94Penderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddiLL+C
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ragnodi materion ac amgylchiadau y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu, at ddibenion adran 91(1), a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio.
(2)Wrth arfer y pŵer yn is-adran (1), caiff Gweinidogion Cymru ragnodi materion ac amgylchiadau—
(a)drwy gyfeirio at unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 2 o Ddeddf Tai 2004 (p. 34) (ystyr perygl categori 1 (“category 1 hazard”) a pherygl categori 2 (“category 2 hazard”));
(b)a allai godi oherwydd methiant i gydymffurfio â rhwymedigaeth o dan adran 92.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy reoliadau—
(a)gosod gofynion ar landlordiaid at ddiben atal unrhyw faterion neu amgylchiadau rhag codi a allai olygu nad yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi;
(b)rhagnodi, os na chydymffurfir â gofynion a osodir o dan baragraff (a) mewn cysylltiad ag annedd, bod yr annedd i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 94 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 94 mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
I3A. 94 mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2