mae hyn yn cyfateb i’r gofynion o dan adran 39(2) i gynnwys cynigion a pholisïau sy’n ymwneud â meysydd cyfrifoldeb pob un o Weinidogion Cymru.

178.Mae is-adrannau (11) a (12) yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad ar gyfer pob cyfnod cyllidebol carbon gynnwys amcangyfrif o gyfanswm yr allyriadau, boed hwy yng Nghymru neu yn rhywle arall, sydd i’w priodoli i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru.

Adran 42 – Cynigion a pholisïau pan nad yw cyllideb garbon wedi ei chyrraedd

179.Mae’r adran hon yn gymwys pan fo datganiad terfynol wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â chyfnod cyllidebol, a bod cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y cyfnod yn fwy na’r gyllideb garbon. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod adroddiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi cynigion a pholisïau i wneud iawn am yr allyriadau sy’n fwy na’r gyllideb garbon. Rhaid iddynt wneud hynny yn ddim hwyrach na thri mis ar ôl gosod y datganiad terfynol ar gyfer y cyfnod cyllidebol.

Adran 43 – Datganiadau ar gyfer blynyddoedd targed interim a 2050

180.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddatganiad ar gyfer pob blwyddyn darged interim ac ar gyfer 2050.

181.Mae is-adrannau (2) i (4) yn ei gwneud yn ofynnol cynnwys yr wybodaeth a ganlyn yn y datganiadau ar gyfer pob un o’r blynyddoedd targed priodol:

182.Mae is-adran (5) yn darparu bod y penderfyniad ynghylch a yw’r targedau interim neu darged 2050 wedi eu cyrraedd i’w wneud drwy gyfeirio at yr wybodaeth a ddarperir yn y datganiad ar gyfer y flwyddyn darged y mae’n ymwneud â hi.

183.Mae is-adran (6) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru gynnwys eglurhad o’r rhesymau pam eu bod yn ystyried bod y targedau wedi eu cyrraedd, neu nad ydynt wedi eu cyrraedd.

184.Rhaid i ddatganiad o dan yr adran hon gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn diwedd yr ail flwyddyn ar ôl y flwyddyn y mae’n ymwneud â hi; er enghraifft, rhaid i’r datganiad ar gyfer 2020 gael ei osod cyn diwedd 2022 (is-adran (1)(b)).

185.Mae is-adran (7) yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfuno datganiad o dan yr adran hon â’r datganiad ar gyfer cyfnod cyllidebol carbon (o dan adran 41) sy’n ymwneud â blwyddyn y targed perthnasol.

Adran 44 – Corff cynghori

186.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i sefydlu corff newydd i arfer swyddogaethau’r corff cynghori neu i ddynodi person i fod yn gorff cynghori at ddibenion Rhan 2 o’r Ddeddf. Dim ond person sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus y caiff Gweinidogion Cymru ei ddynodi.

187.Mae is-adran (3) yn darparu, os nad yw Gweinidogion Cymru yn sefydlu corff newydd nac yn dynodi person drwy reoliadau o dan is-adran (1), mai’r corff cynghori fydd Pwyllgor ar Newid Hinsawdd y DU (a sefydlwyd o dan adran 32 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008).

188.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(a) gynnwys darpariaethau ynghylch: statws ac aelodaeth y corff; cyflogi staff; tâl, lwfansau a phensiynau aelodau a staff; trefniadaeth a gweithdrefn y corff; ac adroddiadau a chyfrifon.

189.Mae is-adran (5) yn darparu y caiff rheoliadau i sefydlu corff newydd fel y corff cynghori gynnwys darpariaeth a fyddai’n galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau i’r corff cynghori mewn perthynas â’r materion a restrir yn is-adran (4).

Adran 45 – Adroddiadau cynnydd

190.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar y corff cynghori i gyflwyno adroddiadau i Weinidogion Cymru yn nodi ei safbwyntiau ynghylch y cynnydd a wnaed mewn perthynas a’r targedau interim a tharged 2050 ac ar y cyllidebau carbon. Rhaid i’r corff cynghori ddarparu safbwyntiau ynghylch a yw’r targedau a’r cyllidebau yn debygol o gael eu cyrraedd ac a yw’n ystyried bod unrhyw gamau pellach yn angenrheidiol er mwyn eu cyrraedd.

191.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff cynghori gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru cyn diwedd y cyfnod cyllidebol cyntaf (sy’n ymwneud â’r blynyddoedd 2016-20) sy’n rhoi ei safbwyntiau ar y cynnydd a wnaed tuag at gyrraedd y cyllidebau carbon a osodwyd o dan Ran 2, y targedau allyriadau interim a tharged allyriadau 2050.

192.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl iddynt osod datganiad terfynol ar gyfer cyfnod cyllidebol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 41. Rhaid i’r adroddiad hwn roi safbwyntiau’r corff cynghori ynghylch y modd y cyrhaeddwyd neu nas cyrhaeddwyd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod, y camau a gymerwyd gan Weinidogion Cymru i leihau cyfrif allyriadau net Cymru ac hefyd y materion a nodir yn is-adran (1) (h.y. y cynnydd a wnaed tuag at gyrraedd y cyllidebau a’r targedau sy’n weddill).

193.Mae is-adrannau (3) a (4) yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru sy’n cynnwys ei safbwyntiau ynghylch a yw’r targed interim nesaf (os yw hynny’n berthnasol) a tharged 2050 y targed uchaf y gellir ei gyflawni ac, os nad ydyw, beth yw'r targed uchaf y gellir ei gyflawni. Rhaid i’r adroddiad gael ei anfon at Weinidogion Cymru yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl iddynt osod y datganiadau ar gyfer y blynyddoedd targed interim gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 43.

194.Mae is-adran (5) yn darparu y caniateir cyfuno adroddiad o dan is-adran (3) neu (4) ag adroddiad o dan is-adran (2) ar gyllideb garbon.

195.Mae is-adran (6) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod copi o bob un o’r adroddiadau a dderbynnir ganddynt o dan is-adrannau (1) a (2) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

196.Mae is-adran (7) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod ymateb i unrhyw adroddiad a dderbynnir ganddynt gan y corff cynghori o dan yr adran hon gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl derbyn yr adroddiad.

Adran 46 – Dyletswydd ar y corff cynghori i ddarparu cyngor a chymorth

197.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar y corff cynghori i ymateb i geisiadau am gyngor, dadansoddiad, gwybodaeth a chymorth gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â swyddogaethau’r Gweinidogion o dan y Ddeddf neu â newid yn yr hinsawdd yn gyffredinol.

Adran 47 – Canllawiau i’r corff cynghori

198.Mae’r adran hon yn darparu bod rhaid i’r corff cynghori roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf. Mae is-adran (2) yn darparu na chaiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i’r corff cynghori ynghylch cynnwys unrhyw gyngor neu adroddiad.

Adran 48 – Rheoliadau: gweithdrefn

199.Mae’r adran hon yn sefydlu’r weithdrefn sydd i’w dilyn yn y Cynulliad wrth wneud rheoliadau o dan Ran 2 o’r Ddeddf. Pan fo’r rheoliadau yn dynodi person i fod yn gorff cynghori (adran 44(1)(b)) ac nad ydynt yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol, neu pan fo rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynghylch arferion rhyngwladol adrodd ar garbon (adran 52), maent yn ddarostyngedig i weithdrefn negyddol y Cynulliad. Mae’r holl reoliadau eraill yn Rhan 2 yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhaol y Cynulliad.

Adran 49 – Gofyniad i gael cyngor ynghylch cynigion i wneud rheoliadau

200.Mae’r adran hon yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, cyn i unrhyw reoliadau cadarnhaol drafft gael eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 48, ofyn am gyngor gan y corff cynghori (gweler adran 44) ynghylch y cynnig i wneud y rheoliadau, ac ystyried y cyngor hwnnw hefyd.

201.Mae is-adrannau (2) i (4) yn ei gwneud yn ofynnol, pan fo Gweinidogion Cymru yn gofyn am gyngor gan y corff cynghori, iddynt bennu cyfnod rhesymol ar gyfer darparu’r cyngor. Rhaid i’r corff cynghori ddarparu’r cyngor o fewn y cyfnod hwnnw a nodi’r rhesymau dros y cyngor.

202.Mae is-adran (5) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi unrhyw gyngor a gânt gan y corff cynghori cyn cynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl ei gael.

203.Mae is-adran (6) yn darparu, os yw’r rheoliadau cadarnhaol drafft a osodir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 48(3) yn wahanol i’r hyn a argymhellwyd gan y corff cynghori, bod rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn egluro paham y mae’r rheoliadau’n wahanol.

204.Mae is-adran (7) yn darparu nad oes angen i Weinidogion Cymru ofyn am gyngor gan y corff cynghori cyn gosod rheoliadau drafft sydd naill ai’n sefydlu corff newydd fel y corff cynghori neu’n dynodi person i fod yn gorff cynghori.

Adran 50 – Cyngor ynghylch rheoliadau arfaethedig sy’n ymwneud â thargedau a chyllidebau

205.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae’n rhaid i’r corff cynghori ymateb i geisiadau o dan adran 49 am gyngor ar reoliadau arfaethedig.

206.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol, mewn perthynas â rheoliadau arfaethedig sy’n newid targed allyriadau 2050 neu’n gosod neu’n newid targedau allyriadau interim, fod rhaid i gyngor y corff cynghori gynnwys ei farn ynghylch a yw’r targed a gynigir gan Weinidogion Cymru y targed uchaf y gellir ei gyflawni, ac os nad ydyw, beth, ym marn y corff, yw’r targed uchaf y gellir ei gyflawni.

207.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol, mewn perthynas â rheoliadau arfaethedig sy’n gosod neu’n newid cyllidebau carbon, i’r corff cynghori gynghori ar y lefelau y dylid eu pennu ar gyfer cyllidebau carbon ac i ba raddau y dylid cyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod drwy ostwng swm allyriadau net Cymru neu drwy ddefnyddio unedau carbon a gredydir i gyfrif allyriadau net Cymru. Rhaid i’r corff cynghori gynghori ar y cyfraniad at gyrraedd cyllidebau carbon y dylai sectorau o economi Cymru y mae cynlluniau masnachu yn berthnasol iddynt (i gyd gyda’i gilydd) ei wneud, ac yn yr un modd sectorau eraill nad yw cynlluniau o’r fath yn berthnasol iddynt (i gyd gyda’i gilydd). Mae’n ofynnol hefyd i’r corff cynghori gynghori ar sectorau o economi Cymru sy’n cynnig cyfleoedd penodol i wneud cyfraniad at gyrraedd cyllidebau carbon drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

208.Mae i ‘cynllun masnachu’ at ddibenion yr adran hon yr ystyr a roddir gan adran 44 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. Mae adran 44 o’r Ddeddf honno yn diffinio cynlluniau masnachu fel cynlluniau sydd naill ai:

209.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff cynghori, wrth gynghori Gweinidogion Cymru ar wneud rheoliadau a fydd yn newid targed allyriadau 2050 neu’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim neu gyllideb garbon, roi sylw i’r materion a restrir yn adran 32(3) o’r Ddeddf.

Adran 51 – Mesur allyriadau

210.Mae adran 51 yn darparu bod allyriadau, gostyngiadau mewn allyriadau ac echdyniadau i’w mesur mewn symiau cyfwerth â thunelli o garbon deuocsid, ac yn diffinio’r term hwnnw.

Adran 52 – Arferion rhyngwladol ar adrodd ar garbon

211.Mae adran 52 yn diffinio arferion rhyngwladol adrodd ar garbon yn nhermau protocolau Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, neu drefniadau neu gytundebau Ewropeaidd neu ryngwladol eraill a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau. Mae’r pŵer hwn yn caniatáu i’r diffiniad gael ei ddiweddaru er mwyn ystyried trefniadau a chytundebau rhyngwladol newydd.