Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

87Digolledu oherwydd methiannau yn ymwneud â darparu datganiadau ysgrifenedig etc.

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adrannau canlynol yn nodi’r amgylchiadau y gall landlord ddod yn atebol i dalu tâl digolledu o dan yr adran hon—

(a)adran 35 (methiant i ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan adran 31);

(b)adran 36 (darparu datganiad ysgrifenedig anghyflawn);

(c)adran 37 (darparu datganiad ysgrifenedig anghywir);

(d)adran 40 (methiant i ddarparu gwybodaeth am y landlord o dan adran 39);

(e)adran 110 (methiant i ddarparu datganiad ysgrifenedig ynghylch amrywio contract diogel);

(f)adran 129 (methiant i ddarparu datganiad ysgrifenedig ynghylch amrywio contract safonol cyfnodol);

(g)adran 137 (methiant i ddarparu datganiad ysgrifenedig ynghylch amrywio contract safonol cyfnod penodol).

(2)Pan fo’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan yr adran hon, mae swm y tâl digolledu sy’n daladwy ar gyfer diwrnod penodol yn gyfwerth â swm y rhent sy’n daladwy o dan y contract ar gyfer y diwrnod hwnnw.

(3)Os yw’r contract yn darparu bod rhent i’w dalu ar gyfer cyfnodau heblaw diwrnod, swm y rhent sy’n daladwy ar gyfer un diwrnod yw’r gyfran briodol o’r rhent sy’n daladwy ar gyfer y cyfnod y mae’r diwrnod hwnnw’n perthyn iddo.

(4)Os yw tâl digolledu yn daladwy oherwydd adran 35, 110, 129 neu 137 (methiant i ddarparu datganiad) caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n cynyddu swm y tâl digolledu ar y sail fod methiant y landlord i ddarparu datganiad ysgrifenedig yn fwriadol.

(5)Os yw tâl digolledu yn daladwy oherwydd adran 36 neu 37 (datganiad anghyflawn neu anghywir), caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n cynyddu swm y tâl digolledu.

(6)Os gwneir cais o dan is-adran (4) neu (5), caiff y llys gynyddu swm y tâl digolledu sy’n daladwy ar gyfer diwrnod penodol o unrhyw ganran sy’n briodol yn ei farn, heb fod yn fwy na 100 y cant.