28Rheoliadau ynghylch unigolion cyfrifolLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod gofynion ar unigolyn cyfrifol mewn perthynas â man y mae’r unigolyn wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i unigolyn cyfrifol benodi unigolyn o ddisgrifiad rhagnodedig i reoli’r man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef.
(3)Caniateir i reoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth i swyddogaeth a roddir i unigolyn cyfrifol gan y rheoliadau gael ei dirprwyo i berson arall o dan amgylchiadau rhagnodedig yn unig ond ni chaiff darpariaeth o’r fath effeithio ar atebolrwydd neu gyfrifoldeb yr unigolyn cyfrifol am arfer y swyddogaeth.
(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
(5)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—
(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr adran hon, a
(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 28 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d)