Adran 32 – Targedau allyriadau a chyllidebau carbon: egwyddorion
155.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod targedau allyriadau interim ar lefel sy’n gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod cyllidebau carbon ar lefel sy’n gyson â chyrraedd y targedau interim a tharged 2050.
156.O dan is-adran (2), ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, targed allyriadau interim na chyllideb garbon oni bai bod o leiaf un o’r amodau a ganlyn yn gymwys:
Maent wedi eu bodloni ei bod yn briodol gwneud hynny o ganlyniad i ddatblygiad sylweddol naill ai mewn gwybodaeth wyddonol neu yng nghyfreithiau neu bolisïau’r UE neu gyfreithiau neu bolisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd;
Mae’r corff cynghori wedi argymell y newid; neu
Mae rheoliadau wedi eu gwneud o dan adran 35 neu 37 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrif allyriadau o nwy tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol neu forgludiant rhyngwladol fel rhan o allyriadau Cymru o’r nwy, neu sy’n diwygio’r rhestr o nwyon tŷ gwydr sy’n gymwys at ddibenion Rhan 2.
157.Mae is-adran (4) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw i gyfres o feini prawf wrth wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, neu wrth osod neu newid targed allyriadau interim, neu gyllideb garbon. Dyma’r meini prawf:
Yr adroddiad diweddaraf ar gyflwr adnoddau naturiol a gyhoeddwyd gan CNC o dan adran 8 o Ran 1 o’r Ddeddf hon;
Yr adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol diweddaraf o dan adran 11 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;
Adroddiad diweddaraf Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol o dan adran 23 o’r Ddeddf honno (os oes un ar gael ar adeg gosod neu newid unrhyw dargedau neu gyllideb);
Gwybodaeth wyddonol am newid yn yr hinsawdd neu dechnoleg sy’n berthnasol iddo; a
Cyfreithiau a pholisïau’r UE a chyfreithiau a pholisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys cytundebau rhyngwladol sy’n cynnwys mesurau i gyfyngu ar gynnydd mewn tymheredd cyfartalog byd-eang.