35Pwerau arolygydd i gyf-weld â phersonau a chynnal archwiliad ohonynt
(1)Os yw arolygydd yn meddwl ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion cynnal arolygiad, caiff yr arolygydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson gael ei gyf-weld yn breifat gan yr arolygydd.
(2)Ond ni chaiff arolygydd gyf-weld yn breifat â pherson sy’n dod o fewn is-adran (3) heb gydsyniad y person.
(3)Mae’r personau a ganlyn yn dod o fewn yr is-adran hon—
(a)person y mae’r darparwr gwasanaeth yn darparu (neu wedi darparu) gofal a chymorth iddo;
(b)unigolyn a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y person;
(c)perthynas i’r person;
(d)gofalwr y person;
(e)rhoddai atwrneiaeth arhosol dros y person.
(4)Caiff arolygydd gynnal archwiliad preifat o berson y mae’r darparwr gwasanaeth yn darparu (neu wedi darparu) gofal a chymorth iddo—
(a)os yw’r arolygydd yn ymarferydd meddygol cofrestredig neu’n nyrs gofrestredig,
(b)os yw’r arolygydd yn meddwl bod yr archwiliad yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion asesu effaith unrhyw ofal a chymorth o’r fath ar lesiant y person, ac
(c)os yw’r person yn cydsynio i’r archwiliad.
(5)At ddibenion is-adrannau (1) a (4), mae cyfweliad neu archwiliad i’w drin fel pe bai wedi ei gynnal yn breifat er gwaethaf presenoldeb trydydd parti—
(a)os yw’r person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono yn dymuno i’r trydydd parti fod yn bresennol ac nad yw’r arolygydd yn gwrthwynebu, neu
(b)os yw’r arolygydd yn dymuno i’r trydydd parti fod yn bresennol a bod y person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono yn cydsynio.
(6)Pan fo arolygydd yn cynnal cyfweliad neu archwiliad o dan yr adran hon, rhaid i’r arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny gan—
(a)y person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono, neu
(b)unigolyn sy’n dod gyda’r person hwnnw,
gyflwyno dogfen sy’n dangos awdurdodiad yr arolygydd o dan adran 33 ac, yn achos archwiliad, ddogfen sy’n dangos bod yr arolygydd yn ymarferydd meddygol cofrestredig neu’n nyrs gofrestredig.
(7)Yn yr adran hon—
mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr ystyr a roddir i “parental responsibility” gan adran 3 o Ddeddf Plant 1989 (p.41);
mae i “gofalwr” (“carer”) yr ystyr a roddir gan adran 3 o Ddeddf 2014;
ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas â pherson, yw rhiant, tad-cu/taid, mam-gu/nain, plentyn, ŵyr, wyres, brawd, hanner brawd, chwaer, hanner chwaer, ewythr, modryb, nai neu nith y person hwnnw (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno neu sydd wedi bod yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus);
ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 18 oed;
mae i “rhoddai atwrneiaeth arhosol” yr un ystyr â “donee of a lasting power of attorney” yn Rhan 1 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p.9).