Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

92Rhwymedigaeth y landlord i gadw annedd mewn cyflwr da
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Rhaid i’r landlord o dan gontract diogel, contract safonol cyfnodol neu gontract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd—

(a)cadw’r strwythur a’r tu allan i’r annedd (gan gynnwys draeniau, landeri a phibellau allanol) mewn cyflwr da, a

(b)cadw’r gosodiadau gwasanaeth yn yr annedd mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn.

(2)Os yw’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, rhaid i’r landlord—

(a)cadw’r strwythur a’r tu allan i unrhyw ran arall o’r adeilad y mae gan y landlord ystad neu fuddiant ynddi (gan gynnwys draeniau, landeri a phibellau allanol) mewn cyflwr da, a

(b)cadw unrhyw osodiadau gwasanaeth sy’n gwasanaethu’r annedd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac sydd naill ai—

(i)yn ffurfio rhan o unrhyw ran o’r adeilad y mae gan y landlord ystad neu fuddiant ynddi, neu

(ii)yn eiddo i’r landlord neu o dan reolaeth y landlord,

mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn.

(3)Y safon sy’n ofynnol yn ôl is-adrannau (1) a (2), o ran cyflwr yr annedd, yw’r hyn sy’n rhesymol o ystyried oed a chymeriad yr annedd, a’r cyfnod y mae’r annedd yn debygol o fod ar gael i’w meddiannu fel cartref.

(4)Yn y Rhan hon, ystyr “gosodiad gwasanaeth” yw gosodiad i gyflenwi dŵr, nwy neu drydan, ar gyfer glanweithdra, i gynhesu lle neu i gynhesu dŵr.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.